Total Pageviews

Friday 28 December 2007

'Nutcracker!'

Y Cymro – 28/12/07

Doeddwn i erioed wedi gweld un o gynhyrchiadau Matthew Bourne, er bod ei enw yn gyfarwydd iawn yn sgil ei addasiadau o ‘Swan Lake’ i ddynion (a gafodd sylw mawr yn sgil y ffilm ‘Billy Elliot’) a’i fersiwn anarferol o ‘Carmen’ dan ei theitl newydd ‘The Car Man’. Y ddau gynhyrchiad fel ei gilydd yn torri tir newydd ym myd y Bale, weithiau’n ddadleuol, ond heb os yn adloniannol. Pan glywais y bwriad i ail-gyflwyno ei addasiad o bale enwog Tchaikovsky, ‘Nutcracker!’, allwn i ddim peidio derbyn y gwahoddiad. Bu i Bourne goreograffu a chyfarwyddo’r addasiad yma’n wreiddiol ar gyfer tymor y Nadolig yn Sadler’s Wells yn 2002, cyn mynd ar daith i’r UDA. Bum mlynedd yn ddiweddarach, dyma finna’n mentro i Sadler’s Wells am y tro cyntaf, a chael y lle yn llawn o blant!

Does 'na’m byd yrrith fwy o iâs i lawr fy nghefn na chlywed cerddorfa yn tiwnio a thwymo cyn y sioe; mae 'na gynnwrf yn y disgwyl, a mwy fyth o wybod am gyfoeth swynol alawon adnabyddus Tchaikovsky. Wrth i’r llen du godi, a’r geiriau ‘Nutcracker!’ ddiflannu, cefais fy nennu i fyd hudolus Bourne a’n nghyflwyno i gartref plant amddifad llwm o gyfnod Fictorianaidd. Di-liw oedd byd y plant ar drothwy’r Nadolig, a pherchnogion y cartref ‘Dr Dross’ (Scott Ambler) a’i Fetron o wraig (Etta Murfitt) yn trin y plant yn frwnt. Yn eu mysg, mae’r ferch fach ‘Clara’ (Kerry Biggin) sy’n cael ei cham-drin gan blant teulu’r Dross ‘Sugar’ (Michela Meazza) a ‘Fritz’ (Drew McOnie). Ond buan iawn y daw tro ar fyd wrth iddi dderbyn anrheg Nadolig sef milwr o ‘Nutcracker’ (Alan Vincent) sy’n dod yn fyw liw nos, ac yn denu ‘Carla’ i fyd lliwgar o felysion. Ar ddiwedd yr Act Gyntaf, wrth i’r eira ddisgyn, wrth i’r cartref llwm ddiflannu, wrth i’r plant ddawnsio ar yr Iâ, a ‘Carla’ i blymio ar y glustog enfawr yng nghefn y llwyfan, allwn i’m disgwyl am yr Ail Act! Ac am wledd o Ail-ran. Wrth i’r ‘Nutcracker’ hudo ‘Carla’ i ganol y lliw a’r llawenydd, fe gawn ninnau ein cyflwyno i’r melysion amrywiol - o’r hymbyg o heddwas (Adam Galbraith), y lodesi Liquorice Allsorts (Pia Driver, Dominic North, Irad Timberlake), y Gobstoppers gwrywaidd (Simon Karaiskos, Luke Murphy, Matthew Williams) a’r merched Marshmallow (Lucy Alderman, Carrie Johnson, Gemma Payne, Maryam Pourian, Chloe Wilkinson). Roeddwn i yn fy elfen, a blas mwy ar y cyfan. Wrth i 13 actor ymddangos ar y gacen enfawr ddiwedd y sioe, roeddwn i’n gegrwth, a’r cyfan yn wledd i’r glust, y llygaid a’r enaid.

Allwn i’m llai na rhyfeddu hefyd at allu Bourne wnaeth imi ddechrau amau beth ddaeth gyntaf - y gerddoriaeth ta’r coreograffu! Roedd y cyfan wedi’i gynllunio mor fanwl, a’r symudiadau yn cyd-fynd â bod curiad o’r gerddoriaeth. Dro ar ôl tro, anghofiais mai dawns oedd yma, gan fod y cyfan mor theatrig ac yn llawn drama. Pantomeim o fale ar drothwy’r Nadolig! Be sy’n well!

Wedi 115 o flynyddoedd, parhau i’n tywys i fyd hudolus wna cerddoriaeth Tchaikovsky, sy’n llawn hud a lledrith. “Fyddai’n ceisio dehongli’r gerddoriaeth yn hytrach na dim ond cyfri’r curiadau” ddywedodd Bourne yn y rhaglen, a does na’m dwywaith ei fod wedi llwyddo i greu byd o ffantasi, ac roedd perfformiadau bob aelod o’r cast yn werth ei weld.

Mae’r cynhyrchiad i’w weld yn Sadler’s Wells tan Ionawr 20fed, ond newyddion da i Gymru, bydd y sioe yn ymweld â Chanolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd rhwng y 15fed a’r 19eg o Ebrill y flwyddyn nesaf. Mynnwch eich tocynnau nawr ddweda i. Mwy o wybodaeth ar www.matthewbournesnutcracker.com neu www.wmc.org.uk

Blwyddyn Newydd Dda!

No comments: