Total Pageviews

Friday 27 March 2009

'England People Very Nice'





Y Cymro – 27/3/09

Parhau i boenydio’r meddwl wna’r chwilen ers wythnos diwethaf. Fe gofiwch imi gwestiynu beth yw diben drama, yn sgil gweld cynhyrchiad Sherman Cymru o ‘Deep Cut’ yma yn Llundain - ai i addysgu neu adlonni?. Yr wythnos hon, drama Richard Bean yn y Theatr Genedlaethol sy’n mynd â hi, a hynny o dan y teitl crafog ‘England People Very Nice’.

O dan gyfarwyddyd Arweinydd Artistig y Theatr, Nicholas Hytner, cafodd y cynhyrchiad yma ymateb cymysg gan y beirniaid. Rhai yn dyfarnu un neu ddwy seren, ac eraill pump. Yr hyn sy’n fwyaf dadleuol am y gwaith ydi’r themâu sy’n cael eu trafod - effaith y mewnlifiad ar Brydain, o’r ail-ganrif ar bymtheg hyd heddiw. Thema eironig o dŷ’r Cymry, a sawl cenedl arall! Canolbwyntir yn benodol ar bedwar cyfnod gan gychwyn gyda’r Huguenots Ffrengig, wedyn y Gwyddelod, yr Iddewon ac yna’r Bangladeshis.

Drwy ddefnyddio arddull Monty Python o blethu drama gydag elfen gref o animeiddio, mae’r ensemble cryf o actorion yn plymio drwy hanes Bethnal Green, y gornel ddwyreiniol unigryw o’r ddinas liwgar hon. Drama o fewn drama sydd yma mewn gwirionedd, gan fod y cyfan yn cychwyn ac yn diweddu o fewn Canolfan i’r Mewnfudwyr, wrth i’r criw cymysg baratoi i lwyfannu’r ddrama. Er bod gan y rhan fwyaf ohonynt bethau llawer mwy pwysig i boeni amdano, gan gynnwys eu rhyddid, perswâd y swyddogion i barhau â’r ddrama, yw’r sbardun sy’n cychwyn y wers hanes.

Rhaid canmol Set a chynllun effeithiol Mark Thompson, wrth iddo gyflwyno, ar yr olwg gyntaf, mur moel, gydag ambell i ddrws a ffenest. Ond mur, drwy gymorth yr animeiddio penigamp, sy’n cyfleu gwahanol adeiladau drwy bob cyfnod o hanes. Er enghraifft, wrth olrhain hanes y Bangladeshis yn yr Ail Ran, fe dry’r mur moel yn ystafell fyw mewn tŷ teras, gyda’i bapur wal melfed coch trwchus, sy’n cyfleu’n berffaith o ble tarddodd yr holl fwytai Indian rhwng y 1950au a’r 1970au. Dyma un o olygfeydd mwyaf doniol y gwaith, wrth ddisgrifio’n berffaith sut y daeth yr anfawrwol ‘Chicken Tikka Massala’ yn bryd mwyaf poblogaidd y wlad!

Bydd rhai (gan gynnwys rhai beirniaid) yn hynod o feirniadol am y ddrama, am ei bod hi’n gneud sbort am ben y trueiniaid yma ar hyd y canrifoedd. Yn bersonol, imi, roedd y jôc ar y Prydeinwyr, a’u hagwedd naïf, chwerthinllyd tuag at y dieithriaid. Cafodd hynny ei gyfleu’n berffaith, dro ar ôl tro, wrth inni ddychwelyd i’r un dafarn, gyda’r un dafarnwraig gegog, sy’n rhaffu rhegfeydd rhagfarnllyd yn erbyn pob ton o ddieithriaid sy’n meiddio camu i’w chastell o gwrw! Diffyg gallu’r Prydeinwyr i ddeall a cheisio dygymod gyda’r ymwelwyr yw’r neges, er gwaethaf colli eu cartrefi a’u swyddi, yn sgil y twf o fewnfudwyr.

Unwaith eto, gyda’r cynhyrchiad yma, mae’r Theatr Genedlaethol yn ymateb yn heriol i bwnc sy’n cwbl berthnasol a chyfoes. Mae dewrder yr Arweinydd Artistig i fynd i’r afael â’r themâu yma, yn yr hinsawdd wleidyddol bresennol i’w ganmol, a’r angen i addysgu yn amlwg. Ond ydi’r cyfan yn adloniant? Drwy ddefnyddio’r arddull agit prop, Monty Pythonaidd, mae ymdrech mawr ar waith i droi’r cyfan yn gartŵn, yn sicr er mwyn adlonni, ond hawdd fyddai cam-ddallt hynny fel sarhad tuag at y cenhedloedd gwahanol. Chwaeth bersonol fydd yr allwedd i benderfynu os mai llwyddiant neu lanast yw’r hyn sydd ar y llwyfan.

Mae ‘England People Very Nice’ i’w weld yn Theatr Olivier tan y 30ain o Fehefin. Mwy o fanylion drwy ymweld â www.nationaltheatre.org.uk

Friday 20 March 2009

'Deep Cut'






Y Cymro – 20/3/09

Cynhyrchiad Sherman Cymru o ‘ddrama’ Philip Ralph, ‘Deep Cut’ sydd wedi rhoi’r chwilen yn fy mhen yr wythnos hon. Roeddwn i’n falch iawn o fedru derbyn y gwahoddiad i weld y cwmni yn perfformio yma yn y Tricycle yn Llundain, wedi’r llwyddiant yn yr Ŵyl yng Nghaeredin fis Awst diwethaf. Braf iawn hefyd oedd gweld rhai o feirniaid mwya’ craff Llundain yn ein plith megis Michael Billington o’r Guardian a Nicholas de Jongh o’r Evening Standard.

Ond y ‘ddrama’ neu’r cyflwyniad efallai, barodd i’r chwilen nythu yn fy mhen, a honno’n chwilen go fawr, o fynd i gwestiynu’n ‘mhellach. Beth yw diben drama? Ai i addysgu ynteu i adlonni? Cwestiwn Oesol efallai, ac un rhy fawr i fachgen o Ddyffryn Conwy ddechrau mela â hi ar fore braf ym mis Mawrth! Ond cwestiwn teg yn y cyd-destun hwn.

Rhyw brofiad ddigon od, os nad annifyr, oedd gwylio’r cyflwyniad hwn. Petawn i’n onest, roedd mymryn o siom, wrth i’r cymeriad ‘Des James’ (Ciaran McIntyre) ddechrau hel atgofion am ei ferch ‘Cheryl James’ a fu farw yng ngwersyll milwrol Deepcut, Surrey ym mis Tachwedd 1995. Ynghanol ei araith, daeth ‘Doreen James’ (Rhian Morgan) i’r llwyfan gyda ffôn symudol yna dŵr i’w gŵr, ac yntau yn cydnabod y ddwy anrheg, cyn cyflwyno ei wraig i’r gynulleidfa, fel cyd-actor yn eu stori. Buan iawn, cawsom ein cyflwyno i gyfaill Cheryl, y cymeriad lliwgar ‘Jonesy’ (Rhian Blythe) o’r Rhyl, ac acen Ogleddol angerddol Rhian yn ategu hynny i’r dim. I’r pair storïol, cyflwynwyd inni’r newyddiadurwr ‘Brian Cathcart’ (Robert Bowman) oedd hefyd yn portreadu’r cymeriad ‘Lieutenant Colonel Nigel Josling’. ‘Nicholas Blake QC’ (Simon Molloy) a ‘Frank Swann’ (Robert Blythe) oedd hefyd yn dyblu fel yr aelod seneddol ‘Bruce George’. Roedd cyfan fel llys barn, gyda phawb yn cyflwyno’i bwt er mwyn rhoi inni ddarlun cyflawn o’r hyn a ddigwyddodd yn y gwersyll erchyll hwn, gan geisio egluro sut y bu farw Cheryl, er gwaetha’r dyfarniad swyddogol ei bod hi wedi cyflawni hunanladdiad.

Peidiwch â’n ngham-ddallt i. Roedd yr hyn a gyflwynwyd yn ddirdynnol, yn emosiynol ac yn hynod o bwerus - un o’r darnau theatr fwya' pwerus imi’i weld ers tro, Clod i’r cast a’r cwmni am hynny. Ond fe darddodd y siom o fy nisgwyliadau. Wedi clywed cymaint o glod am y cynhyrchiad, roeddwn i’n disgwyl chwip o ddrama deuluol, ac felly roedd yr arddull o gyflwyno’r stori a’r dystiolaeth yn groes i’r hyn ddychmygais i, ac felly’n fwy anodd setlo i’r stori.

Does 'na’m dwywaith fod yr angen am fedru yngan yr hyn sy’n cael ei ddatgan yn y cyflwyniad yma. Mae rhwystredigaeth rhieni Cheryl i’w glywed yn amlwg, ac annhegwch y llywodraeth a’r Sefydliad milwrol i ddatgan y gwirionedd yn sarhad pur ar fywydau’r pedwar ifanc a fu farw yn y gwersyll rhwng 1995 a 2002.

Yn sicr, mae’r gwaith yn addysgu, gan obeithio y bydd o’n llwyddo i agor llygaid y deillion doeth sydd wedi bod yn delio gyda’r achosion cyhyd. Ond beth am yr adlonni? Cryfder y gwaith ydi’r arddull llys-barn slic, sy’n plymio’r drwy’r pentyrrau o bapurau a thystiolaethau'r swyddogion a’r cyfeillion. Roedd portread Rhian Morgan o’r fam drallodus yn hynod o effeithiol ac emosiynnol, a Rhian yn amlwg, unwaith yn rhagor, wedi mynd ymhell o dan groen y cymeriad, gan roi inni bortread cofiadwy am sawl rheswm. Felly hefyd gyda Ciaran McIntyre fel y tad rhwystredig, sy’n cynnal rhan helaeth o’r stori, drwy ei atgofion am gannwyll ei lygad. Clod hefyd i Rhian Blythe, a enillodd Wobr actores orau’r ŵyl ymylol yng Nghaeredin am ei phortread o’r ‘Jonesy’ lliwgar, ac er imi fwynhau ei phortread yn fawr, mae’n rhaid imi fod yn onest a datgan y byddwn i wedi dyfarnu’r Wobr i Rhian Morgan heb os.

Clod felly i’r Cymry unwaith yn rhagor, a hynny gan rhai o feirniaid mwya’ craff Llundain yn ogystal. Clod i’r Sherman am fynd i’r afael â phwnc mor gyfoes a pherthnasol i’n cyfnod ni, a stori oedd, ac sydd angen ei dweud. Gobeithio bod Bwrdd ein hannwyl Theatr Genedlaethol yn gwylio gwaddol y Sherman, sy’n amlwg yn arwain y ffordd ar hyn o bryd.

Mae’r briw dwfn yn parhau i beri poen meddwl i’r teuluoedd, a mwya’n byd meda’r weld yr annhegwch, gorau’n byd. Mae ‘Deep Cut’ i’w weld yn y Tricycle tan Ebrill 4ydd. Mwy o fanylion ar www.tricycle.co.uk

Friday 13 March 2009

'Plague over England'






Y Cymro – 13/3/09

Dwi’n siwr bod cyrraedd y West End yn nod enfawr gan lawer i actor, gyfarwyddwr neu ddramodydd. Mae’r statws o fod yn rhan o gynhyrchiad neu fedru nodi presenoldeb un o theatrau’r West End ar y CV yn atyniad mawr. Gyda degau o theatrau llai yn Llundain yn cynnig y gofod a’r cyfle i lawer gyd-weithio ar gynhyrchiad, a chodi’r geiriau o’r ddalen i’r llwyfan, mae o hefyd yn gyfle i ddarpar gynhyrchydd neu gwmni i weld fersiwn cynnar gyda’r bwriad o’i ddatblygu a’i wahodd i’r West End.

Flwyddyn yn ôl, dwi’n cofio canmol cynhyrchiad arch-adolygydd yr Evening Standard, Nicholas de Jongh, o’i ddrama ‘Plague over England’ yn un o theatrau llai y ddinas, y Finborough ger Earls Court. Cefais fy ngwefreiddio gan y ddrama a’r cynhyrchiad, yn enwedig felly gan befformiad y prif actor Jasper Britton a gwaith cynllunydd preswyl y Finborough, Alex Marker.

Fel y rhagdybiais bryd hynny, mae’r cynhyrchiad bellach wedi cyrraedd Theatr y Duchess, ac wedi nythu yng nghartref y ddrama gerdd ‘Buddy’ sydd bellach wedi dod i ben. Yn ogystal â chartref newydd, mae sawl actor newydd wedi ymuno â’r cwmni, gan gynnwys un o fy hoff actoresau, yr amryddawn Celia Imrie. Sawl rheswm felly dros ddal yr 87, a chyrraedd ardal Aldwych ar y Strand.

Hanes yr actor byd enwog Syr John Gielgud yn cael ei ddal, o dan amgylchiadau amheus, mewn toiled cyhoeddus yn Chelsea ydi hanfod stori’r ddrama ‘Plague Over England’ . Trwy gyfres o olygfeydd sy’n gosod naws y Pumdegau i’r dim ar y dechrau, a’r straen oedd ar y gymuned hoyw i guddio’i rhywioldeb, a thrwy hynny, i geisio pleser corfforol mewn mannau cyhoeddus, mae’r ddrama yn gofnod gwerthfawr o gyfnod lliwgar, ond pryderus i sawl gŵr ifanc.

1953 oedd y flwyddyn, a Syr John (Michael Feast)) yn actor adnabyddus a llwyddiannus iawn ar lwyfannau Llundain. Ym mis Mehefin y flwyddyn honno, cafodd ei urddo yn farchog, ac yna gwta bedwar mis yn ddiweddarach, ar yr 21ain o Hydref, cafodd ei hudo neu ei wahodd gan blismon ifanc golygus ‘Terry Fordham’ (Leon Ockenden) i ‘ddeisyfu act wrywgydiol mewn man cyhoeddus’. Yn dilyn ei arestio, ceisiodd gadw’r cyfan yn dawel, ac allan o sylw’r cyhoedd. Ymddangosodd yn y Llys y bore canlynol, gan dderbyn dirwy o £10. Ond buan aeth y stori ar led, ac fe ymddangosodd y stori yn holl bapurau Llundain.

Drwy gyfres o olygfeydd efo’i gyd-actor a’i gyfaill ar y pryd ‘Y Fonesig Sybil Thorndike’ (Celia Imrie) ynghyd â’i gyfaill a’i gyd-adolygydd hoyw ‘Chiltern Moncrieffe’ (John Warnaby) fe welwn effaith y digwyddiad ar hyder a chymeriad yr actor, ei bryder dros ei ffolineb, a'i ystyriaeth dros ildio ei ddyrchafiad o’i urddo.

Rhywle rhwng y Finborough a’r Duchess, collwyd hud y cynhyrchiad gwreiddiol. Falle bod hynny, yn bennaf, oherwydd absenoldeb Jasper Britton fel ‘Gielgud’ a Nichola McAuliffe fel ‘Thorndike’. Er cystal ymdrech y cynllunydd Alex Marker i geisio cyfleu'r un arddull o set â’r Finborough, gyda’i furiau troi yn cyfleu’r amrywiol leoliadau o theatr i theatr, o’r toiled cyhoeddus a’i wrinal Fictorianaidd i swyddfa’r heddlu, ac yna’r llys - doedd y cyfan ddim yn gweithio cystal ag agosatrwydd y gwreiddiol.

Oherwydd y rhwystredigaethau uchod, dioddefodd y sgript yn ogystal ag er bod sgript De Jongh i gyfoethogi yn gorlifo â dywediadau ffraeth Gielgud a’i hiwmor sych, roedd adlais o felodrama a ffars yn gwanhau’r cyfan.

Does 'na’m dwywaith y bydd y gymuned hoyw hŷn yn ymfalchïo fod y pynciau yma yn cael eu trin a’u trafod mor agored, a hynny ar lwyfan y West End. Ond o ran y ddrama, ac o bosib gyrfa ambell i actor, gwell fyddai anghofio’r hyn a welais i. Enghraifft sicr o gynhyrchiad na ddylid fod wedi’i wahodd i’r West End, heb yr elfennau gwreiddiol a’i gwnaeth yn llwyddiant.

Mwy o wybodaeth am y pla, drwy ymweld â www.kenwright.com

Friday 6 March 2009

'The Taming of the Shrew'



Y Cymro – 6/3/09

Wrth i’r gwanwyn gyrraedd yn swyddogol, ffarwelio wna cwmni’r Royal Shakespeare â’r West End, wedi treulio sawl mis yn Theatr Novello. Wedi mwynhau’r ddau gynhyrchiad blaenorol, dyma fentro’n hyderus i weld cynhyrchiad Conall Morrison o ‘The Taming of the Shrew’, sy’n cloi tymor y cwmni yn y brifddinas.

Unwaith yn rhagor, cafwyd set hynod o chwaethus o waith Francis O’Connor a lwyddodd yn grefftus iawn i blethu gwahanol gyfnodau yn ystod y dair awr o stori, trwy amrywio’r gwisgoedd yn raddol, gan fynd â ni o’r parti ‘stag’ cyfoes ar ddechrau’r ddrama i’r ddrama-gyfnod clasurol, cyn dychwelyd yn ôl i’r ciniawa cyfoes ar y diwedd.

Y meddwyn ‘Christopher Sly’ (Stephen Boxer) yw’r prif gymeriad, sy’n cael ei gamarwain ar gychwyn y ddrama, i gredu ei fod yn fonheddwr, a’i wahodd o wylio cwmni o actorion yn perfformio drama. Buan iawn mae’r Bonheddwr ‘Sly’ yn cael ei gyflwyno i ‘Katherina’ (Michelle Gomez), merch y gŵr cefnog ‘Baptista’ (David Hargreaves). Mae’n amlwg iawn mai ‘Katherina’ yw’r llygoden drwynol sydd angen ei dofi, gyda’i thafod miniog a’i gallu i ddychryn pob dyn yn hytrach na’i ddenu. Gobaith ‘Baptista’ ydi canfod gŵr iddi, a buan iawn mae ‘Sly’ yn ymgymryd â’r dasg o’i dofi.

Trwy amrywio’r cyfnodau o ran gwisg a set, llwyddodd Morrison i greu cynhyrchiad sy’n berthnasol i bob oed. Rhaid cyfaddef bod y ddrama wreiddiol wedi’i threisio yma ac acw, rhywbeth sydd wedi cythruddo rhai beirniaid yma yn Llundain. Yn bersonol, rhaid cyfaddef imi fwynhau’r ‘golygu’ helaeth, gan fod y cyfan yn llifo’n rhwydd, ac yn adlais o operâu sebon ein cyfnod ni mewn mannau.

Roedd cyflwyno’r actorion drwy facio lori enfawr ar y llwyfan, ac agor y drws cefn, gan adael i’r criw adael y lori fel ŵyn i’r lladd-dy, yn effeithiol iawn. Felly hefyd gyda’r diwedd, wrth i’r cyfan gael eu heidio yn ôl i mewn i’r lori, a’u pacio i’r lleoliad nesaf, gan adael y ‘Sly’ truenus yn hanner noeth yng ngolau’r nos.

Heb os, Stephen Boxer, a’i bortread cynnil o’r meddwyn ffwndrus sy’n cynnal y cynhyrchiad, yn enwedig felly yn ei ymddiddan gyda’i wraig annifyr, Michelle Gomez, sy’n hynod o gofiadwy yn ogystal.

Bu cryn ddadlau am ganrifoedd ynglŷn â’r elfen ‘misogynistic’ sy’n perthyn i’r ddrama - yr elfennau hynny sy’n sarhau a chasáu’r ferch. Bydd rhai yn dadlau fod cynnwys y ddrama yn ‘dderbyniol’ yn oes wrywaidd Shakespeare, ac eraill yn anghytuno’n chwyrn. Beth bynnag fo’r farn gyffredinol, yn yr oes wleidyddol gywir yma, mae’r stori wedi ysgogi sawl addasiad llwyddiannus i ffilm a theatr gan gynnwys y ddrama gerdd ‘Kiss Me Kate’.

Bydd ‘The Taming of the Shrew’ i’w weld yn y Novello tan Nos Sadwrn, Mawrth 7fed. Mwy o fanylion am waith yr RSC drwy ymweld â www.rsc.org.uk

Newyddion da i’r Cymry, gan fod y sioe gerdd ddadleuol ‘Spring Awakening’ yn camu i’r gofod gwag yn y Novello o Fawrth 21ain tan 31ain o Hydref. Braf gweld bod Iwan Rheon ac Aneurin Barnard yn dal i ennyn clod y beirniaid.
Mynnwch eich tocynnau nawr!