Total Pageviews

Friday 3 December 2010

'Daniel Boys' a 'The Three Musketeers'




Y Cymro – 3/12/10

Un o’r cwestiynau sy’n cael ei holi’n aml, ydi sawl gwaith yr wythnos fyddai’n ymweld â’r theatr?! Wel, mae’r ateb yn syml. Weithiau unwaith, neu dro arall, fel yr wythnos hon, bob nos! Does rhyfedd felly fod y rhestr hirfaith o gynyrchiadau dwi wedi’u gweld ymhell dros 500 erbyn hyn! Dyna yw un o ogonnianau cael byw yn Llundain wrth gwrs. Ond, mae o hefyd yn gyfle gwych i weld a llawn werthfawrogi cymaint o waith sy’n digwydd tu hwnt i brif lwyfannau’r West End.

Heb os, breuddwyd llawer i actor a chanwr, ydi cael ymddangos ar lwyfan un o sioeau mawr y West End. Mae’n freuddwyd sydd wedi’i wireddu i sawl Cymro erbyn hyn, a ninnau yn falch iawn ohonynt. Newydd ei gyhoeddi’r wythnos hon yw bod Mark Evans o Sir Ddinbych yn ymuno a chast y sioe liwgar Wicked yn y flwyddyn newydd. Llongyfarchiadau calonnog iddo ef. Ond nid llwybr hawdd mohoni o gwbl. Mae cwffio am le yn y cwmnïau hyn yn dipyn o dasg, wrth ennill bywoliaeth i gadw’r blaidd o’r drws. Ers blynyddoedd bellach, mae nifer helaeth o’r actorion a’r cantorion yn ein diddanu’n wythnosol mewn nosweithiau cabaret, er mwyn cadw’n brysur, gyda’r gobaith y bydd na un gwestai yn y gynulleidfa a diddordeb cynnig gwaith iddynt.

I gyngerdd Daniel Boys yr es i’r wythnos hon, ei gyngerdd olaf wedi taith fer dros yr Haf, gyda’r bwriad o lansio ei CD newydd. Falle ichi adnabod yr enw o’r gyfres ‘Joseff’ ar y BBC, gyda Daniel ymysg y deg olaf bryd hynny, cyn i Lee Mead ennill y dydd. Oherwydd sylw’r gyfres, cafodd gynnig rhan yn y ddrama gerdd ‘Avenue Q’, a braf oedd gweld dau o’i gyd actorion o’r sioe honno, sef Julie Atherton a Tom Parsons yn ymuno gydag ef ar lwyfan cabaret Theatr y Leicester Square.

Canodd Daniel nerth ei ben, a llwyddo’n eithriadol o dda i gyfiawnhau pris y tocyn. Ac yntau ddim ond yn ŵr ifanc, dwi’n siŵr y bydd digonedd o gynigion yn dod i’w ran, yn ogystal â Julie a Tom. Un o brif gwynion y noson, gan y diddanwyr, oedd tynged y cantorion hynny sydd wedi dysgu’u crefft a hogi’u harfau cerddorol dros gymaint o flynyddoedd, yng ngwyneb llwyddiant synthetig cyfresi fel yr ‘X Factor’. Cwyn dwi’n siŵr gall y Cymry hefyd gytuno ag o, yn sgil y môr o dalent sydd gennym ni yng Nghymru, ac fel y gwelsom yn Eisteddfod y Ffermwyr Ifanc yn ddiweddar.

Ond nid dim ond y cantorion sy’n ysu am lwyddiant. Fe ganodd Daniel rhai o ganeuon y ddeuawd gerddorol Stiles & Drew sydd wedi bod yn cyd-gyfansoddi dramâu cerdd ers blynyddoedd. Bu ambell i lwyddiant , gan gynnwys y sioe ‘Honk!’ i enwi dim ond un.

Fe fu hi’n frwydr hir iddynt hwythau hefyd, a braf yw gweld bod yr arch gynhyrchydd Cameron Macintosh bellach wedi rhoi hwb iddynt lwyfannu’r ddrama gerdd ‘Betty Blue Eyes’, sef addasiad cerddorol o ddrama Alan Bennett ‘A Private Function’ fydd yn agor yn y Novello ar y 19eg o Fawrth.

A dim ond neithiwr eto, fe deithiais i theatr y Rose yn Kingston i weld a chlywed rhagor o waith George Stiles yn y ddrama gerdd ‘The Three Musketeers’. Er bod y sioe yn edrych yn hyfryd, a’r set foethus o sgaffaldiau pren yn cyfleu Ffrainc yr ail ganrif ar bymtheg yn wych, braidd yn fflat a blêr oedd y cyfarwyddo, a’r choreograffu’n ddiog a diddychymyg. Fe wnaeth y cwmni eu gorau gyda’r deunydd, ond roeddwn i’n edrych mwy ar fy oriawr na’r olygfa ar y llwyfan. ‘Prior to the West End’ yw’r cyhoeddiad talog ar ben y posteri. Go brin, yn fy marn i. Prawf arall o ba mor anodd yw’r llwybr i gyrraedd y West End, i bawb.

Mwy am Daniel Boys drwy ymweld â www.danielboys.com a Stiles & Drew www.stilesanddrewe.co.uk . Os am fentro i Kingston, manylion y sioe yma www.rosetheatrekingston.org

No comments: