Total Pageviews

Friday 30 September 2011

'Othello'




Y Cymro - 30/09/11

Mwy o Shakespeare oedd ar y fwydlen yr wythnos hon, a hynny gan y prif gogydd o Gymro, Daniel Evans, ar fwrdd crwn o lwyfan y Crucible, Sheffield. 'Othello' oedd y dewis blasus ger ein bron, a chynwysion cyfarwydd o'r gyfres deledu 'The Wire' , (ynghyd â dau actor o Gymru), sydd wedi sicrhau bod y tocynnau fel y Caviar gorau, yn brin iawn iawn.

Wedi methu mynychu noson y Wasg, a ddennodd yr enwau Mawr o Lundain a thu hwnt, cael a chael oedd hi i brynu yr unig docyn oedd ar ôl, yn rhes gefn, i dde'r llwyfan. Man na eisteddais o'r blaen, wedi fy amgylchynnu gan griw o bobol ifanc, eiddgar a direidus. Roedd y theatr yn orlawn, yn gymysg o bob oed; myfyrwyr yn astudio gwaith y bardd, selogion triw'r theatr ond canran go uchel, ddywedwn i o ffans y ddau enw mawr, Dominic West a Clarke Peters. Ill dau yng ngofal y ddau brif gymeriad, yn un o drasiediau enwocaf Shakespeare am onestrwydd.

Fyddai'n edrych ymlaen bob tro i weld y set yn Sheffield, gan fod y gofod yn grwn, ac felly'n dipyn o sialens i gynllunwyr, i arlwyo'r bwrdd o'n blaen. Cipiodd yr olygfa fy ngwynt y tro hwn o waith Morgan Large, a gyflwynodd inni fur creigiog a drysau o bren enfawr, a gynrychiolodd blastai a muriau dinas Fenis, ynghyd ag ynys heulog Cyprys. Crogwyd uwchben y cyfan, yn ôl y gofyn, lanteri o olau cannwyll, a chynheswyd y muriau moel a'r llawr mosaic gan oleuo cynnil Lucy Carter. Asiwyd y cyfan gan gyfeiliant y gwisgoedd o'r cyfnod, a'u lliwiau yn cwblhau'r wledd weledol.

Fe'n taflwyd i galon y ddrama gyda chyrhaeddiad carlamus y dihiryn o filwr 'Iago' (Dominic West) sy'n hysbysu'r llanc cefnog 'Roderigo' (Brodie Ross) am briodas ddirgel y ferch brydfertha yn Fenis, 'Desdemona' (Lily James) a'r milwr buddugoliaethus dewr a chroenddu 'Othello' (Clarke Peters). Cyhoeddiad sy'n deffro'i thad 'Brabantio' (Colin George) a sy'n cychwyn cadwyn o gelwyddau a chamdroi'r gwir o waith Iago, yn ei ymgais i ddial ar Othello, am ddewis 'Cassio' (Gwilym Lee) yn Raglaw iddo. Deffro hefyd wna gwylltineb Roderigo sy'n treiddio o'i ddymuniad yntau i hawlio calon y forwyn a sy'n arwain y cyfan at y drasiedi erchyll, ar wely o angau ar ddiwedd y dweud.

Er mod i'n croesawu'r carlamu, a gadwodd y ddrama i wibio ymlaen mor slic, collwyd ambell i air ac ystyr, ar gychwyn y ddrama. Chefais i ddim mo'n nal gan y stori a'r emosiwn tan ddiwedd yr act, a roddodd reswm pendant iawn i ddod yn ôl wedi'r egwyl. Canfyddiad Emilia (Alexandra Gilbreath) o'r hances enwog o eiddo Desdemona, sy'n ei roi i'w gŵr Iago, sy'n ei ddefnyddio fel y brif dystiolaeth o'i hanffyddloneb ffug â Cassio, yw'r sbardun sy'n tanio'r gwir ddrama. Roedd perfformiad graenus Gilbreath yn gadarn ac yn gwbl drydannol, pob gair yn glir fel cloch, a'i phresenoldeb yn gosod ambell i actor yn ei chysgod.

Cadarn, a chomedïol oedd Iago Dominic West yn ogystal, a'i acen Sheffield gartrefol yn gweddu i'r dim. Llai llwyddiannus yn anffodus oedd Clarke Peters fel Othello, a rhaid cyfaddef imi gael cryn drafferth i ddeall ei fwmblan, dro ar ôl tro, yn enwedig yn ei orffwylledd a'i salwch yn yr ail act. Clod i'r ddau Gymro, Gwilym Lee a Rhodri Miles am berfformiadau tanbaid a geirio clir, unwaith eto.

Anodd yw credu, yn ôl Cyflwyniad y cyfarwyddwr Daniel Evans, mai dyma'r tro cyntaf i 'Othello' gael ei lwyfannu yn y Crucible, a chychwyn teilwng i ddathliadau'r theatr yn ddeugain oed yr Hydref hwn. Unwaith eto, dyma gynhyrchiad cynnil, glân a gofalus gan Daniel, a'r sylw i'r pethau a'r geiriau lleiaf yn taro deuddeg, dro ôl tro. Nid adrodd barddoniaeth Shakespeare sydd yma, ond byw pob berf, ansoddair ac emosiwn. Gwych iawn.

Mae Othello i'w weld yn y Cruicible, Sheffield tan y 15fed o Hydref. Mynnwch y tocynnau prin sydd ar ôl da chi!

Friday 23 September 2011

'The Tempest'






Y Cymro – 23/09/11

Mor wahanol i’r artaith araf ar lwyfan yr Haymarket wrth i Ralph Fiennes wisgo clogyn hudol ‘Prospero’ yn y ddrama llawn hud a lledrith ‘The Tempest’. Yn wahanol i ran helaeth o’r selogion Shakesperaidd, tydwi ddim yn ffan o’r ddrama hon, ac er gwaethaf ymdrech y cyfarwyddwr Trevor Nunn i droi’r cyfan (bron) yn ddrama gerdd, a llenwi’r llwyfan moel gyda lliw a lledrith, boddi mewn undonedd llonydd oedd prif wendid y cyfan.

‘A must see’, medde’r Times, ar faner ynghrog uwch ddrws y theatr, a dwi’n cytuno o ran gwledd i’r llygaid, ac efallai ffans y ddrama. Cafwyd perfformiadau gwych yma eto, yn enwedig gan Nicholas Lyndhurst fel y ffŵl ‘Trinculo’, Giles Terera fel y ‘Caliban’ croenddu gwyllt a Tom Byam Shaw fel yr ysbryd ‘Ariel’ a’i lais uchel wrth hedfan dros y digwydd. Allai ddim dadlau nad oedd yr olygfa enwog o’r dymestl yn yr Act gyntaf yn ddramatig a chofiadwy tu hwnt, yn gelfydd o glyfar ar adegau, wrth i Prospero a’i hud orfodi’r llong i agosáu at yr ynys bellennig, er mwyn cychwyn ei ddial ac adennill parch i’w ferch ‘Miranda’ (Elisabeth Hopper).

Dwy awr a hanner diflas oedd fy mhrif gŵyn, a hynny am fod pawb yn trin barddoniaeth Shakespeare fel yr Efengyl. Gorbwysleisio hyd syrffed, a gollodd naturioldeb y cyfan, a throi stori o adloniant ac edifeirwch yn syrffedus o snobyddlyd.

Bydd The Tempest i’w weld yn yr Haymarket tan y 29ain o Hydref.

'Richard III'





Y Cymro – 23/09/11

Dwi di sôn droeon yn y golofn hon, am bwysigrwydd gweld y cynyrchiadau gorau posib o ddramâu Shakespeare, er mwyn gwerthfawrogi dawn y dewin drama i’n hudo a’i straeon hud a lledrith neu i lawr llwybrau hanes. Gyda phob cynhyrchiad gwahanol, daw haenau newydd i’r golwg, yn ôl dadansoddiad yr actor neu’r cyfarwyddwr. Dyna yn wir sydd wedi cadw gwaith y bardd yn fyw dros yr holl flynyddoedd, a’i neges Oesol yn cael anadl newydd, yn sgil y dechnoleg ddiweddara neu stad Wleidyddol y byd sydd ohoni.

Dwy ddrama'r wythnos hon, dau begwn o’i waith, dau ‘seren’ adnabyddus yn y prif rannau a dau gynhyrchiad sydd wedi sicrhau adolygiadau canmoladwy yn y Wasg Genedlaethol.

Fy addysgu am hanes y dihiryn o Frenin ‘Richard III’ oedd fy mhrofiad cyntaf, a hynny ar lwyfan dwfn yr Old Vic, gyda neb llai nag arweinydd artistig y theatr, Kevin Spacey, yn annerch y gynulleidfa, gyda’r agoriad enwog “Now is the winter of our discontent, Made glorious summer by this sun of York”. Gorwedd yn ddiog o dan goron bapur o gracer wna ‘Richard, Dug Caerloyw’ yn cellwair am ei fwriad o gael dwyn y frenhiniaeth oddi wrth ei deulu, a’r dras Frenhinol. Addysgu’r werin am hanes eu gwlad oedd un o brif fwriadau Shakespeare, gyda chyfresi o ddramâu am y Brenhinoedd megis Harri’r IV, Harri V a Harri’r VI yn cael eu cyflwyno bron fel penodau o opera sebon i selogion theatrau Llundain. Hawdd y gallwn ninnau ddeall yr atynfa, yn sgil cyfresi tebyg i ‘The Tudors’ sy’n rhamantu a dramateiddio’r cyfnodau lliwgar hyn. Clod i’r Bnr Shakespeare a barodd i’r llanc hwn o Ddyffryn Conwy orfod creu dogfen o’r dras Frenhinol dros y canrifoedd, er mwyn deall lle, a sut y perthynai’r dihiryn hwn, ymysg y cewri coronog!

Heb os, mae gan Spacey ddawn hudolus a thrydanol i hawlio sylw unrhyw un, wrth hercian yn gloff o gwmpas y llwyfan, wrth arwain y stori at Frwydr enwog Bosworth ble y collodd y frwydr a’i fywyd, i fyddin Harri Tudur. Mawredd y ddrama a’r cynhyrchiad ydi tywys meddwl y gynulleidfa at arweinwyr unben megis Gadaffi a Mugabe, a’r gyffelybiaeth enfawr rhwng eu hawydd i lwyddo, er gwaetha pawb a phopeth, heb son am y gost ddynol a chreulon.

Llwyfannwyd y cyfan yn gyfoes, o dan gyfarwyddyd Sam Mendes gyda set o ddrysau caeedig Tom Piper yn ddwfn o gysgodion goleuo Paul Pyant. Tafluniwyd delweddau a geiriau pwrpasol ar y muriau moel i gyfeiliant môr o ddrymiau oedd yn cyfleu pŵer, nerth ac ofn y brenin i’r dim.

Gwnaed yn fawr o’r comedi a’r ffaith mai jôc o frenin mewn gwirionedd oedd Richard III. Hawdd oedd gweld mwynhad Spacey wrth daflu llinellau bwriadol o ddoniol Shakespeare i’r gynulleidfa. Doedd dim dianc i fod, a’i dranc yn anorfod, wedi’r holl ddrygioni. “A horse! a horse! my kingdom for a horse!” oedd ei gri olaf, cyn ei ladd ar faes y Gad.

Tair awr o adloniant ac addysg pur, a phrofiad unwaith mewn oes oedd bod yno.

Yn anffodus, mae Richard III wedi dod i ben yn yr Old Vic.

Friday 16 September 2011

'Singin' in the Rain'






Y Cymro – 16/09/11

Dwy ddrama gerdd yr wythnos hon a’r ddwy ar ddiwedd eu cyfnodau preswyl mewn dwy ŵyl wahanol . ‘Singin’ in the Rain’, sef addasiad o’r ffilm enwog o’r un enw ddaeth i ben yn Theatr yr ŵyl, Chichester a ‘Crazy For You’ ar eu noson olaf, sy’n cloi tymor llwyddiannus y Theatr Awyr Agored yn Regents Park, Llundain. Ond peidiwch â digalonni, gan fod y ddwy ar eu ffordd dros y misoedd nesaf i galon y West End.

Hanes hynt a helynt dyfodiad y ffilmiau sain gyntaf yw craidd y ffilm ‘Singin’ in the Rain’, sydd a’i olygfa enwog o’r prif actor golygus ‘Don Lockwood ‘ yn dawnsio yn ei lawenydd yn y glaw, wedi syrthio dros ei ben a’i glustiau mewn cariad gydag actores lai adnabyddus ‘Kathy Selden ‘. Mae’n ffilm drawiadol, a hynny oherwydd coreograffi celfydd Gene Kelly yn y ‘set pieces’ a dawn ddisglair y cerddor Donald O’Connor fel cyfaill Lockwood, ‘Cosmo Brown’. Gwendid y ffilm yw’r ffaith mai dim ond tair cân wirioneddol gofiadwy sydd yma yn y bôn sef ‘Good Morning’, ‘Make ‘em laugh’ a’r brif gân ‘Singin’ in the Rain’, a dyna yn anffodus yw prif wendid y ddrama gerdd yn ogystal sy’n boddi ar adegau o dan haenau o ddialog hirfaith, er mwyn cyfleu’r stori.

Oherwydd natur y stori, y lleoliadau a’r cyfnod, mae rhan helaeth o’r ddrama gerdd yn ddibynnol ar y sgrin ffilm enfawr sy’n cynnwys calon y stori sef y ffilm ‘The Laughing Cavalier’ sy’n cael ei gynhyrchu gan y stiwdio ar y pryd. Drwy’r ffilmiau sy’n cael eu taflunio’n gelfydd ar y sgrin y daw llawer o’r comedi yn sgil ymgais ‘Lockwood’ (Adam Cooper) a’i gyd-actores wichlyd ‘Lina Lamont’ (Ebony Molina ) sy’n drwsiadus dros ben, nes iddi agor ei cheg, a’i llais aflafar, erchyll yn ddigon i ddychryn y cryfa’! Yn ei ymdrech i achub y Stiwdio, mae’r rheolwr (Michael Brandon ) yn penderfynu bod yn rhaid canfod rhywun arall i dros leisio’r ffilm, er mwyn achub gyrfa ‘Lamont’ yn ogystal, a dyna sy’n dod â’r stori garu’n fyw wrth i ‘Lockwood’ ddarganfod llais swynol ‘Kathy’ (Scarlett Strallen).

Fel y ffilm, seren y sioe i mi oedd Daniel Crossley fel ‘Cosmo’ a’i ddawn gomedi disglair sy’n serennu yn y gân ‘Make ‘em laugh’. Dyma actor sydd â gyrfa ddisglair o’i flaen, ac sydd eisioes wedi fy niddanu mewn sawl drama gerdd arall yn ddiweddar fel ‘Me and My Girl’ yn Sheffield ac ‘Hello Dolly’ yn Regents Park.

Mawredd y cynhyrchiad caboledig hwn oedd y llwyfannu sy’n llenwi gofod enfawr Chichester i’r dim, a phan ddisgynnodd y glaw ar ddiwedd yr act gyntaf, cefais wefr gofiadwy iawn, ac erys yr olygfa ddramatig honno gyda mi am amser maith. Gogoniant a hud y theatr ar ei gorau.

Er nad oes dim wedi’i gadarnhau hyd yma, y si ydi y bydd ‘Singin’ in the Rain’ yn canu’u ffordd i mewn i’r Palace Theatre, wedi i ‘Priscilla Queen of the Desert’ ddod i ben yn yr Hydref.

Thursday 15 September 2011

'Crazy For You'






Y Cymro – 16/09/11

Felly hefyd ar ddiwedd y sioe ‘Crazy For You’ yn Theatr Awyr Agored Regent Park wrth i’r cwmni cyfan ddod i’r llwyfan yn eu gwisgoedd gorau i ganu ‘I Got Rhythm’ , y set yn disgleirio’n drawiadol yn erbyn cefnlen o ddinas Llundain yn y nos, a’r goedwig yn dod yn fyw drwy bŵer y goleuo symudol trawiadol.

Stori sy’n cyfuno caneuon y brodyr Gershwin yw hanfod ‘Crazy for You’ sy’n mynd â ni ar daith o Efrog Newydd yn y 1930au i anialwch Nevada wrth ddilyn hanes ‘Bobby Child’ (Sean Palmer ), actor a dawnsiwr rhwystredig, sy’n cael ei yrru gan y banc i gau theatr fechan yn y diffaethwch. Wedi cyrraedd yno, mae’n cwrdd â’r perchennog prydferth ‘Polly Baker’ (Clare Foster ) ac mae’n syrthio dros ei ben a’i glustiau mewn cariad â hi, ac yn gwireddu ei freuddwyd o gael serennu mewn sioe, wrth i’r ddau ymdrechu i ail-agor y theatr, a chadw’r dref yn fyw.

Yma eto, mawredd y cyfan yw’r ensemble cryf o ddawnswyr a chantorion sy’n llenwi’r gofod a’u llawenydd a’r lliw, ac sy’n dysteb sicr o allu cerddorol Gershwin a’u melodiau melfedaidd megis ‘Someone to Watch Over Me’, ‘ Embraceable You’ a ‘They Can’t Take That Away from Me’.

Diwedd teilwng iawn i dymor llwyddiannus Regent Park lle y gwelsom ‘Lord of the Flies’ a ‘The Beggar’s Opera’ yn gynharach eleni. Dwy sioe yn unig fydd ar ein cyfer y flwyddyn nesaf sef addasiad o ‘A Midsummer Night’s Dream’ a’r ddrama gerdd ‘Ragtime’.

Bydd ‘Crazy for You’ yn symud i Theatr Novello fis Hydref ar ddiwedd cyfnod ‘Betty Blue Eyes’ sydd, yn anffodus, yn dod i ben ar y 24ain o Fedi.

Ceisiwch eu dal da chi, tra medrwch chi!

Friday 9 September 2011

Edrych Mlaen...



Y Cymro – 09/09/11

Gyda’r Haf bellach ar ben, ac wrth i bawb heidio yn ôl tua’r gwaith, ysgol neu goleg, cyfle imi fwrw golwg ar y wledd o adloniant theatrig fydd yn cipio’n sylw i dros y misoedd nesaf.

I Theatr Gŵyl Chichester fyddai’n mynd y penwythnos yma i ddal perfformiad olaf ond un y ddrama gerdd ‘Singin’ in the Rain’ sy’n seiliedig ar y ffilm enwog o’r un enw. Adam Cooper, Daniel Crossley a Scarlett Strallen sy’n arwain y cwmni caboledig hwn, sydd ar ei ffordd i Lundain, yn sgil adolygiadau rhagorol yn y Wasg Genedlaethol. Mwy am hynny'r wythnos nesaf. Fyddai’n ail-ymweld â Chichester ymhen bythefnos i ddal un o berfformiadau cynnar eu cynhyrchiad hir ddisgwyliedig o ‘Sweeney Todd’ gyda neb llai na Michael Ball ac Imelda Staunton fel y ddau ddihiryn annwyl. Gwledd fwy blasus na un o beis Mrs Lovett heb oes!

Yma yn Llundain, llond trol o ddanteithion theatrig sy’n cynnwys addasiad o’r ffilm enwog ‘Driving Miss Daisy’ gyda’r ddau enw mawr James Earl Jones a Vanessa Redgrave yn y prif rannau. Bydd y ddrama awr-a-hanner ddi-dor i’w weld yn y Wyndhams o’r 26ain o Fedi gan agor yn swyddogol ar y 5ed o Hydref.

Yn yr Haymarket, bydd Ralph Fiennes yn serennu yn ‘The Tempest’ tan y 29ain o Hydref ac yn yr Old Vic bydd Kevin Spacey yn hawlio’r llwyfan yn ‘Richard III’ tan Medi’r 11eg.

Dal i aros am raglen artistig Theatr Genedlaethol Cymru ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod, ond mae’r arlwy gan y National Theatre Wales i’w weld mor ddisglair a bywiog a’u blwyddyn gyntaf.

‘The Village Social’ o waith Dafydd James a Ben Lewis fydd yn teithio drwy fis Hydref a Thachwedd gan ymweld â Neuaddau pentref ar draws Cymru. ‘Golwg swreal a macabr ar y byd’ yw disgrifiad swyddogol y sioe, sy’n cynnwys ‘tocyn raffl, diod o’ch dewis a gloddest waedlyd, wyllt’. Mae’r cast yn cynnwys: Carys Eleri, Rebecca Harries, Darren Lawrence, Gwydion Rhys, Sue Roderick, ac Oliver Wood. Bydd y daith yn cychwyn ar Nos Iau, Hydref 20fed yn Neuadd Blwyf Rhydri, Caerffili, cyn ymweld â Neuadd Bentref Glasbury, Powys; Canolfan Soar, Tonypandy; Theatr Fach Castell-nedd; Neuadd Goffa Trefdraeth; Neuadd Goffa Aberaeron; Neuadd Bentref Llangwm, Hwlffordd; Theatr y Ddraig, Abermaw; Neuadd Goffa Criccieth; Neuadd Goffa Edith Banks, Northop; Neuadd Bentref Mynydd Llandegai, Bangor; Canolfan Gymuned Nasareth, Abertridwr; Neuadd Les Cefneithin a Foelgastell, Llanelli; Neuadd Bentref Llandinam; Neuadd Gymuned Dolau, Llandrindod a Neuadd Goffa Llansilin.

Yn dilyn y cynhyrchiad cerddorol uchod, bydd y cwmni Cenedlaethol yn cydweithio unwaith eto gyda’r sêr syrcas rhyngwladol NoFit State Circus ac artistiaid syrcas o ar draws y byd. Wedi hynny, y cyfarwyddwr o Gymro annwyl Peter Gill fydd yn addasu a chyfarwyddo stori fer Chekhov ‘A Provincial Life’ fydd i’w weld yn Sherman Cymru ym mis Mawrth 2012.

Arweinydd artistig y cwmni John E McGrath fydd yn cyfarwyddo’i deunawfed sioe sef ‘The Radicalisation of Bradley Manning’ o waith Tim Price fydd yn cael ei berfformio yn ardal Hwlffordd a thu hwnt. Hanes Bradley Manning, y gŵr 23 oed a gyhuddwyd o ryddhau miloedd o e-byst gan lysgenhadaeth yr Unol Daleithiau i Wikileaks ac sy’n y carchar yn Kansas fydd canolbwynt y ffantasi wleidyddol o sioe.

Pafiliwn Patti Abertawe fydd eu lleoliad nesaf ym mis Mai 2012, a’r sioe ‘Little Dogs’ mewn partneriaeth â chwmni hyderus Frantic Assembly o Abertawe. Cynhyrchiad sydd wedi’i ysbrydoli gan stori Dylan Thomas Just Like Little Dogs, a’r oriau cudd y mae cynifer ohonom wedi’u treulio yn chwilio am garedigrwydd a chynhesrwydd yng nghysgodion y ddinas.

Ynghlwm â dathliadau’r Gemau Olympaidd, bydd y cwmni yn cyflwyno dau gomisiwn arbennig i nodi’r dathlu. Y cyntaf gydag Unlimited o’r enw ‘In Water I’m Weightless’ gan Kaite O’Reilly yng Nghanolfan y Mileniwm, Caerdydd. Ar gyfer y darn barddonol, pryfoclyd ac weithiau grotesg o ddoniol, mae hi wedi’i hysbrydoli gan brofiadau, agweddau a dychymyg pobl anabl a byddar o ar draws y DU. Bydd yr ail sioe, ‘Branches’ i’w weld yn fforestydd Gogledd Cymru ac yn gomisiwn newydd gan Constanza Macras / DorkyPark gan ddefnyddio straeon hynafol y Mabinogi a’n breuddwydion a’n hofnau beunyddiol fel ysbrydoliaeth.

Cyd-gynhyrchiad ar gyfer Gŵyl Ryngwladol Shakespeare, sydd wedi’i gynhyrchu gan y Royal Shakespeare Company ar gyfer Gŵyl Llundain 2012 fydd ‘Coriolan/us’ fydd i’w weld yn Stiwdios Ffilm y Ddraig, ger Pen-y-Bont ar Ogwr ym mis Awst 2012. A bydd eu hail flwyddyn gynhyrfus yn dod i ben yn Aberystwyth gyda ‘ Outdoors’ wedi’i greu gan Rimini Protokoll mewn partneriaeth â Chanolfan Celfyddydau Aberystwyth a Chôr Heartsong. Cynhyrchiad cynhyrfus sy’n digwydd am flwyddyn gyfa, bob nos Fawrth ar Strydoedd y dref.

Gweledigaeth gynhyrfus arall heb os...