Total Pageviews

Friday 19 March 2010

'An Enemy of the People'





Y Cymro - 19/03/10

Wedi’r helynt cyhoeddus dros ‘Ghosts’, roedd drama nesaf Ibsen yn ymateb heriol i’r rhagrith teuluol a chymunedol , ac yn ‘An Enemy of the People’ roedd ei fwriad yn glir; beth yw gwerth y gwirionedd? Ydi hi’n well cadw’n dawel er mwyn achub enw da, ynteu ddatguddio’r gwirionedd, er gwaetha’r canlyniadau?

Anthony Sherr ydi’r enw mawr y llwyddodd Daniel Evans i’w ddenu i Sheffield i ddathlu ail-agor y Crucible wedi’r pymtheg miliwn o wariant i’w wella. Er na fues i erioed yn y Crucible o’r blaen (er mod i wedi gweld y theatr ganwaith ar raglenni snwcer y BBC!) roedd hi’n anodd gweld ple bu’r gwario, a bod yn onest. Rhaid derbyn gair y gwybodusion lleol fod symud y bar a’r dderbynfa wedi bod yn werth y cyfan, heb son am y carped crand dan draed!

‘Dr Stockmann’ yw prif gymeriad cynhyrchiad godidog Daniel, sy’n cael ei bortreadu’n gynnil ac eto’n gynnes gan allu meistrolgar Sherr. Roedd ei osgo a’i edrychiad blewog, llond ei groen yn gweddu’n syth i’r gŵr sydd â’r dewis anodd yn y ddrama; a ddylai ef gyhoeddi’r gwir am y llygru cemegol sy’n digwydd i ddŵr y baddondai cyhoeddus, fydd yn denu’r cyhoedd yn ôl i’r dref, a thrwy hynny achub ei thranc, ac adfer ei chyfoeth? Ydi’n well gwarchod iechyd y bobol, yn hytrach na’u cyfoeth? John Shrapnel yw Maer y dref a brawd y Doctor, ac ef sy’n llywio’r gwrthwynebiad cyhoeddus i’r cyfan, gan gynnwys dyn y Wasg leol, ‘Hovstad’ sy’n cael ei bortreadu’n berffaith gan Trystan Gravelle hynod o flewog, unwaith eto! Fu bron imi alw’r cynhyrchiad yn ‘Blewyn y Bobol’, gan fod cymaint o flewiach rhwng yr holl gymeriadau gwrywaidd. Braf oedd gweld Trystan unwaith eto yn hawlio’i le ar y llwyfan, ac yn serennu gystal â Sherr ei hun, gydol y ddrama.

Allwn i lawn gydymdeimlo gydag angerdd a brwydr Dr Stockmann i gyhoeddi’r gwirionedd, er gwaetha pawb a phopeth, ac fe roddodd hynny gryn fwynhad imi’n bersonol, wrth fedru uniaethu gyda’i aberth, dro ar ôl tro.

O’r eiliad y camais drwy ddrws y theatr, roedd set chwaethus Ben Stones yn taro deuddeg yn syth. Sgwâr o garped trwchus coch oedd canolbwynt y cyfan, ac o’i gwmpas dodrefn moethus o’r cyfnod, wedi’i osod yn ofalus, er mwyn i’r actorion fedru cyfathrebu â’r gynulleidfa ar bob ochor. Yn gysgod dros y cyfan, oedd talcen a tho’r plasty, oedd yn adlais effeithiol o’r ‘Tŷ Dol’ gwreiddiol, a’i ffenestri llwyd a’u cysgodion prysur, yn enwedig tua diwedd yr Act Gyntaf, wrth gyfleu’r swyddfa bapur newydd, eto’n adlais o gysgodion y gorffennol. Wrth inni fwrw drwy’r golygfeydd amrywiol, fe newidiodd y mur yn ôl y galw, gan droi’n swyddfa, yn lolfa, yn neuadd bentref ac yn groglofft. Yma eto, roedd goleuo Tim Mitchell yn llwyddo i osod y naws cywir ymhob tro yn y ddrama, yn enwedig tua’r diwedd wrth i Dr Stockmann orfod penderfynu ei dynged.

Llyfnder a lluniau creadigol cyfarwyddo medrus Daniel Evans yw allwedd llwyddiant y cyfan, ac sydd wedi sicrhau sawl adolygiad pum seren, yn y Wasg Genedlaethol. Mi wn fod Daniel yn falch iawn o’r cynhyrchiad, ac fe ddylai fod. Roedd y cyfanwaith yn gofiadwy tu hwnt, y cyfarwyddo a’r actio o’r safon uchaf, a’r neges yn glir a chyfredol.Dim ond gobeithio y daw Daniel yn ôl i gyfarwyddo (ac actio) yng Nghymru, yn y dyfodol agos, gan fod angen ei arweiniad yn sicr arnom.

Mae ‘An Enemy of the People’ i’w weld yn Sheffield tan yr 20fed o Fawrth. Mwy o wybodaeth am raglen Daniel drwy ymweld â www.sheffieldtheatres.co.uk

No comments: