Total Pageviews

Friday 25 August 2006

Gwyl Caeredin 2006


Y CYMRO - 25/8/06

Er mwyn gweld pob un sioe yn yr Ŵyl Ymylol yng Nghaeredin, byddai’n rhaid caniatáu 5 mlynedd, 11 mis ac 16 o ddiwrnodau! Gredwch chi fod yna 28,014 perfformiad o 1,867 sioe mewn 261 o leoliadau?! Dros yr wythnosau nesaf, mi gewch chi flas o’r 25 sioe y bues i’n eu gweld dros y 6 diwrnod diwethaf.

Braf iawn oedd cwrdd ag wynebau cyfarwydd o Gymru ar fy mhnawn cyntaf yn y ddinas, a hynny wrth imi wylio’r sioe ‘Gwledd o Gân a Cherddoriaeth Glasurol’ yn Eglwys Greyfriars Kirk. Trefnwyd y cyngerdd yma gan asiantaeth Cantabile o Fae Colwyn, ac yn eu mysg yr amryddawn Annette Bryn Parri, y tenor Huw Llywelyn, y Soprano Mari Wyn Williams, ynghyd â Dylan Cernyw ar y delyn. Os fuo na erioed sioe i ddangos y dalent cerddorol sy’ ma yng Nghymru, dyma hi. Cynulleidfa deilwng a gwerthfawrogol i bob perfformiad. Fyddai mam yn arfer dweud, bob tro y clywai Annette yn perfformio - boed yn cyfeilio neu fel unawdydd, bod y gallu ganddi i wneud i’r offeryn ‘ganu’ mewn modd na all sawl un arall. Roedd clywed llais y piano yn canu’r trefniant o alawon gwerin o Gymru yn wefreiddiol. Mae’n amser inni werthfawrogi talent Annette fel perfformiwr, ac nid yn unig fel cyfeilydd. Gwych iawn. Mae’r un peth yn wir am Dylan a’i delyn. Safon uchel iawn a braint oedd cael bod ymysg y dyrfa niferus oedd yno.

Wyddoch chi fod hi’n costio ymhell dros £1000 i ddod â sioe i’r Ŵyl yng Nghaeredin - arian mawr i unrhyw gerddor neu actor, heb sôn am gostau teithio ac aros. O siarad efo’r criw cerddorol wedyn, synnais o glywed bod Cyngor y Celfyddydau a chwmni recordiau o Gymru wedi gwrthod rhoi nawdd iddynt. Diolch byth am haelioni cwmni Salvi o Ffrainc, a Phianos Cymro o Port. Cywilydd ar y gweddill. Yr un oedd y gŵyn gan ddau actor ifanc o Gymru - Dafydd James ac Eirlys Bellin wrth iddynt ymdrechu i godi’r arian gan eu teuluoedd a’u cyfeillion er mwyn llwyfannu’r sioe gerdd ‘Slap’ mewn cwt yn y Pleasance. Cyn fyfyrwyr o’r Coleg yng Nghaeredin oedd y cwmni, gyda Maria Hodson yn ymuno â nhw i greu’r sioe. Hanes yn ymdebygu i stori Sinderela a gafwyd am dri pherson colur yn paratoi i ffilmio fideo pop. Maria ac Eirlys oedd yn gyfrifol am y geiriau, a Dafydd am y gerddoriaeth. Roedd eu hegni a’u brwdfrydedd yn chwa o awyr iach, a llwyddodd y tri i greu sioe liwgar, gyffrous a chofiadwy. Uchafbwynt y sioe i mi oedd clywed y cymeriad Sinderelaidd ‘Betty’ (Maria Hodson) yn canu’r gân ‘Betty in the eye of the beholder’ - crafog a gwych iawn!

Mae’n gywilydd nad oes cronfa ariannol arbennig ar gael i actorion a cherddorion ifanc i gael creu a chyfansoddi sioeau ar gyfer y llwyfan rhyngwladol hwn. Dylai bod cyfle iddynt dreulio cyfnod yn gweithio a chreu’r sioeau ac wythnos o berfformiadau yng Nghymru er mwyn cael arbrofi cyn perffeithio’r sioe i agor yng Nghaeredin. Dwi’n galw am i Gyngor y Celfyddydau, y Theatr Genedlaethol, yr Eisteddfod a Chymdeithas Ddrama Cymru i ddwys ystyried hyn at 2007 a thu hwnt. Dyma le mae meithrin ac ail-danio’r ddrama yng Nghymru, nid yn nyfnderoedd syrffedes Beckett, neu mewn gwobrau hurt o hael cystadlaethau di-gystadleuwyr cyfansoddi dramâu! Yr hwn sydd ganddo glustiau, gwrandawed a gweithreder!

Yr wythnos nesa, cynhyrchiad ffantastig Theatr Genedlaethol yr Alban o’r ddrama ‘Realism’ - cwmni sydd ddim ond ychydig fisoedd oed, ac eto’n medru creu dylanwad yn syth; y Cymro a Shakespeare, a dathlu Dionysus efo cyrff noeth yng Ngroeg!

Friday 18 August 2006

Edrych mlaen...



Y CYMRO - 18/8/06

‘Wedi elwch, tawelwch fu’… Wrth inni ffarwelio â’r llwch yn Felindre,
dwi’n pacio’n nghês ac yn teithio i fyny am Gaeredin i ymweld â’r Ŵyl Fawr arall sy’n digwydd yno ym mis Awst. Cyn mynd, blas sydyn o’r hyn allwn ni edrych ymlaen ato dros y misoedd nesaf.

Da oedd clywed wythnos yma bod Rhys Ifans am ddychwelyd i’r West End i ymuno â chwmni’r Donmar Warehouse ar gyfer eu tymor newydd. Bydd Rhys yn ymuno â Kim Cattrall, Penelope Wilton ac Ian McDiarmid i berfformio gwaith gan David Mamet, Patrick Marber a David Eldridge.

I’r rhai ohonoch sydd heb gael y cyfle i weld Daniel Evans yn y sioe wych ‘Sunday in the Park with George’ gan Sondheim, dyma’ch cyfle olaf, gan fod y sioe yn gorffen ar yr 2il o Fedi. Mae’r sioe yn Theatr Wyndham, Llundain. Cofiwch fod sawl sioe newydd ar fin agor yn y West End gan gynnwys yr hir ddisgwyliedig ‘Wicked’ sydd eisioes wedi ennill 15 gwobr nodedig tra ar Broadway gan gynnwys Grammy a 3 Gwobr Tony. Bydd y sioe yn agor yn swyddogol ar y 27ain o Fedi yn Theatr yr Apollo Victoria. Cofiwch hefyd am ‘The Sound of Music’ sy’n agor yn y Palladium ar 3ydd o Dachwedd. Os ewch chi heibio Theatr y Palace, mi welwch chi droed mawr tu allan! Bydd sioe Monty Python ‘Spamalot’ yn agor yno ar y 30ain o Fedi.

Yng Nghymru, bydd Cwmni’r Frân Wen yn teithio efo addasiad John Ogwen o nofel y diweddar Eirug Wyn - ‘Bitsh!’ - nofel a enillodd Wobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Tyddewi 2002. Dyma ‘ddrama afaelgar sy’n cyfuno hiwmor ffraeth gyda thristwch sefyllfa drasig Abi’ yn ôl y cwmni. Mae’n adrodd hanes Abi wrth iddo ail-wynebu ei orffennol pan yn hogyn ifanc chwilfrydig yn y chwedegau, i gyfeiliant synau Elvis, Manfred Mann a’r Rolling Stones. Bydd y cwmni yn agor yn Neuadd Dwyfor Pwllheli ar y 10fed o Hydref ac mae’r cast yn cynnwys Carwyn Jones, Rhian Blythe, Catrin Fychan, Jonathan Nefydd, Maldwyn John, Eilir Jones a Mari Wyn. O sôn am y Steddfod a’r chwedegau, bydd Sharon Morgan hefyd yn mynd â’r ddrama ‘Holl Liwie’r Enfys’ ar daith yn yr Hydref. Bydd y cwmni yn ymweld â Chanolfan y Celfyddydau yn Aberystwyth ar y 13eg o Fedi, cyn teithio i’r Wyddgrug, Pontyberem, Harlech, Bangor a Chrymych.

‘Diweddgan’ gan Samuel Beckett fydd cynhyrchiad nesa’r Theatr Genedlaethol, gydag Owen Arwyn, Arwel Gruffydd, Lisabeth Miles a Trefor Selway o dan gyfarwyddyd Judith Roberts. Bydd y cwmni yn agor yn Theatr Gwynedd, Bangor ar y 5ed o Hydref.

Braf gweld bod gan Clwyd Theatr Cymru hefyd sawl cynhyrchiad yn cael ei baratoi yn yr Wyddgrug. Bydd y cwmni yn cyflwyno ‘The Grapes of Wrath’ gan John Steinbeck sy’n agor ar y 14eg o Fedi, ‘An Inspector Calls’ gan J.B. Priestley sy’n agor ar yr 21ain o Fedi, ‘An Ideal Husband’ gan Oscar Wilde sy’n agor ar y 19eg o Hydref a ‘Memory’ gan Jonathan Lichtenstein sy’n agor ar yr 2il o Dachwedd. ‘Beauty and the Beast’ fydd eu pantomeim Roc a Rôl eleni dros gyfnod y Nadolig.

Digon i edrych ymlaen ato felly!

Friday 11 August 2006

'Halen yn y Gwaed' a 'Wrth Aros Godot'


Y CYMRO - 11/8/06

‘Am wythnos nid yw’n nosi’ - geiriau’r Prifardd Myrddin ap Dafydd wrth groesawu’r Steddfod i Ddyffryn Conwy nôl ym 1989, a geiriau sy’n berthnasol iawn i bob wythnos eisteddfodol yma’n Nghymru. Digon o ddigwydd i’n diddanu ni ddydd a nos. Ymunais innau'r wythnos hon â’r miloedd a ddaeth i droedio’r wyneb lleuad o faes o gwmpas y pafiliwn pinc yng Nghwm Tawe! Rhuthro i lawr bnawn Sadwrn diwethaf er mwyn cael gweld Pasiant y Plant o dan y teitl priodol ‘Halen yn y Gwaed’. Yn wahanol iawn i’r gyfres deledu o’r un enw a welwyd ar S4C rhai blynyddoedd yn ôl, mynd â ni i ganol cyffro'r Chwyldro Diwydiannol yn Ne Cymru yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg wnaeth y sioe. Hanes Morris, bachgen ifanc sy’n breuddwydio am gael bod yn gapten llong yw craidd y stori, ac mae’r freuddwyd yn dod yn wir wedi iddo guddio ar long ei dad Richard Lewis, sy’n paratoi i hwylio am y Cape Horn.

Cafwyd perl o berfformiad gan Samuel Davies fel Morris, ac roedd ei wylio yn actio ac yn canu yn werth y daith ynddo’i hun. Seren i’r dyfodol yn amlwg. Mae’r un peth yn wir am Kate Harwood, oedd yn actio Richard Lewis, tad Morris. Na, tydwi ddim yn drysu - merch oedd yn portreadu’r tad!. Dwi’n siŵr bod yna resymau dilys iawn y tu ôl i’r castio yma - prinder bechgyn efallai, ond doeddwn i ddim yn gyffyrddus â’r peth, yn enwedig gan fod cân i’w ganu rhwng y tad a’r mab - doedd y llais soprano ddim yn gweddu!!!

Theatr Na Nog oedd yn gyfrifol am lwyfannu’r sioe, a hynny o dan gyfarwyddyd Geinor Styles. Cafwyd caneuon canadwy a chofiadwy gan Dyfan Jones a Tudur Dylan, a set effeithiol unwaith yn rhagor gan Sean Crowley. Hoffwn i fod wedi gweld hanner awr yn fwy o sioe, gan fod y cyfan ar ben mewn cwta awr fer, ond roedd yr hyn a welis i yn plesio, ac yn brawf teilwng o dalent ifanc y Cwm.

O’r Pafiliwn i Babell y Theatrau ar gyfer cynhyrchiad diweddara’r Theatr Genedlaethol ‘Wrth Aros Beckett’. Rhyw damaid i aros pryd fel petai yw’r sioe yma, cyn i’r cwmni fynd â’r ddrama ‘Diweddgan’ ar daith yn yr Hydref, i nodi dathlu canmlwyddiant geni’r dramodydd Samuel Beckett. Cyflwyniad a gawsom (nid drama fel y dylem ei gael!) a hynny yn gyfuniad o olygfeydd gan ddramodwyr o Gymru sydd wedi cael eu dylanwadu gan waith Beckett - dramodwyr fel Wil Sam, Gwenlyn Parry ac Aled Jones Williams. Cawsom hefyd ein cyflwyno i ddwy ddrama fer o waith Beckett wedi’u cyfieithu gan yr Athro Gwyn Thomas.

Tydwi ddim yn ffan o Beckett, ‘rioed wedi bod, ac yn sicr ddim o gael fy syrffedu gan y cyflwyniad yma! Roedd ymgais Jonathan Nefydd a Carwyn Jones i gyflwyno golygfeydd o waith Aled a Gwenlyn yn fy atgoffa o weithdai myfyrwyr yn y coleg. Golygfeydd dwi wedi’i gweld ganwaith o’r blaen mewn eisteddfodau a gwyliau dramâu fel ei gilydd. Wedyn, Valmai Jones a Christine Pritchard yn cyflwyno ‘Sŵn Traed’ ac yn cwffio yn erbyn sŵn miwsig pop cyfoes ar y maes. Sylwais fod sawl un yn y gynulleidfa yn cysgu erbyn hynny, a does ryfedd wir rhwng y gwres a’r deunydd syrffedus! Unig ddiléit y cynhyrchiad oedd y ddrama fer fer ‘Dod a Mynd’ gyda Lis Miles yn ymuno â’r ddwy uchod. Cameos arbennig iawn dan gyfarwyddyd Judith Roberts. Fel arall, fasa’n well gen i fod wedi gweld cynhyrchiad cyfa o ‘Bobi a Sami’ gan Wil Sam neu ‘Wal’ gan Aled. Siom arall o’r stabl Genedlaethol, a rhagflas sur o’u cynhyrchiad nesa…

Friday 4 August 2006

Edrych mlaen...

Y Cymro - 4/8/06

Cyfnod o ymarfer a pharatoi bu’r wythnosau diwethaf i sawl cwmni ac actor fel ei gilydd. Rhai’n brysur yn anelu am y Genedlaethol sy’n cychwyn y penwythnos yma, ac eraill yn cychwyn am Gaeredin, a’r Ŵyl ryfeddol sy’n digwydd yno bob mis Awst. Dros yr wythnosau nesaf, byddaf innau’n ceisio ymweld â’r ddwy Ŵyl - felly mis Awst prysur i mi!

Mae yna sawl ‘Gŵyl’ yn digwydd yng Nghaeredin yn ystod misoedd yr Haf, ond yr Ŵyl Ryngwladol a’r Ŵyl Ymylol neu’r ‘Fringe’ yw’r ddwy brif rai sy’n denu’r ymwelwyr a’r perfformwyr o bedwar ban. Eleni, mae’r ddwy Ŵyl yn dathlu eu Pen-blwydd yn 60 oed! Tipyn o ddathlu felly, a thipyn o gyfraniad i’n diwylliant.

Dros y blynyddoedd, mae yna sawl cwmni ac unigolyn o Gymru wedi perfformio yn y Gwyliau yma, ond prin iawn fu’r sylw iddynt. Dyma le mae cyfle i actorion a chyfarwyddwyr ifanc i arbrofi gyda deunydd gwreiddiol, ac yna ceisio dennu sylw (ac arian) gan ddarpar gyflogwyr. Braf gweld y Cymry yn hawlio’i lle eto eleni.

Bydd y pianydd talentog Llŷr Williams yn perfformio yn Neuadd Usher, a’r soprano Sarah Jane Davies yn canu yn opera Richard Strauss - ‘Elektra’, yn yr un Neuadd ar Nos Sul, Awst 13eg. Neal Davies wedyn fel ‘Beckmesser’ yn opera Wagner ‘Die Meistersinger von Nürnberg ar Nos Sadwrn, Medi’r 2il a’r actor Julian Lewis Jones fel ‘Ajax’ yn nrama Shakespeare ‘Troilus a Cressida’ yn y King’s Theatre trwy fis Awst.

O ran yr Ŵyl Ymylol wedyn, bydd yr asiantaeth o gerddorion o Fae Colwyn, ‘Cantabile’ yn perfformio ‘Gwledd o Gân a Cherddoriaeth Glasurol’ yn Greyfriars Kirk rhwng Awst 14eg a’r 18fed. Bydd yr actor ifanc Dafydd Huw James yn perfformio mewn sioe o’r enw ‘Slap!’ yn un o theatrau’r Pleasance drwy’r mis. Mae cwmni Hoipolloi o Gaergrawnt wedi gosod eu drama ‘Floating’ ar Ynys Môn ym 1982! Cawn hanes sut y gwahanwyd yr ynys hynod hon oddi wrth y tir mawr, a hynny yng nghwmni'r artist Hugh Hughes a’i gyfaill Sioned Rowlands! Bydd y cwmni yma hefyd yn perfformio yn y Pleasance.

Un peth sy’n sicr, mae digon o amrywiaeth yn y ddwy Ŵyl o gomedi i gerddoriaeth, o ddawns i ddrama. Os am fwy o wybodaeth, mae’r cyfan ar y Wê : www.edfringe.com neu www.eif.co.uk

Dwi wastad yn falch o glywed am lwyddiant unrhyw actor, a braf iawn ydi medru llongyfarch Owain Arthur sydd newydd Raddio o Goleg y Guildhall yn Llundain. Yn gyn aelod o Ysgol Glanaethwy, bu Owain yn actio rhan Aled yn y gyfres ‘Rownd a Rownd’ am 9 mlynedd. Mae Owain newydd gael ei ddewis i ymuno â chast cynhyrchiad teithiol diweddara’r National Theatre - ‘The History Boys’ gan Alan Bennett. Hanes criw o hogia chweched dosbarth yn trafod rhyw, chwaraeon a phrifysgol ydi thema’r ddrama, ynghyd â’u hathrawon sydd gyn waethed bob tamaid â’r disgyblion! Mae’r ddrama eisioes wedi bod yn llwyddiant mawr yn y West End ac ar Broadway ers mis Ebrill eleni. Bu’r cynhyrchiad hefyd ar daith yn Hong Kong, Seland Newydd ac Awstralia. Bydd y cynhyrchiad yn agor yn Theatr y Birmingham Rep ddiwedd mis Awst, ac yna’n ymweld â Chaerdydd a Llandudno dros fisoedd yr Hydref.