Total Pageviews

Wednesday 16 October 2024

"Theatr Genedlaethol" i Ieuenctid a Phlant Cymru!


Bum ar wibdaith i Ogledd Cymru dros y penwythnos, fy ymweliad cyntaf â'r hen Ogledd ers rhai blynyddoedd. Mynd yno'n bwrpasol, er mwyn gweld cynhyrchiad Frân Wen a Pontio Bangor o'r ddwy ran gyntaf o'u prosiect OLION. A dwi'n falch imi fynd, petai ond i sawru gogoniant theatrig Rhan Un: Arianrhod a lwyfannwyd yng ngofod gwag Pontio. Gwell imi beidio sôn am Ran Dau: Yr Isfyd ar strydoedd Bangor, gan mai methiant fel cynhyrchiad theatr oedd hwnnw i mi, ond rhaid canmol gwaith y cwmni yn y gymuned a'r cyd-weithio a fu gyda'r elusen GISDA 

 

Ond yr hyn dwi am ei drafod, neu rannu efo chi, ydi'r pryderon a'r trafodaethau glywais i tra bod yno. Yn gyntaf, lle mae'r adolygwyr theatr Cymraeg? A lle mae'r gofod inni ddarllen adolygiadau o'r cynyrchiadau a chreu Archif gwerthfawr o waddol theatrig Cymru? Mae gwefan BBC Cymru wedi'i "archifo ers 2014" a rhaid deud-y-drefn wrth y Golwg wythnosol 'ma hefyd!. Mae'r Barn a'r [Y] Cymro misol yn fwy gwleidyddol na chelfyddydol erbyn hyn. Dwi'n cofio cyfnod yn y 1990au a'r 2000au pan roedd cylchgronau Cymraeg yn llawn o adolygiadau o gynyrchiadau theatr. Maen nhw'n brinnach na chynhyrchiad prif lwyfan i OEDOLION gan Theatr Genedlaethol Cymru, ar hyn o bryd! 

 

A dyna'r ail-gŵyn glywes i. Lle mae cynyrchiadau "mawr" ein Theatr Genedlaethol honedig i gynulleidfaoedd hŷn? Sut bod cwmni fel Frân Wen yn gallu llwyfannu cynyrchiadau theatrig uchelgeisiol, ar lwyfan Canolfan y Mileniwm neu Pontio Bangor, tra bod ein 'Theatr Genedlaethol' yn mynd o fonolog i ddialog, mewn pabell neu gaffi ar gaeau Eisteddfodol Cymru? Neu'n llwyfannu cyd-gynyrchiadau (neu fenthyciadau?) o sioeau i blant a phobl ifanc mewn ysgolion neu Ŵyliau ieuenctid [sef union swyddogaeth cwmnïau fel Frân Wen ac Arad Goch sy'n cael eu hariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru i wneud dim ond hynny!]. Mae rhywbeth mawr o'i le yn rhywle. Nid fi sy'n gofyn cofiwch, ond y bobol gwrddais ar fy ymweliad, ond sy'n dewis cadw'n ddistaw mewn cysgodion ofnus. 

 

'Dwi 'di sylwi ar batrwm arall hefyd, sy'n prysur ddod yn norm yng Nghymru, yn enwedig o Egin y Theatr Genedlaethol. Y pwysigrwydd amlwg ar dderbyn enwebiadau am wobrau Cenedlaethol, tu allan i Gymru. Mae'n rhaid imi gyfaddef bod yr enwebiad diweddaraf, sy'n cael ei frolio ar eu gwefan, wedi gwneud imi chwerthin. Enwebiad gan "UK Theatre" am "Ragoriaeth Mewn Teithio". Teithio beth?, oedd y benbleth ym Mangor!. Wel, maen nhw'n dyfynnu o'u cais am enwebiad er mwyn rhoi gwybod inni! - "Yn ystod y cyfnod dan sylw (14 Awst 2023 – 28 Awst 2024), bu’r cwmni’n llwyfannu 92 o berfformiadau mewn tua 50 lleoliad gwahanol yng Nghymru, gan gyrraedd mwy na 20,000 o bobl gyda’n rhaglen o berfformiadau a phrosiectau cyfranogi. 

 

Arfer arall dwi wedi sylwi arno yng Nghymru ydi'r tueddiad Academaidd i or-ddadansoddi unrhyw weithgaredd theatrig! Chwilio'n ddyfal am ddamcaniaeth neu theori [o Rwsia fel arfer!] i gyfiawnhau gwaith theatr o Aberystwyth neu Gaerdydd. [Tydi cwmnïau Gogledd Cymru ddim yn dalld petha felly - gneud sioeau i'r werin datws ma nhw!!] Felly dewch inni ddadansoddi'r "flwyddyn" yma - o fis Awst i Awst, yn hanes gweithgaredd "deithiol" Theatr Genedlaethol Cymru: 

  • Swyn [cynhyrchiad Cwmni Krystal S Lowe "i blant hyd at 7 oed" gan un actor] "yn seiliedig ar y llyfr ‘Whimsy’ gan Krystal S. Lowe". 5 perfformiad yn Ffwrnes Llanelli, 3 yn Theatr Felinfach, 3 yng Nghanolfan Celf Memo, Y Bari, 4 yng Nghanolfan S4C Yr Egin yng Nghaerfyrddin, 4 yn Chapter Caerdydd, 3 yn Theatr Glan yr Afon, Casnewydd, 1 yn Theatr Derek Williams, Y Bala, 2 yn Pontio, Bangor ac 2 yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth. 

  • Rhinoseros [cyfieithiad - cynhyrchiad prif lwyfan gydag 8 actor - da chi'n cofio sut beth ydi hynny?!]  5 perfformiad yn y Sherman, 2 yn Pontio, 1 yn Aberystwyth, 1 ym Mhwllheli, 1 yn Hafren, 1 yn Mwldan, 1 yn Galeri ac 1 yn Taliesin, Abertawe. 

  • Yr Hogyn Pren [ail-lwyfaniad o Eisteddfod 2023 o sioe fenthyg gan Small World Theatre i bobol ifanc] 3 dangosiad yn Aberystwyth fel rhan o Ŵyl Theatr Ryngwladol Arad Goch - Agor Drysau i blant a phobol ifanc, a 2 berfformiad mewn ysgolion yn Aberystwyth. 

  • Ie, Ie, Ie [sioe fenthyg i bobol ifanc] "addasiad Cymraeg o 'Yes Yes Yes' " cynhyrchiad Eleanor Bishop a Karin McCracken o Aotearoa, Seland Newydd [sydd "ar werth" drwy asiantaeth prynu theatr Aurora Nova]. 5 dangosiad yn y Sherman, 1 yn Pontio, 1 yn Galeri, 1 yn Theatr Clwyd, 1 yn Y Bala, 1 yn Abertawe, 1 yng Nghaerfyrddin ac 1 y Llanelli. 12 i gyd, yn ogystal â 7 mewn Ysgolion Uwchradd neu Golegau. 

  • Kiki Cymraeg ("perfformiad Sgratsh") [sioe fenthyg arall i bobol ifanc gan Gymuned Dawnsfa Cymru] 1 perfformiad yng Nghaerdydd. 

  • Parti Priodas [ail-lwyfaniad o ddrama Eisteddfod Genedlaethol Pwllheli 2023 gyda 2 actor] 6 perfformiad yng Nghaerdydd, 1 y Llanelli, 1 yng Nghaerfyrddin, 1 ym Merthyr Tudful, 1 yn Felinfach, 1 yng Ngŵyl Gomedi Machynlleth, 1 yn Rhosllanerchrugog, 1 yn Llanrwst, 1 yn Bangor, 1 yn Llangefni, 2 yng Nghaernarfon, 1 yn Y Bala, a 2 ym Mhwllheli. 

  • Ie, Ie, Ie [eto, eto, eto] yn Eisteddfod yr Urdd 2024 - 1 perfformiad. 

  • Ha/Ha [ar y cyd â Theatr Clwyd] yn Eisteddfod Genedlaethol 2024 - 3 perfformiad. 

  • Brên. Calon. Fi [monolog arall] yn Eisteddfod Genedlaethol 2024 - 4 perfformiad. 

 

Dyna ichi'r "92 perfformiad" mewn "tua 50 lleoliad" gafodd ei gyfleu ar bapur, am "yr enwebiad!". Ond, o'u dadansoddi'n gall, dim ond 4 cynhyrchiad i oedolion, a 2 o rheiny yn gawl-eildwyn o'r Eisteddfod a ddaeth i ben, deuddydd cyn y dyddiad cyntaf!. Roedd 53 o'r "92 perfformiad" ar gyfer plant neu bobol ifanc.  Roedd 29 o'r "tua 50" lleoliad mewn ysgolion, neu Ŵyliau i blant neu ieuenctid. Dim ond 39 "perfformiad" ar gyfer y gynulleidfa hŷn, a 7 o'r rheiny mewn pabell ar gae'r Eisteddfod, 20 "perfformiad' o sioe oedd eisoes wedi'i lwyfannu yn Eisteddfod 2023, felly dim on 20 "perfformiad" o waith newydd neu gyfieithiad. O'r 9 cynhyrchiad, roedd 5 ohonynt yn gyd-gynyrchiadau [neu'n fenthyciadau yn fy marn i], o waith cwmnïau eraill. 

 


Dau reswm pam y dewisais deithio o Lundain i Bangor [aros am noson, talu am westy a'r tanwydd] oedd mawredd uchelgeisol Frân Wen o "roi gwedd newydd ar hen chwedl" ac i weld Sharon Morgan oedd yng nghast Rhan Un o'r cynhyrchiad. Peth prin iawn, o be' welai i, ydi cael gweld actor hŷn na 50 oed ar lwyfan y theatr Gymraeg, ers blynyddoedd bellach! Dim ond 3 actor hŷn na 50 oed, a hynny mewn 13 perfformiad yn unig o'r cynhyrchiad Rhinoseros, a welsom am lwyfan ein "Theatr Gen", yn ystod y cyfnod dan sylw. Ai dyma'r arlwy ddisgwyliedig a derbyniol gan ein Theatr Genedlaethol?  

 

Does ryfedd bod y gynulleidfa Gymraeg yn flin! Ai mud, byddar a dall ydi Bwrdd y Theatr Genedlaethol a Chyngor y Celfyddydau, 'ta dim ond darllen hanes y cwmni ar bapur, maen nhw?. A gwell imi enwi'r "Ymddiriedolwyr" dethol, rhag ofn ichi anghofio pwy yw'r bobol amlwg a blaenllaw yma, yn y Theatr Gymraeg ar hyn o bryd: Yr Athro Jerry Hunter, Yr Athro Nia Edwards-Behi, Siôn Fôn, Elin Parisa Fouladi, Gwyn Jones, Fiona Phillips, Catherine Rees, Rhys Miles Thomas, Gwyn Williams a Meilir Rhys Williams. Na, finna' chwaith!. Fel un sy'n ymddiddori ym Myd y Theatr, dim ond dau sy'n gyfarwydd imi, mewn cyd-destun theatraidd!. 

 

Os borwch chi ymhellach ar eu gwefan, yn benodol yr eu 'Archif' dewisol o sioeau'r gorffennol, mae'r mwyafrif o'r adolygiadau [uniaith Saesneg] yn deillio o gylchgronau neu wefannau di-Gymraeg. Fel y "Steffan Donnelly's astute, lucid staging... Luxury ensemble casting" o The Guardian [gan Gareth Llŷr Evans, sy'n digwydd bod yn Swyddog Drama i'r Eisteddfod Genedlaethol hefyd - onid gwrthdrawiad buddiannol ydi peth felly, yn enwedig o gofio am y "cydweithio agos" sydd rhwng y ddau Sefydliad?. "A smart Welsh-language revival of Ionesco's classic" gan The Stage, "One of the most exciting theatre companies in the UK" gan BBC Front Row, "Theatr Genedlaethol Cymru has given us hope for a better theatrical future for Wales” gan Buzz Magazine, ac eraill fel The Welsh Agenda, Arts Scene Wales a The Nation, i enwi dim ond rhai. Prin iawn yw'r sylwadau o gyhoeddiadau Cymraeg, sef yr union gynulleidfa mae ein Theatr Genedlaethol i fod i'w/i'n diwallu 

 

Mae hyd yn oed staff canolfannau celf fel Pontio a Galeri yn holi pryd maen nhw am weld / marchnata / gwerthu tocynnau i gynhyrchiad "mawr" gan y Theatr Genedlaethol?. Does 'na ddim sôn am waddol theatrig Cefin Roberts a Judith Roberts [a Daniel Evans] yn eu "harchif", dim ond cofnod [dewisol eto!] o gyfnod Arwel Gruffydd a "Steffan Donnelly wrth y llyw". Er dwi'n ama'n fawr mai gweledigaeth "Cyfarwyddwr Gweithredol a Chyd-Brif Weithredwr" y cwmni - Angharad Jones Leefe sy'n cael ei weld, gan iddi hawlio lle uwch na'r "Cyfarwyddwr  Artistig" ar eu gwefan!.  

 

Tybed os mai dim ond bobol Bangor sy'n gofyn yr un cwestiynau? Roedd un o'r bobol y bûm yn sgwrsio â nhw o Gaerdydd! Ond falle mai dewisol ydi clyw ein Theatr Genedlaethol a'u hymddiriedolwyr academaidd bellach, os nad yw'r farn, y dweud neu'r anrhydedd yn dod gan Sefydliad neu gyhoeddiad di-Gymraeg! 


A beth, medde chi, sydd i ddod yn "eu blwyddyn" newydd?! Wel,  Dawns y Ceirw [sioe i blant 5-9 oed- "cyd-gynhyrchiad" arall gyda Chwmni Dawns Genedlaethol Cymru]. 'Dawns', sylwer! O, a "chyfieithiad" o "fonolog" arall gan actor ifanc [38 oed] - Fy Enw yw Rachel Corrie [a welais yn ei ffurf wreiddiol yng Nghaeredin yn 2006] ac sy'n cael ei lwyfannu tair gwaith yr wythnos hon, ac un o'r  rheiny ddim mewn theatr!

 

A'r "genhadaeth" a'r "weledigaeth" ar eu gwefan? "Theatr deithiol genedlaethol sy'n rhoi Cymru a’i phobl ar y map, yn agored ac yn groesawgar i bawb, gan sicrhau dyfodol disglair i’n hiaith a’n diwylliant. Creu theatr Gymraeg fel man i ddod ynghyd, i gysylltu’r adnabyddus a’r annisgwyl, Cymreictod a’r byd, i drafod yn ddwys ac i godi’r galon." 

 

Gwell fyddai canolbwyntio mwy ar "[g]reu theatr Gymraeg" ar lwyfannau theatrau Cymru na "rhoi Cymru a'i phobl ar y map" o Loegr!. Oes, mae wirioneddol angen inni "drafod yn ddwys ac i godi'r galon". 


 

 

No comments: