Total Pageviews

Sunday 24 February 2002

'Mwnci Nel'


Golwg : MWNCI NEL

Peth sobor ‘di gweld dyn yn ei oed a’i amser yn gwisgo siwt mwnci! Ond os rhowch chi bâr o glustiau gwirion a chynffon i’r actor Dewi Rhys, a’i gloi mewn cell ar lwyfan yng nghlwb chwaraeon Pwllheli - dyma wledd o gomedi yn sioe glybiau diweddara Bara Caws - ‘Mwnci Nel’!

Yr un ‘di’r cynhwysion eto ‘lenni. O’r rhyw i’r rhegi, y rhych a’r rhechu (heb anghofio Arfon Wyn y pwsi wrth gwrs!). Ychwanegwch at hynny ‘chydig o jôcs am Robin Lewis, Parti Cymerau a’r anfarwol ‘Simone o’r Glyn’ a fedrwch chi’m methu cael cant o bobl o Ben Llŷn i chwerthin!

A sôn am chwerthin, mae’n braf gallu dweud y gwnewch chi chwerthin a hynny oherwydd cryfder y sgript a’r cymeriadu comig. Gwesty Cymru ‘di’r lleoliad, a hynny ar drothwy wythnos yr Eisteddfod. Mae petha’n edrych yn ddu iawn i Nel (Mair Tomos Ifans), perchennog y gwesty a’i meibion Maldwyn a Wil Mwnc (Dyfrig Evans), wrth i’r dyledion gynyddu a’r gwesty dawelu. Yr unig gysur ym mywyd Nel bellach yw’r mwnci - Mwnci Nel!. Ond daw dau ddieithryn yno, yn sgil ymweliad yr eisteddfod, a buan iawn y gwelir pethau’n mynd o ddrwg i waeth!. Frazer Caines yw Caleb y dysgwr sy’n fwy camp na Bytlins, a’i gymar cofiadwy Tracey o fferm Clitor Isa (Tammi Gwyn).

Yn aml yn y gorffennol, mae’r sioeau yma wedi dioddef o ddiffyg stori, gyda’r actorion yn or- ddibynnol ar y rhegfeydd a gwawdio’r gynulleidfa er mwyn codi gwên. Ond mae ‘Mwnci Nel’ yn llwyddo i godi uwchlaw hynny, ac mae digrifwch Derec Tomos i’w weld a’i glywed. Roedd hi hefyd yn braf i weld y cast yn aros yn eu cymeriad (ar y cyfan) heb orfod newid i bortreadu llu o gameos eraill - hyn eto yn brawf o lwyddiant y sgript.

Fedrwch chi’m peidio rhyfeddu at allu’r pum actor yma i gynnal marathon o sioe, a hynny dan gyfarwyddyd Tony Llewelyn. Canmoliaeth hefyd i’r tîm dygn o dechnegwyr sy’n hen lawia erbyn hyn ar greu slicrwydd a llyfnder lliwgar sy’n rhan annatod o sioeau Bara Caws. Ychwanegwch at hyn ganeuon gwreiddiol gan Dyfrig Evans, sawl peint o gwrw, mwy o jôcs am S4C, Radio Cymru a bananas a fyddwch chi’n chwerthin mewn dim!

Fydd hi ddim at ddant pawb yn sicr, ond mae’n werth mynd ddim ond i weld os oes sôn amdanoch chi yng Ngwesty Cymru! I’r rhai sy’n hen gyfarwydd â sioeau Bara Caws, chewch chi mo’ch siomi. I’r rhai sydd ddim, anghofiwch Sw Gaer - ewch a banana i fwnci Nel, a chewch chithau mo’ch siomi chwaith!!