Total Pageviews

Friday 17 September 2010

'Into the Woods'






Y Cymro – 17/09/10

Stephen Sondheim, enw (er mwya’r cywilydd imi) na wyddwn i ddim amdano tan tua 2005! Y penna reswm am hynny oedd y ffaith bod Daniel Evans yn portreadu’r brif ran yn ei ddrama gerdd ‘Sunday in the Park with George’ yma yn Llundain, gan ennill Gwobr Olivier am ei berfformiad, cyn teithio gyda’r sioe i Broadway yn ddiweddarach. Ei gyd-actor, a chyd enillydd y Wobr Olivier y flwyddyn honno oedd yr amryddawn, hyfryd Jenna Russell, sydd newydd gwblhau cyfnod mewn drama gerdd arall o eiddo Sondheim, ‘Into the Woods’ yn theatr awyr-agored Regent’s Park.

Byth ers gweld y sioe cynta’ honno, aeth na iâs oer i lawr fy nghefn bob tro y clywai gerddoriaeth yr athrylith, sy’n dathlu ei ben-blwydd yn 80oed eleni. Nid yn unig yng nghreadigrwydd y defnydd o nodau ac amseriad cerddorol, fel y crosietau stacato yn ‘Sunday in the Park’ sy’n adlewyrchu arddull peintio dotiau Georges Seurat, ond hefyd yn y melodïau bythgofiadwy a’r harmonïau fel sydd i’w gael yn un o’i Glasuron arall, ‘Sweeney Todd’. Y wefr, a’r hunan adnabyddiaeth wedyn yn y sioe ‘Company’, yr angerdd yn ‘Passion’ (fydd yn dod i’r Donmar yn yr Hydref) neu’r hiwmor hyfryd yn ‘Into the Woods’.

Mae’r syniad tu ôl i’r ddrama gerdd ‘Into the Woods’ yn gampwaith ynddo’i hun, a’r ‘Llyfr’ neu’r stori o waith James Lapine, sydd wedi cyd-weithio llawer â Sondheim, wedi’i ysbrydoli o waith Bruno Bettelheim. Dychmygwch ddod â bron i bob cymeriad ffuglennol o Fyd straeon lliwgar y Brodyr Grimm at ei gilydd, a’u dilyn, wrth i’r straeon eu harwain i ganol y goedwig. O’r ‘Little Red Riding Hood’ i ‘Rapunzel’, o ‘Cinderella’ i ‘Jack and the Beanstalk’.

Y Llefarydd sy’n agor y stori, ac yn y cynhyrchiad yn Regent’s Park, llanc ysgol (Joshua Swinney) sy’n amlwg wedi ffoi o’i gartref i’r goedwig, sy’n ein cyflwyno i’r cymeriadau lliwgar; o’r ‘Cinderella’ (Helen Dallimore) sy’n dyheu am gael mynychu Gŵyl y Brenin (Michael Xavier), ‘Jack’ (Ben Stott) sy’n dyheu am gael llaeth o’i fuwch glaer wyn, i’r ‘Pobydd’ (Mark Hadfield) a’i wraig (Jenna Russell) sy’n dyheu am blentyn a’r ‘Little Red Ridinghood’ llond ei chroen (Beverly Rudd) sy’n dyheu am fwyd gan y pobydd i’w nain, ond sy’n bwyta’r cyfan cyn cyrraedd y coed!

Beth sy’n hyfryd am y gwaith, a’r cynhyrchiad yma’n enwedig, ydi’r elfen tafod-yn-y-boch sydd mor amlwg drwy’r cyfan. Mae hi mor amlwg o nodau gynta’r gerddoriaeth fod y cwmni cyfan wrth eu bodd efo’r gwaith, ac yn mwynhau bob eiliad o bortreadu’r straeon lliwgar. Mae’r sioe’n llifo’n llawen drwy’r Act Gyntaf, yn llawn lliw ac hiwmor, a set odidog, aml lefel, goediog Soutra Gilmour yn gweddu’n berffaith i’r deunydd, o nyth uchel ‘Rapunzel’ (Alice Fearn) a’i gwallt golau ddiddiwedd, i’r ‘Cawr’ dychrynllyd (llais Judi Dench) sy’n ymddangos dros erchwyn y cyfan. Felly hefyd gyda’r gwisgoedd, sy’n gyfuniad perffaith o’r deniadol a’r dychmygol, ac sy’n drewi o arian mawr!

Siom oedd yr ail act, sy’n gamgymeriad mawr yn fy marn i. Wedi diweddu’r act gyntaf yn daclus, gan ddod â diwedd hapus i bob stori, gan sicrhau’r ‘happy ever after’ angenrheidiol, mae’r ail act yn fwy garw ac onest, gan ofyn pa mor hapus ydi pawb mewn gwirionedd?. Efallai mai bai’r cynhyrchiad a’r problemau sain ofnadwy a gafodd y cwmni'r prynhawn y gwelais y sioe oedd rhan o fy siom, ac eto, fe deimlais nad oedd y gerddoriaeth mor sionc a chofiadwy a’r act gyntaf, heb sôn am lyfnder y stori, a’r hiwmor.

Wedi dweud hynny, fyddwn i wedi ail-ymweld â’r act gyntaf sawl gwaith, a mawr hyderaf y bydd y cynhyrchiad yn cael cartref o dan do yn y West End, yn fuan iawn.

Yn anffodus, mae’r tymor o ddramâu awyragored yn Regent Park wedi dod i ben y penwythnos diwethaf. Os am flas o’r cynnyrch, ymwelwch â www.openairtheatre.org

No comments: