Total Pageviews

Friday 26 November 2010

'Passion'





Y Cymro – 26/11/10

Rhyw gyfnod o ddal i fyny fu hi’n ddiweddar, wrth i lu o sioeau newydd gyrraedd y West End, yn sgil cau rhai o’r ffefrynnau poblogaidd. Wedi mynd mae ‘Sister Act’, ‘Avenue Q’ a ‘Sweet Charity’ ac ‘Oliver’ a ‘Flashdance’ wrthi’n hel eu pac, i ymadael yn gynnar yn y flwyddyn newydd.

Y Donmar oedd yn fy nennu'r wythnos hon, a cheisio achub ar y cyfle i weld y sioe ‘Passion’ cyn iddi hefyd gau'r wythnos nesa ‘ma. Yn gwmni imi unwaith eto roedd yr annwyl Bethan Gwanas, sy’n ymweld â Llundain bob rhyw chwe mis, ac sydd wrth ei bodd yn cadw cwmni imi mewn rhyw sioe neu’i gilydd. A bod yn onest efo chi, roedd gen i fwy o ofn y tro hwn, gan mi wn ei bod hi’n casáu dramâu cerdd! Fuo na ddim angan llawer o berswadio, gan mai drama gerdd o eiddo’r athrylith Sondheim ydi ‘Passion’ sy’n gyfuniad perffaith o serch ac angerdd, wedi’i blethu o fewn y stori drasig a thwymgalon.

‘Giorgio’ (David Thaxton), milwr golygus sy’n lletya yn Milan ym 1863, yw canolbwynt y stori, sydd ar fin cael ei yrru i’r diffaethwch i wasanaethu, ac felly’n gorfod ffarwelio gyda’i gariad nwydus a phrydferth ‘Clara’ (Scarlett Strallen). O’r eiliadau cyntaf, mae’n amlwg fod y serch rhwng y ddau yn eirias o angerddol, wrth iddyn nhw fynegu’i chwantau’n gerddorol, wrth gofleidio ar y gwely sengl.

Wedi cyrraedd y Gwersyll, ac ynghanol brafado brawdgarol y gatrawd, ‘Clara’ yw’r unig beth sydd ar feddwl ‘Giorgio’, a’r angerdd yn parhau drwy gyfres o lythyrau tanbaid rhwng y ddau. Ynghanol y gwledda, fe glywir gruddfan a sgrechiadau ‘Fosca’ (Elena Roger) sef cyfnither y Cadbennaeth ‘Colonel Ricci’ (David Birrell). Wedi derbyn eglurhad am gystudd a gwendid gwaeledd ‘Fosca’, mae ‘Giorgio’ yn rhoi benthyg rhai o’i lyfrau iddi, a dyma sy’n esgor ar y ‘berthynas’ ffrwydrol rhwng y ddau. Yn anffodus i ‘Fosca’, tydi hi ddim yn meddu prydferthwch ‘Clara’, ac felly mae ceisio cipio calon ‘Giorgio’ yn dipyn o gamp. Ond, mae ‘Fosca’n’ benderfynol o lwyddo, a thrwy gyfres o ymdrechion tanbaid a chreulon, er gwaethaf ei gwendid, erbyn y diwedd y stori, mae hi’n llwyddo. Ond mae’r cyfan yn rhy hwyr. Pan lwydda’r gwir gariad i drechu’r holl angerdd a’r serch, mae angau yn ennill y dydd, ac fe derfyna’r ddrama mewn tristwch gorfoleddus, wrth i ‘Fosca’ fynd i’w hangau yn hapus, er gwaetha holl drybeini ei bywyd llwm byr.

Heb os nag oni bai, seren y cynhyrchiad oedd Elena Roger, a welais yn ‘Evita’ flynyddoedd yn ôl, ond a fethais ei gweld fel ‘Piaf’ eto yn y Donmar yn ddiweddar. Anhygoel ydi’r unig air allai yngan, o’i phresenoldeb i’w llais clir fel cloch, fe lwyddodd rywsut i droi ei chorff eiddil a’i hwyneb prydferth yn un talp o dristwch dwfn, dichellgar ac eto’n dwymgalon. Hi, heb os, oedd yn ennyn ein cydymdeimlad, a’r awydd iddi lwyddo i ddwyn calon ‘Giorgio’ yn gyrru’r ddrama yn ei blaen.

Ychwanegwch at hynny gyfoeth cerddorol Sondheim, cynllunio cywrain Christopher Oram, a greodd y cyfnod i’r dim, cyfarwyddo medrus Jamie Lloyd, goleuo gofalus hyd y manylyn olaf Neil Austin, ac agosatrwydd moethus y Donmar, ac mae’r canlyniad yn llwyddiant ysgubol. Braf eto oedd gweld y Cymry’n rhan o’r clod gyda Nerys Richards a’i soddgrwth yn rhan o’r gerddorfa a’r actor ifanc Iwan Lewis fel ‘Private Augenti’. Roedd dagrau Gwanas yn dweud y cyfan!

Bydd ‘Passion’ yn y Donmar yn dod i ben ar y 27ain o Dachwedd.

Friday 19 November 2010

'Or You Could Kiss Me'




Y Cymro – 19/11/10

Yn ôl i’r Theatr Genedlaethol ar lannau’r Tafwys es i'r wythnos hon i weld cynhyrchiad sy’n dod i ben yr wythnos nesaf. ‘Or You Could Kiss Me’ gan Neil Bartlett a chwmni pypedau Handspring yw’r cynhyrchiad sydd wedi bod yn denu’r tyrfaoedd i’r Cottesloe dros y misoedd diwethaf. Y pennaf reswm am hynny, heb os, yw’r ffaith mai Handspring sy’n gyfrifol am greu’r pypedau ar gyfer y Clasur ‘War Horse’, sy’n dal i werthu allan yn nos weithiol yn Theatr y New London. Fel yn achos y sioe wefreiddiol , dwymgalon honno, y ‘cymeriadau’ yma, wedi’i greu o bren a phlastig sy’n serennu, ac sy’n peri ichi anghofio’r pyped, a chredu cant y cant yn eu bodolaeth.

Y ddynol ryw sydd dan sylw y tro hwn, a dau hen ŵr, gwmanog ac esgyrnog yw canolbwynt y stori. Stori garu sydd yma yn y bôn, yn cwmpasu 65 o flynyddoedd rhwng 1971 a 2036, wrth iddynt geisio ffarwelio wedi treulio’u bywydau gyda'i gilydd. De’r Affrig yw’r lleoliad, ac atgofion am asbri a nwyd eu hieuenctid coll yw’r hunllef sy’n eu hatgoffa o freuder bywyd wrth i angau guro’r drws. Astudiaeth o gryfder cariad ac amynedd yng ngwyneb gwaeledd a gweinyddu’r gwaith papur, cyn eu diwedd terfynol.

I unrhyw un sydd wedi profi’r boen o golled, a gwylio’r dirywiad araf wrth i’r salwch gnoi ei ffordd yn dawel drwy edafedd y corff, neu wrth i gryfder y Morffin wanhau’r meddwl, gan annog yr atgofion i lifo a thywys y truan yn ôl i ‘Fyd sy’n well’, bydd y sioe hon yn siŵr o daro deuddeg. Dwy awr o addysg feddygol a seicolegol, am ddirywiad terfynol henaint, a’r sylw a’r emosiwn i gyd yn cael ei greu gan ddau sgerbwd o byped, a’r tîm helaeth sy’n rhoi bywyd iddynt.

Yn gyfeiliant i’r stori garu, a’r storïwr sy’n ein tywys drwy’r drasiedi yw’r actores Adjoa Andoh sy’n portreadu nifer fawr o gymeriadau gwahanol yn ystod y sioe; o’r lanhawraig gegog sy’n gofalu am y cwpl oedrannus yn eu cartref, i’r meddyg, y cyfreithiwr, y darlithydd a’r adlais o’r Corws Groegaidd ar ddiwedd y sioe. Drwy ddefnyddio stori ‘Philemon a Baucis’ o waith Ovid, o fytholeg Groeg a Rhufain, mae stori’r cwpl yn cael ei ddaearu neu ei ddamhegu, a’r ergyd yma sy’n codi’r cyfan i dir y Gwirioneddau Mawr am fywyd. Oherwydd eu haelioni a’u croeso, mae’r ddau yn cael cynnig marw ar y cyd, mewn byd delfrydol, a threulio gweddill eu bywyd wedi’u hymgorffori mewn dwy goeden blethedig yn y diffaethwch.

Saith o wŷr mewn siwtiau tywyll yw gweddill y cwmni, sy’n cynnwys dau o gyd-grewyr y sioe, Adrian Kohler a Basil Jones.

Mae’r sioe yn y Cottesloe tan y 18fed o Dachwedd.

Friday 12 November 2010

'Over Gardens Out'




Y Cymro 12/11/10

Y cyntaf o’r cewri theatr imi gwrdd â nhw yma yn Llundain, oedd y bonheddwr annwyl Peter Gill o Gaerdydd. Yn ddramodydd a chyfarwyddwr o bwys, sydd bellach yn byw yn Hammersmith, Peter oedd yn gyfrifol am sefydlu’r Riverside Studios yn Hammersmith yn ogystal â bod yn rhan o’r tîm llwyddiannus oedd yng ngofal Stiwdio’r Theatr Genedlaethol.

Mae’r rhestr helaeth o’i ddramâu yn wybyddus i lawer, a chynyrchiadau diweddar o’i waith yn cynnwys ‘Small Change’ yn y Donmar ac ‘Another Door Closed’ yn Theatr Frenhinol, Caerfaddon. Falle bod y teitlau ‘Certain Young Men’ neu ‘Cardiff East’ hefyd yn canu cloch, neu ‘The York Realist’ a welais yn y Royal Court, flynyddoedd yn ôl.

Fel teyrnged o ddiolch iddo, penderfynodd Adam Spreadury-Maher, Ben Cooper a chwmni Good Night Out lwyfannu dwy o’i ddramâu cyntaf sef ‘The Sleepers Den’ ac ‘Over Gardens Out’ yn y Riverside Studios rhwng diwedd mis Medi a dechrau Tachwedd eleni. Yn anffodus, methais â gweld y ddrama gyntaf, ond bues yn hynod o ffodus i ddal yr ail.

Mae ‘Over Gardens Out’ wedi’i leoli yng Nghaerdydd yn mis Awst 1968 ac yn dilyn hanes dau fachgen yn eu harddegau; y llanc eiddil, benywaidd ‘Dennis’ (Meilir Rhys Williams) sy’n byw efo’i fam (Kirsten Clark) a’i dad (Dan Starkey) a’r rebel, brwnt, gor-rywiol ‘Jeffry’ (Calum Calaghan) sy’n lletya gyda ‘Mrs B’ (Laura Hilliard) a’i theulu sy’n byw drws nesa. Fel awgryma teitl y ddrama, dros y wal yn yr ardd gefn y cychwyn holl anturiaethau’r ddau lanc, ac mae’r ddrama yn astudiaeth o ddeffroad rhywiol y ddau; y chwarae, yr herian, yr angerdd, yr ofn, y mentro, y methu a’r difaru.

Mewn cyfnod lle nad oedd bod yn hoyw yn dderbyniol, ac yn sicr ddim yn bwnc i’w drafod ar lwyfan y Royal Court (ble gwelwyd y ddrama am y tro cyntaf yn Nhachwedd 1969) mae ymdriniaeth Gill o’r testun a’r trywydd yn sensitif a gofalus. Awgrymu’n unig sydd yma, yn enwedig deurywioldeb diddorol ‘Jeffry’ sydd un munud yn smwddio dillad babi ei letywraig a brolio wrth ‘Dennis’ ei fod yn talu am ei le ‘drwy ddulliau corfforol!’, ac yna ei ysfa rywiol, gorfforol, dreisgar tuag at y llanc ifanc yn yr awyr agored.

Un o themâu cyson Gill ydi perthynas y mab a’i fam, a dyma egin perffaith y trywydd twymgalon hwn. Cafwyd sawl golygfa gynnes wrth i ‘Dennis’ ofalu am ei fam yn ei gwaeledd, drwy frwsio ei gwallt ac ail-ddeffro’r angerdd a’r awydd i ddawnsio yn eu bywyd llwm beunyddiol. Cafwyd cofnod cynnes o’r cyfnod, cyn i ddyddiau’r teledu a’r Rhyngrwyd rwygo ‘r galon deuluaidd.

Braf oedd clywed acenion Cymraeg yn mwytho dialog cyhyrog Gill, a’r Cymro Meilir Rhys Williams yn gneud ei ‘début’ ar lwyfannau Llundain fel y mab ‘Dennis’. Roedd rhan helaeth o’r ddrama yn ddibynnol arno ef, i gario’r stori, ac i gadw’r cyfan i lifo o olygfa i olygfa. Llwyddodd yn eithriadol o dda, a bod yn deg, felly hefyd Calum Calaghan fel ei gydymaith.

Syml, ac eto’n effeithiol oedd set Annemarie Woods, a greodd y lolfa tŷ teras drwy gyfuno nifer o silffoedd di-gefn yn llawn o drugareddau’r cyfnod ar bob llaw. Y bwrdd bwyd oedd y canolbwynt, gyda’r actorion yn cuddio tu cefn i’r silffoedd, ac yn ymateb i’r digwydd yn ôl y galw.

Mae dylanwad yr ‘angry young men’ hefyd i’w glywed yma, wrth i’r ddau lanc ifanc boeri eu hatgasedd tuag at bob pwnc posib, gan gynnwys eu teuluoedd. Er gwaetha’r cryfderau, roedd yn rhaid imi anwybyddu’r gwendidau, a chofio mai hon oedd yr ail ddrama i Gill ei gyfansoddi, a’i fod, heb os, wedi perffeithio a miniogi’i grefft erbyn y gwaith hwyrach.

Yn anffodus, mae’r tymor yn Hammersmith wedi dod i ben erbyn hyn.