Total Pageviews

Friday 25 July 2008

Edrych mlaen...

Y Cymro 25/07/08

Cyfnod prysur imi yn Llundain ar hyn o bryd, ac felly methais y cyfle i weld sioe oedd yn swnio’n hynod o ddiddorol. ‘Blodeuwedd ganol Seilej’ oedd disgrifiad y cwmni o’r sioe, a theatr Troed y Rhiw oedd yn gyfrifol am y ‘Gwaith-ar-Bryfiant’ yma gafodd ei berfformio yng Nghribyn Nos Sadwrn diwethaf. Cychwynnodd y prosiect mewn sesiwn drafod yn Theatr Felin-fach ddechrau mis Mai dan arweiniad Roger Owen a Margaret Ames, gyda’r dawnswyr / actorion Anna ap Robert, Meleri Williams, Rhodri ap Hywel, Hedd ap Hywel a Jaci Evans yn portreadu’r prif gymeriadau. Y gobaith yw i lwyfannu’r gwaith cyfan ym mis Medi gan fynd â’r cynhyrchiad ar daith. Mynnwch eich tocynnau yn fuan ddweda i. Mae’n swnion brosiect cyffrous iawn.

Rhywun arall sydd wedi cael cyfnod hynod o brysur ar hyn o bryd ydi’r actor ifanc Daniel Evans sydd newydd gwblhau cyfnod ar Broadway gyda’r ddrama gerdd ‘Sunday in the Park with George’. Mae Daniel bellach yn ymarfer ar gyfer cynhyrchiad newydd fydd i’w weld yn Neuadd Cadogan, Llundain ddechrau fis Awst.

Dathliad o fywyd a gwaith y cyfansoddwr Cole Porter ydi’r cynhyrchiad sy’n cael ei alw yn ‘A Swell Party’. Yn ymuno yn y parti fydd enwau cyfarwydd eraill o’r West End fel Maria Friedman, Mary Carewe, Graham Bickley a Simon Green, dan gyfarwyddyd David Firman a Jason Carr. Yn ystod y noson, bydd cyfle i glywed caneuon fel ‘I Get a Kick Out of You’, ‘Anything Goes’, ‘From This Moment On’, ‘I've Got You Under My Skin’, ‘Miss Otis Regrets’ a ‘Night and Day’, a llawer, llawer mwy.
Tocynnau ar gael drwy ffonio 020 7730 4500 - perfformiadau Awst 6ed i’r 9fed.

Ac o un actor llwyddiannus o Gymro, at un arall, sydd ar hyn o bryd ar lwyfan y Globe yn Llundain. Sôn ydwi am Trystan Gravelle, sy’n portreadu’r cymeriad ‘Edgar’ mewn cynhyrchiad o’r ‘Y Brenin Llŷr’ o waith William Shakespeare. O dan gyfarwyddyd Dominic Dromgoole a choreograffu Sian Williams, David Calder yw’r brenin, ac mae yntau, a’r cynhyrchiad cyfan wedi derbyn canmoliaeth uchel.
Mae ‘King Lear’ i’w weld yn y Globe tan Awst 17eg.

Ac yna at wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol sy’n edrych yn addawol iawn o ran yr arlwy ddramatig. Y cwmni newydd anedig ‘Torri Gair’ i gychwyn efo’u cynhyrchiad cyntaf sef cyfieithiad y diweddar annwyl Wil Sam o ddrama’r Gwyddel, Connor McPherson ‘Yr Argae’. Arwel Gruffydd, Lee Haven Jones, Sara Lloyd a Branwen Davies sy’n gyfrifol am sefydlu’r cwmni sy’n gobeithio magu ‘portffolio dewr ac eang, gydag enw am safon uchel, arfer da a gwreiddioldeb’, gyda’r nod o ‘fynd â deunydd dramatig i bob cwr o Gymru a thu hwnt’. Diddorol a dewr iawn, yn y cyfnod anwadal yma. Pedwar unigolyn sydd, yn ôl datganiad gan y cwmni, yn ‘rhwystredig’ ac yn gweld yr angen am ‘gwmni theatr raddfa fechan Cymraeg eu hiaith’ yn sgil bod ‘diffyg, yn ein barn ni o arlwy newydd cyffroes a beiddgar yn y theatr yng Nghymru.’ Awgrym efallai, nad ydi’r ddarpariaeth na’r arweiniad digonol yn deillio o’n Theatr Genedlaethol? Mwy dewr o sylwi bod un aelod o’r cwmni hefyd ar Fwrdd y Theatr Genedlaethol honno!

Bydd y ddrama i’w gweld yn Theatr Sherman rhwng Awst 4ydd a’r 9fed. Mae’r Cast yn cynnwys Owen Arwyn, Sara Lloyd, Ian Saynor, Julian Lewis Jones ac Emlyn Gomer. Mwy o wybodaeth ar www.shermancymru.co.uk

Ac yna at yr hir ddisgwyliedig ‘Iesu!’ gan ein Theatr Genedlaethol sy’n amlwg mor gymhleth i’w ddallt, fel bod gofyn i’r awdur a’r cyfarwyddwr deithio o gwmpas y wlad yn egluro’r ddrama i’w darpar gynulleidfa cyn iddi hyd yn oed gyrraedd y theatrau!
Rhwng y ddwy, ac ymweliad Cwmni Rhosys Cochion â’r Chapter, a’r arlwy yn Theatr y Maes, dim ond gobeithio y bydd hi’n wythnos i’w chofio am y rhesymau cywir!.

Friday 18 July 2008

'Marguerite' / 'The Revenger's Tragedy'









Y Cymro 18/07/08

Dwy ddrama a dau gyfnod yr wythnos hon. Cynhyrchiad olaf Jonathan Kent yn ei dymor yn y Theatr Frenhinol yr Haymarket sef y ddrama gerdd newydd ‘Marguerite’ a chynhyrchaid cynhyrfus, dadleuol a diddorol Melly Still yn y Theatr Genedlaethol sef Clasur Thomas Middleton, ‘The Revenger’s Tragedy’.

Rhaid canmol holl gynhyrchiadau Jonathan Kent yn yr Haymarket drwy’r flwyddyn – bob un, ar y cyfan wedi bod yn llwyddianus o’r gomedi ‘The Country Wife’ llynedd i ‘The Sea’ o waith Edward Bond ddechrau’r flwyddyn. A dyma fentro i fyd y ddrama gerdd gyda deunydd newydd sbon o waith Alain Boublil a Claude-michel Schönberg, sef y ddau a roes inni’r Clasur ‘Les Miserables’.

Mae ‘Marguerite’ wedi’i osod ym Mharis, ynghanol yr Ail Ryfel Byd, wrth i’r Ffrancwyr ddod i delerau gyda phresenoldeb yr Almaenwyr. Rhai ohonynt fel ‘Marguerite’ (Ruthie Henshall) a’i chyfeillion cyfoethog ffroenuchel yn mwynhau’r partion a’r gwledda yng nghwmni Uwch Swyddogion y Fyddin fel ‘Otto’ (Alexander Hanson). Ond mwy pryderus a gwyliadwrus oedd y werin, gan gynnwys y cerddor ‘Armand’ (Julian Ovenden) a’i chwaer ‘Annette’ (Annalene Beechey) a’i chariad, yr Iddew, ‘Lucien’ (Simon Thomas). Wrth i’r Rhyfel waethygu, a’r bomiau ddisgyn ym Mharis, mae ‘Marguerite’ yn syrthio mewn cariad gyda’r cerddor ifanc golygus ‘Armand’, sy’n arwain at y diweddglo trasig.

Siomedig ar y cyfan oedd y gerddoriaeth a’r caneuon, er i’r Cyfarwyddwr Cerddorol, y Gerddorfa a’r Cast i gyd wneud eu gwaith yn gampus. Doedd yr hud, na’r alawon caniadwy a chofiadwy a gafwyd yn ‘Les Mis’ ddim ar gyfyl hon, a’r alawon cymhleth a’r discordiau ddim yn hawdd ar y glust. Siomedig hefyd oedd llais y brif actores, sy’n cael ei ddefnyddio i werthu’r sioe. Gwir seren y cynhyrchiad ydi’r cariad ifanc Julian Ovenden sydd â phresenoldeb anhygoel ar y llwyfan, a llais gwefreiddiol.

Oherwydd maint y llwyfan, o fewn gogoniant y Theatr fendigedig hon, doedd y cynhyrchiad ddim i’w weld yn gyffyrddus, gyda’r angen am ehangder a llwyfan llawer lletach yn amlwg. Llwyddodd Set wydr Paul Brown i gyfleu y moethusrwydd a strydoedd niwlog Paris i’r dim, a goleuo Mark Henderson yn gweddu’n addas.

Mae’r ddrama gerdd i’w gweld yn yr Haymarket tan Tachwedd 1af. Mwy o fanylion ar www.trh.co.uk

Mynd yn ôl i’r ail-ganrif ar bymtheg wnes i yn y Theatr Genedlaethol yng nghynhyrchiad Melly Still o ddrama Thomas Middleton, ‘The Revenger’s Tragedy’. Er mai ym 1606 y gwelwyd y ddrama am y tro cyntaf, roedd y cyfan wedi’i osod, fwy neu lai yn y presennol, gyda’r dillad a chynllun set diddorol Ti Green a Melly Still yn gyfoes a gafaelgar.

Trasiedi teuluol fwy neu lai ydi’r ddrama sy’n cychwyn gyda dyhead un gwr ifanc ‘Vindice’ (Rory Kinnear) i ddial am farwolaeth ei gariad. Yn raddol, daw ei frodyr ‘Hippolito’ (Jamie Parker), ei chwaer ‘Castiza’ (Katherine Manners) a’i fam, ‘Gratiana’ (Barbara Flynn) hefyd yn rhan o’r drasiedi. Trasiedi hefyd sy’n digwydd yn Llys y Dug Eidalaidd (Ken Bones) ac un o’i feibion anwar ‘Lussurioso’ (Elliot Cowan).

Portread o drais, dial ac anwarineb ydi’r ddrama, a llwyddodd y cynhyrchiad sy’n bron i dair awr i gyfleu hynny i’r dim. Mae yma waed, mae yma wledda, ymladd, dawns a rhyw, a’r cyfan i gyfeiliant cerddorfa fechan a’r ‘counter tenor’ Jake Arditti, yn ogystal â’r DJ’s gwrthgyferbyniol ‘differentGear’.

A minnau’n eistedd ym mhen ucha’r theatr, roedd gwylio’r cyfan fel edrych ar ffilm, wrth i’r llwyfan tro droi yn gyson i gyflwyno delwedd newydd ar y sgrin. Roedd yma ddrama ymhobman, rhwng y waliau, mewn cilfachau, tu ol i ddrysau ac o fewn yr ystafelloedd moethus. Gweledigaeth gwefreiddiol unwaith eto, a synnwyr dramatig yn ei holl ogoniant.

Mae ‘Revenger’s Tragedy’ yn y Theatr Genedlaethol tan Awst 28ain. Mwy o fanylion ar www.nationaltheatre.org.uk

Friday 11 July 2008

'Jersey Boys'



Y Cymro 11/07/08

‘Oh What a Night’ oedd y gân agoriadol (a hynny yn Ffrangeg o dan ei theitl newydd ‘Ces Soirées-La’), ac am noson yn wir, wrth imi suddo’n gyfforddus i’m sedd yn Theatr y Tywysog Edward ynghanol strydoedd prysur Soho, ar gyfer y ddrama gerdd ‘Jersey Boys’. Suddo yn wir, oherwydd i nodau cynta’ Bas y band blymio i ddyfnderoedd fy esgyrn!

A dyna a gafwyd – gwledd o ganu’r caneuon poblogaidd, a hynny wrth adrodd hanes Frankie Valli a’r grŵp ‘The Four Seasons’. Dilyn hynt a helynt y cyfarfod, y creu, y cyfansoddi, y cecru, y cyngherddau ac yna’r chwalu, a’r cyfan mor slic a llawn hiwmor ag unrhyw gyfres deledu Americanaidd. Mae hynny’n glod i’r tîm fu’n creu’r gwaith sef Marshall Brickman a Rick Elice fu’n gyfrifol am y gyfrol, ac yna Bob Crewe a Bob Gaudio (sef un o aelodau gwreiddiol y grŵp) yng ngofal y geiriau a’r gerddoriaeth.

Fe gyflwynir yr hanes drwy’r cymeriad ‘Tommy DeVito’ (Glenn Carter) y dyn drwg os liciwch chi, a’r un fu’n bennaf gyfrifol, oherwydd ei flerwch gyda’r arian, am chwalu’r grŵp; ei gyfaill – a’i gyd-droseddwr ydi ‘Nick Massi’ (Philip Bulcock) sy’n cael ei sgubo ymlaen efo’r cyfan, yn mwynhau bob eiliad, nes i wirioneddau diwedd y daith ei ddeffro, a newid ei feddwl. Y darganfyddiad mawr wedyn yn llais unigryw ‘Frankie Valli’ (Ryan Molloy) sy’n newid hanes y grŵp, ac yn sicrhau eu llwyddiant, a’r cyfansoddwr a’i ddawn gerddorol i gyflwyno Clasur ar ôl Clasur - ‘Bob Gaudio’ (Stephen Ashfield)

Does 'na’m dwywaith mai mynd yno i glywed y caneuon poblogaidd wnaeth y rhan fwyaf o’r gynulleidfa, a’u pennau a’u traed yn dawnsio wrth glywed y ffefrynnau fel ‘Big Girls Don’t Cry’, ‘Walk Like a Man’, ‘Oh What a Night’, ‘My Eyes Adored You’, ‘Can’t Take My Eyes Off You’ a ‘Bye Bye Baby’ - i enwi ond rhai. All neb wadu nad Clasuron yn wir ydi’r cyfan, ac fe gefais i fy synnu, rhaid bod yn onest, ar y cyfoeth o alawon adnabyddus a ddaeth o ddoniau cerddorol y grŵp. Ond fel yn hanes y goreuon, law yn llaw â’r llwyddiant, mae yma hefyd drasiedi, priodasau’n chwalu, gamblo, mercheta, diota, ymladd, carchar a marwolaeth. Y cyfan yn ychwanegu’r sbeis angenrheidiol mewn sioe o’i math, ac yn dwyn emosiynau’r gynulleidfa, yn enwedig felly yn yr Ail Act, am denodd i’w stori’n llwyr.

Roedd y llwyfannu eto’n slic, yn syml ac yn daclus, gyda’r golygfeydd yn cael eu creu yn sydyn, ac yn ddi-stŵr o hynny o fewn ffrâm o haearn oedd yn cyfleu pont neu goridor i’r dim, a’i risiau ar yr ochor yn rhoi amrywiol lefelau i’r perfformiad. Defnyddiwyd sgriniau fideo hefyd oedd eto’n llwyddiannus, ac yn dal naws y cyfnod efo’r cartwnau lliwgar ac yna’r archif du a gwyn o wynebau’r gynulleidfa oedd wedi mopio efo’r grŵp.

Mewn dwy awr a hanner, aetho ni o’r pumdegau hyd at y flwyddyn 2000, ac roedd clywed beth oedd hynt a helynt bob aelod erbyn hyn yn ddiweddglo effeithiol ac emosiynol iawn.

Gyda chymaint o sioeau cerdd yn y West End ar hyn o bryd, does ryfedd fod papurau Llundain wedi cyhoeddi'r wythnos hon, fod y cyfan wedi ennill dros £13 miliwn y llynedd, gan dorri pob record. Mae’n anodd i’r cynhyrchwyr i ddewis sioeau fydd yn denu cynulleidfa wahanol bob tro, ac fel ‘The Buddy Holly Story’ neu ‘We Will Rock You’, ffans y ‘Four Seasons’ fydd yn heidio i weld y sioe hon.
Braf hefyd oedd gweld enwau Cymraeg yn y gerddorfa, gan gynnwys Huw Geraint Griffith o Gricieth sy’n cyfeilio o bryd i’w gilydd ar yr allweddellau.

Mwy am y sioe ar www.jerseyboyslondon.com

Friday 4 July 2008

'Blackwatch' / 'Lord of the Rings'









Y Cymro 4/7/08

Dau gynhyrchiad yr wythnos hon sy’n brawf pendant bod synnwyr theatrig yn fyw ac yn iach. Dwy sioe yr hoffwn i i bawb eu gweld er mwyn profi grym theatr ar ei orau; y grym hwnnw a’m denodd i flynyddoedd yn ôl i garu’r theatr, ac sy’n parhau i’m swyno, o bryd i’w gilydd, y dyddiau hyn.

Ail ymweld, ddechrau’r wythnos, â’r ‘digwyddiad theatrig’ - y ddrama gerdd ‘Lord of the Rings’ yn Theatr Frenhinol Drury Lane. Mynd yno’n bwrpasol i ail-fyw'r holl elfennau theatrig, cyn i’r sioe gau ar ‘Orffennaf 19eg, wedi 492 o berfformiadau i dros 700,000 o gynulleidfa. A do, mi ges i’n swyno unwaith eto gyda mawredd y cynhyrchiad deuddeg miliwn o bunnau yma. Llwyddwyd i greu byd hudolus ar y llwyfan yn cyfleu i’r dim y tair nofel o waith J R R Tolkein o’r goedwig symudol siaradus, i’r dyfroedd a’r nofio, y teithio a’r brwydo a’r hedfan a’r plymio. Roedd hi’n fraint cael bod yno eto i weld ac i gofio beth sy’n bosib ei greu ar lwyfan trwy ddychymyg, dawn a thalent pur. Mae sôn y bydd y cynhyrchiad yn ail-agor yn Yr Almaen y flwyddyn nesaf.

Yn wahanol iawn i gynnyrch ein cwmni Cenedlaethol ni yma’n Nghymru, dwi wedi cael gwefr o weld bob cynhyrchiad hyd yma o waith Theatr Genedlaethol yr Alban, sydd bellach yn ail flwyddyn eu bodolaeth. Wedi misoedd lawer, ac wedi eu hymweliad cyntaf â Chymru yn Theatr Brycheiniog ym mis Mai, cefais y cyfle i weld ‘Blackwatch’ sef hanes byddin unigryw'r Alban gafodd eu hanfon i Irac yn 2004.

Clod unwaith eto i Gyfarwyddwr Artistig y Cwmni, Vicky Featherstone am ei gweledigaeth a’r cynllunio sy’n digwydd flynyddoedd cyn y cynhyrchiad. Yn 2004, fe ofynnodd hi i awdur y ddrama, Gregory Burke i ddilyn hanes catrawd y ‘Blackwatch’ oedd ar fin cael eu huno â gweddill y Fyddin yn yr Alban. Mae’r cwmni yn gwahodd tua deg awdur y flwyddyn i gadw llygad ar brosiectau tebyg, gyda’r gobaith y try’r digwyddiad neu gynllun yn gynhyrchiad ar ddiwedd y cyfnod. Cynhyrchiad sy’n berthnasol i’r Wlad, ac sy’n mynegi rhywbeth am gyflwr y Wlad a’i hanes.

O’r gwaith yma, fe greodd Greg, ynghyd â’r cyfarwyddwr medrus John Tiffany y cynhyrchiad hwn drwy gyfres hir o weithdai gyda’r actorion, a chyfarfodydd gydag aelodau o’r Fyddin, coreograffwyr cydnabyddedig, cerddorion a chyn-filwyr. Canlyniad y cyfan ydi cyflwyniad slic, emosiynol a byw iawn o brofiadau’r milwyr ynghanol Anialwch Irac. Trawsnewidiwyd llwyfan y Barbican yn Llundain i fod yn ofod tebyg i leoliad y Tatŵ Milwrol blynyddol yng Nghaeredin, gyda’r gynulleidfa bob ochor i’r llwyfan ar gynllun traverse, a’r gofod berfformio fel syrcas yn y canol.

Amgylchynwyd hynny gan bedwar tŵr scaffold â sgriniau teledu i gyfeiliant cerddoriaeth wladgarol a goleuo pwrpasol. Mentrodd y 10 actor yn eu tro i’r gofod, i ddweud eu hanes, drwy gyfres o olygfeydd o’r dafarn yn Fife ar bnawn Sul, ble mae’r cyn-filwyr yn siarad gydag awdur y ddrama i faes y Gad yn Irac.
Mawredd y cynhyrchiad oedd cyfarwyddo John Tiffany a choreograffu Steven Hoggett oedd yn galluogi’r actorion i lithro’n rhwydd iawn o un olygfa i’r llall, drwy symudiadau oedd yn ymylu ar fod yn ddawns. Ymddangosodd dau filwr o fol bwrdd pŵl, gan rwygo’r ffelt coch yn ddau a sleifio allan ohono yn eu lifrai milwrol. Eiliadau o theatr fydd yn aros gyda mi am amser hir.

O’r actio ensemble tynn ac emosiynol oedd yn byw pob eiliad o artaith feddyliol a balchder y Gatrawd unigryw yma, roedd hi’n anodd credu ar brydiau mai actorion ac nid milwyr go iawn oedd yma. Yn ôl awdur y ddrama, roedd Uwch Sarsiant oedd yn gyfrifol am hyfforddi’r actorion mor falch o’u gwaith, fe fynnodd bod y Cast yn gorymdeithio yn y stryd, er mwyn i bawb eu gweld. Doedd na ddim byd ffals, ffug nac amatur am y cynhyrchiad, a balchder Cwmni Cenedlaethol Yr Alban yn amlwg i barchu’r ddrama, eu hanes a’u traddodiad.

Mae cefndir y cynhyrchiad yma yn fy atgoffa o ddyddiau cynnar Theatr Bara Caws yng Nghymru, pan oedd yr un balchder, angerdd a’r dyhead i greu theatr ‘go iawn’ oedd yn deud rhywbeth wrthym ac amdanom yn fyw ac yn iach, a hynny gyda bron ddim cyllideb. Beth sydd wedi digwydd i’r angerdd hwnnw bellach? Ble mae’r actorion ifanc y dyddiau yma sy’n caru’r theatr ac eisiau creu?

Dwi’n wir yn gobeithio bod y cwmni wedi cael cynulleidfa deilwng ym Mhowys ym mis Mai, ac i’r rhai sydd eto heb weld y cynhyrchiad, mae ‘Blackwatch’ yn y Barbican tan Gorffennaf 26ain, ac yna yn Efrog Newydd ym mis Hydref a Thachwedd. Mwy o fanylion, lluniau a chlipiau fidio ar www.nationaltheatrescotland.com

Tuesday 1 July 2008

Adolygiad ar gyfer Taliesin : Y Theatr Genedlaethol yng Nghymru


Y Theatr Genedlaethol yng Nghymru
Gwasg Prifysgol Cymru : golygwyd gan Hazel Walford Davies

Tawn i’n gwybod wrth dderbyn y gwahoddiad i adolygu’r gyfrol hon, mai ffrwyth comisiwn a nawdd gan aelodau Bwrdd Theatr Genedlaethol Cymru yw’r gwaith, yna go brin faswn i wedi cytuno. Fe ŵyr caredigion y Theatr yng Nghymru am fy anfodlondeb efo’r cwmni presennol, yn ogystal â’m gonestrwydd pur bod yr Arweinydd Artistig anghywir wrth y llyw. Gresyn na fyddai sawl un arall yn magu digon o hyder i gytuno’n gyhoeddus â mi, ac i arbed mwy o saethau gwenwynig am ‘ddadl bersonol’ rhag taro’n nghefn. Ond wedi darllen y gyfrol, rwy’n credu bod y cynnwys yn adrodd cyfrolau, ac yn cadarnhau fy nadleuon dros y blynyddoedd diwethaf.

Does 'na’m dwywaith fod yr angen am y gyfrol hon yn amlwg. Yng ngeiriau’r Athro Hywel Teifi Edwards ar gychwyn y gyfrol, ‘Rhagoriaeth y gyfrol hon yw ei bod hi, mewn pum pennod, yn olrhain ffawd cysyniad y theatr genedlaethol o ddyfodiad Howard de Walden i Gastell y Waun yn 1911, hyd ymdrechion seithug Emily Davies rhwng 1982 ac 1984. Cwestiwn arall ydi pam mai Bwrdd y Theatr Genedlaethol sydd wedi’i chomisiynu yn hytrach na rhannu’r arian i gomisiynu dramâu newydd gan ddramodwyr profiadol neu ifanc? Ydi clodfori’r hanes yn bwysicach na’i pharhad? Ers ei chyhoeddi yn 2007, tybed a oes gwersi wedi’u dysgu o’i chynnwys?

Yr hyn a’m swynodd i am y gyfrol oedd yr unigolion sydd dros y blynyddoedd wedi brwydro i weld sefydlu ‘theatr genedlaethol’, a hynny drwy eu hangerdd a’u cariad mawr at y theatr. Unigolion tebyg i’r Emily Davies a’i gwaith unigryw gyda Chwmni Theatr Cymru rhwng 1982 a 1984, yn gwthio’r ffiniau yn barhaol drwy gyflogi cyfarwyddwyr oedd â gweledigaeth wahanol a mentrus fel Ceri Sherlock. Lisa Lewis yw awdur y bennod honno, a diolch iddi am roi'r darlun cyflawn, drwy ddyfynnu’n helaeth o Wasg y cyfnod, a’r llu o adolygiadau o’r Daily Post i Llanw Llŷn.

Mentergarwch a gweledigaeth Wilbert Lloyd Roberts wedyn, ym mhennod Lyn T Jones am hanes y dadlau dros theatr sefydlog a theatr symudol, a hynt a helynt y cwmni theatr rhwng 1964 a 1982. Cynlluniau uchelgeisiol, a chyfnod roddodd inni rai o actorion mwya’ profiadol Cymru’r dyddiau yma, theatrau newydd a dramâu gwreiddiol sydd bellach yn rai o Glasuron y Gymraeg. Y cyfan, mwy neu lai, yn ffrwyth hyfforddiant a gweledigaeth y cyfarwyddwr.

Y ddwy bennod gyntaf yw’r rhai mwyaf gwerthfawr heb os, yn olrhain cyfraniad amhrisiadwy Yr Arglwydd Howard de Walden - ‘...y Sais uchelfri a ymroes i argyhoeddi’r Cymry nad pwnc i wag siarad amdano oedd theatr genedlaethol’ yn ôl Hywel Teifi, ‘...eithir delfryd y gellid ei sylweddoli trwy ddawn a nerth ewyllys.’ Dyma ŵr oedd â phot o arian, ac yn fodlon gwario er mwyn codi statws y ddrama Gymraeg. Y pot o arian ar ddiwedd yr enfys, y bu cymaint o gwmnïau yng Nghymru yn dyheu amdano byth ers hynny. Y pot o arian sydd, yn fy nhyb i, yn cael ei wastraffu yn y ffordd anghywir, ar hyn o bryd, ar waethaf parhad a dyfodol y theatr yng Nghymru.

Mae’n drueni mawr na chynhwysid pennod ychwanegol yn olrhain hanes y diweddar athrylith Graham Laker a’i gyfraniad eithriadol gyda Chwmni Theatr Gwynedd tuag at greu'r peth agosaf weles i erioed at Theatr Genedlaethol. Roedd ei ymdriniaeth o’r set i’r goleuo i’r actio wastad o safon uchel, ac fe lwyddodd i lwyfannu’r Clasuron, addasiadau, a’r cyfoes drwy ei weledigaeth unigryw ei hun.

Does ryfedd, wedi darllen y gyfrol, bod yr ymgais i sefydlu theatr genedlaethol i Gymru wedi bod yn lwybr hir a llafurus, a bod sawl calon a chyfrif banc wedi’i chwalu yn y broses. Dwi’n deall rŵan, pam bod cynifer o garedigion y theatr yng Nghymru mor warchodol o’r cwmni presennol, a neb yn fwy na fi, yn falch o weld sefydlu’r cwmni hwnnw. Ond, â’r cwmni bellach yn ei phumed flwyddyn, mae angen am newid yn yr arweiniad theatrig. Mae angen inni symud ymlaen, a phenodi cyfarwyddwr llawer iawn mwy profiadol a mentrus. O ddarllen y gyfrol, synhwyrwch yr angerdd â’r cariad tuag at weld sefydlu theatr gyffrous yng Nghymru, ac nid cwmni sy’n ymdrechu i fod yn ‘gyfoes’ trwy lwyfannu’r Clasuron prin y Gymraeg, gydag actorion gwan a setiau drud.

Croesawu dyfodiad y Theatr Genedlaethol ‘yn dynn ar sodlau’r Refferendwm ta drawmatig yn 1997 a roes i ni’r Cynulliad ym mae Caerdydd’ wna Hywel Teifi ar gychwyn y gyfrol, wrth obeithio y bydd codi cartref parhaol i’r cwmni presennol yng Nghaerfyrddin yn rhoi inni ‘...adeilad rhiniol y bydd ynddo lwyfan ar gyfer ateb anghenion a bodloni gofynion dychymyg a dirnadaeth y bobol.’

Ond beth yw gwerth ‘adeilad rhiniol’ heb y gallu i lwyfannu, i gyfansoddi, neu i lefaru’r genadwri honno? Mae’r atebion i gyd yn y gyfrol hon; hyfforddiant, gweledigaeth ac angerdd. Y tri pheth sylfaenol sydd ar goll ar hyn o bryd, a’r tri pheth sydd wrth galon yr unigolion wrth wraidd y gyfrol hon.