Total Pageviews

Wednesday 30 December 2009

'Twelfth Night'




30/12/09

Fyddai’n falch iawn o weld yr RSC yn ymweld â theatrau Llundain o bryd i’w gilydd, gan ei fod yn esgus perffaith dros beidio gorfod teithio draw i Stratford i weld y gwaith! Bûm i’n hynod o ffodus i weld pob perfformiad hyd yma, ac fel un na gafodd y cyfle i astudio fawr o waith y bnr Shakespeare yn yr ysgol, mae’n anrhydedd cael y cyfle i’w gweld ar lwyfan, a hynny gan y cwmni gorau posib.

‘Twelfth Night’ yw’r cynhyrchiad diweddara i gyrraedd y Duke of York ar St Martin’s Lane yn y ddinas, ac er mod i braidd yn gynnar, cyn y nos Ystwyll, roedd setlo i’m sedd wedi’r Nadolig yn anrheg werthfawr.

Wrth aros am i’r hwyrddyfodiaid gyrraedd eu seddi, cawsom ein diddanu gan y cerddorion o lys y Dug Orsino, cyn i’r Dug ei hun (Jo Stone-Fewings) gyflwyno un o agorawdau enwoga’r bardd : “If music be the food of love, play on; give me excess of it, that, surfeiting, the appetite may sicken, and so die”. A dyna gyflwyno cyfyng gyngor y Dug yn syth, yr angen am gariad, a chariad yr iarlles gyfoethog ‘Olivia’ (Alexandra Gilbreath) yn benodol. Buan iawn cawn ein cyflwyno i isblot y ddrama, wrth i’r ferch brydferth ‘Viola’ (Nancy Carroll), sydd wedi’i hachub o donnau’r môr ger Illyria, wedi llongddrylliad, geisio gwaith yn llys y Dug Orsino, ond wedi’i gwisgo fel llanc, a’r llys enw ‘Cesario’. Wedi derbyn y llanc i’w lys, mae’r Dug yn ceisio cymorth y llanc i ennill calon yr Iarlles, a dyma gychwyn y stori gymhleth o gamddealltwriaeth carwriaethol rhwng y cymeriadau.

I ganol y cyffro, ac i ychwanegu haenau pellach o gomedi a chamddealltwriaeth, y daw ‘Malvolio’ (Richard Wilson), stiward yr Iarlles, sy’n casáu aelodau eraill y llys fel ei hewyrth ‘ Sir Toby Belch’ (Richard McCabe), ei gyfaill ‘Sir Andrew Aguecheek’ (James Fleet) a’r cellweiriwr ‘ Feste’(Miltos Yerolemou). Dyma’r tri dihiryn doniol, sydd ar y cyd â ‘Maria’ (Pamela Nomvete) yn cynllwynio cwymp ‘Malvolio’ sy’n peri iddo wneud ffŵl o’i hun o flaen yr Iarlles, ac sy’n gyfrifol am ei anfon i’r carchar.

Gydag ymddangosiad ‘Sebastian’ (Sam Alexander) brawd ‘Viola’, sydd hefyd wedi’i achub o donnau’r môr, yn ddiarwybod i’w chwaer, mae’r camddeall yn cyrraedd yr uchafbwynt, cyn i’r cyfan gael ei egluro yn ôl gallu barddonol, meistrolgar Shakespeare.

Mae’r ddrama yma yn brawf pendant o allu Shakespeare i greu strwythur cryf, a chyflwyno haen ar ôl haen o stori a chamddealltwriaeth, mewn gwisg o gomedi geiriol a gweledol. Efallai nad oes yma stori cyn gryfed â ‘Macbeth’ neu ‘Midsummer Night’s Dream’, ond mae’r gallu i’w weld yn amlwg.

Richard Wilson, y dyn blin, hirwynebog unigryw o’r gyfres ‘One foot in the grave’ yw’r ‘Malvolio’ druan sy’n cael ei dwyllo, ac er mai ef yw wyneb y cynhyrchiad ar flaen pob poster, nid ef yw seren y sioe o bell ffordd. Cafwyd perfformiadau caboledig tu hwnt gan y cellweiriwr clyfar Miltos Yerolemou, a Nancy Carroll fel ‘Viola’ ac Alexandra Gillbreath fel yr Iarlles.

Gosodwyd y cyfan ar set foethus, gyfoes Robert Jones, oedd trwy ddawn goleuo Tim Mitchell, yn troi o lys i lys, i’r traeth a’r ardd heb ddim ffwdan, ac yn sicrhau fod cynhyrchiad Gregory Doran yn llifo’n rhwydd trwy’r holl gamddeall doniol.

Cynhyrchiad cofiadwy unwaith eto o lys yr RSC, a braf gweld cymaint o Gymry yn cael y cyfle i hogi arfau ar allu, profiad a disgyblaeth ragorol y cwmni.

Mwy o fanylion drwy ymweld â www.rsc.org.uk