Total Pageviews

Wednesday 29 December 2010

Golwg yn ôl dros 2010






Y Cymro – 31/12/10

Wel dyna ni, y ‘Dolig wedi diflannu am flwyddyn arall, a’r dathlu (a’r dioddef siŵr o fod!) yn parhau i bwmpio’r atgofion o foethusrwydd y soffa! Gobeithio’n wir ichwi gyd fwynhau’r Ŵyl ymhob cwr o Gymru. Bu yma’n sicr ddigon o ddathlu ar lannau’r Tafwys! Cyfle i fwrw golwg yn ôl yr wythnos hon, ar derfyn 2010, ar yr arlwy a welwyd ar lwyfannau’r wlad. O’r llwyddiannau i’r llai llwyddiannus, y canmol a’r casau!

Blwyddyn gymysg fu hi o ran byd y dramâu cerdd, wrth groesawu’r cynyrchiadau lliwgar a llwyddiannus fel ‘Legally Blonde’, ‘Into the Woods’ a ‘Passion’. Yn anffodus dim ond am gyfnod byr y bu’r ddwy olaf yma’n diddanu, gan obeithio’n fawr y byddant yn ail ymweld â’r ddinas yn y flwyddyn newydd. Stephen Sondheim oedd y cyfansoddwr, a bu 2010 yn flwyddyn o ddathlu iddo yntau hefyd wrth gyrraedd ei ben-blwydd yn 80 mlwydd oed. Gwelwyd sawl cyngerdd i ddathlu’i lwyddiant, a dim llai na’r Cyngerdd Mawreddog yn y Royal Albert Hall gyda Daniel Evans a Bryn Terfel yn serenu.

Newid aelwyd a gyrfa oedd yn aros Daniel Evans eleni, wrth ymgartrefu yn ei swydd newydd fel Arweinydd Artistig theatrau Sheffield. Braf iawn oedd cael ymweld â’r Crucible yno, ar ei newydd wedd i weld Anthony Sherr, a’r Cymro Trystan Gravelle yng nghynhyrchiad cyntaf Daniel o ddrama Ibsen, ‘An Enemy of the People’. Llyfnder a lluniau creadigol cyfarwyddo medrus Daniel oedd allwedd llwyddiant y cyfan, ac a sicrhaodd sawl adolygiad pum seren, yn y Wasg Genedlaethol. Bydd cryn edrych ymlaen at ei raglen newydd o gynyrchiadau yn y flwyddyn newydd sy’n cynnwys tymor o ddramâu gan David Hare (Plenty, The Breath of Life a Racing Demon) gyda’r olaf eto’n cael ei gyfarwyddo gan Daniel. Bydd Daniel hefyd yn camu yn ôl ar y llwyfan ym mis Rhagfyr ar gyfer eu sioe Nadolig sef un o fy hoff ddramâu cerdd gan Sondheim. ‘Company’.

Blwyddyn anodd fu hi i’r Arglwydd Andrew Lloyd Webber, nid yn unig yn ei dasg o geisio canfod y ‘Dorothy’ newydd ar gyfer ei gynhyrchiad diweddara o ‘The Wizard of Oz’ fydd yn agor fis Mawrth y Drury Lane, ond hefyd wrth lansio ei ddilyniant i’r clasur ‘Phantom of the Opera’, ‘Love Never Dies’. Tasg anodd iawn oedd ceisio curo’r gwreiddiol, a bu môr o feirniadu a sylwadau negyddol gan y cyhoedd a’r beirniaid. Yn ei ymdrech i achub y sioe, a’i enw da, fe gaeodd y cynhyrchiad am dridiau ym mis Tachwedd, er mwyn ail-weithio’r stori, y set a’r gerddoriaeth. Yn anffodus, gwnaethpwyd pethau’n waeth, a gwell fyddai ildio i’w fethiant a chanolbwyntio ar fentrau newydd.

Dathlu hefyd fu hanes y sioe liwgar ac emosiynol ‘Les Miserables’, wrth gyrraedd ei phen-blwydd yn 25ain oed, gyda thaith newydd drwy’r wlad, â chast o Gymry ifanc talentog, yn ogystal â chyngerdd mawreddog arall yn yr O2, sydd bellach wedi’i ryddhau ar DVD.

O ran y dramâu, bu cryn achos i ddathlu yng Nghymru a thu hwnt. Ymysg y cynyrchiadau fydd yn aros yn y cof eleni fydd ‘Juliet and her Romeo’ ym Mryste, gyda’r brydferth, dalentog Siân Phillips a’i pherfformiad gwefreiddiol fel un o’r “star-cross'd lovers” yn y ddrama rymus hon. Gyda ‘Romeo’ a ‘Juliet’ bellach mewn gwth o oedran, a’r ddau yn preswylio’n ddedwydd yn y ‘Verona Nursing Home’, roedd ei phresenoldeb urddasol a thrydanol yn goleuo’r llwyfan ac anghofiai fyth mor olygfa enwog ar y balconi, sydd bellach ar ail lawr y cartref, wrth i’r ddau ddatgan eu cariad wrth ei gilydd. Dirdynnol o deimladwy, ac eto’n ddoniol o ddwys.

Braf hefyd oedd croesawu’r tîm llwyddiannus Nicholas Hytner, Richard Griffiths, Frances De La Tour a’r dramodydd unigryw Alan Bennett, yn ôl ar lwyfan y Theatr Genedlaethol yma’n Llundain gyda’i ddrama newydd ‘The Habit of Art’. Hytner hefyd oedd yn gyfrifol am gyfarwyddo Rory Kinnear yn eu cynhyrchiad caboledig o ‘Hamlet’ a welais rai wythnosau yn ôl. Er cystal oedd presenoldeb Kinnear, siomedig iawn oedd gweddill y cwmni, wrth imi straffaglu mewn mannau i glywed y ddialog hyd yn oed!.

A beth am ein Theatr Genedlaethol ninnau yma’n Nghymru a welodd cryn dipyn o ddrama tu cefn i’r llwyfan eto eleni. Gyda chyrhaeddiad eu cynhyrchiad o ‘Y Gofalwr’ ym mis Chwefror, y daeth y newyddion am ymadawiad yr arweinydd artistig Cefin Roberts. Er imi fwynhau cynhyrchiad y Liverpool Playhouse o ‘The Caretaker’ gan Pinter yn y Trafalgar Studios wythnos ynghynt, gyda’r Cymro Jonathan Pryce wrth y llyw, methiant arall oedd y cynhyrchiad hwn imi, oedd yn cynnwys holl wendidau cyson cyfnod Cefin wrth y llyw. Yn eu ffolineb, dewisodd Bwrdd y Theatr i gyhoeddi gweddill rhaglen artistig Cefin, yn y rhaglen, oedd yn cynnwys dwy ddrama fer, a chyfieithiad arall. Siom a chamgymeriad oedd llwyfannu ‘Dau. Un. Un. Dim’ gan Manon Wyn a’r 20 munud o ‘Yn y Trên’ gan Saunders Lewis. Roedd cryn addewid ym mherl o gyfieithiad Sharon Morgan o ddrama fawr Ed Thomas, ‘House of America’sef 'Gwlad yr Addewid' a ganai’n farddonol yn acenion a dywediadau Cwm Tawe, ond trueni na chafwyd cynhyrchiad oedd yn deilwng o’i gwaith.

Wrth inni aros am y flwyddyn newydd, mae tynged y Theatr Genedlaethol dal yn y fantol. Heb benodi Arweinydd Artistig newydd, mae’r Marie Celeste o gwmni yn dal i hwylio, a’r miloedd o bunnau a wariwyd ar y warws o adnoddau ymarfer yn Sir Gaerfyrddin dal mor wag a dadleuol â gwaddol Cefin. ‘Deffro’r Gwanwyn’, sef cyfieithiad Dafydd James o’r ddrama gerdd ddadleuol ‘Spring Awakening’ yw arlwy cynta’r flwyddyn newydd, yn amlwg wedi’i ddewis, yn eu doethineb, gan Fwrdd y Theatr. Elen Bowman fydd yn cyfarwyddo, ac absenoldeb y ddau Gymro Cymraeg, sef Iwan Rheon ac Aneurin Barnard, a enillodd Wobrau Olivier ill dau, am eu perfformiadau yn y cynhyrchiad Saesneg o’r un ddrama gerdd y llynedd, yn ergyd amlwg cyn cychwyn.

Parhau i gyfrannu’n flynyddol i’r arlwy ddramatig y mae Theatr Bara Caws ac Arad Goch, ac er mai blas bychan iawn o’u harlwy a brofais eleni, mae eu cyfraniad yn bwysicach na’r Genedlaethol mewn llawer i fan. Hoffais yn fawr feddylfryd a dyfnder drama newydd Aled Jones Williams ‘Merched Eira’ yn ogystal ag afiaith a lliw sioe ieuenctid yr Urdd ‘Plant y Fflam’. Llongyfarchiadau hefyd i Bara Caws am gyflwyno eu gwefan newydd, hyfryd www.theatrbaracaws.com sy’n wledd o atgofion a gwybodaeth. Edrych ymlaen yn barod at eu cynhyrchiad nesaf sef addasiad John Ogwen o ‘Un Nos Ola Leuad’ yn y flwyddyn newydd.

Seren byd y theatr yng Nghymru eleni oedd Dafydd James a roddodd inni un o’r cynyrchiadau Cymraeg mwyaf cofiadwy ers blynyddoedd sef ‘Llwyth’. Mi wyddwn i ers blynyddoedd, fod Dafydd yn un talp o ddyfeisgarwch dramatig gyda’i lais newydd, gonest, ffres a phwysig. Cryfder gwaith Dafydd oedd yr onestrwydd unigryw am fod yn hoyw yn y Gymru sydd ohoni, a’r cyfan mewn iaith mae o’n gwbl gyfarwydd ag ef. Roedd safon yr actio yma ymysg y gorau imi’i weld ar lwyfan yn y Gymraeg, yn ogystal â chyfarwyddo sensitif Arwel Gruffydd. Braf hefyd oedd gweld Dafydd ei hun yn perfformio yn ei fonolog ‘My Name is Sue’ yn Theatr Soho, ganol yr Haf.

A llawenydd mawr oedd cael croesawu’r hir ddisgwyliedig National Theatre Wales ym mis Ebrill gyda’u cynhyrchiad ‘A Good Night Out in the Valleys’. Hon oedd y cyntaf o’r tair drama ar ddeg yn arlwy agoriadol y cyfarwyddwr artistig John E McGrath. Arlwy amrywiol a ymwelodd â phob cwr o Gymru - o draethau’r Gogledd i Gymoedd y De, o’r Bermo i Bannau Brycheiniog, o Abertawe i Aberystwyth, ac o erwau’r brifddinas i Eryri. Er mai ond y cyntaf a chynhyrchiad Elen Bowman o ‘The Devil Inside Him’ a lwyddais i’w weld eleni, codwyd fy nghalon am ddyfodol y ddrama yng Nghymru. Gyda phedwar cynhyrchiad eto’u gweld o‘r arlwy agoriadol, mae’r neges yn glir. Rhowch y bobol gywir yn eu lle, ac fe gewch chi werth eich arian.

Blwyddyn Newydd Ddramatig Dda i chwi gyd!

Wednesday 15 December 2010

'Get Santa!'




Y Cymro 17/12/10

Dychmygwch fod ganddoch chi’r gallu i ail-greu diwrnod ‘Dolig, ddeg dydd ar ôl ei gilydd! Deg pryd o dwrci a’i drimins, deg siwmper wlân i’r tadau, llond braich o freichledau aur i’r mamau, dwshina o boteli dŵr poeth a sliperi sidan i’r neiniau, a llond parlwr o lanast y dathlu yn bygwth boddi pawb a phopeth... Wel, dyna’r pŵer sy’n dod i feddiant ‘Holly’, hunllef o fwystfil deg oed, sy’n casáu’r Nadolig yng nghynhyrchiad y Royal Court o ddrama ddiweddara Anthony Nielson, ‘Get Santa!’.

Yn ei siwmper streipïog felyn a du, mae’r wenynen wenwynig yn cyhoeddi ar gychwyn y ddrama, mai’r anrheg ddelfrydol, os nad gorfodol iddi hi, yw cael cwrdd â’i thad. Yr unig gyswllt sydd gan ‘Holly’ (Imogen Doel) â’r dieithryn, ydi’r tedi (Chand Martinez) a adawyd ar stepen y drws flynyddoedd yn ôl - y tedi sy’n dod yn fyw ac sy’n rhannol gyfrifol am greu’r llanast...

Yn ei hymgyrch i ddial ar ‘Santa’ (David Sterne) am beidio gwireddu’r freuddwyd yn y blynyddoedd a fu, mae hi’n penderfynu mynd ati i ddal Santa eleni, drwy osod nifer o drapiau o gwmpas y tŷ ar noswyl Nadolig; o’r creision swnllyd ar y llawr i’w deffro, i’r gliw ar y pentan, y pupur ar y soffa, y wisgi yn y gegin a’r sioc drydanol anferthol ger y goeden! Yn anffodus i ‘Holly’, pan ymwela’r ‘Santa’ styfnig a sur, mae’n achub y blaen arni, a’i linyn trôns o gydymaith ‘Bumblehole’ (Tom Godwin) sy’n disgyn i’r trap, ac yn cael ei arteithio’n anfaddeuol gan y lodes lygredig. Wedi dwyn yr hud o locsyn yr hen ŵr, ac wedi peri’n anfwriadol i’r tedi ddod yn fyw, fe dry’r cyfan yn un drasiedi dros-ben-llestri, wrth i bopeth fynd o’i le, ym mhedwar ban y byd, hyd nes i’r gwirionedd achub y dydd...

I ddilynwyr selog y golofn hon, falle ichi gofio fy mod i’n ffan fawr o fydoedd hurt Anthony Nielson, byth ers gweld fy hoff ddramâu bellach, ‘Realism’, ‘The Wonderful World of Dissocia’ a ‘God in Ruins’ flynyddoedd yn ôl. Yr hyn sy’n gyffredin am bob un ydi’r anghyffredin, bydoedd ble mae anifeiliaid yn siarad, ble mae pawb yn canu ac yn dawnsio, ble mae bod yn flin yn fendith, er mwyn unioni’r cam. Mae yma hiwmor a doethineb, a chrefft theatr ar ei orau. Ychwanegwch at hynny allu cynllunio rhyfeddol Miriam Buether a goleuo Chahine Yavroyan, ac fe gewch chi’r anrheg Nadolig perffaith, yn aros i’w agor, fel sy’n cael ei gyfleu ar y llwyfan, wrth ichi gamu i’r theatr. Wrth i’r cwlwm pinc anferthol ddiflannu, sy’n uno muriau lliwgar yr anrheg o gartref, cewch ei gwahodd yn syth ar gân o waith Nick Powell, i fyd hurt y teulu, wrth i’r fam Wyddelig ‘Barbara’ (Gabriel Quigley), y ‘Nain’ nwydus (Amanda Hadingue) a’r ci (yn llythrennol!) o dad ‘Terry’ (Bill Buckhurst) ddawnsio’u ffordd o gwmpas y goeden a’r gegin.

Fel y cyfaddefodd un o’m cyd-adolygwyr, welwch chi fyth olygfeydd tebyg ar lwyfan y Royal Court! O’r lliwiau a’r llawenydd sy’n cael ei gyfleu ar y llwyfan, allwch chi’m peidio â chael eich llenwi ag ysbryd yr Ŵyl, er gwaetha cynllunio cyfrwys y fadam flin.

Braf iawn ydi gweld ein theatrau yn llawn o ieuenctid dros gyfnod yr Ŵyl, ac er nad oedd pob jôc yn taro deuddeg i’r lleiaf (oherwydd natur yr hiwmor hŷn) mae un peth yn sicr, fe gânt brofiad o ogoniant y theatr ar ei orau o weld y cynhyrchiad yma, a môr o lawenydd ac atgofion.

Mae ‘Get Santa!’ i’w weld tan Ionawr 15fed. Mwy o fanylion drwy ymweld â www.royalcourttheatre.com

Friday 10 December 2010

'Beauty and the Beast'




Y Cymro – 10/12/10

Dwy o sioeau’r Nadolig sy’n mynd â hi’r wythnos hon. Cynhyrchiad Katie Mitchell o ‘Beauty and the Beast’ yn y Theatr Genedlaethol, a chynhyrchiad y Mernier o ‘The Invisible Man’. Dwy sioe sydd wedi’i hanelu at y gynulleidfa ‘fengach, ond sydd â chynnwys fydd yn apelio i’r gynulleidfa hŷn.

Bob tro fyddai’n ymweld â’r Theatr Genedlaethol yma yn Llundain, mae un peth yn sicr - fydd na wastad Set foethus, gwisgoedd golygus a graen ar y cynhyrchiad. Ac er bod ‘Beauty and the Beast’ wedi’i wasgu i’r gofod lleiaf yn y theatr sef y Cottesloe, roedd yr olygfa o’m blaen, y theatr draddodiadol a’i lenni coch moethus yn werth ei weld. Dechrau da, meddwn i, cyn i Justin Salinger, ‘Y Dyn Pinc’, gamu i’r llwyfan, i gyflwyno’r ‘stori dwymgalon’ hon am y llanc golygus sy’n cael ei droi’n anghenfil, hyd nes iddo lwyddo i ddenu cariad y prydferthaf i’w ryddhau o’i dranc. Dyma ran o sioe deithiol, liwgar ‘Y Dyn Pinc’ a’i gydymaith Ffrengig blin ‘Ceclie’ (Kate Duchêne). Ond dyma hefyd y camgymeriad mwya’ yn y cynhyrchiad, gan fod y ddau, a’i dybl-act drychinebus, yn ddirdynnol o ddiflas a dros ben llestri.

Wedi’r holl wamalu, agorwyd y llenni o’r diwedd, er mwyn cyflwyno’r golygfeydd oedd am gyfleu’r stori, ond yma eto, byr, bratiog, a’u hiwmor sych a cheidwadol a’m llethodd yn llwyr. Roedd hyd yn oed yr anghenfil yn debycach i gangarŵ, ac er gwaetha ymdrechion Sian Clifford i droi ‘Belle’ yn fwy o ‘Boio’, na’r benysgafn, brydferth arferol, fe fethodd y cyfan imi, a throi’n ddwy awr o artaith yn lle adloniant. Er i gyffro’r ‘theatr’ swyno fy nghyd- gynulleidfa iau am gyfnod, buan iawn yr oeddent hwythau hefyd yn aflonyddu i adael.

Fel gyda ‘Dr Seuss's The Cat in the Hat’ y llynedd, eto eleni, ma Katie Mitchell wedi ceisio rhoi gwedd gyfoes, geidwadol a gwahanol ar y stori garu Glasurol o Ffrainc. Ond o geisio bod yn ‘wahanol’ ac efallai yn rhy uchelgeisiol, fe lwyddodd i greu anghenfil sy’n ymhell o fod yn atyniadol na’n adlonianol!

Os am gael eich syrffedu, mae ‘Beauty and the Beast’ yn y Cottesloe tan y 4ydd o Ionawr.

'The Invisible Man'




Y Cymro - 10/12/10

Roedd 'na dipyn o well siâp ar gynhyrchiad y Mernier o Glasur Ken Hill’s ‘The Invisible Man’, sydd eto’n cychwyn efo’r syniad o sioe deithiol, gyda’r ‘MC’ y Cymro (Gerard Carey) yn cyflwyno’r cwmni a’u cân agoriadol sy’n gosod y stori ym 1904. Ymysg y corws o Pierrot’s ar y llwyfan mae’r holl gymeriadau fydd yn cyflwyno’r stori am y gŵr ifanc sydd wedi’i droi’n anweledig, yn sgil arbrawf cemegol aflwyddiannus. Maria Friedman yw perchennog y dafarn leol, ble y digwydd y rhan fwyaf o’r ddrama, wrth i’r gŵr ifanc a’i wyneb rhwymedig beri cryn ddirgelwch a direidi i’r trigolion.

Cafwyd chwip o berfformiadau gan Geraldine Fitzgerald fel y swffragét Albanaidd sy’n erfyn am dosturi tuag at y dihyrhyn dieithr, ynghyd â hiwmor hudolus ym mhresenoldeb Natalie Casey fel y forwyn benysgafn.

Ond swyn y sioe, heb os, ydi cyfraniad meistr lledrith y llwyfan, Paul Kieve, sy’n llwyddo i gyfleu presenoldeb yr anweledig drwy gyfres o rithiau rhyfeddol - o gyllell, gwn a beic sy’n nofio ar draws y llwyfan , i ddiflaniad y trempyn (Gary Wilmott) ar ddiwedd y sioe.

Heb geisio mynd dros ben llestri, na dallu’r gynulleidfa â’u hiwmor ceidwadol, dyma sioe dwymgalon, ddoniol, llawn dirgelwch a drama. Da iawn!.

Os am weld yr anweledig mae ‘The Invisible Man’ i’w weld yn y Mernier tan y 13eg o Chwefror.

Friday 3 December 2010

'Daniel Boys' a 'The Three Musketeers'




Y Cymro – 3/12/10

Un o’r cwestiynau sy’n cael ei holi’n aml, ydi sawl gwaith yr wythnos fyddai’n ymweld â’r theatr?! Wel, mae’r ateb yn syml. Weithiau unwaith, neu dro arall, fel yr wythnos hon, bob nos! Does rhyfedd felly fod y rhestr hirfaith o gynyrchiadau dwi wedi’u gweld ymhell dros 500 erbyn hyn! Dyna yw un o ogonnianau cael byw yn Llundain wrth gwrs. Ond, mae o hefyd yn gyfle gwych i weld a llawn werthfawrogi cymaint o waith sy’n digwydd tu hwnt i brif lwyfannau’r West End.

Heb os, breuddwyd llawer i actor a chanwr, ydi cael ymddangos ar lwyfan un o sioeau mawr y West End. Mae’n freuddwyd sydd wedi’i wireddu i sawl Cymro erbyn hyn, a ninnau yn falch iawn ohonynt. Newydd ei gyhoeddi’r wythnos hon yw bod Mark Evans o Sir Ddinbych yn ymuno a chast y sioe liwgar Wicked yn y flwyddyn newydd. Llongyfarchiadau calonnog iddo ef. Ond nid llwybr hawdd mohoni o gwbl. Mae cwffio am le yn y cwmnïau hyn yn dipyn o dasg, wrth ennill bywoliaeth i gadw’r blaidd o’r drws. Ers blynyddoedd bellach, mae nifer helaeth o’r actorion a’r cantorion yn ein diddanu’n wythnosol mewn nosweithiau cabaret, er mwyn cadw’n brysur, gyda’r gobaith y bydd na un gwestai yn y gynulleidfa a diddordeb cynnig gwaith iddynt.

I gyngerdd Daniel Boys yr es i’r wythnos hon, ei gyngerdd olaf wedi taith fer dros yr Haf, gyda’r bwriad o lansio ei CD newydd. Falle ichi adnabod yr enw o’r gyfres ‘Joseff’ ar y BBC, gyda Daniel ymysg y deg olaf bryd hynny, cyn i Lee Mead ennill y dydd. Oherwydd sylw’r gyfres, cafodd gynnig rhan yn y ddrama gerdd ‘Avenue Q’, a braf oedd gweld dau o’i gyd actorion o’r sioe honno, sef Julie Atherton a Tom Parsons yn ymuno gydag ef ar lwyfan cabaret Theatr y Leicester Square.

Canodd Daniel nerth ei ben, a llwyddo’n eithriadol o dda i gyfiawnhau pris y tocyn. Ac yntau ddim ond yn ŵr ifanc, dwi’n siŵr y bydd digonedd o gynigion yn dod i’w ran, yn ogystal â Julie a Tom. Un o brif gwynion y noson, gan y diddanwyr, oedd tynged y cantorion hynny sydd wedi dysgu’u crefft a hogi’u harfau cerddorol dros gymaint o flynyddoedd, yng ngwyneb llwyddiant synthetig cyfresi fel yr ‘X Factor’. Cwyn dwi’n siŵr gall y Cymry hefyd gytuno ag o, yn sgil y môr o dalent sydd gennym ni yng Nghymru, ac fel y gwelsom yn Eisteddfod y Ffermwyr Ifanc yn ddiweddar.

Ond nid dim ond y cantorion sy’n ysu am lwyddiant. Fe ganodd Daniel rhai o ganeuon y ddeuawd gerddorol Stiles & Drew sydd wedi bod yn cyd-gyfansoddi dramâu cerdd ers blynyddoedd. Bu ambell i lwyddiant , gan gynnwys y sioe ‘Honk!’ i enwi dim ond un.

Fe fu hi’n frwydr hir iddynt hwythau hefyd, a braf yw gweld bod yr arch gynhyrchydd Cameron Macintosh bellach wedi rhoi hwb iddynt lwyfannu’r ddrama gerdd ‘Betty Blue Eyes’, sef addasiad cerddorol o ddrama Alan Bennett ‘A Private Function’ fydd yn agor yn y Novello ar y 19eg o Fawrth.

A dim ond neithiwr eto, fe deithiais i theatr y Rose yn Kingston i weld a chlywed rhagor o waith George Stiles yn y ddrama gerdd ‘The Three Musketeers’. Er bod y sioe yn edrych yn hyfryd, a’r set foethus o sgaffaldiau pren yn cyfleu Ffrainc yr ail ganrif ar bymtheg yn wych, braidd yn fflat a blêr oedd y cyfarwyddo, a’r choreograffu’n ddiog a diddychymyg. Fe wnaeth y cwmni eu gorau gyda’r deunydd, ond roeddwn i’n edrych mwy ar fy oriawr na’r olygfa ar y llwyfan. ‘Prior to the West End’ yw’r cyhoeddiad talog ar ben y posteri. Go brin, yn fy marn i. Prawf arall o ba mor anodd yw’r llwybr i gyrraedd y West End, i bawb.

Mwy am Daniel Boys drwy ymweld â www.danielboys.com a Stiles & Drew www.stilesanddrewe.co.uk . Os am fentro i Kingston, manylion y sioe yma www.rosetheatrekingston.org