Total Pageviews

Friday 28 June 2013

Blodyn





Y Cymro - 28/06/13

Ac o Sir Fôn i Stiniog, ar gyfer noson olaf o gynhyrchiad promenâd y Theatr Genedlaethol sef ‘Blodyn’. Yn seiliedig ar chwedl Blodeuwedd (sef cynhyrchiad ar leoliad nesaf y cwmni yn Nhomen y Mur ger Trawsfynydd), bu’r awdur / gyfarwyddwr Bethan Marlow yn gweithio gyda dwy gymuned yn y Gogledd gan ddefnyddio dim ond dau actor profiadol sef Ceri Elen a Dyfrig Evans.

Er imi fethu â gweld y ddwy noson yn Nhalsarn, ger Penygroes, yng nghynefin Lleu Llaw Gyffes, a’r chwedl wreiddiol, roedd yr hyn a brofais ynghanol gwybed Blaenau Ffestiniog, yn brofiad cynhyrfus iawn. Cyn i’r sioe gychwyn, a minnau yn symud o gaffi i gaffi yn ceisio coffi a wi-fi, roeddwn i’n ymwybodol iawn fod yna gynnwrf theatrig byw a braf yn y Blaenau. Plant a phobol ifanc o bob oed yn sôn am y sioe, ac yn edrych mlaen i gael bod yn rhan ohoni unwaith eto.

Wedi ein gwadd i Aelwyd yr Urdd, cawsom freichled felen neu wyrdd, a’n cynghori i ddilyn un ai ‘Ger’ neu ‘Blodyn’. Wedi Rap o rybudd iechyd a diogelwch  a chytgan o blant lleol, fe’n plymiwyd i ganol y ddrama. Buan iawn y dechreuais glymu’r chwedl wreiddiol a’i gwisg gyfoes. Yn ôl fy lliw, ‘Ger’ (Dyfrig Evans), y Gronw Pebr golygus a ddaeth o’r goedwig, (neu’r carnifal yn yr achos hwn!) oedd yn rhaid imi ei ddilyn, a’i ymddangosiad cyntaf ar ben lori a’i gorn siarad, yn gychwyn cyffroes. Cyd gerdded ag o wedyn, tua’r Ysbyty (sydd wedi’i chau (gwarthus)) wrth iddo sôn am ei fywyd ym Mhen Gwndwn, a chael ein cyflwyno nid yn unig i’r dref, ond i’w chwaer, y ‘jynci’ ‘Elen’ (Caryl).

Roedd y sioe, a’r gynulleidfa, yn symud yn rhwydd a di-drefn gan y myrdd o stiwardiaid, ac yn Neuadd Ysgol y Moelwyn, er gwaetha rhybudd Rhagnell ‘Rhian’ (Carys), fe gusanodd Blodyn (Ceri Elen) a Ger, mewn môr o olau pinc. Wedi brwydr o ddawns rhwng carfan cyn gariad Blodyn ‘Llion’ (Bailey) a Ger, daeth y cyfan i ben, ar gân Gai Toms, yn llawer rhy fuan.

Cynhyrchiad cymunedol arbrofol, sy’n siŵr o fod wedi gadael ei ôl ar y ddwy gymuned, a blas mwy arna innau.

Cofiwch am ddau gynhyrchiad nesa’r cwmni sef ‘Blodeuwedd’ ar leoliad yn Nhomen y Mur, gyda llefydd cyfyngedig iawn, a’u cyd-gynhyrchiad, neu fenthyciad, ‘Rhwydo’ sydd ym Mangor wythnos yma, a Chaerdydd wythnos nesa. Mwy drwy ymweld â www.theatr.com




'Things I Forgot I Remembered'




Y Cymro

Ein dwy Theatr Genedlaethol sy’n cael sylw'r wythnos hon, a’u presenoldeb yn ferw o weithgaredd dramatig yng Ngogledd Cymru.  

Tra bod National Theatre Wales yn lletya ar lwyfan Llundain, gyda’u cynhyrchiad tanddaearol ‘Praxis MakesPerfect’ i Sir Fôn yr es i, i ddal holl weithgaredd y cymeriad hoffus unigryw Hugh Hughes (Shôn Dale Jones).  Wedi’u gwasgaru ymhob cwr o Wlad y Medra, o Fiwmares i Fae Trearddur, yn Llangefni roedd canolbwynt eu cynhyrchiad, ac felly draw i Stryd yr Eglwys i ymweld â’r Siop Siarad, oedd y galwad cyntaf. ‘Things I Forgot I Remembered’ oedd teitl eu preswyliaeth ar y Fam Ynys, ac ynghanol myrdd o drugareddau amrywiol, bob un wedi’i labelu ag atgof neu gofnod o ddyddiadur yr Hugh ifanc, daeth stôr o straeon digri o ddychymyg di-ben draw, y cymeriad doniol hwn.

Roeddwn i eisoes yn gyfarwydd â’r cymeriad, gan imi gwrdd ag ef nôl yn yr ŵyl ymylol yng Nghaeredin yn 2006. ‘Floating’ oedd teitl y sioe bryd hynny, a hanes bythgofiadwy Sir Fôn yn arnofio oddi wrth y tir mawr, ac yn dianc am begwn y Gogledd. ‘Story of a Rabbit’ rai blynyddoedd yn ddiweddarach, a chael fy nhywys yn gywrain iawn o gynnwrf Caeredin i stad tai cyngor yn Llangefni, a chlywed cymhariaeth ingol o ddwys a doniol , am farw cwningen a marwolaeth ei dad. Dwy sioe am adawodd yn gegrwth, ac yn dyheu am i gynulleidfaoedd Cymru, brofi dawn dychymyg Mr Hughes.

Er imi wir fwynhau pori am stori yn y siop a’r Daith Stori drwy glustffonau o gwmpas y dre, yng nghwmni rhai o gymeriadau doniol ei ddychymyg, siom ar y cyfan oedd y sioe lwyfan yn Theatr Fach Llangefni. Er bod strwythur y sgript a’i ddychymyg ‘ci ar ras’ i’w ganmol yn fawr, roedd gen i gur pen diawchedig wrth i’w straeon a gychwynnodd efo’i nain yn Llangefni fynd â ni, nid yn unig dros ben llestri, ond dros ben y gegin a’r tŷ cyfan!  

Gogoniant sioeau’r gorffennol oedd y myrdd o bropiau, delweddau a’r creu oedd yn digwydd ar y llwyfan o’n blaen, a chyfoeth o wybodaeth am orffennol Sir Fôn. Efallai fod y deunydd y tro hwn wedi’i wasgaru yn rhy denau ar draws yr Ynys, gan adael gwacter syrffedus ar lwyfan y Theatr Fach.

Os am fwy o wybodaeth, neu os am drefnu ymweliad o'r sioeau gwreiddiol, ymwelwch â'r wefan http://www.hughhughes.me

Friday 7 June 2013

'Fallen in Love'





Y Cymro 07/06/13

Dwi di ymweld â sawl lleoliad amrywiol dros y blynyddoedd, ond i Dŵr Llundain, un o lefydd arswydus a hudolus y ddinas, y bum yn ddiweddar. Nid dyma’r tro cyntaf imi ymweld â’r ‘carchar’ moethus hwn, fu’n gartref i sawl aelod o’r teulu brenhinol a gwŷr nodedig o bwys. Un o’i hymwelwyr enwocaf oedd y frenhines Anne Boleyn, y wraig ddichellgar a hunanol, yn ôl yr haneswyr, wrth geisio sicrhau olynydd gwrywaidd i Harri’r Wythfed.


Bu myrdd o ffilmiau a dramâu yn ceisio darlunio bywyd y ferch ifanc gymhleth hon, a’r tro hwn, o fewn muriau’r ystafell wledda, (gwta dafliad carreg o’r Eglwys ble gorffwys ei chorff), Red Rose Chain fu wrthi, yng ngwaith Joanna Carrick, ‘Fallen i’n Love’. 

Treiddio i berthynas Anne (Emma Connell) a’i brawd George (Scott Ellis) oedd diben gwaith, drwy wibio o babelli aur Mehefin 1520 hyd at ddienyddio’r ddau, yn y Tŵr, ym mis Mai 1536.

O fewn hualau ariannol, daearyddol a chronolegol y stori, fe lwyddodd y ddau actor ar y cyfan i gyfleu cymhlethdod agos perthynas y brawd a’r chwaer, er bod mawredd y gwely pedwar postyn coediog, yn peri cryn drafferth ac undonedd yn y cyfarwyddo. Er gwaetha’r datblygiad gwisg cynnil yn llif y blynyddoedd, braidd yn araf a di-symud oedd rhan helaeth o’r ddrama, hyd y camau breision brys tua’r diwedd.

Mae ‘Fallen in Love’ i’w weld yn y Tŵr, tan yr 16eg o Fehefin.  

'To Kill a Mockingbird'



Y Cymro  07/06/13

Ddim dyma’r tro cyntaf imi weld addasiad llwyfan o unig nofel Harper Lee, ‘To Kill a Mockingbird’. Y tro diwethaf, roeddwn i mewn un o theatrau moethus Clwyd Theatr Cymru, yn yr Wyddgrug, yn gynnes a chlyd, ac wedi fy ngwefreiddio gan y stori bwerus hon am ymgais un dyn gwyn i achub cam llanc croenddu.

Yr wythnos yma, bûm yn ymweld â theatr awyr agored Regent’s Park, sy’n agor eu tymor yr haf hwn gyda’r clasur yma, wedi’i addasu ar y gyfer y llwyfan gan Christopher Sergal. Cyfarwyddwr Artistig y theatr, Timothy Sheader sy’n cyfarwyddo, ac fel ei lwyddiannau eraill diweddar ‘Crazy for You’, ‘Lord of the Flies’ a ‘Hello, Dolly!’, mae hon hefyd yn werth ei gweld.

Ar noson (brin) o haf cynnes cynnar, ymlaciais yng nghwmni blanced gynnes a siocled poeth i ymgolli yn niffeithwch Alabama yn nhridegau’r ganrif ddiwethaf. Wrth i gymeriadau’r dref godi ar eu traed ynghanol y dyrfa, bob un â’i gopi o’r nofel, fe ddaeth y dref yn fyw o flaen ein llygaid drwy gymorth ambell i brop a llwybrau o luniau sialc.

Swyn y cynhyrchiad yw gallu trydanol yr actorion ifanc i gadw llif y stori enfawr hon yn syml, a thrawiadol. Roedd eu hegni, eu brwdfrydedd a’u profiad byw o’r cymeriadau yn galonogol iawn i ddyfodol y theatr.  Ymunodd yr ensemble cyfan yn llwyddiant y gwaith, a hynny dan arweiniad seren y gyfres ‘House’, yr actor Robert Sean Leonard, fu’n chwysu’n ddagreuol a chwbl grediniol, yn siwt y cyfreithiwr ‘Atticus Finch’. 

Bydd y tymor yn parhau gydag addasiadau o nofel Jane Austen ‘Pride and Prejudice’, addasiad i blant o stori aeafol Shakespeare, ‘The Winter’s Tale’ a chynhyrchiad newydd o’r ddrama gerdd enwog ‘The Sound of Music’.  Os na fuoch chi yma, yna mae’n werth y daith, petai ond i brofi hud y lleoliad coediog godidog hwn, ynghanol prysurdeb y ddinas. Dowch â’ch picnic efo chi, a blanced, ond yn fwy na dim,  dowch â’r haul! Mwy o wybodaeth am y tymor drwy ymweld â www.openairtheatre.com