Total Pageviews

Friday 6 October 2006

'Wicked'







Y Cymro - 6/10/06

Mae ‘na ambell i sioe y cofiwch chi amdani am byth. Y syndod o weld llond llwyfan o gast neu set chwaethus; yr anesmwythyd o gael eich dychryn neu wylltio; y wefr o glywed llai unigryw yn llenwi’r theatr nes gyrru iâs oer i lawr y cefn…

Heb os nag oni bai - llais Idina Menzel fydd yn aros yn y cof ar ôl gweld y sioe ddiweddara i agor yn y West End yr wythnos hon… yr unigryw ‘Wicked’.

Wrth gamu i mewn i theatr yr Apollo Victoria, hawdd iawn yw credu bod y sioe hon wedi costio saith miliwn o bunnau i’w llwyfannu! Bu’r sioe eisioes yn llwyddiant ysgubol ar Broadway ers agor yn 2003, gan ennill sawl Gwobr theatr nodedig fel y ‘Tony’ a’r ‘Grammy’ a hynny am bob agwedd o’r cynhyrchiad.

Mae’r sioe yn seiliedig ar nofel Gregory Maguire sy’n adrodd hanes y wrach ddrwg o’r Gorllewin, yng ngwlad hudolus Oz. Dyma stori sy’n rhagymadrodd i’r ffilm enwog Y Dewin Oz, sydd mor gyfarwydd i bob aelod o’r teulu. Er bod sawl haen wleidyddol tu cefn i’r stori, mae ‘na ddyfnder hyfryd yma sy’n profi mai gwrach dda oedd y wrach ‘ddrwg’ mewn gwirionedd, ac mai’r gymdeithas a barodd iddi chwerwi. Dilynwn ei hanes o’i geni drwy’r blynyddoedd yn yr ysgol hyd at ganfod cariad a dod wyneb yn wyneb a hiliaeth yn sgil cael ei geni, o’i thin i’w thalcen, yn wyrdd! Un frwydr enbyd fu ei bywyd, gan geisio cael ei derbyn fel person da ynghanol pobol ddrwg. Byddai ail-wylio’r ffilm hefyd o fantais, gan fod llawer o gyfeiriadaeth at y stori enwog am Dorothy a’i chi Toto yn cael eu chwythu ynghanol y corwynt a’u gorfodi i ddilyn y ffordd frics melyn!

Er bod yna lu o wynebau cyfarwydd yn rhan o’r cast gan gynnwys Miriam Margolyes fel yr athrawes ‘Madame Morrible’, Adam Garcia fel y cariad ‘Fiyero’ a Nigel Planer fel y dewin, heb os nag oni bai, seren y sioe ydi Idina Menzel fel ‘Elphaba’ y wrach ddrwg.

Hi ganodd y rhan yma yn y fersiwn wreiddiol o’r sioe ar Broadway gan ennill Gwobr Tony yn 2004. O’r eiliad y camodd hi ar y llwyfan i gymeradwyaeth byddarol y gynulleidfa, roedd ei pherfformiad yn un arbennig. Roedd ei chlywed yn canu’r brif gân sef ‘Defying Grafity’ ar ddiwedd yr act gyntaf yn wefreiddiol, ac yn eiliadau o theatr fythgofiadwy. Falle i’r rhai ffodus ohonoch a fu’n rhan o’r gynulleidfa yn Theatr Clwyd ar gyfer Ysgoloriaeth Bryn Terfel yn ddiweddar, glywed Elain Llwyd yn canu cyfieithiad Cymraeg o’r gân yma. Siom a chywilydd i S4C am beidio darlledu’r gân, gan i Elain roi’r un wefr i mi ar y noson, ac a wnaeth Idina yn Llundain!

Er cystal y clod a’r sylw i’r sioe, fydd hi ddim yn plesio pawb! Fel gyda gwaith Sondheim, tydi arddull gerddorol Stephen Schwartz ddim at ddant pob un, a llawer un yn teimlo bod y sioe wedi mynd dros-ben-llestri yn llwyr! Chwaeth bersonol ydi hynny, gan imi’n bersonol fwynhau pob eiliad gwerthfawr ohoni.

Rhuthrwch i brynu’ch tocynnau rŵan! Ceisiwch da chi i’w weld tra bod Idina yn parhau yn y brif ran hyd at ddiwedd y flwyddyn. I ymwelwyr cyson â Llundain, mae’n werth ei weld. Os na welsoch chi sioe yn y West End o’r blaen, ewch i weld hon!

Anghofiwch fyth mo’r profiad!
Am fwy o fanylion www.wickedthemusical.co.uk

No comments: