Total Pageviews

Friday 26 July 2013

Blodeuwedd





Y Cymro 26/07/13

Ym mis Mai 2009, roeddwn i’n deud y drefn am fod  ein Theatr Genedlaethol  dair oed, ymhell ar ôl Theatr Genedlaethol Yr Alban, ar ôl eu blwyddyn gyntaf. Dros yr wythnos a fu, cefais y fraint o ail ymweld â’r ddwy Theatr Genedlaethol a’r tro hwn, roedd y Cymry gystal, os nad gwell. 

Fues i rhwng dau feddwl ynglŷn â mynd i weld cynhyrchiad diweddara Theatr Genedlaethol Cymru o ‘Blodeuwedd’; yn bennaf oherwydd y daith hir o lannau’r Tafwys, heb sôn am y blinder corfforol, wedi teithio cryn dipyn yn ddiweddar. Ond, mynd a wnes, diolch i e-bost gan Arwel Gruffydd yn crybwyll y byddai sôn am y cynhyrchiad am flynyddoedd i ddod.

Mor lwcus y bues i o gael bod yn dyst i’r digwyddiad theatrig yma. Tomen y Mur oedd y lleoliad cyfareddol, yn y mynydd-dir uwchben atomfa Trawsfynydd. Taith bws o ugain munud o’r meysydd parcio i’r rhan fwyaf o gynulleidfa, ond ras 300 milltir mewn car i minnau, wedi’i nal mewn traffig ar yr M6. Petai’r awr a hanner hynny ddim yn ddigon o oedi, cael fy nal wedyn tu ôl i Rhys Meirion a’i griw yn Cerddwn Ymlaen ochrau Dinas Mawddwy, ac wedyn y llwybr diddiwedd o oleuadau traffig ar yr A470!.  

Erbyn imi gyrraedd, roedd Blodeuwedd (Morfydd Clark), y ferch a wnaed o flodau gan y dewin Gwydion (Glyn Pritchard) er mwyn trechu tair tynged ei gŵr Llew Llaw Gyffes (Iddon Jones) drwy roi iddo “…enw, ac arfau, a’r wraig ryfeddaf a grëwyd” eisoes wedi cwrdd â charu â’r Gronw Pebr golygus (Rhys Bidder). 

Wrth ruthro am y Domen, union leoliad y ‘Gaer yn Ardudwy’ ble y gosododd Saunders Lewis ei glasur o ddrama farddonol,  gallwn wrando ar yr olygfa, diolch i’r clustffonau a roddwyd inni’u gwisgo.  Wrth agosáu at y dodrefn ynghanol y cae ac i gyfeiliant dwndwr y defaid,  roedd Blodeuwedd, mewn dillad cyfnod o’r 1920au, yn bygwth ei morwyn Rhagnell, (Non Haf), i gadw’r gyfrinach y caru. Gyda dychweliad Llew, yn ei wisg filwrol, llwyddodd y Blodeuwedd ddau wynebog i barhau â’i chynllwyn i ladd ei gŵr ac i ffoi gyda Gronw.

Wrth gerdded a gwrando ar yr olygfa rhwng Blodeuwedd a Gronw, roeddwn i’n dra bryderus am acenion chwithig Morfydd a Rhys. Roedd yr angerdd yn sicr yn fyw iawn, a gallwn gredu gant y cant yn serch y ferch wyllt at ramant rhyddid yr heliwr.  Ond gyda chadernid cartrefol presenoldeb hudolus Iddon a Phenteulu Penllyn (Martin Thomas) a’u triniaeth ddeallus a byw o ddialog cyhyrog a chymhleth Saunders, gallwn dderbyn yr elfen ddeheuol, estron, a natur wyllt y ddau gariad. 

Cael ein harwain, wedyn, o’r Gaer tuag at lan yr afon a’r cafn o ddŵr, gan bresenoldeb urddasol y bwtler o was, (Owain Llŷr Edwards), ble y cipiwyd fy ngwynt gan yr olygfa gyfareddol o ben y mynydd, a hawdd y gallwn ddeall gweledigaeth y cyfarwyddwr Arwel Gruffydd, o osod y ddrama, yn ei chynefin.

Yn ôl patrwm y ddau gyfnod o gyfansoddi’r pedair act, roeddem bellach yn y 1940au a ffrog werdd gor syml a phlaen Blodeuwedd yn awgrymu hynny, wrth gadw oed â Gronw, i roi’r cynllun i ladd ei gŵr ar waith.   Eto, cipiwyd fy ngwynt gan angerdd Iddon Jones wrth ymfalchïo yng nghelwydd beichiogi ei wraig, cyn ei saethu’n farw gan glec dryll Gronw, gan adael i lif o waed, ffrydio o’i fron. Dramatig iawn.

Yn yr olygfa odidog olaf y cefais yr iâs fwyaf. Am y tro cyntaf erioed, daeth barddoniaeth Saunders yn fyw ac yn rhydd o hualau llefaru gor-bwysleisio eisteddfodol. Roedd angerdd a phresenoldeb yr actorion mor gyfareddol â’r Gaer, ac fe’m dalwyd gan swyn y digwyddiad hyd fy nadebru gan chwerthiniad iasol Blodeuwedd, cyn ei throi’n dylluan a hedfan o’i habsenoldeb at fraich y gwas gerllaw. Roedd och a syfrdan y gynulleidfa yn ddramatig ynddo’i hun, gyda sawl ‘brafô!’ yn cael ei atsain, heb ddisgwyl gweld yr aderyn prydferth yn cloi’r ddrama.  (Diolch i drydar dyddiol Glyn Pritchard, am berfformiad sigledig y dylluan dros y bythefnos a fu, doedd y deryn ddim yn sioc), ond clod i Arwel a meistr yr adar, John Islwyn Jones am olygfa y cofiaf amdani am byth.

Fel gyda’i driniaeth ddeallus o’r ddrama ‘Llwyth’, fe brofodd Arwel ei allu unwaith eto, i fynd â ni tu hwnt i eiriau’r sgript. Nid yn unig o ran emosiwn ac angerdd, ond yn llythrennol felly, drwy gynnwys dyfyniadau pellach o’r Bedwaredd Gainc o’r Mabinogi, i gyfeiliant cerddoriaeth bwerus Wagner, er mwyn gosod golygfeydd Saunders yn eu cyd-destun llawn. Drwy gynllunio syml, ond hynod o effeithiol Carl Davies a chynllun sain gymhleth Dyfan Jones, crëwyd yr awyrgylch perffaith drwy’r ddrama radio yn fy nghlustiau, oedd yn cael ei gyfoethogi gymaint gan y delweddau o’m blaen.

O’r diwedd, chwa o awyr iach hyderus, i’r cyfeiriad cywir, yn llygad tanbaid yr haul! Y gamp nawr fydd trosglwyddo hud, a chyfaredd y lleoliad i’r llwyfan, gan ddangos nad oes angen setiau mawr na chastiau mwy, i greu cyfanwaith cynnil a  chofiadwy.

Friday 19 July 2013

'Dirty Protest'


Y Cymro 19/07/13

Os oedd Harold Wilson yn credu, nôl yn y 1960au, bod wythnos yn amser hir mewn gwleidyddiaeth, mae pythefnos ym myd y ddrama yng Nghymru, fatha degawd! Wedi sôn am ddramâu newydd y Sherman gwta bythefnos yn ôl, a’r angen am hyfforddi cyfarwyddwyr ac awduron newydd, yr wythnos hon mi ges i’m moddi gan y tonnau trydar am y bwrlwm o weithgaredd creadigol, sy’n digwydd drwy Gymru a thu hwnt.

Cychwyn yma yn Llundain, gyda’r Cymry yn hawlio llwyfan y Royal Court am awr, yn nhymor newydd yr arweinydd artistig Vicky Featherston, cyn arweinydd y Theatr Genedlaethol yn Yr Alban. Newidiwyd enw’r theatr, am gyfnod, i ‘Open Court’ gan roi’r grym yn ôl yng ngeiriau’r dramodwyr; geiriau sy’n cael eu geni’n amrwd o flaen ein llygaid, heb na set na sylwedd, dim ond synnwyr swreal ond swynol. Ymhob cornel o’r adeilad, gan gynnwys ei swyddfa bersonol, mae Vicky wedi gwahodd dramodwyr gwahanol i ddweud eu dweud, bob nos, gan gynnwys sesiwn wythnosol o ‘Surprise Theatre’, sy’n annog y gynulleidfa i’w loteri lwc, gyda’r posibilrwydd o weld rhai o leisiau blaengar a dadleuol ein llwyfannau cyfredol. Hap a damwain llwyr, lasa weithio o’ch plaid pan fo’r llenni yn agor i ddadlennu’r dramodydd dadleuol Mark Ravenhill yn cyflwyno darlith am gacennau a disgwyliadau dramodwyr am eu gwaith!


Cwmni prysur y Protest Fudr o Gaerdydd fu’n hawlio’r llwyfan am dros awr, yr wythnos diwethaf. ‘Plays in a bag’ oedd yr arlwy; monologau gan ddramodwyr Cymreig hyderus, a llai profiadol, wedi’u sbarduno gan y cais i greu drama yn tarddu, a’i gludo mewn unrhyw fath o gwdyn. Tim Price, awdur y ddrama hyfryd ‘Salt, Root and Roe’ a welais yn y Donmar, ac a gafodd ei ail-lwyfannu gan Clwyd Theatr Cymru, oedd un o’r awduron, ac un o sefydlwyr y cylch o weithgaredd (gyda’u henw anffodus) a gychwynodd yng Nghaerdydd, nôl yn 2007. Ymysg yr actorion roedd Sara Harries Davies a Rebecca Harries, ac er mai blas yn unig a gefais, (diolch i’r Wê a sianel You Tube y Royal Court), tywyll a llawer rhy llonydd oedd yr hyn a glywais, yn ymdebygu i ‘lenyddiaeth’ straeon byrion neu gomedi stand-yp, yn hytrach na monologau o gig a gwaed. 

Ymlaen i’r ŵyl  newydd yn Theatr yr Almeida, a phedair monolog dywyll eto am drais, lladd cymar a chathod, caru doliau llawn gwynt a monolog a chân gan y dramodydd a’r actores, Lisa Jên Brown, am beryglon anffodus arogl Tiwna!.  Wrth groesawu perfformiadau tanbaid ac angerddol Lisa, Eiry Thomas, Siôn Pritchard a Ceri Murphy, roedd y cyfanwaith yn rhy undonog a llawer rhy dywyll i brynhawn Sul braf.  Er bod y cyfarwyddo’n gweithio’n well y tro hwn, diolch i gymorth propiau amrywiol gweledol, roedd y gorddefnydd o gyfarch y gynulleidfa, yn amharu ar drasiedi’r cymeriadau.  Wedi creu cymaint o gymeriadau amrywiol, collwyd y cyfle euraidd o’u caethiwo oddi mewn i sefyllfa o densiwn, fyddai wedi medru ildio llawer mwy o wrthdaro, o ddadlennu eu cyfrinachau tywyll, wyneb yn wyneb.



Nôl yng Nghymru, o Gaerdydd i Gaernarfon, roedd 'na fwrlwm tebyg diolch i Fran Wen a drefnodd noson o’r enw ‘Pitsio’ yn y Galeri, ble gofynnwyd i gylchoedd o ieuenctid i gynnig eu syniadau am ddramâu o flaen panel o ‘feirniaid’. Draw yn y Sherman dros y penwythnos, roedd y ‘swingers’ yn gweithio ddydd a nos, yn gymysg o ddramodwyr, actorion a chyfarwyddwyr, er mwyn creu a chyflwyno gweithiau newydd ar y nos Sul. Roedd y bwrlwm o weithgaredd, a’r hwyl hyderus yn chwa o awyr iach calonogol iawn. Gydag arweiniad, cynllunio a pharatoi mwy gofalus, dwi’n sicr bydd eu gwaddol yn elwa byd y ddrama yng Nghymru, am ddegawdau i ddod. 


Mwy am theatr Protest Fudr yma www.dirtyprotesttheatre.co.uk, Fran Wen yma www.franwen.com a Sherman Cymru yma www.shermancymru.co.uk






Friday 12 July 2013

Edrych mlaen...

Y Cymro - 12/07/13


Sioe arall yr hoffwn i fod wedi’i weld o dan adain Pontio, ond yn anffodus yn rhy hwyr, oedd cynhyrchiad Theatr Peña o ‘Merched yn Bennaf’, sef casgliad o ddramâu a barddoniaeth Gymraeg wedi’i ddewis a’i ddethol gan Betsan Llwyd a’i gyflwyno gan Betsan, Christine Pritchard ac Olwen Rees.  Mae 'na brinder amlwg o gynyrchiadau i gastiau cadarn o ferched hŷn, ac mae’n amser eu gwahodd yn ôl i’r llwyfan, fel y cawson yn nrama wych Aled Jones Williams, ‘Merched Eira’ dro yn ôl. 

O edrych ymlaen, mae 'na sawl prosiect diddorol yn eu siop ‘Pontio’ sydd ynghanol tref Bangor, gyda phrosiectau ar y cyd â chwmnïau lleol, yn ogystal â chyngerdd ‘mawr’ ‘Ymestyn am y Sêr’ yng nghwmni John Owen Jones a Chôr Glanaethwy yn Neuadd Prichard-Jones ar Nos Sul, 1af o Fedi.


A chipolwg sydyn ar rai o’r sioeau fydd yn ymweld â Maes yr Eisteddfod eleni, yn Sir Ddinbych. Wedi taith o gwmpas Cymru, bydd Arad Goch yn dod a’u dathliadau 30 mlwyddiant cymeriadau llyfrau Rwdlan, Angharad Tomos, i’r Theatr ar y 10fed o Awst – dwy sioe yn unig am 12.00 a 2.00yh. Ffion Wyn Bowen, Nia Ann, Sion Trystan, Endaf Davies, a Mursen y Gath, fydd o dan gyfarwyddyd medrus Jeremy Turner.  Mynediad am ddim, gyda thocyn diwrnod i’r Eisteddfod.


I Faes y Steddfod hefyd mae benthyciad y Theatr Genedlaethol o waith yr artist Roos van Geffen, yn cyrraedd. Gydag addasiad Cymraeg gan Angharad Price a llais Leisa Mererid, bydd y ‘cynhyrchiad theatr gorfforol amlieithog’ ‘Rhwydo / Vangst’ yn Ninbych o’r 3ydd hyd y 7fed o Awst.

Bydd Fran Wen yn cyflwyno perfformiadau o’u sioe deithiol ddiweddar ‘Gwyn’ gyda Bryn Fôn a Rhodri Sion yn y theatr am 12yh ar y 3ydd a’r 4ydd o  Awst. Dydd Mercher y 7fed o  Awst yn Y Lle Celf, bydd perfformiad cyntaf gwaith newydd (Rhan 1)  Aled Jones Williams 'Anweledig' - (yn seiliedig ar gofnodion cleifion Ysbyty Dinbych). 


A Kate Roberts fydd thema Theatr Bara Caws, gyda pherfformiadau arbennig o 'Annwyl Kate, Annwyl Saunders' gan John Ogwen a Maureen Rhys. A dwy ddrama newydd;  ‘Cyfaill’ - gan Francesa Rhydderch fydd yn archwilio un o’r cyfnodau mwyaf cythryblus ym mywyd Kate Roberts, pan fu farw ei gŵr, Morris, yn annhymig o alcoholiaeth. Ac addasiad newydd gan Manon Wyn Williams o ‘Te yn y Grug.’


'Bianco'





Y Cymro 12/07/13

Tra ar ymweliad brys â Bangor, yr wythnos diwethaf, digwyddais daro ar raglen liwgar y ganolfan gelfyddydau ‘Pontio’, sy’n cael ei adeiladu ar hyn o bryd, ar safle’r hen Theatr Gwynedd, sy’n dal yn agos iawn at fy nghalon i. O dan gyfarwyddyd artistig Elen ap Robert, a fu gynt yng ngofal y Galeri yng Nghaernarfon, mae’r arlwy a gynigir, dros amrywiaeth helaeth o ganolfannau o gwmpas y ddinas (hyd nes bydd yr adeilad wedi’i gwblhau) yn ganmoladwy iawn.

Un cynhyrchiad a ddaliodd fy sylw oedd ‘Bianco’ o waith y syrcas prysur o Gaerdydd, No Fit State, o dan gyfarwyddyd yr unigryw dalentog Firenza Guidi, sy’n hanu o’r Eidal. Fues i’n hynod o ffodus i weld y sioe arbennig hon yma yn y Roundhouse yn Llundain ddechrau’r flwyddyn, ac mae cryfder corfforol a thechnegol yr acrobat o artistiaid, yn ddigon i gipio’ch gwynt. Rhwng y codi peli mewn pwll o olau, neu’r sodla coch yn cydbwyso ar wifren denau uwch ein pen, mae’r elfen weledol yn cael ei gyflwyno’n hynod o raenus, i gyfeiliant band byw o bedwar cerddor profiadol, o dan gyfarwyddyd Gareth Jones.  ‘Seren wen ar gefndir gwyn’ o sioe yw hon, sy’n codi pob math o feddyliau am ystyr purdeb, unigrwydd a gwacter. Mae’r gawod eira ar y diwedd ymysg un o’r profiadau theatrig mwyaf cofiadwy imi’i gael erioed.

Yn sgil y ddamwain erchyll yr wythnos diwethaf, ble y collodd un o berfformwyr y sioe enwog Cirque du Soleil ei bywyd yn Las Vegas, rhaid canmol dewrder a dawn y cwmni unigryw hwn.

Mae’r babell o theatr syrcas ar ffordd Glan y Môr, Bangor o’r 12fed o Orffennaf hyd yr 20fed. Os fethwch chi hi yma, bydd hi hefyd yn yr ŵyl ymylol yng Nghaeredin fis Awst.

Friday 5 July 2013

Drwy'r Ddinas Hon




Y Cymro – 05/07/13


Drwy afon drwchus o draffig yr M4, y cyrhaeddais y ‘ddinas hon’ – Caerdydd, a chanolbwynt tair drama fer ddiweddara Sherman Cymru. Dwi di holi ers blynyddoedd , ble oedd llwyfan y lleisiau newydd?, a dyma waddol cyfnod o greu a gychwynnodd nôl yn 2009, o dan arweiniad Siân Summers, Arwel Gruffydd, Elen Bowman, Branwen Davies a Mared Swain.  Ar gyfer ‘Drwy’r Ddinas Hon’ gofynnwyd am ddramâu yn canolbwyntio ar y brifddinas, a threfnwyd teithiau arbennig i ymweld â gwahanol leoliadau. O’r Deml Heddwch i’r Dociau, drwy dudalennau’r degawdau o atgofion, daeth pedair blynedd o gyd-weithio ar draws y llwyfan, yn stiwdio glyd y Sherman.

Wrth gychwyn y gwaith, roedd y Sherman ar gau, ac felly'r bwriad gwreiddiol oedd llwyfannu’r gweithiau o gwmpas Caerdydd. Syniad unigryw, bryd hynny, ond un sy’n cael ei or-ddefnyddio a’n syrffedu ar hyn o bryd,  yn sgil y ddwy Theatr Genedlaethol. Gyda chymaint o bwysau ariannol ar ein Cynghorau Sir, siawns nad oes angen dechrau cefnogi ein canolfannau a’n llwyfannau sefydlog?

Drama fer Marged Parry i gychwyn, ‘Traed Bach Concrit’ wedi’i lleoli yng Nghaerdydd ‘y dyfodol agos’, wrth baratoi am y Datguddiad Mawr . Arch Noa o unedau gwydr gyda’r dewisedig rai, a’u tocynnau, bob yn ddau, yn cyd fyw a chyd ddelfrydu. Er bod dialog Marged yn adleisio dawn unigryw ei thad Gwenlyn, a phortread Siw Huws a Hana Jarman o’r ‘Fflur’ a’r ‘Lowri’ lwcus yn cynnal ein diddordeb, roedd angen tipyn mwy o waith ar adeiladwaith a diweddglo’r ddrama, er mwyn codi lefel y tensiwn theatrig rhwng y ddwy, gan archwilio’r paranoia a’r gaethiwed glos fyddai’n sicr o fod wedi effeithio ar bob enaid byw. Sbardun i ddrama hirach o bosib? 


Fel gyda’r llais a llun y gŵr ‘robotaidd’ (Tom Eames) yn y ddrama gyntaf, ac yn fwy fyth gyda llais y ‘swyddog’ (Siw Huws) yn nrama gymhleth ond gyfoethog, Dyfed Edwards, ‘Llwch o’r Pileri’, roedd hadau pwysig y stori a’r cyd-destun yn cael ei draethu drwy droslais, ym munudau cyntaf y dramâu byr. Y munudau gwerthfawr hynny, ble mae angen amser i ymgynefino â’r gofod, yr amser, y cymeriadau, y set, a’r goleuo, heb sôn am ganfod stori! Mae angen llawer mwy o gymorth ac amser inni ddod i ddeall, a derbyn beth sydd o’n blaen. Er bod drama Marged wedi llwyddo gymaint yn well, diolch yn bennaf i set ddiddorol Cai Dyfan, a goleuo gwych Ace McCarron,  roedd llais a chyflwyniad y ‘brawd mawr’ yn amharu ar ei neges.

Fe effeithiodd y dryswch a’r diffyg cyd-destun hwn ar fy mwynhad o ddrama Dyfed Edwards hefyd, oedd wedi’i osod yn y gorffennol dychmygol, er inni gael ein boddi gan gerddoriaeth Wagner, ein dallu gan ddelweddau symudol go iawn o’r Ail-Ryfel Byd, i gyfeiliant y geiriau ‘Caerdydd 1958’ ar y sgrin, o boptu’r llwyfan. Fel gwybedyn ar wyneb y dŵr, roeddwn i ar goll, yn sgrialu ymysg y Swastikas, yn pryderu am y posibilrwydd o orfod pori yn hanes Caerdydd ym 1958, yn cael fy swyno gan bresenoldeb Siw Huws yn ei dillad cyfnod mamol, a chael fy nychryn gan yr ‘Hilter Youth’ ar y llwyfan oedd yn ymarfer rhoi gwn yn ei cheg i ladd ei hun.  Delweddau a’m dychrynodd yn llwyr. Wrth fynd yn ôl at y testun, y bore canlynol, roedd yr hadau hollbwysig  unwaith eto, yn y troslais diog, yn neialog lenyddol gyhyrog Dyfed, ar gychwyn y ddrama. Ffeithiau a chyd-destun a ddylid fod wedi cael ei gyfleu yn fwy cynnil a chlir drwy’r ddialog neu’r elfen weledol o’r llwyfannu.

Drama Sharon Morgan, ‘Myfanwy yn y Moorlands’ a’m swynodd fwyaf, a hynny lawer mwy, o’i hail ddarllen ar bapur.  Ar yr olwg gyntaf, gyda’i chês a’i chot, dychmygais mai Shirley Valentine o gymeriad oedd ‘Myfanwy’ (Siw Huws), wrth gael ei swyno, ei serenedio a’i sediwsio gan y llanc o Sais, Tom Eames. Ond wrth iddo ei thywys drwy strydoedd presennol y ddinas, dechreuodd yr amwysedd ynglŷn â’i ‘bresenoldeb’ a gweledigaeth Myfanwy o’r Caerdydd gyfoes. Caerdydd ei hatgofion o’r 1970au ddaeth i’w chysuro.  Er mod i’n deall (a derbyn) dadl y ‘mewnlifiad’ i Gaerdydd o Gymry amrywiol, dwi’n dal i feddwl y byddai’r ddrama (a’r syniad craidd) wedi’i atgyfnerthu gan bresenoldeb acen amrwd Caerdydd, y brif actores, nid Gogleddol


Clod i’r dramodwyr am fynd ati i lunio gwaith o safon uchel iawn; gwaith a fwynheais lawer yn fwy o’u darllen wedyn. Wedi treulio cymaint o amser yn hyfforddi dramodwyr, efallai fod hi’n amser nawr i hyfforddi cyfarwyddwyr fydd yn gallu parchu eu gwaith, sy’n gallu pellhau eu hunain ddigon o’r ymarferion a’r blynyddoedd o baratoi i ofyn mewn gwaed oer, ydi neges, stori, cyd-destun neu ddiben y ddrama hon yn gneud synnwyr? Ydi PAWB (gan gynnwys yr actorion) yn DEALL beth sy’n digwydd?

Fel gyda dramâu Aled Jones Williams, (fu’n hyfryd ei weld yn y Donmar yn ddiweddar) dwi’n dal i aros am gynhyrchiad teilwng o’i waith yntau. Felly, mae’r dramodwyr ‘newydd’ uchod mewn cwmni da iawn!