Total Pageviews

Friday 6 June 2008

Eisteddfod yr Urdd 2008

Y Cymro – 6/6/08

Dwi am gychwyn yr wythnos hon gyda’r newydd trist fod y ddrama gerdd hir ddisgwyliedig ‘Gone With the Wind’ wedi cyhoeddi ei fod yn cau ar Fehefin 14eg a hynny oherwydd y gwerthiant gwael. Tipyn o siom yn bersonol, gan imi wirioneddol fwynhau addfwynder a llwyfaniad syml y gwaith -yn wahanol i Feirniaid eraill y West End.

Ac o sôn am feirniaid, fe ddaeth Eisteddfod yr Urdd arall i ben ar gaeau fferm Gloddaeth Isaf, Bae Penrhyn, ac ysgolion o blant a phobl ifanc yn gorfoleddu neu’n gegrwth am gael y wobr gyntaf neu am gael cam! Un o uchafbwyntiau’r wythnos imi oedd gweld Aelwyd yr Ynys yn cystadlu ar y detholiad o ddrama gerdd Gymraeg, â’m swynodd yn llwyr. Roedd hyder lleisiol, presenoldeb llwyfan a doniau actio bob aelod o’r cast o safon uchel iawn, a braf gweld Manon Wyn Williams yn hawlio’r brif ran, ar lwyfan y Brifwyl. ‘Llwch yn ein Llygaid’ oedd teitl y ddrama gerdd o waith Rhian Mair, Eleri Richards a Delyth Rees, a hanes y cloddio copr ar Fynydd Parys oedd cefndir y stori. Dwi’n cofio gweld y cynhyrchiad gwreiddiol o’r gwaith yma sawl blwyddyn yn ôl yn Ysgol Bodedern gan Theatr Ieuenctid Môn, ac yna rai blynyddoedd wedi hynny yn Eisteddfod yr Urdd 2004 yng Nghaergybi. Rhyfedd fel mae rhai perfformiadau yn aros yn y cof, a pherfformiad Manon Wyn Williams oedd yr uchafbwynt bryd hynny hefyd. Braf oedd dilyn gyrfa Manon, a’i gweld yn cipio Ysgoloriaeth Bryn Terfel yn yr Eisteddfod y llynedd.

Rhaid canmol hefyd holl gyfraniad Aelwyd yr Ynys yn yr Eisteddfod eleni. Nid yn unig yn cystadlu ar y corau a’r partion amrywiol, ond hefyd yr unig rai i gystadlu ar y Chwarter Awr o Adloniant, y ddrama gerdd, a’u cyflwyniad i groesawu’r Eisteddfod i Fae Caerdydd yn 2009 o dan y teitl ‘Y Ddwy Fro’. Mae gennai edmygedd llwyr o ddawn a brwdfrydedd y criw ifanc yma, ac mae eu gwaith i’w canmol yn fawr. Llongyfarchiadau hefyd i Nia Wyn Efans, un o hyfforwddwyr y criw am ennill Tlŵs John a Ceridwen Hughes eleni am ei gwaith a’i chyfraniad i Ieuenctid Cymru.

Siom oedd gweld mai dim Aelwyd yr Ynys oedd yn cystadlu ar rai o’r prif gystadlaethau ar y pnawn Sadwrn. Rhaid gofyn ble oedd yr Ysgolion Uwchradd lleol? Y Creuddyn, Dyffryn Conwy, Glan Clwyd? Siawns nag oes yna ddrama gerdd yn cael ei lwyfannu’n flynyddol yn yr ysgolion – neu hyd yn oed gyfleodd yn y gwersi drama i greu ‘chwarter awr o adloniant’?

A gan i minnau hefyd gael y cyfle i fod yn Feistr Defod y Fedal Ddrama, braint yw cael llongyfarch Huw Alun Foulkes ar ei lwyddiant yn cipio’r Fedal eleni, a hynny ar ei ymgais gyntaf. Gwych iawn. Dwi’n edrych ymlaen i ddarllen ei waith, wedi cael blas ar bortread Stewart Jones a Dyfrig Evans yn ystod y seremoni.

Roedd hi’n braf hefyd medru talu teyrnged i lwyddiant y gystadleuaeth. Ers cyflwyno’r Fedal am y tro cynta yn Llanelli ym 1975, dim ond dwywaith yn unig gafodd y Fedal ei hatal. Mae hynny ynddo’i hun yn galonogol iawn. Tristwch y sefyllfa ydi’r ffaith na chafodd y mwyafrif o’r dramodwyr eu meithrin i barhau i gyfansoddi ar gyfer y llwyfan.

Fel y nodais ar gychwyn y Ddefod, ‘Mae’n ofynnol arnom erbyn hyn i sicrhau'r un abwyd ariannol a chreadigol i gyfoethogi ein theatr yn ogystal. Pam na ellid sefydlu cynlluniau hyfforddi blynyddol, dan adain dramodwyr a chyfarwyddwr profiadol, a drwy nawdd Urdd Gobaith Cymru a’n Theatr Genedlaethol? Byddai hyn yn gyfle gwych i ddarpar ddramodwyr i ddysgu’u crefft, i dderbyn sylwadau ar eu gwaith, ac i gynnal eu hunain am flwyddyn wrth hyfforddi. Ar ddiwedd y cyfnod, bydde gyda ni wedyn ddramâu newydd yn flynyddol i’w llwyfannu a lleisiau ifanc yn mynegi’u barn.’

Gair i gall ynde, a chyfle euraidd i warchod doniau ieuenctid Cymru, rhag i’r rheiny hefyd, gael eu sgubo ymaith efo’r gwynt…