Total Pageviews

Sunday 23 October 2005

Cofio Mam



MAM

“Gwraig dda, fonheddig, o garedig rodiad,
A Mam wrth fodd y nefoedd ydoedd hon;”

Dyna ‘eiriau’r bardd Dewi Mai o Feirion, wedi marwolaeth nain – Marnine Gray McNaughton yn saith ar hugain oed. Bu farw o’r clefyd erchyll TB – chwe mis wedi geni Mam ar y 10fed o Awst 1932 ym mwthyn Penlan, Cwm Penmachno.

Roedd mam, fel nain, yn fonheddig, yn garedig, yn gerddorol, yn weithgar, ac yn barod i frwydro o’r diwrnod cyntaf.

Evan John Jones oedd ei thad, neu ‘Jôs Bwtshiar’ i bobol Cwm Penmachno, ac os etifeddodd mam unrhywbeth ganddo, dal ei thafod allan rhwng ei dannedd wrth weithio oedd hynny!

Chafodd hi byth gyfle i adnabod ei mam. Oherwydd effaith y clefyd, treuliodd bum mlynedd cyntaf ei hoes yn Ysbyty Llangwyfan. Pan ddaeth hi allan o’r ysbyty ar y 12fed o Fai 1937, fe gafodd ei magu, ac yn ddiweddarach ei mabwysiadu gan Jane Dow (chwaer ei mam) ac Owen Pierce. Collodd Elizabeth May ei ‘Jones’ felly, ac fe ddaeth hi’n Elizabeth May ‘Pierce’ a symud i fyw i Dan y Clogwyn ger yr Wybrnant. Yn fuan wedyn, collodd yr Elizabeth hefyd, a daeth pawb i’w nabod fel ‘Betty’.

Wedi marwolaeth ei thad maeth Owen Pierce, symudodd Jane Dow (neu Anti Jin) i Dy Capel Cyfyng, i lawr y dyffryn o’r Wybrnant, ble y bu’n gweithio fel cogyddes yn yr ysgol. Pan roedd mam yn un-ar-hugain, aeth i weithio i Westy’r Gwydr yn Metws y Coed am tua pedair blynedd ar ddeg. Bu hefyd yn gweithio yng Ngwesty’r Glan Aber,Waterloo ac yng Nghaffi Buckley’s, Bae Colwyn, wedi iddi brynu ei char cyntaf – Morris Minor o Cricieth!

Wedyn un prynhawn o Haf, wrth groesi Pont Llanrwst, bu iddi gyfarfod â bachgen tal pryd tywyll, oedd newydd orffen yn y Welsh Guards! Wedi gwarant o Sheri neu ddau yng Ngwesty’r Eryrod, ble yr oedd o’n gweithio ar y pryd, fe syrthiodd y ddau mewn cariad, a daeth Harri Griffiths yn gymar iddi am gyfnod o 33 o flynyddoedd.

Wedi rhoi genedigaeth i Peter ac i minnau, Parhau i weithio wnaeth mam, gan ddechrau gofalu am henoed yn y pentref gan gynnig ‘home help’ iddynt. Roedd hi wrth ei bodd yn cael helpu pawb a phopeth, ac arweiniodd hyn at gyfnodau maith yn gweithio mewn cartrefi preswyl yn Llanrwst ac yn ddiweddarach ym Mryn Blodau, Llan Ffestiniog.

Hyd yn oed wedi ymddeol o’i gwaith, fedra mam ddim bod yn segur. Roedd yn rhaid iddi ‘gadw’i fynd tra medar hi’. Doedd hi’m munud yn llonnydd! Os nad oedd gwaith ty yn galw, yna roedd yr ardd angen ei chwynu neu gacen angen ei goginio neu gi angen ei gerdded!

O Steddfod i Garnifal neu Sioe Flodau, roedd mam yno – llenwi’r car â chacennau, a phicls, a jams a llysiau, a dod adre â llond llaw o Wobrau cyntaf am y cynnyrch. Roedd rhaid i bawb a alwai yn y ty drio rhyw gacen wahanol o fanana i garrot i geiros! Heb sôn am y ‘meat loafs’ a’r marmalêds! Does ryfedd fod golwg iach wastad ar y teulu!

Yn yr ardd yr oedd hi hapusa. Os oedd gan unrhyw un ‘green fingers’ – mam oedd honno. Roedd hi’n cytuno gant y cant â Prince Charles – ac yn siarad gyda’i blodau bob dydd!!

Ond fe ddaeth na gwmwl mawr dros y teulu yn fuan wedyn, ac roedd colli dad ym mis Medi 2002 yn ergyd fawr i mam. Fuodd hi ddim ‘run fath wedi hynny.

Wedi’r hindda, fe ddaeth yr haul – 7 pwys a 13 owns ohono i fod yn union, ar y pedwerydd ar hugain o ‘Orffennaf 2004! Fe gyrhaeddodd Harri Gwyn, ac fe wireddwyd ei breuddwyd i gael bod yn nain. Sylwodd neb bod na gwmwl arall erbyn hyn yn cuddio’r haul ym Mhentrefelin. Er gwaetha’r llawennydd, gwaniodd ei hiechyd, ac fel yn ei blynyddoedd cynnar, treuliodd fisoedd lawer mewn ysbytai.

Brwydrodd yn dawel, ond wrth i’w hiechyd waelu, at dad roedd hi am gael mynd.

Un frwydr hir fu ei bywyd byr, ac mi frwydrodd i’r eiliad olaf. Bu farw am ugain munud wedi naw nos Fawrth, Hydref 18fed - union i’r un funud ag y bu dad farw dair blynedd ynghynt. Anghygoel i gredu, ond credadwy iawn yn achos mam. Fe enillodd hi’r frwydr yn y diwedd a dangos bod mistar ar mistar mostyn! Allwn i’m llai na’i hedmygu am yr ugain munud olaf – anghofiai fyth mo hynny.

Anghofia ni fel teulu mohoni ‘chwaith. Yn fam o fil, yn chwaer gariadus, yn gyfneither ffyddlon a dibynadwy, yn ffrind triw a gweithgar ac yn fwy na dim iddi hi, yn nain i Harri Gwyn..

Diolch mam a nain am bob dim. Am dy gariad a’th waith caled dros y blynyddoedd i’n cadw ac am adael inni wneud fel y mynnom heb unwaith weld bai. Am ein cefnogi a’n dysgu sut i barchu a helpu pawb bob amser. Am fod yno inni ddydd a nos. Diolch hefyd gan Lucky a Nel, am ofalu amdanynt mor annwyl, ac am fod yn ffrind da i nifer fawr dros y blynyddoedd.

Ac fel yn hanes ei mam flynyddoedd ynghynt :

“Daeth hoff gym’dogion yno’n dystion distaw
O ‘stormus alar teulu’r gu ei gwedd.
Ond “IESU’R MEDDYG DA” fu’r olaf alaw
A ganai’r Fam a aeth i gynnar fedd.”