Total Pageviews

Friday 28 November 2008

'Imagine This'




Y Cymro 28/11/08

Mae’n gynhyrfus iawn yn Llundain ar hyn o bryd gyda sawl cynhyrchiad newydd o ddramâu cerdd yn agor dros yr wythnosau nesaf. O’r hen ffefrynnau fel ‘Oliver’ yn Theatr y Drury Lane ac ‘A Little Night Music’ gyda Maureen Lipman yn y Mernier Chocolate Factory, i’r newydd ddyfodiad ‘Imagine This’ yn theatr y New London.

Roedd hi’n anodd dychmygu sut fath o sioe oedd hon am fod, wrth imi ymuno â gweddill yr adolygwyr yn noson y Wasg yr wythnos diwethaf. Roeddwn i braidd yn bryderus am sawl rheswm. Y cyntaf, a’r un mwyaf, oedd y ffaith bod y ddrama gerdd wedi’i gosod yng nghyfnod yr Holocaust. Mae 'na ffrae eisoes yn corddi ymysg y theatr-garwyr am yr ormodiaeth o gynyrchiadau a ffilmiau sydd wedi’i lleoli yn y cyfnod tywyll yma, a’r cynulleidfaoedd yn dechrau laru ar yr un hen straeon am ddioddefaint yr Iddewon wrth iddynt geisio ffoi rhag trais yr Almaenwyr. Gormod o bwdin efallai...? Yr ail beth â’m poenodd oedd y ffaith bod y cyfansoddwyr a’r criw cynhyrchu yn eitha dibrofiad, a bod y noddwyr (yr Iddewon o America) wedi buddsoddi miloedd ar filoedd o bunnau yn y gwaith.

Mae’r ‘stori’ wedi’i leoli mewn hen orsaf drenau oddi fewn i’r Warsaw Ghetto dros fisoedd y Gaeaf 1942. Roedd set chwaethus Eugene Lee yn cyfleu hynny i’r dim, a’i lwyfan tro wedi’i amgylchynu gan y muriau llwm a’r ffenestri budur, toredig. Fe gychwynnir yr antur drwy ddathlu ‘dydd ola’r haf’ ar gân o’r un enw wrth i’r cwmni ail fyw moethusrwydd, hwyl a chyfoeth Warsaw rhwng 1939 a 1942, cyn cael eu casglu ynghyd i’r Ghetto gan yr Almaenwyr. Ynghanol y miri, cawn ein cyflwyno i’r prif gymeriad, y patriarch ‘Daniel Warshowsky’ (Peter Polycarpou) a’i deulu, sy’n penderfynu parhau i ddiddanu eu cyd Iddewon drwy gyflwyno dramâu oddi mewn i’r Ghetto.

O fewn 20 munud o gychwyn y sioe, ryda ni ynghanol y ddrama a gyflwynir gan y cwmni o Iddewon, a dyma sy’n cynnal bron i 70% o’r cynhyrchiad. Does 'na’m dwywaith fod y ddrama o fewn y ddrama yn hynod o berthnasol wrth adrodd hanes trasiedi ‘Masada’ a ddigwyddodd yn 70 OC pan ddewisodd grŵp bychan o eithafwyr Iddewig i gyflawni hunanladdiad yn Masada yn hytrach na wynebu’r Rhufeiniaid.

Wedi 60 munud o’r sioe, roeddwn i wedi laru’n llwyr, ac wedi colli pob owns o ddiddordeb yn y stori a’r cymeriadau. Y prif reswm am hynny, heb os, oedd y ffaith nad oeddwn i wedi cael amser i ddod i adnabod yr actorion - y cymeriadau yn y Ghetto, cyn cael ein sodro oddi mewn i stori arall. Doedd na ddim gwahaniaeth o ran y gerddoriaeth, y goleuo na’r llwyfannu i wrthgyferbynnu stori ‘Masada’ oddi wrth y brif stori, ac roedd y safon Broadwêaidd i’r sioe yn y Ghetto, eto’n anghredadwy o dan yr amodau llwm a geisiwyd ei gyfleu ar y cychwyn.

Wedi cyrraedd yr egwyl, roeddwn i’n falch ein bod ni yn ôl ym 1942, wrth i’r Almaenwyr gyhoeddi bydd y trenau yn cyrraedd drannoeth i gludo’r Iddewon i Wersyll Treblinka, gan eu hudo i ddal y trên drwy gynnig torth o fara a jam, a’r addewid am fywyd gwell. Ond trwy weledigaeth aelod o’r Fyddin Gudd, ‘Max’ (Sevan Stephan) mae’n perswadio’r teulu fod yn rhai rhybuddio gweddill yr Iddewon i beidio derbyn y cynnig, ac i beidio dal y tren. O’r diwedd, meddyliais, dyma chydig o ddrama a thensiwn, wrth ddychmygu’r gwrthryfel enwog a ddigwyddodd yn y Ghetto. Ond, siom arall oedd yr ail-ran, wrth inni gael ein sodro yn ôl yn ‘Masada’ hyd syrffed.

Er bod yr Ail Ran yn gryfach ac yn fwy emosiynol na’r gyntaf, dal i wingo wnes i mewn ambell i gân fel ‘The Last Laugh’ ble mae’r tad yn camu allan o’r olygfa emosiynol sydd wedi’i rewi o’i gwmpas, i ganu cân ddoniol, cwbl amhriodol. O diar. Allwn i’m dychmygu dim byd gwaeth...

Os am fentro i weld y sioe, ewch yn fuan. Allai chwaith ddim dychmygu, y gwelith y sioe ŵyl y Purim ddechrau’r flwyddyn...

Mwy o fanylion ar www.imaginethisthemusical.com

Friday 14 November 2008

'Othello'



Y Cymro 14/11/08

O dderbyn fy addysg yn Nyffryn Conwy, prin iawn oedd y cyfle i astudio gwaith yr arch-ddramodydd, Shakespeare. A minnau bellach ar lannau’r Tafwys, dwi’n dod i weld pwysigrwydd y gŵr hynod hwn yn ddyddiol, ac yn cenfigennu weithiau at ddawn eraill i raffu dyfyniadau o’i waith ac i wybod dyfnder ei straeon amrywiol.

Os daw’r cyfle i weld un o weithiau’r Meistr, fyddai’n ceisio’n ngore i fynd, petai ond i ddysgu mwy amdano, ac i ymgynefino gyda’i destun barddonol hudolus.

Does ‘na’m amheuaeth bod gwaith y bardd yn anodd ei ddeall erbyn hyn, a’r dasg o eistedd drwy ddrama hirfaith, gymhleth a’i iaith estron yn ddigon i ddychryn rhai o’r theatr am byth! Dyna pam y bu imi ddewis mynd i weld cynhyrchiad cwmni Frantic Assembly o ‘Othello’ yn Theatr y Lyric, Hammersmith.

Yr hyn â’m swynodd am y cynhyrchiad oedd yr ogwydd gyfoes, ffres, deinamig a dramatig a roddwyd i’r hen destun. Trawblanwyd y stori o’r Fenis a Chiprys gwreiddiol i dafarn ar stad o dai yn Swydd Efrog. Roedd y cymeriadau i gyd yn ‘chavs’ neu’n ‘hoodies’ (a defnyddio’r disgrifiadau cyfoes cyfredol!) a’r digwydd yn cylchdroi o gwmpas y bwrdd pŵl.

Drwy’r cyflwyniad cerddorol llawn drama a dawns, cawsom ein cyflwyno i’r ‘Iago’ twyllodrus (Charles Aitken), a’r ‘Othello’ croen tywyll (Jimmy Akingbola) wrth iddo gyflwyno’r hances yn rhodd i’w ddarpar gariad, ‘Desdemona’ (Claire-Louise Cordwell). Yr hances hwn sy’n achosi’r gwrthdaro yn hwyrach yn y ddrama, wrth i ‘Iago’ honni fod ‘Desdemona’ yn anffyddlon i’w chymar, ac sy’n arwain at y drasiedi.

Mae’r cwmni’n cyfaddef bod nhw wedi gorfod newid y stori yma ac acw, er mwyn ychwanegu at y tensiwn, ac mae’r cyfan yn llifo fel pennod o ddrama gyfres neu opera sebon, wrth i’r cymeriadau herio’i gilydd o gwmpas y bwrdd pŵl. Er yr elfen gyfoes, roedd y dialog fwy neu lai, o’r testun gwreiddiol, gydag ambell i reg neu ebychiad er mwyn daearu’r cyfan, ac o bosib i ennyn chwerthiniad o enau’r gynulleidfa.

Ond un o’r pethau â’m plesiodd fwyaf am y cynhyrchiad oedd set Laura Hopkins, oedd ar yr olwg gyntaf, yn dafarn gyffredin gyda’i garped budur, ei beiriant gamblo ‘fruit machine’, ei fwrdd pŵl a’i gorneli o gadeiriau lledr. Ond wrth i’r stori ehangu a chyflymu, agor hefyd wnaeth y set, a buan iawn y sylweddolais fod y waliau’n rhychiog, ac yn medru troi’n gylch neu agor yn gyfan gwbl yn ôl galw’r olygfa. Golyga hyn fod y set mor ystwyth â’r actorion neu’r dawnswyr, ac i gyfeiliant trac sain bwrpasol a thrawiadol gan y grŵp Hybrid, roedd coreograffu Scott Graham a Steven Hoggett yn gofiadwy iawn.

Er bod y cynhyrchiad yn awr a hanner can munud o hyd heb egwyl, cefais fy nhynnu i mewn yn llwyr i’r stori drasig a llawn drama, a dwi’n siŵr y byddai’r Meistr ei hun wrth ei fodd o weld cynifer o’r gynulleidfa wedi’i swyno gan yr hyn a gyflwynwyd ar y llwyfan.

Difyr oedd dysgu bod Scott a Steven, ynghyd â’r grŵp Hybrid, yn gyn-fyfyrwyr o Brifysgol Abertawe! Gwych iawn. Tybed a fyddent yn barod i roi gwedd newydd ar rhai o’r Clasuron Cymreig...?

Mwy o fanylion am ‘Othello’ drwy ymweld â www.franticassembly.co.uk

Friday 7 November 2008

Theatr Genedlaethol Cymru 2009


Y Cymro 07/11/08

Yn dilyn gweld cynhyrchiad Cefin Roberts o ddrama newydd Aled Jones Williams, ‘Iesu’, derbyniodd y Theatr Genedlaethol y ganmoliaeth briodol. Canmoliaeth barodd imi edrych ymlaen yn eiddgar ar gyfer eu harlwy yn 2009. Wedi pori ar y Wê, a chanfod y dudalen briodol ar wefan y Cwmni, dyma weld y cyhoeddiad am ‘gynhyrchiadau’r dyfodol’.

‘11 Chwefror - 14 Mawrth : ‘BOBI A SAMI ...a dynion eraill’. Cynhyrchiad wedi ei gyflwyno yn y dull lletraws, o ddrama fer enwog y diweddar Wil Sam, ynghyd â chyflwyniad o ddwy o ddramâu byrion, di-eiriau, Beckett. Taith o ganolfannau theatr llai led led Cymru’.

Y ‘dull lletraws’, hyd y deallaf i, ydi’r cynllun ‘traverse’, ble mae’r digwydd dramatig yn cael ei lwyfannu ynghanol y theatr, a’r gynulleidfa wedi’u gosod o boptu’r llwyfan. Dim byd newydd, na heriol am hynny bellach, ac i’r rhai a welodd ‘Blodeuwedd’ gan Gwmni Cymunedol Troed-y-Rhiw yn ddiweddar, dyma’n union wnaethon nhw.

‘Bobi a Sami’ a Beckett... eto, chwarae’n saff (yn nhraddodiad y cwmni bellach) heb fawr o ddychymyg na dewrder. Dwi’n cofio beirniadu cynhyrchiad Ysgol Glanaethwy o ‘Bobi a Sami’ ychydig flynyddoedd yn ôl, yng Ngŵyl Ddrama Eisteddfod yr Urdd, a Cefin ei hun yn cyfarwyddo. Roedd y cynhyrchiad yn llwyddiannus o be gofiai, gan sicrhau’r Wobr gyntaf i’r cwmni yn y gystadleuaeth. A mwy o ‘Beckett’, eto fel y cafwyd yn nyddiau cynnar y cwmni, ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol. Syrffedus oedd y cyflwyniad hwnnw, o be’ gofiai.

Yn bersonol, dewis siomedig a mentrai ddweud diog wrth agor arlwy 2009?. Ydi cyflwyniadau o ddramâu byr yn cyfiawnhau un o’r tri ‘prif gynhyrchiad’ a’r ffasiwn nawdd?. Peidiwch â cham-ddallt i, nid honni na ddylid cyflwyno gwaith Wil Sam na Beckett ydw’i, ond oni ddylai cynhyrchiadau llai fel yma fod yn rhan o waith estynedig ‘arbrofol’ y cwmni, tu allan i ffrâm y ‘prif gynhyrchiadau’?. Gweithiau byr mewn canolfannau llai dylai fod yn faes arbrofol i actorion, technegwyr a chyfarwyddwyr newydd.

Ymlaen wedyn at ganol y flwyddyn, a chynhyrchiad i’r merched y tro hwn : ‘13 Mai - 20 Mehefin : TY BERNADA ALBA. Cyfieithiad newydd gan Mererid Hopwood o ddrama yn y Sbaeneg gan Federico Garcia Lorca. Drama yn llawn tyndra rhywiol fydd yn teithio i brif theatrau Cymru.’

Unwaith eto, drama ‘glasurol’ o dramor... fel y Moliere a gawson ni dro yn ôl. Dim owns o Gymreictod yn perthyn i’r gwreiddiol. Drama farddonol, dwi’n siŵr fydd yn ddigon swynol o enau barddonol profiadol Mererid Hopwood, ond siawns nad oes digonedd o ddramâu Cymreig neu Gymraeg yn llawer nes at adra?. Onid oes nofelau, neu ffilmiau, neu chwedlau o Gymru sy’n crefu am gael eu llwyfannu, neu eu hail-lwyfannu hyd yn oed? Dwi’n gofyn eto, lle mae’r degau o ddramâu arobryn o’r Eisteddfodau ar hyd y blynyddoedd? Wedi bron i bum mlynedd, siawns nad oes mwy o waith wedi’i ddatblygu, gomisiynu neu’i addasu?

Ac yna at yr Hydref, a diolch byth am ddrama wreiddiol gan Meic Povey, ‘TYNER YW'R LLEUAD HENO’.

Arlwy siomedig o saff eto, a rhaid i’r Bwrdd (a’i aelodau newydd) ysgwyddo rhan o’r bai. Heb fynd i dynnu blewyn o drwyn y Cefin garwyr, fentrai unwaith eto i ofyn y cwestiynau fydd yn sicr o ennyn ymateb chwyrn. Sut mae’r cwmni yn cyfiawnhau caniatáu i Arweinydd Artistig y cwmni Cenedlaethol i barhau i gyfrannu at gymaint o brosiectau allanol? O arwain Côr Ysgol Glanaethwy yn wythnosol ar gyfer y gyfres ‘Last Choir Standing’ i sgriptio a chreu’r gyfres ‘gomedi’ (echrydus o be weles i’r wythnos gyntaf) ‘Ista’n Bwl’ ar S4C? Faint o waith meithrin dramodwyr ac actorion sy’n digwydd mewn gwirionedd?. Oes yna wario ar feithrin talent, ta dim ond ar y ‘Llwyfan’ yng Nghaerfyrddin, neu’r ‘3 o gerbydau... wedi eu brandio a'n logo ac i'w gweld yn rheoliad ar hyd a lled y wlad’ ?! Yn bersonol, fyddai’n well gen i weld tri chynhyrchiad o ddramâu gwreiddiol na thri cherbyd moethus, costus...

Mae na Arlywydd newydd yn yr Amerig... oes na obaith am Arweinydd newydd ar y theatr yng Nghymru...?