Total Pageviews

Friday 28 July 2006

Theatr Genedlaethol Cymru - y ddwy flynedd gyntaf


Y Cymro - 28/7/06ain o Orffennaf

Dyma gychwyn trydedd flwyddyn ein Theatr Genedlaethol, a chyfle i mi fwrw golwg yn ôl dros y ddwy flynedd gyntaf. Dwy flynedd anodd iawn ble y gwelwyd sawl ‘clasur’ yn cael ei ail-lwyfannu a dim ond dwy ddrama wreiddiol; ble y cawsom ein cyflwyno i bedwar ‘actor craidd’ ifanc a chroesawu Cefin Roberts yn ‘gyfarwyddwr artistig’ cynta’r cwmni.

Roeddwn i’n croesawu hefyd gweld sefydlu ein Theatr Genedlaethol, gan fod mawr angen sefydliad o’r math yma i roi hyder a gobaith i barhad y Ddrama Gymraeg. Er bod yna sawl cwmni yn ceisio cadw’r fflam ynghyn, roedd dirfawr angen pwerdy fyddai’n tanio ein dychymyg eto fyth.

Wedi fy magu yn Nolwyddelan yn Nyffryn Conwy, roeddwn i’n ymwelydd cyson â Theatr Gwynedd ym Mangor ble y cefais fy nhrwytho o oedran cynnar iawn mewn dramâu theatrig a chofiadwy; cof plentyn am bantomeimiau fel ‘Rasus Cymylau’ a ‘Guto Nyth Cacwn’, ac yna cynyrchiadau’r unigryw a’r diweddar annwyl Graham Laker, a chael fy swyno gan y Clasuron fel ‘ Y Gelli Geirios’, ‘Y Werin Wydr’, ‘Y Cylch Sialc’ ac ‘Y Tŵr’. Wedi ymadawiad Graham â Chwmni Theatr Gwynedd - un o gamgymeriadau mwya’r cwmni yn fy nhyb i, cefais y fraint o fod yn aelod o’u Pwyllgor Ymgynghorol Artistig. Er penodi Arweinydd Artistig newydd, doeddwn i ddim yn cytuno â’r weledigaeth honno, gan bwysleisio bryd hynny y dylid cychwyn drwy ‘lynu at y Clasuron Cymraeg, a rhoi gwedd newydd ar waith Gwenlyn a Saunders. Drwy ddangos pŵer a chryfder ‘drama dda’, ac o ddenu cynulleidfa gadarn yn eu hôl, byddai digon o gyfle wedyn i arbrofi gydag addasiadau o ddramâu Saesneg neu ddramâu newydd yn y Gymraeg.

Mae gennai barch o’r mwyaf i Cefin fel cyfarwyddwr cerddorol a theatrig, ond dwi’n dal i gredu fod ei benodi fel cyfarwyddwr artistig cynta’r Theatr Genedlaethol wedi bod yn gamgymeriad mawr. Fyddai ddim yn deg honni bod yna sawl ‘cyfarwyddwr’ arall yng Nghymru efo mwy o brofiad na Cefin, a gall neb wadu ei gyfraniad sylweddol yn meithrin talent ifanc drwy ei waith gydag Ysgol Glanaethwy. Mae angen gweledigaeth a phrofiad mwy eang; rhywun fyddai’n barod i herio ein disgwyliadau a rhoi gwedd newydd ffres ar y cynfas wag.

Yn ôl y gyfres ddiweddar ar S4C, yn olrhain cefndir dwy flynedd cynta’r cwmni, uchafbwyntiau’r cyfnod yma oedd ‘Tŷ ar y Tywod’ gan Gwenlyn Parry ac ‘Esther’ gan Saunders Lewis. Y cynhyrchiad cyntaf wedi’i chyfarwyddo gan Judith Roberts sylwer a’r ail gan Daniel Evans. Dwy ddrama glasurol, a dau gyfarwyddwr sydd wedi treulio cyfnod maith yn Llundain yn cyd-weithio â phobol flaenllaw ym Myd y Theatr.

Yr ail-gamgymerid oedd dewis pedwar actor mor ifanc a dibrofiad i fod yn actorion craidd i’r cwmni. Oni fyddai wedi bod yn llawer mwy defnyddiol i benodi pedwar actor hŷn a phrofiadol, er mwyn rhoi sgôp llawer ehangach i’r dewis o ddramâu? O wneud hyn, byddai gwahodd actorion ifanc i gyd-actio efo nhw, ac i ddysgu o fod yn eu cwmni, wedi gwneud llawer mwy o synnwyr.

Ac wedyn y dewis o ddramâu; chwarae’n saff a ‘chawl eildwym’ efo ‘Yn Debyg Iawn i Ti a Fi’ a ‘Sundance’ - dwy ddrama ddaeth a llwyddiant ysgubol i Theatr Bara Caws rai blynyddoedd ynghynt; diffyg gweledigaeth a strwythur yn y dramâu newydd ‘Plas Drycin’ a ‘Dominos’; diffyg cynildeb wedyn efo chast enfawr yn ‘Romeo a Juliet’ a ‘Hen Rebel’. Diolch byth am Gwenlyn a Saunders, ac yn fwy fyth am Judith a Daniel!

Glynu at y Clasuron wnawn ni eto ar gychwyn y drydedd flwyddyn efo dathliad o waith Beckett ac addasiad Siôn Eirian o ‘Cysgod y Cryman’. Ond eto eleni, dim ond tri ymweliad gan y cwmni â’r Eisteddfod Genedlaethol, a hynny yn y babell erchyll a elwir Theatr y Maes. Dwi’n gofyn eto eleni, pam, pam, pam, nad oes cynhyrchiad uchelgeisiol gan ein Theatr Genedlaethol mewn theatr safonol yn ystod ein Prifwyl?

Siawns ar ôl dwy flynedd, nad oes gwersi wedi’u dysgu? Mae’r cynfas yn wag eto, ond pwy sydd â’r ddawn i greu'r campwaith nesaf…?

Friday 21 July 2006

'Ail Liwio'r Byd' a 'Jac yn y Bocs'

Y Cymro - 21/7/06

Dau wahoddiad wythnos yma i weld dwy sioe wahanol iawn. Grŵp Ieuenctid Theatr Fach Llangefni yn cyflwyno addasiad o’r ddrama gerdd ‘Ail Liwio’r Byd’ a Theatr Bara Caws yn perfformio’r sioe glybiau ‘Jac yn y Bocs’ yng Nghlwb Rygbi Bethesda.

Roedd teithio draw i Theatr Fach Llangefni yn brofiad ddigon nerfus i mi ar sawl lefel, oherwydd dyma ddrama gerdd y cyd-sgwennais i gyda Gareth Glyn ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Bro Conwy yn 2000.

Bryd hynny, Theatr Gogledd Cymru Llandudno oedd y lleoliad a chast o 400 o blant! A rŵan, dyma gast o 40 yn mynd ati i’w llwyfannu yn un o theatrau lleia Cymru! Catrin Jones (Pennaeth Drama Ysgol y Creuddyn) oedd yn gyfrifol am gyfarwyddo’r ddwy fersiwn, a hi hefyd oedd wedi addasu’r sioe ar gyfer y criw ifanc yma, gyda chymorth Annest Rowlands.

Cefais fy swyno efo pob un wan jac o’r cast - pawb yn rhoi ei orau, ac yn amlwg yn mwynhau bob eiliad o’r profiad. Dyma le mae cychwyn diddordeb ein hieuenctid yn y theatr, gan roi cyfleoedd fel yma iddynt i fwynhau a diddanu cynulleidfa leol. Gobeithio bydd y profiad o lwyfannu sioeau tebyg yn hwb iddynt i ddilyn gyrfa yn y celfyddydau.

Rhaid enwi Iestyn Lewis a roddodd berl o berfformiad fel ‘Sydna’ - y seren siwpyr yn yr olygfa o Awstralia! Arbennig iawn. Clod hefyd i’r Theatr Fach sy’n amlwg yn bwerdy drama bwysig iawn yn Sir Fôn, a hir y pery hynny.

I Glwb Rygbi Bethesda wedyn ar nos Sadwrn chwilboeth! Mynd yno’n amheus iawn, heb wybod yn iawn os oeddwn am fwynhau’r profiad o weld sioe glybiau arall, gan Theatr Bara Caws.

Dyfan Roberts, Tony Llewelyn a Bryn Fôn sy’n gyfrifol am y sgript, a’r diwydiant teledu sy’n ei chael hi tro ma! Dyma dri sy’n hen gyfarwydd â’r testun, a stôr o sweips yn barod i’w tanio!

Cyfres o olygfeydd ydi’r sioe, yn efelychu sawl math gwahanol o raglenni ar S4C - o’r Newyddion a’r tywydd i Blaned Plant; o raglenni garddio i Bandit, a’r diléit prin hwnnw dyddiau yma - cyfres ddrama a ffilm gyfnod uchelgeisiol!

Maldwyn John ydi’r Rheolwr Llawr hoyw sy’n llywio’r cyfan, a fo sydd efo’r dasg anodd o gadw’r cyfan i fynd drwy bontio’r golygfeydd a chodi ysbryd y gynulleidfa. Llyr Ifans wedyn fel ‘Jac Jones’ - bachgen sy’n cychwyn ei yrfa yn y diwydiant ar gynllun tebyg i CYFLE, ac yna’n cael ei ddyrchafu yn brif weithredwr y sianel. Eilir Jones a’i ystod o gymeriadau gwahanol - o Ffarmwr Ffowc i’r garddwr noeth! a Lisa Jên Brown a Catrin Mara yn rhoi testun i’r innuendo rhywiol! Mae yna lu o gymeriadau eraill hefyd, chlod mawr i’r pump ohonynt am fedru llithro o un cymeriad i’r llall mor rhwydd a diffwdan.

A’r cwestiwn mawr - be o’n i’n feddwl?! Wel, mae’r ffin rhwng ‘smyt’ a dychan yn un denau iawn. Mae ambell sioe debyg yn y gorffennol wedi methu am fod y deunydd mor wan. Ond tro ma, mae 'na ddigon o ddychan (ac ambell i wirionedd!) sy’n codi’r cyfan uwchlaw’r jôcs budur a’r innuendo’s. Mi nes i chwerthin, ac ynghanol y gwres, roedd hynny’n dipyn o gamp!

Bydd y cwmni yn ymweld â Chaernarfon, Abergele a Phorthmadog wythnos yma, ac yna Blaenau Ffestiniog, Llanberis ac Eisteddfod Abertawe wedi hynny.

Friday 14 July 2006

'Dead Funny' a 'Lle bu'r blacowt'

Y Cymro - 14/7/06

A ninnau ar drothwy gwyliau’r Haf, braf gweld bod digon o gynyrchiadau i’w gweld ar lwyfannau Cymru. Theatr Bara Caws wedi cychwyn ar eu taith efo’r sioe glybiau ‘Jac yn y Bocs’ fydd yn ymweld â Bethesda, Y Bala a Chaernarfon yr wythnos hon. Ar y gorwel hefyd mae’r Eisteddfod Genedlaethol, a chyfle i fwynhau cyflwyniadau gan ein Theatr Genedlaethol o waith Samuel Beckett, i ddathlu canmlwyddiant ei eni eleni. Bydd pob sesiwn yn cynnwys perfformiadau o'r dramâu byrion iawn 'Dod a Mynd' a 'Sŵn Traed', wedi eu cyfieithu'n arbennig gan yr Athro Gwyn Thomas, a’r cast fydd Carwyn Jones, Valmai Jones, Lisabeth Miles, Jonathan Nefydd a Christine Pritchard dan gyfarwyddyd Cefin Roberts a Judith Roberts. Cofiwch hefyd am Sgript Cymru yn cyflwyno dwy ddrama ‘Mae Sera’n Wag’ gan Manon Steffan Ross a drama fer gan Mari Siôn o’r enw ‘Car Dy Gymydog’ a Chwmni Rhosys Cochion yn cyflwyno ‘Holl Liwie`r Enfys’ gan Catrin Edwards a Sharon Morgan.

Ond dwi am fynd â chi i Borthmadog ac i Sir Benfro yr wythnos hon, gyda dau gwmni a dwy ddrama dra wahanol! Cwmni Theatr y Torch o Sir Benfro yn ymweld â Bangor efo’u cynhyrchiad diweddara - ‘Dead Funny’ o waith Terry Johnson.

Roedd yna dipyn o heip wedi bod yn y wasg leol am y cynhyrchiad yma, gyda sawl rhybudd am ‘iaith gref’ a ‘noethni’. Mentro â meddwl agored felly, i weld pam y fath stŵr!

Fe gychwynnodd y cyfan yn eitha’ fflat, wrth inni gael ein cyflwyno i Eleanor (Rebecca Wingate) a Richard (Richard Nichols) - gŵr a gwraig oedd yn amlwg â phroblemau mawr yn eu priodas. Er bod yma rai llinellau doniol yma ac acw, digon digyffro a llonydd oedd eu cyflwyniad. Yn fuan ynghanol yr Act gynta’, dyma ddod i ddallt am y rhybudd, wrth i’r gŵr orfod diosg ei ddillad yn gyfan gwbl a’r wraig i geisio ‘ail-ddeffro’ eu bywyd rhywiol! Gydag ymddangosiad y cwpl arall sef Nick (Liam Tobin) a Lisa (Lynn Seymour) a’u cymydog hoyw Brian (Ken Oxtoby), yn ogystal â’r newyddion trist am farwolaeth sydyn y diddanwr Benny Hill, daw hi’n amlwg bod y cymeriadau i gyd (heblaw’r wraig) yn ffans mawr o fyd comedi. Wrth alaru a hel atgofion am Benny Hill, daw hi’n amlwg hefyd pam nad oes gan y gŵr ddiddordeb yn ei wraig!

Er cystal oedd set chwaethus Sean Crowley, a pherfformiadau Richard Nichols a Ken Oxtoby, digon siomedig a llonydd oedd y ffars. Os am fynd i weld y sioe (am resymau celfyddydol wrth gwrs!) mae’r cwmni yn ymweld ag Aberhonddu, Caerdydd ac Aberdaugleddau tan Orffennaf 29ain.

Ymlaen wedyn i Borthmadog i ddal y sioe gymunedol Pasiant Port gyda dros 170 o blant ac oedolion yn mynd â ni nôl i gyfnod yr Ail-Ryfel Byd i gyflwyno ‘Lle Bu’r Blacowt’.

Fel un sydd wedi cyfarwyddo sawl drama gerdd debyg yn ardal Pwllheli, mi wn yn iawn am y gwaith caled o gael pawb ynghyd, a llwyfannu cynhyrchiad o’r maint yma. Er cystal oedd cyflwyniadau Ysgolion Eifionydd, Eifion Wyn, Y Gorlan a Borth y Gest, ro’n i yn teimlo fod yna sawl cyfle wedi’i golli i greu mwy o ddrama a chomedi efo’r cast, yn enwedig gyda chriw’r ‘Hôm-Gârd’ a’r gwragedd efo’u llyfrau Rasions.

Serch hynny, cafwyd noson gofiadwy o ganu ac roedd mwynhad y cast yn cynnal y sioe.

Trist iawn oedd clywed am farwolaeth sydyn yr organyddes Mair Jones Robinson, oriau yn unig wedi’r perfformiad. Cydymdeimlaf yn llwyr â chwi oll.

Friday 7 July 2006

'Whistle Down the Wind'


Y Cymro - 7/7/06

Dwi am gychwyn y golofn yr wythnos hon drwy fynd â chi nôl i 1999, a rhannu atgofion am un penwythnos hir delfrydol a dreuliais yn Llundain! Pedair noson a pum sioe lwyfan! Nefoedd i mi, uffern i eraill!

‘Beauty and the Beast’ oedd y sioe gyntaf ar y rhestr, a chael fy nghyfareddu gan ddewiniaeth Disney; ymlaen at ‘Spend, Spend, Spend’ a hanes Viv Nicholson yn gwario ei henillion i gyd, a’r Gymraes Barbara Dickson yn y brif ran; cael fy syrffedu wedyn gan ‘The Phantom of the Opera’, a hynny’n bennaf oherwydd blinder yr actorion wedi dwy sioe ar y dydd Sadwrn, a dim sbarc na sglein ar y cynhyrchiad. Gorffwys tros y Sul, yna rhyfeddu at bresenoldeb llwyfan Maggie Smith yn nrama Alan Bennett - ‘The Lady in the Van’. A gorffen fy nghyfnod efo matinee yn Theatr yr Aldwych - yng nghornel mwya’ gorllewinol y West End, a chynhyrchiad y gwyddwn i ddim amdano - ‘Whistle Down the Wind’ o waith Jim Steinman a’r meistr ei hun, Andrew Lloyd Webber. Wyddwn i ddim chwaith, wrth gamu mewn i’r theatr, mai’r cynhyrchiad yma fyddai’n aros yn y cof fwya.

Mae’n stori syml ond hynod o drawiadol, ac wedi’i gosod yn nhref Louisiana ychydig wythnosau cyn Nadolig 1959. Hanes criw o blant sy’n dod ar draws dieithryn yn cuddio yn y llofft gwair. Mae’r dieithryn yn cael ei ddeffro’n ddamweiniol, a thrwy’i ddychryn yn ebychu’r enw ‘Iesu Grist’. A nhwtha wedi’u trwytho gan grefydd, a’r neges wythnosol bod y Meseia am ddychwelyd rhyw ddydd, mae’r plant yn cymryd yn ganiataol bod yr Iesu wedi’i dod i lochesu ar y ffarm. Ond yn fuan iawn, daw hi’n amlwg mai carcharor sydd wedi ffoi o’r carchar lleol yw’r dieithryn, a bod y plant mewn perygl. Mawredd y stori yw’r cyfeillgarwch sy’n datblygu rhwng y plant a’r dieithryn, a’r modd mae’r carcharor yn dysgu llawer am fywyd o ddiniweidrwydd y plant.

Falle bod y stori a’r teitl yn gyfarwydd i lawer oherwydd y ffilm a wnaethpwyd ym 1961 gyda Hayley Mills ac Alan Bates yn y prif rannau. Mae’n stori sy’n apelio at bob cenhedlaeth, a pha ryfedd felly bod y cyfarwyddwr Bill Kenwright yn awyddus i lwyfannu fersiwn newydd o stori afaelgar Mary Hayley Bell, (mam Hayley Mills gyda llaw) ddeng mlynedd ers y fersiwn weles i. Mae’r sioe hefyd yn deyrnged iddi, yn dilyn ei marwolaeth yn 91oed ym mis Rhagfyr 2005, gwta wyth mis ar ôl colli’i gŵr Syr John Mills yn 97 oed.

Er cystal ydi’r cynhyrchiad cynnil yma yn Theatr y Palace, roedd yn well gen i fawredd a chynnwrf y cynhyrchiad gwreiddiol. Yr hyn sy’n gwneud cynhyrchiad Kenwright yn wahanol ydi’r ffaith ei fod o wedi canolbwyntio llawer mwy ar y ddrama, a’r angerdd rhwng y ferch fach ‘Swallow’ (Claire Marlowe) a’r dieithryn (Chris Holland yn y perfformiad welis i gan fod y seren Tim Rogers yn absennol). Roedd y golygfeydd tua diwedd y sioe, ble mae’r ddau yn ffarwelio â’i gilydd i gyfeiliant cerddoriaeth hudolus Lloyd Webber yn drawiadol iawn. Mae’r ffaith bod sawl cân wedi dod â llwyddiant i grwpiau fel Westlife a chantorion fel Michael Ball yn y siartiau Prydeinig, hefyd yn cadarnhau apêl eang y sioe.

Yr wythnos nesa, yn ôl at lwyfannau Cymru yn ‘obeithiol iawn am haf o gynyrchiadau cyffrous…