Total Pageviews

Friday 27 June 2014

'Hotel'

Dwi’n cofio sgwrsio, dro yn ôl, gyda’r dramodydd (ifanc) James Graham, wedi gweld sawl drama wleidyddol drawiadol, o’i eiddo. Fe gyfaddefodd ei fod yn casáu cael ei alw’n ‘ifanc’, gan gredu’n gryf na ddylai oedran fod yn ystyriaeth, wrth drafod gwaith dramodydd. Cytuno wnes i, gan ryfeddu at ei ddawn o fedru deall gwrthdrawiadau gwleidyddol Tŷ’r Cyffredin ym 1974 yn y ddrama ‘This House’ a chreulondeb teyrnasiad Thatcher yn ‘Little Madam’, digwyddiadau ymhell cyn ei eni yntau yn 1982. 

Un o’r rhesymau pam imi ddewis gweld cynhyrchiad diweddara’r sied goch, ar ystlys bryfoclyd y National Theatre, oedd i weld gwaith Polly Stenham, dramodydd ‘ifanc’ arall, a anwyd ym 1986. Wedi llwyddiant ysgubol ei drama gyntaf ‘That Face’, a hithau gwta ddeunaw oed, roeddwn yn awyddus iawn i wybod beth oedd ganddi i’w ddweud am y byd sydd ohoni, yn ei drama newydd ‘Hotel’. 


Yr ail reswm, am fod y Cymro penfelyn Tom Rhys Harries yn portreadu mab y teulu cymhleth, oedd wedi dewis gwyliau mewn gwesty ar ynys bellennig, er mwyn osgoi sylw’r wasg yn Lloegr. Fe gydiodd y ddrama o’r cychwyn cyntaf, a hynny’n bennaf oherwydd dialog llithrig, llawn llysnafedd y fam (Hermione Gulliford) oedd o’i cho’ gyda’i gŵr (Tom Beard) am ei fod wedi’i ddal gan y Wasg, am yrru lluniau anweddus i ferch ifanc, dros y Wê.  Ynghanol y cyfrinachau, roedd sawl awgrym storïol arall, ynghylch eu merch bedwararddeg oed, (Shannon Tarbet), ac fe’m daliwyd gan we’r stori, am gadael yn ysu am wybod mwy.


Ond, yn debyg iawn i ddrama ddadleuol Sarah Kane, ‘Blasted’, daeth tro (annisgwyl iawn imi) wedi cwta ugain munud, o’r wythdeg munud dyrys hwn, a drodd y ddrama deuluol yn dymestl dywyll, dreisgar am drasiedi’r gwrthdaro yn Kenya.  Ai ddim i fanylu am drywydd y stori, na dadlennu'r hyn sy’n digwydd, ond drwy draethu gor-bregethwrol y forwyn ‘Nala’ (Susan Wokoma) fe gollais ddiddordeb yn hanes y teulu, a’m swynodd mor gelfydd ar gychwyn y cyfan.


Mi fûm yn pendroni’n hir pam na chydiodd gweddill y ddrama fy nychymyg a’m cydymdeimlad, er imi fod ar erchwyn fy sedd, wrth wylio’r dinistr ar y llwyfan.  Yn wahanol i ‘Blasted’ neu ddramâu gwleidyddol Graham, roedd gormod yn cael ei drafod yma. Fe’m gadawyd yn boddi wrth lan pwll nofio’r gwesty, a’m hymennydd yn ceisio synnwyr a stori. Roeddwn hefyd yn siomedig bod yn rhaid cael drama arall am ‘gyn aelod o’r Llywodraeth Brydeinig’ (ffug) oedd wedi gorfod ffoi rhag artaith y Wasg, wedi iddynt eu gorfodi i adael eu swydd. Ond y diffyg mwyaf, dwi’n meddwl, oedd diffyg gallu'r dramodydd (ifanc), dosbarth canol Prydeinig i ddeall cyd-destun a gwleidyddiaeth gymhleth Kenya.  Nid sylw nawddoglyd mo hynny, ond onestrwydd pur, wedi bod yn dyst i ddramâu newydd gan wyth dramodydd ifanc o Dde’r Affrig yn y Royal Court yn ddiweddar, a’u geiriau emosiynol yn codi’n naturiol o’u profiadau amrwd.

Heb os, Tom oedd y cryfaf o lawer, ymysg y cast cymysg hwn, a’i bresenoldeb golygus, yn drydan byw yn goleuo’r llwyfan unwaith eto, fel y profais yn y ddrama ‘Mojo’, dro yn ôl. Cafwyd llwyfannu dinistriol diddorol, a’r fflamau byw yn eironig ddigon, wedi gorfod ail-gychwyn y ddrama gwta ddeng munud o’r cychwyn, am bod larwn tân y Theatr wedi tarfu ar yr olygfa gyntaf! Profiad newydd arall i’r (hen) ddramodydd hwn!



‘Fyddai’n sgwennu drama er mwyn ceisio deall y ddadl’, meddai James Graham, gan roi’r ymchwil helaeth o’r neilltu, a gadael i’r cymeriadau siarad a thrafod. Cyngor doeth a difyr iawn, a’i ddawn i ffrwyno a pheidio gor gymhlethu’r cyfan, yw allwedd ei lwyddiant. Cyngor da iawn i unrhyw ddramodydd, ifanc neu beidio.

Gallwch fynychu’r ‘Hotel’ yn y National Theatre tan yr 2il o Awst. Mwy o fanylion ar eu gwefan, neu tocynnau dydd o 10 y bore am gyn lleied â £12.

Wednesday 25 June 2014

Rhagolwg o'r Cymry yng Nghaeredin 2014


Nawr bod y lwmp o lyfryn blynyddol yr ŵyl ffrinj neu ymylol yng Nghaeredin wedi cyrraedd, cyfle i bori drwyddo'n sydyn, er mwyn gweld lle a phryd mae'r Cymry wrthi eleni. I'r rhai sydd awydd ymweld, cofiwch edrych yn ofalus ar waelod yr hysbyseb, er mwyn gweld pa ddyddiadau, dros y dair wythnos, mae'r cwmniau yn perfformio. 

THEATR

Cwmni'r Frân Wen - Diolch Diolch


Rhodri Miles - Burton / Clown in the Moon

Buddug James Jones - Hiraeth


Lady GoGo Goch


Dirty Protest - Last Christmas


Cynhyrchiadau Pluen - Llais / Voice



Wednesday 4 June 2014

Blithe Spirit



Mae’n bleser gen i gyhoeddi, nad wyf yn gachgi! Wel, i fod yn fanwl gywir, nad wyf yn ffan o waith y dramodydd dros ben Brydeindod, Noël Coward. Wedi gweld sawl drama o’i eiddo yn y gorffennol, yr un themâu ac yn eu sgil, yr un hen jôcs rhonc ymhlith y dosbarth uchel (dybiedig) yn Nauddegau’r ganrif ddiwethaf. Felly, pam mentro (a gwario tro ma!) i’r Gielgud, i weld cynhyrchiad ‘newydd’ o’i gomedi arallfydol, ‘Blithe  Spirit’?

Mae’r ateb yn syml, er mwyn ychwanegu enw’r Fonesig ddiweddara i gamu ar lwyfan Llundain, i’m rhestr hir o brofiadau theatr byw. O Mirren i Dench, Suzman i Smith, dwi di bod yn lwcus iawn o fedru ‘anadlu’r un gwynt theatrig’ â sawl enw ‘mawr’, ac er nad yn gwbl argyhoeddedig bob tro, o’u dawn i lefaru (Mirren a Redgrave yn enwedig!) mae eu gwylio ar lwyfan, gwta ddwy neu dair rhes o’ch blaen, yn drydan byw. Oeddwn i am gael yr un wefr o weld y Fonesig Angela Landsbury, yn ei 88 mlwydd , a minnau wedi bod yn gymaint o ffan o’r glasur o gyfres, ‘Murder She Wrote’?!


Mi gesh i wefr, ar un llaw, wrth gael fy siomi ar y llall. Un o briod alluoedd unrhyw actor gwerth ei halen (neu’i urddas), yw medru llefaru yn glir ar lwyfan, nes taro sylw’r sedd uchaf un, yng nghefn y balconi. Does dim ots os mai gweiddi ta sibrwd yw’r dasg, fe ddylai trydan eu trydar danio’r dychymyg a deffro pob blewyn.  Yn anffodus, cyn i’r clir weledydd unigryw ‘Madame Arcati’ gamu ar y llwyfan i gyfeiliant bonllef o gymeradwyaeth cwbl haeddiannol, roedd y clychau pryderus yn canu’n glir.  O boptu’r llwyfan, yn gwbl ddisylw hyd y foment honno, roedd dau seinydd segur.  Doedd dim o’i hangen, yn gwbl amlwg ar Charles (Charles Edwards) a Ruth (Janie Dee), gŵr a gwraig sydd wedi estyn gwahoddiad i’r clir weledydd ecsentrig i’w cartref moethus am noson o ‘adloniant’.  Ond, yn sydyn reit, wedi anadlu trwm a marimba’r mwclis, fe gafodd llais eiddil (siomedig) yr actores enwog, ei chwyddo hyd eithafion y galeri. 


A minnau gwta ddwy res o’r llwyfan, allai ddim ond ag awgrymu mai blinder, y gwth o oedran, neu flynyddoedd o waith teledu oedd yn gyfrifol am y chwyddo angenrheidiol hyn. Yn waeth fyth, a synnwn i ddim am yr un rhesymau, dwi’n eithaf sicr bod y ddau gylch o wallt cringoch dros ei chlustiau, yn cuddio clustffonau yn ogystal, er mwyn bwydo’r geiriau colledig, rhag amharu ar rediad y ddrama. Siom fawr imi, gan imi ddisgwyl gwefr o’i chlywed yn llenwi’r gofod, lle bu ei mam hefyd, mae’n debyg, yn serennu.

Does dim dwywaith fod ganddi ddawn drydanol i danio’r cymeriad, ac roedd pob ebychiad, anadl, golwg a symudiad yn werth ei brofi, yn enwedig yn hurtrwydd y dawnsio codi swyn.  Ond gyda sawl actor llawer fengach, oedd â’r gallu i daflu ei llais i ben arall y stryd, heb ymdrech yn y byd, roedd gwendid y fonesig yn boenus o amlwg.


Ynghanol y gwendidau storïol o’r ddwy ‘ysbryd’ o wraig sy’n gwrthod ymadael â’r byd hwn, ac yn poenydio’r gŵr, roedd strwythur ac adeiladwaith comedïau clasurol Coward, yn gwbl amlwg.  Maen nhw’n werth eu gweld, petai ond i ddysgu am gynildeb plannu a medi’r hadau’r stori, sut i gyflwyno’r plot a’r ddaearyddiaeth drwy eiriau, a sut i ddod a phob llinyn stori ynghyd, ar gyfer y diweddglo (dros ben llestri) daclus.
Yn y newyddion bore ma, mae dyhead y Fonesig i ddychwelyd i Lundain, wedi gwyliau byr, er mwyn serennu unwaith eto ar lwyfan. Mae’r sioe yn siŵr o werthu, a bydd y gynulleidfa yn siŵr o dyrru.  Efallai y gwelwch chi’r cachgi yma hefyd, yn eistedd bellach yn ôl y tro hwn, er mwyn medru derbyn rhith y cyfan, a chadw’n dawel!

Tuesday 3 June 2014

Dan y Wenallt ond ymhell uwch y tonnau


Llun Andy Freeman
Ynghanol y môr o danau’r Wenallt eleni, cefais orig tra dymunol yng nghyflwyniad myfyrwyr Yr Atriwm, Prifysgol De Cymru, Caerdydd. O dan gyfarwyddyd medrus Sêra Moore Williams, llwyddwyd i fynd â ni ar daith ddwyieithog, llawn dychymyg, ac anadlu bywyd ifanc, ffres i’r ‘buggeralL’ o ddrama leisiau, ddifywyd.

Gyda chyfieithiad ‘gwell na’r gwreiddiol’ T James Jones yn gyfeiliant godidog i ddelweddau symudol o donnau’r môr, roedd gwylio ymateb didwyll a sensitif yr un-actor-ar-hugain, yn bwerus tu hwnt.  Wedi’u rhewi yn eu dillad nos, o dan anwes o oleuo cynnes, nes i hud y geiriau eu hudo at draeth o gerrig a chregyn gwyn. Cipiasant ambell i air o enau eu cymeriadau, a’u ffeirio am garreg wen, wrth ddawnsio’n gylch celfydd.

Llun Andy Freeman
Fe’n plymiwyd i ganol y pumdegau, ar gyfer yr ail ddiwrnod, wrth i’r cymeriadau gasglu ynghyd i gyflwyno’r ‘ddrama i leisiau’ i grombil pum meicroffon, oedd yn crogi uwch eu pen. Caewyd llenni’r gofod, er mwyn creu awyrgylch stiwdio radio, oedd yn gweddu’n berffaith i’r darlleniad cyntaf ym mis Medi 1953, cyn marw disymwth Dylan Thomas, ym mis Tachwedd o’r un flwyddyn.

Y meibion oedd yn argyhoeddi fwyaf, gydag hiwmor hyderus Aled Llŷr Thomas a Lloyd James Robling (darpar Bobi a Sami neu Vladimir ac Estragon y dyfodol!) yn felys i’r glust a’r llygad. Cadernid, presenoldeb a llais cyfoethog Lloyd Meredith wrth anwesu’r Rosie Probert gogleddol marw, a atgyfodwyd o waelod enaid angerddol, Mari Elen Jones. Dawn comediol (a darpar ddawnsiwr tap) Trystan ap Owen, wrth gadw’r cyfan i lifo, i gyfeiliant grymus y merched.  Wrth godi, fesul un, i ganu neu gyfarth geiriau’r bardd, llwyddwyd i roi cig a gwaed go iawn, ar sgerbwd sawl un o’r cymeriadau adnabyddus.

Llun Andy Freeman
Ein deffro a’n dadrithio wnaeth ton ola’r cyflwyniad, wrth i realaeth y presennol, a bywydau real yr actorion, ddiferu’n oer uwch ein pen.  Agorwyd y llen ar gyfnod newydd, a delweddau personol o’r presennol yn chwa o awyr iach.  Gyda phob anerchiad annibynnol, crëwyd darlun o Gymru gyfoes ddwyieithog, wrth i bob actor yn ei dro sôn am ei deulu, eu Cymreictod, eu profiadau theatr cyntaf a’u hoff rannau o’r ddrama  i leisiau, a blethodd y cyfan at ei gilydd, yn un flanced gynnes.

O’r nawdeg munud a brofais yn eu cwmni, heb gyllideb, set na stŵr, fe’m hargyhoeddwyd yn llwyr gan theatr greadigol a hudolus.  Tri chyfnod, tair arddull gwbl wahanol. Arbrofi’n ddeallus, heb ddim dangos-ein-hun. Goleuo a sain twt a thaclus, yn anwesu ac yn deffro, yn hytrach na’n boddi a’n bôrio!

Llun Andy Freeman

Llongyfarchiadau mawr i bob aelod o’r cwmni dethol, i’r chwech ar gwblhau eu blwyddyn olaf,  y pedwar o’u hail flwyddyn, a Tirion James ar ddiwedd ei blwyddyn gyntaf. Gwych a chalonogol iawn, iawn