Total Pageviews

Thursday 10 October 2013

Yr hyn NA ddadlennodd Golwg am fy nrama am Morris a Prosser




Wedi berw’r ymateb cyntaf siomedig, a’r wybodaeth bellach a ddaeth i law fod ail erthygl am ei gyhoeddi, yr wythnos nesaf, teimlaf fod hi’n amser deud fy neud, heb wamalu na gwastraffu geiriau.

Ar wahân i roi gwybod am fy nrama newydd i Radio Cymru, ‘Dan y don’, fy mhrif reswm dros gysylltu â Golwg, oedd i ddatgan fy siom, am y bythefnos o fombardio ffilm ‘newydd’ Branwen Cennard, ar draul fy syniad gwreiddiol innau.

Yr hyn sydd wedi rhoi halen ar y briw, ydi’r ffaith imi gofio sôn wrth Branwen am fy syniad, ar ôl seremoni BAFTA yng Nghaerdydd, ym 2008. Fel un a lwyfannodd ddrama fer fuddugol Branwen, o Eisteddfod yr Urdd  Caerdydd 1985, roeddwn i’n teimlo’r rheidrwydd i gyflwyno fy hun iddi, wedi’r sioe yng Nghanolfan y Mileniwm.

A minnau newydd symud i Lundain, ac wedi rhoi’r gorau i swydd lawn amser, (gan gychwyn dringo’r mynydd o ymchwil am Prosser Rhys a Morris T Williams), roedd hi hefyd yn benllanw fy ymateb negyddol gonest i  benodiad Cefin Roberts, fel arweinydd artistig y Theatr Genedlaethol.

O fynd at Branwen, cefais yr ateb (meddw efallai, ond sur serch hynny) 
‘Dwi’n gwybod yn iawn pwy wyt ti!. Ti sy’n casáu Cefin Roberts’. 
Brawddeg a’m dychrynodd, ac eto, a roddodd gyfle imi (eto fyth) i gywiro’r rhagfarn blentynnaidd ac i EGLURO’r rhesymeg a’r ffeithiau, pam nad oeddwn yn cytuno gyda’r penodiad, a bod gennyf, hyd heddiw, barch mawr iddo fel cyfarwyddwr cerdd a llwyfan. Wedi’r gwenwyn gilio, cefais gyfle i sôn am yr hyn oedd ar y gweill gennyf ar y funud, a dyna sut y bu imi sôn am fy mwriad o gyfansoddi drama am gyfeillgarwch y ddau, yn sgil gweld drama Christopher Hampton, yn 2007.


Mi wn nad y fi yw’r cyntaf, na’r olaf, i astudio hanes y ddau ŵr hoffus yma, ac mae sôn ers blynyddoedd am eu cyfeillgarwch, a’r dadansoddi sydd wedi digwydd yn ei sgil. Y dadansoddi answyddogol ragdybiol, ryda ni’r Cymry yn or-hoff o’i ddefnyddio – y sisial mewn corneli, y pwnio penelin neu’r pwyntio’r bys a’r awgrymu, heb fyth fod yn ddigon onest i ofyn y gwir. Y tawelwch taeog fydd yn gyfrifol am ddinistrio’r Gymru sydd ohoni, ‘rhag codi ffws’ neu ‘bechu’r hwn-neu'r-llall’. Rhaid bod yn gwbl agored os am Genedl iach, ddiduedd a dewr.

Mi soniais wrth sawl un, dros y blynyddoedd a fu, am fy nrama ‘Annwyl Morris, Annwyl Prosser’; wrth gyn aelodau o Fwrdd y Theatr Genedlaethol, yn ogystal â chyfeillion agos, a dewisodd yr un ohonynt i fradychu, na dwyn fy syniad. Mi soniais wrth Arwel Gruffydd, oedd newydd ei benodi’n Arweinydd Artistig ar y Theatr Genedlaethol, tra’n gwylio’r ‘The Passion’ ym Mhort Talbot nôl yn mis Ebrill 2011 , ac yn sgil y gobaith newydd a welais yn nyfodol y cwmni, dyna pam y penderfynais ofyn am gymorth ariannol i barhau’r â’r ymchwil, er mwyn cwblhau’r ddrama.

Yn fy nghwrteisi arferol, a rhag pechu na sefyll ar unrhyw gyrn, dyma anfon e-bost at Alan Llwyd, a dyna sut y cefais wybod bod Branwen Cennard wedi gofyn iddo sgriptio ffilm am berthynas Kate, Prosser a Morris. Y fath siom. Dwn i’m os ydi’r ‘ffilm’ wedi’i chomisiynu’n swyddogol gan S4C, doedd hyd yn oed Golwg ddim yn gallu cadarnhau hynny chwaith. Siom pellach oedd y gwthio parhaus ar y ‘ffilm’ yn Golwg, a hynny er imi drydar a rhoi gwybod iddynt fod drama lwyfan hefyd, ar y gweill.



Allai mond â theimlo fod Branwen Cennard wedi ceisio boddi fy nrama lwyfan, ym mrafado’r ffilm arfaethedig, gan adael fy syniad innau fel cawl eildwym. Penderfyniad anffodus, os yn wir, a hithau hefyd yn Is-gadeirydd Bwrdd y Theatr Genedlaethol, sydd wedi ariannu’r ymchwil! Mae’r amseru yn anffodus iawn, a swyddogaeth Branwen ar Fwrdd y Theatr, yn ogystal â bod yn gynhyrchydd teledu annibynnol yn codi sawl cwestiwn.

Fyddwn i ddim wedi dewis rhannu dim am hyn, petai rhywbeth tebyg heb ddigwydd yn gynharach eleni. A minnau wedi ail-afael yn fy ysbryd creadigol, sy’n rhan o’r broses wella, mi benderfynais rannu fy syniadau segur â sawl chwmni.  Wedi dysgu mwy am y Ganolfan Gelfyddydau arfaethedig Pontio ym Mangor, ac yn dilyn sgwrs gyda Sais o gwmni marchnata ym Mirmingham, oedd wedi fy ngwahodd i Gaerdydd i gyfarfod dirgel, er mwyn trafod arweinwyr artistig addas, ymhell cyn penodi Elen ap Robert i’r swydd, dechreuais hel meddyliau.

Fe soniodd y dieithryn am y posibilrwydd o sefydlu cwmni drama breswyl ym Mhontio, fel gyda Chwmni Theatr Gwynedd gynt. Roeddwn i’n croesawu hynny’n fawr, ac yn eu rhag rhybuddio y byddai canfod arweinydd artistig a chyfarwyddwr theatrig yn dipyn o sialens yn y Gymru sydd ohoni. Ond rhoi rhestr a wnes (oedd ddim yn cynnwys Elen ap Robert, gyda llaw).

Felly, ar y 10fed o Orffennaf eleni, dyma anfon e-bost at Elen, yn cynnig y canlynol : 
“Oes gennych chi unrhyw blaniau ar gyfer y cynyrchiadau cyntaf, ar lwyfan newydd Pontio, pan fydd o wedi'i gwblhau? Gin i chwip o syniad am gynhyrchiad drama, fu wastad (yn fy meddwl i) yn 'perthyn' i lwyfan Theatr Gwynedd, ac yno dwi wastad wedi'i weld o. Mae o'n syniad sydd â'i wreiddiau yn nyfnder pridd Pontio, ac un y byddwn i wrth fy modd yn ei weld yn tyfu yno.”
Es i ymlaen i ychwanegu, “Byddai angen cyllideb cynhyrchiad llwyfan safonol, gyda chast profiadol helaeth (ddim yn siŵr o'r union rif ar y funud, ond yn sicr 6 i 7) er mwyn gwireddu'r syniad, yn ei lawn botensial.  Addasiad fydda hi, a dwi di bod yn gweithio arni ers blynyddoedd, ond yn barod bellach i'w datblygu ymhellach” . Wnes i ddim enwi pa nofel oedd gen i dan sylw, a wnâi ddim ei henwi yma, oherwydd byrdwn yr ymson yma.

Chefais i ddim ateb gan Elen, na chydnabyddiaeth fod yr ebost wedi cyrraedd. Y dadlenu nesaf oedd cyhoeddiad ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol, ar y 6ed o Awst – union fis wedi fy e-bost. Cyhoeddiad ar y cyd rhwng Pontio, a’r Theatr Genedlaethol a Frân Wen o dan y teitl ‘Cynhyrchiad cyntaf Pontio yn cael ei gyhoeddi’. Roedd geiriad y datganiad swyddogol ar wefan y Theatr Genedlaethol, yn anghysurus o gyfarwydd imi : “Fe ellid dadlau i lwyddiant Cwmni Theatr Gwynedd osod rhywbeth o sylfaen i Theatr Genedlaethol Cymru…”, yn ôl dyfyniad Arwel Gruffydd,   “…A gyda bod T. Rowland Hughes, fel minnau, yn un o gyn-fyfyrwyr Prifysgol y Gogledd, rhwng pop peth, bydd y cynhyrchiad hwn o Chwalfa…yn rhyw fath ar ddychwelyd at wreiddiau….bydd hwn yn gynhyrchiad wedi ei wreiddio yn ardal Bangor…”


Roedd y datganiad yn fyr, yn amheus o gynnar, heb sôn am bwy oedd am addasu’r nofel, na’r cyfarwyddwr na’r prif actorion – elfennau holl bwysig i unrhyw gwmni, sydd am werthu apêl eu syniad.

Wedi gofyn am lun, gan Pontio, y noson honno,  i’w gynnwys yn Y Cymro'r wythnos ganlynol, cefais e-bost gan Elen ap Robert am 22:45, gan ychwanegu, 
“Diolch am yr e-bost danfonaist rai wythnosau nol ac ymddiheuriadau am beidio ymateb eto. Mae di bod reit hectic a dwi di bod yn ei chael hi'n  anodd cadw fyny gyda e-byst sydd yn dod i mewn. Diolch am dy fynedd”
Mae’r amseru a’r geiriau yn anghysurus o anffodus.  Petai Elen ac Arwel wedi bod yn trafod y syniad cyn imi anfon yr e-bost, pam ddim cydnabod hynny’n syth, fis ynghynt? A pham yr e-bost y noson honno? Ai’r gydwybod oedd yn pigo?

Tydi fy ngrawnwin ddim yn sur, na fy ngwinllan wedi’i wenwyno. Tegwch ac onestrwydd, ydi fy nghri. Tegwch hefyd i’r degau sydd wedi ‘colli’ eu syniadau yng Nghymru dros y blynyddoedd, oherwydd pŵer y swyddi breision a’r gynnau mawr, sy’n meddwl bod ganddynt yr hawl i ddwyn a chymryd y clod, sy’n hynod o annheg ar eraill.

Fel rhan o fy therapi gwella, cefais wybod am wirionedd oesol y ‘Goeden Bryder’. Mae iddi sawl cangen, ond y ddwy gyntaf i’w dringo, yw’r rhai mwyaf syml. Os oes pryder, dau ddewis sydd; delio efo’r mater neu ei anghofio, a symud mlaen.

Ddwedai ddim mwy, fe’th adawaf y pendroni a’r penderfynu, i chwi.  Diolch.

No comments: