Total Pageviews

Friday 2 July 2010

'My name is Sue'




Y Cymro – 2/7/10

Mae’n rhyfedd fel mae’r rhod yn troi. Pedair blynedd yn ôl, dwi’n cofio teithio i’r Ŵyl Ymylol yng Nghaeredin, a chael fy ngwefreiddio gan angerdd, brwdfrydedd a dyfalbarhad dau actor ifanc o Gymru, oedd yn benderfynol o wneud enw i’w hunain, drwy berfformio eu gwaith i’r gynulleidfa ryngwladol. Nid gorchwyl hawdd na rhad oedd hyn, a’r ddau yn ymdrechu’n galed i ddenu cynulleidfa, er mwyn talu’r ddyled enfawr o gael bod yng Nghaeredin, heb sôn am lwyfannu sioe yno. Y ddau dan sylw oedd Dafydd James ac Eirlys Bellin. Dau gyn-fyfyriwr o’r coleg yng Nghaeredin, a dau, dwi’n hynod o falch o weld, sy’n parhau i arbrofi, eto eleni, gyda dwy sioe wreiddiol a gwahanol.

Does gen i ddim amheuaeth mai un talp o ddyfeisgarwch dramatig ydi Dafydd James! I’r rhai ohonoch a welodd y campwaith ‘Llwyth’ yn ddiweddar, fe welsoch ei ddawn fel awdur a chyfarwyddwr cerdd. Dyma gynhyrchiad unigryw yng Nghymru, a lwyddodd i ddenu gair da ymhob cwr o’r wlad. Chlywais i ‘run adolygiad siomedig o’r ddrama, ac mae hynny yn gamp ynddo’i hun!

Bellach, mae Dafydd yn ôl ar lwyfan, yn ei briod le, os y cai ychwanegu, efo’i gomedi tywyll a thrasig mewn mannau, ‘My Name is Sue’ a fu yn y Soho Theatre yn Llundain dros y bythefnos ddiwethaf. Hanes bywyd tywyll a thrist ‘Sue Timms’ (Dafydd James) yw’r awr o sioe fendigedig hon, wrth iddi hel atgofion wrth y piano, ac yng ngolau’r standard lamp. Yn gwmni iddi, ar y llwyfan moel y mae’r ‘chwiorydd’, neu’r band, sydd i gyd yr un mor welw, llwyd a di-emosiwn a’r prif destun, yn ogystal â llwch ei mam, mewn wrn ar ben y piano.

O nodau gynta’r gân agoriadol, a’i eiriau syml ond cwbl bwrpasol, “Hello, how are you?, what’s your name, my name is Sue...” , rydym yn cael ein denu i’w byd o unigrwydd, ac yn cydymdeimlo a’i phoen o gael ei bwlio yn yr ysgol, ei methiant yn y ‘finishing school’, ei theithiau unig ar y bws o gwmpas Caerdydd, ei hoff ffilm ‘Sleeping with the Enemy’ a’i chred dragwyddol, ddirdynnol, mai marwolaeth sy’n ein haros ni gyd.

Mae 70% o’r sioe ar gân, a hynny wedi’i gyfansoddi (a’i berfformio) gan Dafydd a’i gyfarwyddwr a chyd awdur Ben Lewis, sy’n arddangos ei dalent ar y piano yn ogystal. Does ryfedd fod y cynhyrchiad wedi ennill gwobrau iddo yng Nghaeredin y llynedd, a synnwn i ddim y bydd nifer mwy yn dod i’w ran eleni.

Bydd 'My name is Sue’ ar daith gan ymweld â Tobacco Factory, Bryste, Gŵyl Sligo, Iwerddon a North Wall Arts Centre, Rhydychen. Mwy o wybodaeth drwy chwilio am y ‘My name is Sue’ ar Facebook. Ewch i’w cefnogi da chi, chewch chi mo’ch siomi.

No comments: