Total Pageviews

Friday 21 May 2010

'The Devil Inside Him'




Y Cymro – 21/05/10

Nos Lun cyn y Nadolig oedd hi, ddwy flynedd yn ôl, pan gamais i mewn i dafarn ynghanol Llundain i ddathlu agoriad sioe ddiweddara'r cwmni 'cw yn y West End. Ynghanol y dathlu a'r miri, fe ddaeth criw bychan o ddieithriaid i ganol y cwmni dethol, ac yn eu plith un wyneb cyfarwydd imi. Cyfarwydd oedd, ond wyddwn i ddim yn y byd pam?! Wedi holi fy nghydweithwyr os oedd unrhyw un arall yn ei adnabod, a chael fawr ddim ymateb, fe drodd y dieithryn yn dasg enfawr i'w ddatrys. Roeddwn i'n bendant mod i wedi'i weld o'r blaen, a hynny fel actor. Roedd 'na rywbeth hudolus am ei bersonoliaeth a'i wedd oedd yn mynnu aros yn y cof. Wedi gweld miloedd o actorion amrywiol dros y blynyddoedd, tasg enfawr yw ceisio cofio pawb!. Doedd dim amdani ond mynd at wraidd y dirgelwch a gofyn yn fy Susnag gora, pa sioe roedd o'n gysylltiedig â fo?. Pan glywais yr acen Gymraeg, fe syrthiodd y geiniog ac fe ges i fy ateb. Y dieithryn dan sylw oedd yr amryddawn unigryw Iwan Rheon.

Y sioe dan sylw bryd hynny oedd ‘Spring Awakening’, a pherfformiad poenus, unig a nerfus Iwan fel y cymeriad ‘Moritz’ a’i wallt gwyllt a’i lygaid dyfriog yn gwbl haeddiannol o’r Wobr Olivier a enillodd yn gynharach eleni. Felly hefyd efo’i gydymaith o Gymro yn y sioe, Aneurin Barnard. Pan welais i fod National Theatre Wales wedi cynnig y brif ran iddo yn eu trydydd cynhyrchiad ‘The Devil Inside Him’, roeddwn i’n ysu am weld y sioe. Chefais i ddim mo’n siomi.

Gyda balchder o’r mwyaf y codais ar fy nhraed, nos Sadwrn diwethaf yn y New Theatre yng Nghaerdydd, i ddangos fy llawn werthfawrogiad o’r campwaith fu ar y llwyfan. Sgŵp yn wir i’r cwmni newydd anedig hwn am fod y cyntaf i lwyfannu’r clasur anghofiedig o waith John Osbourne, a fu’n cuddio ymysg yr amrywiol sgriptiau a waharddwyd gan y Sensor ers y 1950au. Yn 2008, wedi’i gadw o dan yr enw ‘John Caborne’ yn y Llyfrgell Brydeinig, dadorchuddiwyd y ddrama dywyll, ddwfn a dirgel hon.

Wedi’i osod yng nghartref y teulu Prosser, yng Nghwm Tawe’r pumdegau, mae’n adrodd hanes trasig y teulu wrth i’r tad (Derek Hutchinson) a’r fam (Helen Griffin) geisio dod i delerau gyda “salwch” eu mab ‘Huw’ (Iwan Rheon). Yn gofalu am y teulu, fel morwyn a chogyddes, mae’r ‘Mrs Evans’ (Rachel Lumberg) liwgar a siaradus, sydd fel chwa o awyr iach o fewn muriau caeth y teulu. I ganol y cawl sy’n ffrwtian yn ffyrnig y daw’r gweinidog lleol, ‘Mr Gruffuydd’ (John Cording) sy’n mynnu mai’r diafol ei hun sydd wrth wraidd meddwl “aflan” Huw, a’i weledigaethau a meddyliau gor-rywiol. Er gwaethaf holl ymdrechion y myfyriwr meddygol ‘Burn’ (Jamie Ballard) i geisio deall a thawelu meddwl Huw, mae atyniad a meddwl llygredig y forwyn ifanc ‘Dilys’ (Catrin Stewart) sy’n mynnu chwarae mig â Huw, yn arwain y cyfan at drasiedi’r diwedd.

Roedd portread pob aelod o’r cwmni yn gynnil ac eto’n bwerus o lwyddiannus a chredadwy, gyda Rachel Lumberg, Helen Griffin, Derek Hutchinson, Catrin Stewart a’r anhygoel, hudolus Iwan Rheon yn serennu dro ar ôl tro. Heb eiriau weithiau, roedd ei bresenoldeb yn denu’r llygaid, yn aros am y ffrwydrad o emosiynau oedd yn cuddio oddi mewn.

Felly hefyd gyda chyfarwyddo cynnil Elen Bowman, a’i phrofiad helaeth o astudio’r dull gwyddonol o actio, ei gofal am y geiriau a’r cefndir, yn codi’r cynhyrchiad i dir uchel iawn. Roedd popeth yn gweithio’n gelfydd gyda’i gilydd, o set drawiadol, draddodiadol Alex Eales, gyda’r dadlennu trawiadol ar y diwedd hyd at oleuo teimladwy Malcolm Rippeth, i gerddoriaeth Simon Allen oedd yn lliwio’r cyfan.

Heb os, mae’r cynhyrchiad yma eto’n brawf pendant o allu’r Cymry i greu cynyrchiadau gafaelgar a chofiadwy. Rhwng ‘Llwyth’ a ‘The Devil Inside Him’ codwyd fy nghalon am ddyfodol y ddrama yng Nghymru. Ymlaen, ymlaen…!

‘For Mountain, Sand & Sea’ yn y Bermo fydd eu cynhyrchiad nesaf rhwng y 25ain o Fehefin a’r 10fed o Orffennaf. Mwy o fanylion drwy ymweld â www.nationaltheatrewales.org

No comments: