Total Pageviews

Friday 10 September 2010

Les Miserables





Y Cymro – 10/09/10

Mi fydd na ddathlu mawr, a chreu hanes yn Llundain ar benwythnos yr 2il a’r 3ydd o Hydref, wrth i ddau gynhyrchiad o’r sioe hudolus, Les Miserables gael ei berfformio ochor yn ochor a’i gilydd yn yr un ddinas. Nid yn unig yn ei chartref arferol yn Theatr Queen’s, ond hefyd yn ei man genedigol bum mlynedd ar hugain yn ôl, yn y Barbican. A phetai hynny ddim yn ddigon, i ddathlu’r pen-blwydd arbennig, bydd y ddau gwmni uchod, yn ymuno â chwmni unigryw o hen wynebau cyfarwydd ar gyfer Cyngerdd Dathlu godidog yn yr O2 ar y dydd Sul.

Ynghanol y dathlu, a bellach ar ei ail flwyddyn yn rhan o’r cwmni presennol yn y Queen’s mae’r actor dawnus Dylan Williams o Fangor, fydd hefyd yn rhan o’r cyngerdd arbennig yn yr O2.

Mae Les Mis wedi’i weld gan dros 56 miliwn o bobl ar draws y byd, mewn 21 iaith, gan gynnwys y Gymraeg yn Eisteddfod yr Urdd yn 2005. Heb os, y stori gref, emosiynol a dirdynnol sy’n cydio, am y werin yn cwffio yn erbyn eu trallod, er mwyn ennill y dydd.

Rhan o arlwy Cwmni’r Royal Shakespeare oedd y cynhyrchiad gwreiddiol nôl ym 1985, a hynny dan gyfarwyddyd Trevor Nunn a John Caird, a’r set nodedig o waith yr arch gynllunydd John Napier. Ymysg yr actorion roedd Alun Armstrong, Roger Allam, Ken Caswell a Michael Ball. Roedd yna gryn ansicrwydd am ddyfodol y sioe yn y dyddiau cynnar, gyda rhai yn casáu’r ffaith ei bod hi mor llwm a digalon, heb sôn am fod dros dair awr o hyd! Ond rywsut, fe gydiodd stori dwymgalon Victor Hugo a cherddoriaeth byth ganadwy Claude-Michel Schönberg yn nychymyg y cyhoedd, ac sydd wedi sicrhau mai hon bellach yw’r sioe sydd wedi rhedeg hiraf yn y byd. Mae hi hefyd wedi sicrhau bywyd cyffyrddus iawn i’r RSC dros y 25 mlynedd diwethaf!

Mae’r stori’n cwmpasu cyfnod o ddeunaw mlynedd, gan gychwyn mewn carchar yn Toulon, Ffrainc ym 1815 lle mae ‘Jean Valjean’ wedi treulio cyfnod o ddeunaw mlynedd o garchar, ac sydd bellach am gael ei ryddhau ar fechnïaeth gan yr heddwas ‘Javert’. Mae’n cael cynnig llety gan ‘Esgob Digne’ ac er iddo geisio dwyn ei lestri arian, mae’n derbyn maddeuant gan yr Esgob, sy’n dweud celwydd wrth yr heddlu. Wedi derbyn cyngor gan yr Esgob i dorri’r fechnïaeth, mae’n dianc. Wyth mlynedd yn ddiweddarach, ac mae gan ‘Jean Valjean’ fywyd newydd o dan yr enw ‘Monsieur Madeleine’ , nid yn unig yn berchennog ffactri gyfoethog, ond hefyd yn faer dros Montreuil-sur-Mer. Er gwaethaf ei holl ymdrechion, tydi ‘Javert’ ddim yn bell ar ei ôl, a buan y daw’r heddwas i wybod pwy yn union yw’r gŵr cefnog sy’n rhoi cymorth i lawer ar ei lwybr. Wedi helpu’r ferch ifanc ‘Fantine’ (sy’n cael canu’r gân hyfryd ‘I dreamed a dream’ wrth ddyheu am fywyd gwell) a’i merch ‘Cosette’, mae’r stori’n neidio naw mlynedd arall i Paris ble mae’r chwyldro ar gychwyn, a’r myfyrwyr yn ysu am gael newid y drefn, ac unioni cam y werin.

Un o’r myfyrwyr hynny yw ‘Joly’ sef cymeriad Dylan yn y sioe, ac roedd ei berfformiad mor gadarn a chofiadwy â gweddill y cwmni. Dwi’n cofio gweld Dylan yng nghynhyrchiad Clwyd Theatr Cymru o’r sioe ‘Oh what a lovely war’ flynyddoedd maith yn ôl, ac mi wyddwn yn iawn bryd hynny fod dyfodol disglair o’i flaen. Mae bod yn rhan o’r sioe Les Mis yn farathon i unrhyw actor, gan fod cymaint i’w wneud arwahan i’r canu. Mae’r ffaith fod y cynhyrchiad gwreiddiol yn cael ei lwyfannu ar lwyfan tro, yn her ynddo’i hun, a’r cwmni cyfan yn gorfod ymdopi gyda’r troi cyson, rhag mynd yn chwil!

Bu Les Mis yn gartref i nifer o Gymry nodedig eraill hefyd dros y blynyddoedd, nid yn unig yr unigryw Stifyn Parri, a fu’n un o’r rhannau blaenllaw am flynyddoedd, ond hefyd John Owen-Jones, Peter Karrie, Ria Jones, Gareth Nash a Michael Ball. Yn 2002, y tro cyntaf imi weld y sioe, pleser oedd gweld Llio Millward yn y cwmni, a hynny fel ‘Fantine’.

Gogoniant Les Mis yw’r stori, sy’n cydio’n dynn wrth y galon, ac sydd wedyn yn cael ei anwesu gan y gerddoriaeth nes bod pob emosiwn yn cael ei gyffwrdd. Y mae, ac y bydd, ymysg fy hoff sioeau cerdd, a’r Cymry yn eu canol yn rhoi mwy o falchder a mwynhad imi.

Mae Dylan Williams i’w weld yn nos weithiol yn Theatr y Queen’s, Shaftesbury Avenue, a hefyd yn y Cyngerdd Dathlu yn yr O2, ar y 3ydd o Hydref. Bydd y cwmni teithiol yn ymweld â’r Barbican am 22 perfformiad yn unig rhwng 14eg o Fedi a’r 2il o Hydref. Mwy o fanylion drwy ymweld a www.LesMis.com

No comments: