Total Pageviews

Friday 11 June 2010

Plant y Fflam, Dau.Un.Un.Dim ac Yn y Trên






Y Cymro 11/06/10

Do, bum innau yn Eisteddfod yr Urdd, fel y miloedd eraill drwy Gymru’r wythnos diwethaf, a braf iawn oedd cael cyfarch hen ffrindiau yn llygad yr haul. Fy mhennaf orchwyl oedd beirniadu’r Fedal Ddrama, ar y cyd â’r annwyl Mari Rhian Owen, o gwmni Arad Goch. Calonogol iawn oedd derbyn 12 sgript yn y gystadleuaeth, a’r weledigaeth drwyddi draw yn dda iawn. Y man gwan oedd y diffyg cynllun, neu’r arfau cywir i barhau â’r weledigaeth, ac i greu cyfanwaith twt. Llongyfarchiadau mawr i Manon Wyn Williams o Sir Fôn am ennill y gystadleuaeth am yr ail dro. Gobeithio’n wir y bydd hi’n cystadlu’r flwyddyn nesaf, fel ei bod hi’n cael ymuno â Luned Emyr a mi yng nghlwb unigryw’r 3 Medal! Fel ddudodd Ifor ap Glyn wrtha’i rhywdro, “…i mi, mae hyn yn sili, gan mai dim ond UN gwddw sgen ti!”

Wrth sôn am y Fedal, rhaid imi hefyd longyfarch fy nghyd-Dwittwyr @gutodafydd am ddod yn ail, ac i @CynanLlwyd am gystadlu, ynghyd â’r darlledwr Glyn Wise! Gyda mentora gofalus a chefnogaeth greadigol, rwy’n ffyddiog iawn y daw llwyddiant pellach iddynt oll.

Tra yn yr Eisteddfod, bum yn ddigon ffodus i fedru gweld y sioe ieuenctid, ‘Plant y Fflam’ oedd yn chwa o awyr iach yn Theatr Felinfach. Dyma gast o thua cant o bobol ifanc ddawnus Ceredigion a’r Cylch, o dan gyfarwyddyd medrus Jeremy Turner. Yng ngwir draddodiad y theatr gerddorol, yr hyn a wnaeth Mari, a thîm Arad Goch oedd cyfuno caneuon y grŵp Edward H Dafis, a chreu stori ddiddorol fel cragen o’u cwmpas. Digon tebyg i’r hyn a welir yn ‘Mamma Mia!’, ‘We Will Rock You’ a ‘Jersey Boys’. Braf yw medru cyhoeddi fy mod i fymryn yn rhy ifanc i gofio Edward H yn ei fri, ac felly doedd rhai o’r caneuon ddim mor gyfarwydd imi, ac o bosib gweddill aelodau o’r gynulleidfa.

Cefais flas arbennig ar ambell i olygfa fel ‘Merch y Gwlith’ a ‘Chastell y Blaidd’ a gwirioneddol fwynhau diweddglo gyda’r bythganiadwy ‘Tir Glas’ a ‘Dewch at eich gilydd’. Roedd perfformiadau’r ensemble cyfan i’w ganmol yn fawr, a mawr obeithiaf y bydd sawl un yn parhau â’u gyrfa ar lwyfan. Da iawn yn wir.

Cyn gyrru’n ôl am adref, penderfynu galw yng Ngholeg Llanbed er mwyn gweld cynhyrchiad diweddara’r Theatr Genedlaethol. Dwy ddrama fer, ‘na lwyfannwyd o’r blaen’ oedd yr arlwy, a gwaddol amlwg Cefin Roberts cyn ymadael. Roeddwn i’n synnu o weld bod y Bwrdd wedi penderfynu parhau i lwyfannu gweddill rhaglen Cefin, gan wahodd cyfarwyddwyr gwadd i ymgymryd â’r gwaith. Betsan Llwyd oedd yn gyfrifol am y ddwy ddrama, ac a bod yn deg arni, gorchwyl anodd iawn oedd hynny.

Dwi’n siŵr y byddai’r cwta ugain ohonom oedd yn bresennol ar y nos Iau yn cytuno mai siom oedd y ddrama gyntaf o waith Manon Wyn o Gaernarfon. ‘Dau. Un. Un. Dim’ oedd ei theitl, wedi’i osod yn yr un flwyddyn , ac yn adrodd hanes y dihiryn ‘Bran’ (Rhodri Meilir) ac ‘Awen’ (Lowri Gwynne). ‘Er mwyn i’n hil barhau, rhaid glanhau’ oedd prif neges y ddrama, gyda llawer o’r digwydd, wedi digwydd, yn y ffilm ar gychwyn y ddrama. Gwendid y cyfan oedd bod y ddau gymeriad, y pur a’r amhur, wedi’u caethiwo oddi mewn i ystafell dywyll, wrth ddadlau dros eu gorffennol a’r dyfodol. Doedd yna ddim yn digwydd, a’r ffraeo parhaus a’r trafod themâu dyrys yn ddiflas ac undonog.

Cafwyd llawer mwy o lwyddiant gyda’r ddrama fer, fer (20 munud o hyd) ‘Yn y Trên’ gan Saunders Lewis; ‘drama’ na chafodd ei lwyfannu o’r blaen, a hynny am reswm amlwg iawn! Roedd y ddeialog rhwng y ‘Teithiwr’ (Rhodri Meilir) a’r ‘Gard’ (Lowri Gwynne) yn cynnal llawer gwell na’r ddrama gyntaf, ac eto, roedd y cyfan yn llawer rhy fyr i gael unrhyw werth o gwbl.

Does yna ddim pwrpas mynd i drin a thrafod y ddwy ddrama’n ‘mhellach; fyddai’r calla’ ar y ddaear yn cydnabod mai camgymeriad oedd mynd â’r ddwy ar daith. Iawn, ar gyfer Stiwdio’r Coleg, Theatr y Maes neu’r Ysgol, ond nid fel arlwy’r Theatr Genedlaethol, mae gennai ofn.

Tim Baker fydd yn cyfarwyddo eu cynhyrchiad nesaf, sef cyfieithiad Sharon Morgan o ‘House of America’ gan Ed Thomas ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol. ‘Gwlad yr Addewid’ yw’r teitl, a gobeithio’n wir y bydd yr addewid a ddaw yn ei sgil, yn werth aros amdano!

No comments: