Total Pageviews

Friday, 22 May 2009

'Phantom' a mwy...


Y Cymro – 22/5/09

Mae’n gyfnod cynhyrfus yma yn Llundain unwaith eto, wrth i fwy o ddramâu cerdd gau’r llenni am y tro olaf, er mwyn gwneud lle i sioeau newydd. ‘Spring Awakening’ yw’r ddiweddara i gyhoeddi’r terfyn cynnar ddiwedd y mis, gan adael gofod y Novello yn wag.

Rhai o’r sioeau newydd sy’n codi cynnwrf yw addasiad llwyfan o’r ffilm ‘Breakfast at Tiffany’s’ gydag Anna Friel (o’r gyfres Brookside) yn y brif ran. Cynhyrchiad yr Haymarket yw’r prosiect a chyfarwyddwr presennol y theatr, Sean Mathias sydd wrth y llyw. Ganol yr Haf yw’r nod presennol ar hyn o bryd.

Ac i edrych ymlaen hyd yn oed ymhellach na hynny, bydd ffans y foneddiges Bridget Jones yn falch o glywed bod Helen Fielding wrthi’n addasu’r nofel yn ddrama gerdd! (o diar!) 2011 yw’r nod am honno, ac er nad oes enwau’n gysylltiedig â’r prosiect hyd yma, mae 'na sïon bod criw cynhyrchu ‘Billy Elliot’ wedi bod mewn cyfarfodydd cyfrinachol efo’r cwmni cynhyrchu!

Ond y ddrama gerdd hir ddisgwyliedig, sy’n dal i gael ei drafod yn fisol yma yn y ddinas yw ‘Love Never Dies’ sef dilyniant i lwyddiant Lloyd Webber, ‘Phantom of the Opera’.

Fues i’n ffodus iawn o ail-ymweld â Theatr Her Majesty’s yn ddiweddar i weld y gwreiddiol, a heb os, mae mawredd creadigol a cherddorol y sioe, yn dal i’n swyno i hyd heddiw. Dwi’n cofio gwrando ar gasetiau o’r sioe flynyddoedd yn ôl, yn fy llofft yn Nolwyddelan, a bron na allwn i ail-adrodd y sgript air wrth air. Gallu cerddorol Lloyd Webber a’m swynodd bryd hynny, a’i alawon hudolus o leddf, wrth ganu i gyfeiliant y stori drasig am greadur truenus yn syrthio mewn cariad gydag actores brydferth o’r enw Christine.

Dwi’n siŵr bod tua wyth mlynedd ers imi weld y cynhyrchiad am y tro cyntaf, a rhaid bod yn onest imi gael siom enfawr bryd hynny. Roedd y cyfan yn swnio’n flinedig, a ddim hanner mor ffres a byw â’r hyn roeddwn i wedi arfer ag o drwy’r casetiau. Dadl dros beidio gwrando ar y trac sain cyn y sioe, efallai?

Ond rai wythnosau yn ôl, cefais fy swyno unwaith yn rhagor. Roedd y cyfan mor fyw a ffres, mor ddramatig a deniadol ar y llwyfan, a mawredd y cynhyrchiad a’i setiau moethus a’r gwisgoedd lliwgar yn llenwi pob modfedd o’r llwyfan. Mae tocynnau yn parhau i fod mor ddrud ag erioed, ac er bod yna docynnau rhad, £15 i’w cael, byddwch yn wyliadwrus, gan eu bônt fel arfer yn y ‘gods’ chwedl caredigion byd y ddrama! Os am wario ar unrhyw sioe, yna hon yw’r sioe am hynny. Profwch y wefr mewn moethusrwydd!

A beth am y sioe newydd? Wel, mae’n debyg bydd y stori wedi’i osod deg mlynedd ar ôl diwedd y stori wreiddiol. Mae’r ‘phantom’, neu’r gŵr truenus, sy’n gorfod cuddio yn nyfnderoedd y theatr Ffrengig, gan guddio’i wedd echrydus gyda mwgwd, wedi dianc i Efrog Newydd gyda ‘Madame’ a ‘Meg Giry’. Mae’n adeiladu Tŷ Opera newydd yno, ac yn gwahodd ei eilun, y gantores a’r actores ‘Christine Daae’ yn ôl ato i ganu unwaith eto. Mae hithau bellach wedi priodi ‘Raoul’ ac wedi gwneud tipyn o enw iddi’i hun. Fe glywes i hefyd si fod yna blentyn wedi’i eni, a’r posibilrwydd mai’r ‘Phantom’ yw’r tad, fyddai’n dyfnhau’r stori garu drasig, ddi-derfyn rhwng y ddau.

Er bod Ramin Karimloo, (sy’n portreadu’r ‘Phantom’ ar hyn o bryd yn Llundain) a’r Americanes Sierra Boggess wrthi’n gweithio ar y sioe newydd mewn amryfal weithdai, does dim enwau pellach wedi’i nodi ar gyfer y sioe sy’n debygol o agor yng Ngwanwyn 2010. Ben Elton a Glenn Slater sy’n gyfrifol am y stori a geiriau’r caneuon, tra bod Jack O’Brien wrth y llyw fel cyfarwyddwr a Bob Crowley fel Cynllunydd.

No comments: