Total Pageviews

Friday 29 February 2008

'The hour we knew nothing of each other'







Y Cymro – 29/02/08

Cyfle i sôn yn fyr am ddau gynhyrchiad tra gwahanol yr wythnos hon; cynyrchiadau weles i dros yr wythnosau diwethaf, ond heb gael y cyfle hyd yma i sôn amdanynt.

O archebu ymlaen llaw, mae posib prynu tocynnau ar gyfer cynyrchiadau’r Theatr Genedlaethol ar lannau’r Southbank am gwta £10. Mae’r diolch am hyn yn mynd i gwmni Travelex sy’n noddi’r fenter, ac sydd, dros y blynyddoedd, wedi galluogi miloedd ar filoedd o bobol i fynychu’r theatr. Mae o hefyd yn ffordd sicr o lenwi’r theatrau, a braf gweld cynulleidfa deilwng bob tro.

Roeddwn i wedi bod eisiau gweld ‘The Hour We Knew Nothing Of Each Other’ o waith y dramodydd o Awstria Peter Handke ers tro, byth ers darllen y deunydd marchnata. ‘Saith actor ar hugain, 450 o gymeriadau a dim dialog : drama heb eiriau gan un o ffigyrau mwyaf arbrofol theatr Ewropeaidd, Peter Handke’. Dyna ddigon i godi blas ar unrhyw un! Mae’r ddrama wedi’i osod mewn sgwâr gwag ynghanol tref brysur, ac roedd set goncrid Hildegard Bechtler yn cyfleu’r olygfa i’r dim. Roedd yma ffenestri a grisiau, drysau a thyllau, ac wrth i’r haul fwrw cysgodion gwahanol dros gyfnod o amser, roedd yr olygfa yn newid, gan roi naws gwahanol i’r cyfan. I mewn i’r olygfa y camodd, dawnsiodd, rhedodd, cerddodd, llusgodd, rowliodd, cannoedd o gymeriadau gwahanol o Abraham ac Isaac i’r Cowboi, o’r Syrcas i’r Angladd, o ddynion a merched busnes i’r ffoaduriaid. Bob un yn mynd heibio’i gilydd heb dorri gair, pawb ar ryw drywydd gwahanol, heb wybod busnes na hanes y llall.

Fel un sydd wrth ei fodd yn eistedd mewn caffi neu ar y stryd yn gwylio pobol, roedd hyn yn apelio’n fawr. Mae’n gorfodi rhywun i feddwl am hanes y bobol yma, a thrwy hynny i greu’r ddrama eich hun. Dyna’n union wnaeth yr awdur; eisteddodd am ddiwrnod cyfan mewn sgwâr bychan yn Muggia ger Trueste yn gwylio’r byd yn mynd heibio. ‘Dechreuais arsylwi o ddifri...’, meddai, ‘...daeth popeth bychan yn arwyddocaol (heb fod yn symbolaidd). Fe ddaeth hyd yn oed y drefn leiaf yn arwyddocaol o’r byd.’

Wedi tri chwarter awr o wylio’r mynd a dod, roeddwn i wedi dechrau laru. Roedd awr eto’i fynd, ac heb egwyl, roedd hynny yn dipyn o strygl. Fel mewn bywyd, doedd y cyfan ddim yn apelio, ond roedd hi’n werth aros er mwyn gweld beth neu pwy oedd i ddod nesaf. Mae’r ddrama i’w weld yn Theatr Lyttelton tan Ebrill 12fed.

'Happy Now?'



Y Cymro - 29/02/08

O’r drama ddi-eiriau at waith yr awdures Lucinda Coxton, a’i drama newydd ‘Happy Now?’ yn Theatr y Cottesloe, eto ar lannau’r Tafwys. Y tro yma, roeddwn i wedi methu cael tocynnau rhad am £10 ymlaen llaw, ac yn sgil ymweliad y foneddiges Bethan Gwanas â Llundain bell, mi es i giwio tu allan i’r theatr am 7.30 y bore er mwyn prynu tocynnau dydd. Dyna ogoniant arall y Theatr Genedlaethol yma yn Llundain, ac roedd 'na rhai wedi bod yn ciwio ers cyn chwech er mwyn cael tocynnau i weld ‘War Horse’ oedd yn dod i ben yr wythnos y buom ni yno.

Dyma ddrama gyfoes am bobol ifanc yn eu pedwardegau sy’n gweithio i fyw a byw i’w gwaith, tra’n ceisio magu’r teulu a chymdeithasau. Mae ‘Kitty’ (Olivia Williams) yn fam i ddau o blant, yn ddynes busnes llwyddiannus, ac yn briod â ‘Johnny’ (Jonathan Cullen) sydd wedi rhoi’r gorau i’w waith fel cyfreithiwr er mwyn bod yn athro. Yn sgil bywyd prysur y fam, a’r mynych gynadleddau sy’n rhaid ei fynychu, mae’r tad yn cael ei orfodi i fagu’r plant, sy’n ychwanegu mwy o densiwn i’r uned deuluol fregus. Mae’r ail gwpl yn dra gwahanol, ond eto’n ymdrechu’n galed i gadw’r briodas rhag chwalu. Mae ‘Miles’ (Dominic Rowan) yn gyfreithiwr alcoholic ac yn gyn cyd-weithiwr efo ‘Johnny’, sydd oherwydd ei sefyllfa druenus yn amharchu ei wraig ‘Bea’ (Emily Joyce). Drwy gynnwys golygfeydd efo’i ffrind gorau hoyw ‘Carl’ (Stuart McQuarrie) a’i mam ‘June’ (Anne Reid), fe lwyddodd y ddrama i gyfleu’r tensiynau dyddiol a wynebai ‘Kitty’, a’r hyn sy’n gwneud iddi benderfynu manteisio ar gynnig y dieithryn o ŵr busnes seimllyd ‘Michael’ (Stanley Townsend) y bu iddi gyfarfod mewn cynhadledd ddiweddar.

Gogoniant y ddrama ydi’r modd y mae’n apelio at wahanol garfannau o bobol, a buan iawn roedd Bethan a minnau yn medru uniaethu â’r gwahanol olygfeydd. Roedd cyfarwyddo Thea Sharrock yn slic, yn siarp ac yn peri i’r cyfan lifo’n rhwydd o’r naill olygfa i’r llall, a hynny ar set gyfoes, syml ond cwbl drawiadol Jonathan Fensom a lwyddodd i gyfleu tri chartref gwahanol a dau Westy gyda dim ond un soffa, un bwrdd, llwyfan ar dro a muriau oedd yn agor a chau.

Dyma ddrama arall oedd yn adrodd cyfrolau am ein bywyd bob dydd, yn llawn comedi a gwirioneddau, ac oherwydd y weledigaeth theatrig yn bleser i’r llygad a’r glust.

Mae ‘Happy Now?’ i’w weld yn Theatr y Cottesloe tan Mai 10fed. Mwy o fanylion am y ddwy ddrama ar www.nationaltheatre.org.uk

Friday 22 February 2008

'Being Harold Pinter'



Y Cymro – 22/02/08

Dathliad o waith un o fy hoff ddramodwyr yr wythnos yma sef Harold Pinter. Mae ei waith i’w weld mewn o leia’ un theatr gydol y flwyddyn yma yn Llundain, ond go brin y gwelwch chi gynhyrchiad tebyg i’r un weles i'r wythnos hon. Sôn yr ydw’i am gynhyrchiad Theatr Rydd Belarus o ‘Being Harold Pinter’ sydd i’w weld yn Theatr Soho ar hyn o bryd. Byrdwn y cynhyrchiad ydi dathlu gwaith Pinter drwy gyfuno detholiad o’i ddramâu ynghyd â dyfyniadau o’i araith wedi iddo ennill Gwobr Nobel am Lenyddiaeth yn 2005. Drwy’r dyfyniadau cawn flas o sut mae Pinter yn mynd ati i gyfansoddi ei ddramâu, ynghyd â’r hyn mae’n ceisio ei ddweud mewn llawer ohonynt. Cwestiynau pellach sy’n cael eu codi yw sut mae rhywun yn esgor ar ddrama ac ydi artist i fod i ddelio gyda gwleidyddiaeth?

O ran y detholiad o ddramâu, mae’r cyfan yn ymwneud â thrais; trais yn y cartref yn y golygfeydd o ‘The Homecoming’ ac ‘Ashes to Ashes’, trais sefydliadol yn ‘The New World Order’ a ‘One for the Road’ a thrais mewn gwrthdaro rhyngwladol efo’r ddrama ‘Mountain Language’.

Ond nid dathlu gwaith Pinter yw unig nod y cwmni. Mae’r ffaith bod y cwmni eu hunain yn perfformio yn Llundain yn gamp ynddo’i hun. Wedi’u sefydlu ym mis Mawrth 2005, gan y dramodydd Nikolai Khalezin a’r rheolwr theatr Natalia Koliada, mae gan y cwmni ar hyn o bryd ddeg actor, dau gyfarwyddwr, pedwar dramodydd, dau gerddor, un gohebydd, pedwar rheolwr a dau dechnegydd. Ond tydi’r Theatr Rydd ddim yn bod yn swyddogol o dan drefn wleidyddol Belarus. Does ganddynt ddim cartref parhaol, nag unrhyw gyfleusterau. Mae’r holl ymarferion a pherfformiadau yn cael eu cynnal yn y dirgel mewn tai preifat, tai bwyta neu yn y goedwig. Mae aelodau’r cwmni yn cael eu haflonyddu’n gyson a chollodd llawer ohonynt eu gwaith o fewn theatrau sy’n cael eu rheoli gan y wladwriaeth. Ond diolch i gefnogaeth dramodwyr fel Tom Stoppard ac Arthur Kopit, ynghyd ac amrywiol sefydliadau mae’r cwmni yn llwyddo i gael lleisio eu pryderon, a’u profiadau.

Yr unig anfantais efo’r cynhyrchiad yma ydi’r ffaith fod y cyfan yn iaith y wlad - Belarus. Gogoniant Pinter i mi ydi’r dewis gofalus a’r chwarae ar eiriau, gyda’r seibiau yn adrodd cyfrolau rhwng y cyfan. Collwyd hynny yn gyfangwbl yn y Rwsieg, ac er i’r cyfieithiad gael ei daflunio ar y sgrin uwchben yr actorion, doedd yr hyn a glywyd o enau’r actorion ddim byd tebyg i’r hyn oedd ar y sgrin! Wedi awr o’r 'Rwsieg wen', roeddwn i’n dechrau sigo, nes i’r cwmni ddechrau ar y ddrama fer ‘Mountain Language’. Dyma ddrama sy’n datgelu pŵer unrhyw iaith. Yn dilyn dyfarniad milwrol sy’n gwahardd pobol ‘y mynydd’ rhag defnyddio eu hiaith eu hunain, maent yn gorfod defnyddio ‘iaith y brifddinas’, sydd tu hwnt i allu llawer ohonynt, ac felly yn amhosib iddynt lefaru. Ond wedi dileu’r dyfarniad, ac wedi iddynt glywed am y dileu yn ‘eu hiaith eu hunain’, mae’r hen wraig yn dewis i aros yn fud; dewis sy’n tanio pob math o resymeg wleidyddol a diffiniadau gwahanol. Er i’r ddrama gael ei ysbrydoli gan daith Pinter i wlad Twrci gyda’r dramodydd o America, Arthur Miller, mae Pinter yn gwrthod yr awgrym mai drama am dynged y Cwrdiaid ydi hi, ond yn hytrach am yr holl ieithoedd sydd wedi’u gwahardd dros y blynyddoedd, gan gynnwys y Gymraeg. Yn naturiol, fe drodd y cwmni'r ddrama yn ddameg o’u profiad hwy ym Melarus, a thrwy gyfuno tystiolaeth o’u profiadau personol, mae’r canlyniad yn ddirdynnol.

Symlrwydd amrwd ac onest y cynhyrchiad sy’n plesio, ac er nad oedd perfformiad bob aelod o’r cast yn serennu, allwn i’m peidio teimlo parch o’r mwyaf i bob un ohonynt am eu dewrder a’u dyfalbarhad. 

Yn sgil eu llwyddiant yn Llundain, a’r adolygiadau rhagorol yn y Wasg, mae’n debyg y bydd sawl aelod o’r cwmni yn cael ei aflonyddu eto wedi i’r cwmni ddychwelyd i Belarus.

O ran y llwyfannu a’r cyfarwyddo, roedd y weledigaeth theatrig yn gan mil gwell na sawl cynhyrchiad weles i yng Nghymru; doedd na ddim ofn pechu yma, mentro ydi’r unig nod. Gwthio’r ffiniau a herio’r sefydliad. Fel na ddylai’r theatr fod.

Mae’r Theatr Rydd Belarus i’w weld yn Theatr Soho tan Chwefror 23. Mwy o fanylion ar www.sohotheatre.com

Friday 15 February 2008

Y Pair






Y Cymro – 15/2/08

Fues i’n pendroni’n hir pam y bu i’r Theatr Genedlaethol ddewis i lwyfannu cyfieithiad o ddrama ‘enwog’ Arthur Miller, ‘The Crucible’. Ro’n i’n meddwl fod ‘Tymor y Clasuron’ wedi hen ddarfod, a dyma ddwy ddrama ‘glasurol’ arall (ynghyd â ‘Siwan’) yn nhymor y ‘Bradwriaeth’. Wedi cyrraedd Theatr Gwynedd, a chael fy hun ynghanol fflyd o fyfyrwyr, buan iawn y daeth hi’n amlwg fod y ddrama hon, fel ‘Cysgod y Cryman’ gynt, ar faes llafur addysgol llawer ohonynt. Dyna un ffordd o sicrhau cynulleidfa ac i gadw athrawon yn hapus! Dim ond gobeithio mai nid marchnata a gwerthiant sy’n llywio’r dewis artistig!

Roedd hi’n amlwg hefyd, o ddarllen ei golofn yn Barn yn Awst 2006, fod Gareth Miles wedi gwirioni ar y ddrama, a hynny wedi iddo weld cynhyrchiad Cwmni’r Royal Shakespeare ohoni dan gyfarwyddyd Dominic Cooke a hawliodd chwe seren gan adolygydd Time Out ar y pryd. Yn ôl Miles, llwyddodd Cooke i gyfuno ‘y testun, y cyfarwyddo, y llwyfannu a’r actio i roi profiad theatrig gwefreiddiol a bythgofiadwy i gynulleidfa’r Gielgud Theatre’. Aeth yn ei flaen i sôn am ‘gyfieithiad rhagorol y diweddar John Gwilym Jones ohoni’ dan ei theitl ‘Y Crochan’. Mi wn y bu cryn drafod dros yr wythnosau diwethaf am y newid yn nheitl y ddrama o’r ‘Crochan’ i’r ‘Pair’, a fynnwn i ddim rhoi tro yn y cawl hwnnw sy’n mudferwi oddi mewn! Yr unig beth ofynnai ydi hyn; os mai ‘rhagorol’ oedd cyfieithiad John Gwilym Jones, ac yn amlwg ddigon da i’w ail-gyhoeddi (fel y noda Miles yn ‘Barn’) gan Athrofa Prifysgol Cymru Caerdydd ac Awdurdod Cymwysterau Cwricwlwm ac Asesu Cymru, pam comisiynu cyfieithiad arall ohoni, a hynny gan Gareth Miles ei hun, oedd yn aelod o’r Bwrdd Artistig ar y pryd?

A dyma ddod at y cynhyrchiad ei hun, 'un o'r cynyrchiadau theatr mwyaf erioed yn y Gymraeg’ yn ôl y cwmni, gyda 17 actor yn rhan o’r cast. Roeddwn i wedi gobeithio medru canmol bob un, ond yn anffodus unwaith eto, cafwyd cam-gastio anffodus, a barodd i’r cynhyrchiad fod yn sigledig ac mor brenaidd â Set ddiflas Sean Crowley oedd yn fy atgoffa i o un siediau ‘rardd B&Q! Sylwedd dros synnwyr unwaith eto, gyda’r mur cefn enfawr yn ychwanegu dim at y cynhyrchiad oni bai am ambell i ddrws neu ffenest. Parhau i gludo’r dodrefn ar y llwyfan wnaeth yr actorion, ac mewn drama sydd eisoes bron yn dair awr o hyd, roedd hyn yn arafu’r cwbl. Methiant mawr y cynhyrchiad oedd goleuo Iestyn Griffiths a’r diffyg rheoli o’r peiriant mwg sydd i fod i roi naws i’r olygfa nid i foddi’r actorion. Yn yr Ail Act, wrth gludo canhwyllau i’r llwyfan, mae ‘Elizabeth Proctor’ (Catrin Powell) yn cyfeirio at y ffaith ei bod hi’n nosi, ac eto roedd môr o olau dydd yn ffrydio drwy’r drws. Roedd yr Act Olaf mor dywyll nes imi gael cryn drafferth i weld yr actorion, gyda Fraser Caines a’i glogyn hir a’i goler uchel yn debycach i Dracula na un o Swyddogion y Llys!.

Ymysg yr anobaith, fe gafwyd chwip o berfformiad gan Owen Arwyn fel ‘John Proctor’ - y calla’ yn y pentref, sydd oherwydd hysteria’r trigolion yn troi’n ferthyr ar ddiwedd y ddrama. Roeddwn i’n poeni bod Arwyn llawer rhy ifanc a llipa i’r rhan, ond mae’n amlwg ei fod wedi aeddfedu fel actor, ac fe’m hargyhoeddodd yn llwyr. Mae’r un peth yn wir am Betsan Llwyd fel ‘Ann Putnam’, Owen Garmon fel ‘Giles Corey’ a Lowri Gwynne fel ‘Martha Corey’ a oedd mor naturiol gredadwy yn eu portreadau, ac yn amlwg yn byw pob emosiwn o’r ddrama. Boddhaol oedd Jonathan Nefydd fel ‘Samuel Parris’ oedd yn tueddu i droi’r cyfan yn ffars ar adegau, ac er i Dyfan Roberts fel ‘Danforth’, Llion Williams fel ‘Thomas Putnam’ a Richard Elfyn fel ‘John Hale’ wneud eu gorau glas o fewn hualau eu cymeriadau, chefais i ddim fy argyhoeddi’n llwyr y tro hwn. Hoffwn i’n fawr petai actorion o Gymru yn rhoi’r gorau i’r ‘actio’ ffug yma, gan fod yn llawer mwy naturiol. Troi a chanfod y cymeriad yn rhan ohonynt yn hytrach na cheisio creu cymeriad arwynebol. Rhaid i’r cyfarwyddwyr hefyd ysgwyddo rhan o’r baich yn hyn o beth.

Roeddwn i hefyd wedi edrych ymlaen yn fawr i weld pa actor o Gymru fyddai’n cael duo ei wyneb â blacin gwyn er mwyn portreadu’r forwyn groenddu ‘Tituba’ sy’n rhan allweddol o’r stori. Y hi sy’n cael ei beio am ddysgu’r merched ifanc am wrachyddiaeth. Ond fe gastiwyd actores ddi-gymraeg i’r rhan, Maxine Finch, a oedd, chwarae teg iddi wedi dysgu i ynganu’r Gymraeg, nes i hwnnw’n amlwg ei llethu, ac fe ganiatawyd iddi lefaru talpiau mawr o’i hymsonau yn y Saesneg. Daw hyn a mi’n ôl at y cwestiwn gwreiddiol. Pam llwyfannu unrhyw gynhyrchiad os nad ydi’r adnoddau cywir ar gael? Welwch chi neb yn gneud cacen heb flawd!

O’r olygfa agoriadol, roeddwn i wedi dechrau amau’r cynhyrchiad gan na welso ni ddim o’r ‘dawnsio fel anwariaid’ gan y morynion liw nos, nac ychwaith unrhyw ferch noeth y meddyliodd Parris iddo weld. Do, fe gafwyd y tân, ond yn anffodus weles i ddim ohono oherwydd i un o’r actorion fasgio’r digwydd rhag rhan helaeth o ganol y gynulleidfa. Boring, ond boddhaol ydi’r unig ffordd medrai ddisgrifio’r cynhyrchiad. Ymysg y ddialog acen-gymysyglyd roedd yna eiriadur o eiriau amrywiol o’r hynafol ‘gyfathrachu’ i’r ‘dwnjwn’ a’r ‘ffansio hi’ cyfoes yng nghyfieithiad Miles, ac roedd stiffrwydd y ddialog lenyddol tu hwnt i allu ambell i actor.

Diolch am weledigaeth theatrig Judith Roberts sy’n chwa o awyr iach ar lwyfannau Cymru, ac sydd, fel sy’n gwbl amlwg o’i hanes byr yn y rhaglen, yn deillio o’i phrofiad helaeth yn gweithio yn Llundain a’r Iwerddon. Newyddion diweddara’r cwmni yw’r ffaith mai Judith fydd hefyd yn cyfarwyddo cynhyrchiad nesa’r cwmni sef cyflwyniad ‘cyfoes o ddrama adnabyddus Saunders Lewis’ - ‘Siwan’. ‘Cyfoes’ sylwer, i efelychu llwyddiant ‘Esther’ o bosib? Siomedig iawn na wahoddwyd cyfarwyddwr gwadd i ymgymryd â’r gwaith yma; siawns nad oes ganddo ni ddigon yma’n Gymru neu du hwnt sy’n segur ar hyn o bryd? Gair o gyngor. Gwyliwch rhag defnyddio yr un actorion ymhob cynhyrchiad!

Ac wele, o’r diwedd, gyhoeddi rhestr o aelodau newydd Bwrdd y Theatr, ynghyd â’u Cadeirydd newydd, Yr Athro Ioan Williams. Mae’r hen wynebau cyfeillgar yn dal yno wrth gwrs : Linda Brown, Eleri Twynog Davies, Gwyneth Glyn, Garry Nicholas ac Elinor Williams, gan fawr obeithio y bydda nhwtha yn ymddeol y flwyddyn nesaf, yn ôl trefn gyfansoddiadol anghofiedig y cwmni. Ac yna’r wynebau a’r lleisiau newydd (rhai ohonynt yn newydd iawn i mi!) : Dylan Rhys Jones, Susan Jones, Lee Haven Jones, Jonathan Pugh a Traude Rogers. Dim ond gobeithio y bydd eu profiad helaeth o Fyd y Ddrama yn fantais fawr i Gymru, ac y byddant, un ac oll, yn barod i ysgwyddo’r cyfrifoldeb am waddol y cwmni mewn blynyddoedd i ddod.

Mi orffennai gyda geiriau Gareth Miles, nôl o fis Awst 2006, sy’n dweud mai un o ‘swyddogaethau’r theatr’ a’r hyn a wnaeth Arthur Miller efo ‘The Crucible’ ydi ‘dwyn ger bron cynulleidfaoedd anhwylderau a chroestyniadau’r gymdeithas gyfoes, waeth pa mor ddirdynnol. Dyna ddull y theatr o hyrwyddo iechyd meddyliol ac emosiynol y gymdeithas a wasanaetha.’ Gresyn na chafwyd drama wreiddiol Gymraeg a all wneud hyn, wedi bron i bum mlynedd o fodolaeth y cwmni, a bron i bum miliwn o arian cyhoeddus...

Mae ‘ Y Pair’ ar daith tan Mawrth 14eg. Mwy o fanylion ar www.theatr.com

Friday 8 February 2008

'Weapons of Happiness'

Y Cymro – 8/2/08

Cyfle i ail-ymweld ag un o’r theatrau llai'r wythnos yma, wrth fentro yn ôl i Theatr y Finborough yn ardal Earls Court. Braf gweld bod bar y theatr wrthi yn cael ei adnewyddu a’i droi i fod yn Brasserie fydd yn agor ddiwedd y mis. Yn anffodus, ni chafwyd rhybudd o hyn, ac o’r herwydd, bu’n rhaid mynd i wastraffu hanner awr go dda ar y strydoedd oer cyn cael mynediad i’r theatr. Braidd yn llychlyd a di-drefn oedd yr adeilad, ac yn sgil ymweliad y cwmni trydan yn gynharach yn y dydd, bu’n rhaid ail-gychwyn y ddrama, wedi i’r ddesg oleuo ffwndro’n lân, gan adael yr actorion mewn duwch! Buan iawn y rhoddwyd trefn ar bethau, a dechreuwyd o ddifri ar gynhyrchiad o ddrama Howard Brenton, ‘Weapons of Happiness’ - y ddrama gomisiwn gyntaf, gyda llaw, i’w llwyfannu ar y Southbank a hynny yn Theatr y Lyttelton, ym mis Gorffennaf 1976.

Mae’r ddrama wedi’i leoli mewn ffactri gneud creision yn Ne Llundain yn y Saithdegau, ble mae’r gweithwyr yn dechrau dod o dan ddylanwad Comiwnyddiaeth. Ymysg y gweithwyr, mae’r ‘Josef Frank’ (Hilton McRae) sydd wedi ffoi i Lundain o Tsiecoslofacia, er mwyn dianc rhag ei orffennol. Bum mlynedd ar hugain wedi iddo ffoi, mae’n cael ei ddychryn a’i dristau gan agwedd rhai o’r ieuenctid sy’n gweithio yn y ffactri. Fel yr ‘Wylan’ wyllt yn nofel Islwyn Ffowc Elis, ‘Cysgod y Cryman’, mae’r cymeriad ‘Janice’ (Katie Cotterall) wedi’i meddiannu gan y ddelfryd o Gomiwnyddiaeth, ac yn gwybod yn iawn am gefndir yr ymwelydd. Drwy ddefnyddio ei rhywioldeb, mae’n ceisio’i gore i ddenu’r hen ŵr yn ôl at ei ddaliadau. Gweddill ‘plant y chwyldro’ yn y ffactri ydi ‘Ken’ (Benjamin Davies), ‘Liz’ (Abigail Hood) ac ‘Alf’ (Christopher Terry) sydd, er ymdrechion Rheolwr y ffactri ‘Ralph Makepeace’ (Anthony Keetch), y fforman ‘Mr Stanley’ (Mike Aherne) a chynrychiolydd yr Undeb, ‘Hicks’ (Martin Pirongs), am geisio achub eu gwaith a newid eu bywydau. Er gwaethaf profiadau trawmatig ‘Frank’ yn nyddiau Stalin, tydi’r ieuenctid ddim am wrando, gan ddewis i feddiannu’r ffactri ac ymladd yn erbyn y llywodraeth sydd wedi cefnu arnynt. Ond drwy gyfres o ôl-fflachiadau, buan iawn y mae ‘Frank’ yn gneud i’r rhai ifanc sylweddoli na ddaw dim da o’u gweithredoedd. Ar ddiwedd y ddrama, wedi iddynt ffoi i Gymru, maent yn gweld mai’r un yw’r problemau yno hefyd, ac yn dyheu am eu bywyd dinesig.

Angor y cynhyrchiad, drwy ei bortread sensitif a chynnil ond hynod gredadwy ydi Hilton McRae sy’n hawlio’r llwyfan, ac yn daearu’r cynhyrchiad. Yn anffodus, mae pob actor yn gweithio ar ei liwt ei hun, ar wahanol lefel i’w gilydd, ac roedd hyn yn amharu ar y ddrama. Ar gychwyn yr ail-Act, wrth inni gael ein hatgoffa o ‘orffennol ‘Frank’ wedi’i garcharu gyda gweinidog tramor gwlad Tsiec ‘Clementis’ (Hayward Morse) roedd y gwahaniaeth rhwng arddull y ddau actor yn amlwg; McRae yn gynnil a chredadwy tra bod Morse yn gorwneud. Roedd yr un diffyg yn nefnydd y cast o’u lleisiau – rhai yn gorlefaru mewn gofod bychan tra bod eraill ddim yn taflu’u lleisiau ddigon.

Wedi dweud hynny, dyma gynhyrchiad sy’n werth ei weld, petai ond i brofi sut mae posib gwasgu deuddeg actor i ofod bychan, gyda fawr ddim o set, oni bai am un ar bymtheg o gratiau pren. Clod i’r cynllunydd Alistair Turner am ei ddefnydd creadigol o’r llwyfan, ac am lwyddo i gyfleu’r saith degau a’r pumdegau mor llwyddiannus.

Heb os, drama ei gyfnod ydi ‘Weapons of Happiness’ a hawdd ydi gweld pa fath o ymateb cafodd y ddrama gan ‘blant y chwyldro’ yn y Saithdegau. Difyr yw nodi bod y dramodydd, Howard Brenton wedi achosi peth helynt efo drama arall o’i eiddo bedair blynedd yn ddiweddarach hefyd wrth i’r Theatr Genedlaethol fynd ati i lwyfannu ei ddrama ‘The Romans in Britain’ ym 1980. Yn sgil golygfeydd o dreisio rhwng dynion, bu swyddogion o Scotland Yard yn ymweld â’r theatr a derbyniwyd bygythiadau gan Gyngor y Ddinas ac erledigaeth i’r cyfarwyddwr Michael Bogdanov gan y diweddar ymgyrchydd Mary Whitehouse.

Go brin y bydd y ddrama hon yn ddigon i ennyn chwyldro ym Mhrydain y dyddiau yma, ac er gwaetha’r anhawsterau, mae’n flas o’r hyn a fu, ac yn wers rhag yr hyn all fod . Mae’r cynhyrchiad i’w weld yn y Finborough tan Chwefror 23ain. Mwy o wybodaeth ar www.finboroughtheatre.co.uk

Friday 1 February 2008

'The Sea'

Y Cymro : 01/02/08

Dwy ddrama glasurol yr wythnos hon gan ddau gwmni a chyfarwddwr nodedig. Ail-gynhyrchiad yn nhymor Jonathan Kent yn Theatr Frenhinol yr Haymarket sef ‘The Sea’ gan Edward Bond a chynhyrchiad yr English Touring Theatre o ‘Uncle Vanya’ gan Anton Chekhov, wedi’i gyfarwyddo gan Peter Hall.

Comedi gan un o’n dramodwyr cyfoes mwyaf nodedig ydi ‘The Sea’, sef cynhyrchiad cyntaf o waith Edward Bond yn y West End. Mae’r ddrama wedi’i gosod mewn pentref glan môr yn East Anglia ym 1907, ynghanol cyfoeth y cyfnod Edwardaidd, ac ar drothwy’r Rhyfel Byd. Yn teyrnasu dros y pentref efo’i dwrn o ddur a’i thafod sur mae’r lodes ‘Mrs Louise Rafi’ (Eileen Atkins) sy’n atgoffa rhywun o ‘Lady Bracknell’ o waith Oscar Wilde. Un sy’n cael ei arteithio’n wythnosol ganddi ydi ‘Hatch’ (David Haig) perchennog siop ddillad, sy’n ceisio cadw’r blaidd rhag y drws, er gwaethaf anghysodeb archebion ‘Mrs Rafi’. Ar gychwyn y ddrama, mae storm enbyd ar y môr, a buan iawn y cawn wybod fod llanc ifanc wedi boddi ynghanol y tonnau, er gwaethaf ymdrechion ei gyfaill ‘Willy Carson’ (Harry Lloyd) a’r tim bad achub lleol i’w achub. Wrth i griw’r bad achub gyfarfod yn siop ‘Hatch’ y bore canlynol, mae sibrydion ar led bod rhyw ddrwg ar waith. Mae ‘Hatch’ yn benderfynol o brofi mai ymwelwyr o fyd estron ydi’r ddau ŵr a welwyd ar y traeth, ac y bydd yr ‘estroniaid’ yn siwr o ddychwelyd i gasglu’r corff. Buan iawn y daw gwallgofrwydd ‘Hatch’ yn amlwg, ac erbyn yr egwyl, mae’n ymdebygu i Basil Fawlty!

Perfformiadau caboledig Eileen Atkins fel y lodes, David Haig fel ‘Hatch’ a Marcia Warren fel ‘Jessica Tilehouse’ sef cydymaith Mrs Rafi, sy’n cadw’r cynhyrchiad yma rhag taro’r creigiau. Braidd yn ddi-symud oedd y sgript, sy’n troi i mewn i ffars llwyr wrth i ‘Hatch’ ddirywio a rhwygo’r defnydd melfed mae’r lodes wedi’i archebu. Er gwaetha’r dechrau trawiadol, a set symudol Paul Brown sy’n cyfleu’r traeth, y tŷ a’r siop yn wych, rhyw suddo’n ara deg wnaeth y ddrama wrth fynd yn ei blaen. Dim ond ym marddoniaeth dialog Bond yn yr Ail Act, wrth i Mrs Rafi ddechrau ddadmer ar fin y tonnau, y cefais flas ar syniadaeth y ddrama; drwy annog yr ifanc i adael y pentref, mae hi’n difaru ei bod hithau wedi methu mynd. Ymhell cyn dyddiau’r ffilm ‘E.T’, pan oedd y byd yn newid o ran technoleg a therfysg, mae neges y ddrama yn glir; y ni mewn gwirionedd ydi’r ymwelwyr mewn byd sy’n ddiarth, a’r unig ateb yn un o linellau ola’r ddrama, ‘Catch the eleven-forty-five and change the world’.

Braf oedd gweld enw’r actor ifanc o Gaerdydd Tomos James sydd wedi’i ddewis gan yr Haymarket fel aprentis o actor dan gynllun eu ‘Masterclass’. Gresyn na chastiwyd actores o Gymru fel y Gymraes ‘Mafanwy Price’, ond dwi’n falch o ddweud fod Selina Griffiths wedi llwyddo’n rhyfeddol, a thinc llais ei mam, yr actores Annette Crosbie yn amlwg. Mae ‘The Sea’ i’w weld yn yr Haymarket tan Ebrill 19eg. Mwy o fanylion ar www.trh.co.uk

'Uncle Vanya'


Y Cymro : 01/02/08

Yna at waith un o gyfarwyddwyr mwya’ nodedig Prydain, sef sefydlwr y Royal Shakespeare Company, Syr Peter Hall, sydd newydd lwyfannu ei gynhyrchiad cyntaf yn y theatr newydd-anedig y Rose, yn Kingston, ar lannau’r Tafwys. Wedi’i adeiladu yn ôl cynllun theatr y Rose gwreiddiol ar y Southbank ynghanol Llundain, mae’n ddelfryd o theatr sy’n eang ac eto’n agos, yn gain ac eto’n gyfeillgar. Wrth ymarfer ar gyfer y ddrama, bu Peter Hall yn y newyddion am ei sylwadau di-flewyn-ar- dafod am safon llefaru actorion ifanc ar lwyfan y dyddiau yma.

Un o ddramâu mawr Chekhov, sef hanes ‘Uncle Vanya’ a threialon ei deulu ar stad wledig mewn pentref bychan yn Rwsia yn y 1890au, oedd ei ddewis, a chast o safon yn cynnwys Neil Pearson, Nicholas Le Prevost a Ronald Pickup. Wedi edrych ymlaen gymaint am gael gweld y theatr, cefais siom yn y modd y llwyfannwyd y gwaith. Collwyd y cyfle i ddangos gwerth a mawredd y gofod anghyffredin hwn, ac yn sgil prinder y set, y goleuo caled eithafol ar y llwyfan pren golau newydd sbon, roedd y cyfan yn rhy lan a chlinigol. Yn sgil rhoi’r flaenoriaeth i’r llefaru, a rhaid cyfaddef imi glywed pob un gair o enau’r actorion, collwyd realaeth a chredinedd y cymeriadau. Cefais y teimlad mai darllen neu berfformio’r ddrama oedd y cast yn hytrach na byw’r peth. Yr unig un rai i lwyddo i greu cymeriadau credadwy oedd Loo Brealey fel ‘Sonya’ y chwaer fach, Antonia Pemberton fel y ‘Maria’ oedrannus a Neil Pearson yn yr Ail Act, fel y meddyg ‘Astrov’.

Bydd y cynhyrchiad ar daith gan ymweld â Chaerfaddon, Caergrawnt, Brighton, Caerefrog, Guilford, Newcastle Upon Tyne, Milton Keynes a Malvern tan 5ed o Ebrill. Mwy o fanylion ar www.ett.org.uk neu www.rosetheatrekingston.org