Total Pageviews

Friday 26 March 2010

'Love Never Dies'






Y Cymro – 26/03/10

Wedi’r disgwyl, a’r dyfalu, y trafod a’r traethu, fe agorodd sioe ddiweddara Andrew Lloyd Webber, ‘Love Never Dies’ yn wyneb môr o feirniadu a sylwadau negyddol y cyhoedd a’r beirniaid. A bod yn deg, roedd ei dasg o orfod creu dilyniant i un o’r sioeau cerdd fwyaf llwyddiannus yn ein hanes yn dipyn o her, gan fod ‘Phantom of the Opera’ yn gymaint o glasur poblogaidd.

Gwta fis cyn mynychu un o nosweithiau cynta’r cynhyrchiad, fe ail-ymwelais â theatr Her Majesty’s er mwyn profi gwefr y gwreiddiol unwaith yn rhagor. Roedd hi’n fraint cael bod yno, i ymdoddi ym melfedrwydd melodïau llinnynol Lloyd Webber, a rhyfeddu unwaith eto at y triciau llwyfan dramatig, sy’n rhan o lwyddiant y gwrieddol. O’r gwisgoedd i’r set, i’r canu a’r campau, mae’n anodd curo’r naws a safon y sioe hon, a fu’n drobwynt sicr yn hanes y ddrama gerdd yn y West End a Broadway.

Felly, beth am y dilyniant, sydd wedi cael ei alw gan rai yn ‘Paint Never Dries’ neu ‘Let Love Die’! O diar! A fu’r beirniadu yn deg, ta oes yma bethau i’w canmol?

Mae’r stori newydd yn cychwyn deng mlynedd wedi’r gwreiddiol, wedi i’r ‘Phantom’ ( Ramin Karimloo)ffoi o’i ogof danddaearol yng nghrombil y Tŷ Opera enwog ym Mharis. Drwy gymorth ‘Madame Giry’(Liz Robertson), (yr athrawes ballet yn y gwreiddiol) dihangodd y ‘Phantom’ ar draws y môr i’r Amerig, ble yr ymgartrefodd ar Coney Island, yn Efrog Newydd, gan etifeddu ffair a sioe o ryfeddodau amrywiol o’r enw ‘Phantasia’. ‘Mr Y’ yw ei enw bellach, a ‘Mr Y’ sy’n anfon gwahoddiad i’r gantores enwog , a channwyll ei lygad, ‘Christine Daaé’ (Sierra Boggess) yn ôl i ganu yn ei sioe. Oherwydd problemau ariannol yn ei phriodas gyda’i gŵr ‘Raoul’(Jospeh Millson) mae hi’n derbyn y gwahoddiad, ac mae’r teulu, gan gynnwys eu mab, deng mlwydd oed, ‘Gustave’ (Jack Blass) yn cyrraedd yr ynys, ac yn derbyn croeso mawr.

Rŵan, does dim angen bod yn llawer o dditectif na chyfrifydd i ganfod un tro yn y stori, a’r gwirionedd ‘mawr ‘ sy’n cael ei ddadlennu ar ddiwedd yr Act gyntaf!. I mi, roedd hi’n fwy anodd credu pryd yn y byd y cafodd Christine a’r Phantom gyfle i fod digon agos i achosi’r fath ganlyniad! Ond dyna ni, os gall gar hedfan, llew ganu neu wrach droi’n wyrdd, yna gall unrhyw beth ddigwydd ym Myd y Ddrama Gerdd!

Arwahan i’r ffaith bod y stori’n dila, y gerddoriaeth yn ddiflas a di-liw, y set dros ben llestri, yr agorawd yn wan a’r diweddglo yn anghredadwy, yna does yna fawr ar ôl i’w ganmol. Dwy gân yn unig sy’n codi uwchlaw'r “Vaudeville trash” ( a defnyddio geiriau Madame Giry) sef prif gân y Phantom ‘’Til I hear you Sing’ a’r gân y mae’r Phantom wedi’i gyfansoddi i Christine sef y brif alaw, ‘Love Never Dies’ (sydd, yn ôl cyfaddefiad Lloyd Webber ei hun yn ‘hen’ gân gafodd ei ddefnyddio yn ei ddrama gerdd ‘A Beautiful Game’ flynyddoedd ynghynt, ac sydd wedi cael ei ganu gan Dame Kiri Te Kanawa yn ogystal)

Wedi gwrando ar y gerddoriaeth eto, ers gweld y cynhyrchiad, mae’n rhaid imi gyfaddef fod yna ambell i alaw arall sy’n glynu yn y cof, ond falle mai safon y recordiad sy’n gyfrifol am hynny, ac nid y perfformiad byw. Siom mawr oedd y llanast ar y llwyfan, sydd wedi esgor ar sawl ddadl danbaid yma yn Llundain dros yr hawl i feirniadu’n onest. Mae’n amlwg fod gan rai beirniaid ofn pechu enw da Lloyd Webber, ond mae pawb yn gneud cam gwag weithiau. Bechod mai naid gostus o gamgymeriad yw’r ymgais hon.

Mae ‘Love Never Dies’ i’w weld yn Theatr yr Adelphi ar hyn o bryd. Mwy o fanylion drwy ymweld â www.loveneverdies.com

Friday 19 March 2010

'Ghosts'




Y Cymro – 19/03/10

Roeddwn i’n falch iawn o ddarllen yn rhaglen cynhyrchiad Daniel Evans o ‘An Enemy of the People’ yn y Crucible, Sheffield, ei fod yntau, fel minnau, yn hoff iawn o ddramâu Ibsen. Yng ngeiriau Daniel, ‘does neb gwell am adrodd stori na Ibsen’, ac wedi cael tymor go hegar o gynyrchiadau o’i waith yma yn Llundain, allai mond cytuno ag ef. ‘A Doll’s House’ oedd y cynta’, a hynny yng nghynhyrchiad y Donmar Warehouse a soniais amdano yn Y Cymro fis Mehefin dwetha; ‘Ghosts’ oedd yr ail gynhyrchiad imi’i weld, yng nghynhyrchiad Iain Glen a Lesley Sharp, sydd i’w weld yn Theatr y Duchess ar hyn o bryd; ac yna cynhyrchiad Daniel o ‘An Enemy of the People’ yn Sheffield y penwythnos diwethaf.

Drwy ryw ryfedd wyrth, all yr amseru ddim wedi bod yn fwy priodol, gan mai dilyniant i’w gilydd oedd y dramâu uchod. Wedi clec y drws ar ddiwedd y ddrama ‘Tŷ Dol’, wrth i’r fam a’r wraig ‘Nora’ adael ei gŵr a’i theulu, (ac a newidiodd feddwl cynulleidfaoedd y cyfnod, gan agor y drws ar feddylfryd newydd yn yr Oes Fictoria) roedd ‘Ghosts’ yn ymgais i ddadlennu cyfrinachau teuluol, ac yn yr achos hwn, clefydau rhywiol a phechod y tadau. Cafwyd sawl cyfieithiad Cymraeg o’r ddrama dros y blynyddoedd, gyda’r teitlau Cymraeg yn fwy cywir na’r Saesneg; ‘Dychweledigion’ oedd ymgais T Gwynn Jones, a’r testun yr astudiais yn y Coleg lawer dydd; ‘Ddoe yn ôl’ oedd ymgais Gruffydd Parry, sydd eto’n nes ati, a chynhyrchiad y diweddar Graham Laker gyda Chwmni Theatr Gwynedd, yn fyw yn y cof.

Gogoniant Ibsen yw ei allu i adeiladu dramâu yn gelfydd; pob un yn ddestlus a dwys, ond ag ochor gomediol gref iddynt. Y patrwm clasurol yw’r gyfrinach; y gosodiadad, y datblygiad ac yna’r canlyniad, a thrwy’r llwybr storïol, y gallu i newid bywydau’r cymeriadau am byth.

Roeddwn i wedi dychmygu’r weddw, ‘Mrs Alving’ i fod yn wraig fonheddig, urddasol, yn ddwys yn ei distawrwydd, gan geisio cuddio’r cyfrinachau ac i wneud popeth i arbed ‘ddoe yn ôl’. Yn anffodus, doedd osgo, gwisg na chymeriadu Lesley Sharp ddim yn cyd-fynd a fy nehongliad i ohoni, ac felly fe gymrodd hi beth amser i’r portread ennyn fy nghydymdeimlad a fy niddordeb. Does dim dwywaith fod y gallu ganddi i gyrraedd y nod, ac roedd ei hymateb i’r ‘ysbrydion’ yn gofiadwy iawn, felly hefyd diwedd y ddrama, wrth i realiti pechod y tad, gael ei ail-adrodd yng nghymeriad ei mab ‘Oswald’ (Harry Treadaway ). Cyson a chadarn oedd portread Iain Glen o’r Parchedig ‘Manders’, a’i allu geiriol i swyno a sleifio i le bynnag y myn, a’i angor cyson i ofnau a chyfrinachau ‘Mrs Alving’. Perthynas y forwyn ‘Regina’ (Jessica Raine ) gyda ‘r mab yw’r dechrau’r diwedd, yn hanes y teulu, pan ddadlenni’r mai’r diweddar Gapten Alving, oedd ei thad hithau hefyd. Rhagrith teulu a chymuned, a’r cyfan yn fud a diffrwyth wedi dadlennu’r gwirionedd, a chwffio ysbrydion ddoe.

Roedd yr ymateb i’r cynhyrchiad gwreiddiol ym 1898 yn ddamniol, a hynny am fod Ibsen wedi meiddio dyrchafu’r fath destun i ogoniant llenyddol. Galwyd y ddrama wreiddiol yn “An open drain: a loathsome sore unbandaged; a dirty act done publicly....Gross, almost putrid indecorum....Literary carrion.... Crapulous stuff" yn ôl y Daily Telegraph. Anodd dychmygu’r effaith ar gynulleidfaoedd yr unfed ganrif ar hugain, ac oherwydd hynny, collwyd llawer o’r elfen amrwd, fentrus ac erchyll, fel y profwyd bryd hynny. Serch hynny, drwy’r set foethus a chyfarwyddo medrus Iain Glen, roedd yma gyfle i ddathlu gwaith Ibsen, er gwaetha absenoldeb anghyffyrddusrwydd y gwreiddiol.

Mae ‘Ghosts’ i’w weld yn Theatr Duchess, Llundain tan fis Mai.

'An Enemy of the People'





Y Cymro - 19/03/10

Wedi’r helynt cyhoeddus dros ‘Ghosts’, roedd drama nesaf Ibsen yn ymateb heriol i’r rhagrith teuluol a chymunedol , ac yn ‘An Enemy of the People’ roedd ei fwriad yn glir; beth yw gwerth y gwirionedd? Ydi hi’n well cadw’n dawel er mwyn achub enw da, ynteu ddatguddio’r gwirionedd, er gwaetha’r canlyniadau?

Anthony Sherr ydi’r enw mawr y llwyddodd Daniel Evans i’w ddenu i Sheffield i ddathlu ail-agor y Crucible wedi’r pymtheg miliwn o wariant i’w wella. Er na fues i erioed yn y Crucible o’r blaen (er mod i wedi gweld y theatr ganwaith ar raglenni snwcer y BBC!) roedd hi’n anodd gweld ple bu’r gwario, a bod yn onest. Rhaid derbyn gair y gwybodusion lleol fod symud y bar a’r dderbynfa wedi bod yn werth y cyfan, heb son am y carped crand dan draed!

‘Dr Stockmann’ yw prif gymeriad cynhyrchiad godidog Daniel, sy’n cael ei bortreadu’n gynnil ac eto’n gynnes gan allu meistrolgar Sherr. Roedd ei osgo a’i edrychiad blewog, llond ei groen yn gweddu’n syth i’r gŵr sydd â’r dewis anodd yn y ddrama; a ddylai ef gyhoeddi’r gwir am y llygru cemegol sy’n digwydd i ddŵr y baddondai cyhoeddus, fydd yn denu’r cyhoedd yn ôl i’r dref, a thrwy hynny achub ei thranc, ac adfer ei chyfoeth? Ydi’n well gwarchod iechyd y bobol, yn hytrach na’u cyfoeth? John Shrapnel yw Maer y dref a brawd y Doctor, ac ef sy’n llywio’r gwrthwynebiad cyhoeddus i’r cyfan, gan gynnwys dyn y Wasg leol, ‘Hovstad’ sy’n cael ei bortreadu’n berffaith gan Trystan Gravelle hynod o flewog, unwaith eto! Fu bron imi alw’r cynhyrchiad yn ‘Blewyn y Bobol’, gan fod cymaint o flewiach rhwng yr holl gymeriadau gwrywaidd. Braf oedd gweld Trystan unwaith eto yn hawlio’i le ar y llwyfan, ac yn serennu gystal â Sherr ei hun, gydol y ddrama.

Allwn i lawn gydymdeimlo gydag angerdd a brwydr Dr Stockmann i gyhoeddi’r gwirionedd, er gwaetha pawb a phopeth, ac fe roddodd hynny gryn fwynhad imi’n bersonol, wrth fedru uniaethu gyda’i aberth, dro ar ôl tro.

O’r eiliad y camais drwy ddrws y theatr, roedd set chwaethus Ben Stones yn taro deuddeg yn syth. Sgwâr o garped trwchus coch oedd canolbwynt y cyfan, ac o’i gwmpas dodrefn moethus o’r cyfnod, wedi’i osod yn ofalus, er mwyn i’r actorion fedru cyfathrebu â’r gynulleidfa ar bob ochor. Yn gysgod dros y cyfan, oedd talcen a tho’r plasty, oedd yn adlais effeithiol o’r ‘Tŷ Dol’ gwreiddiol, a’i ffenestri llwyd a’u cysgodion prysur, yn enwedig tua diwedd yr Act Gyntaf, wrth gyfleu’r swyddfa bapur newydd, eto’n adlais o gysgodion y gorffennol. Wrth inni fwrw drwy’r golygfeydd amrywiol, fe newidiodd y mur yn ôl y galw, gan droi’n swyddfa, yn lolfa, yn neuadd bentref ac yn groglofft. Yma eto, roedd goleuo Tim Mitchell yn llwyddo i osod y naws cywir ymhob tro yn y ddrama, yn enwedig tua’r diwedd wrth i Dr Stockmann orfod penderfynu ei dynged.

Llyfnder a lluniau creadigol cyfarwyddo medrus Daniel Evans yw allwedd llwyddiant y cyfan, ac sydd wedi sicrhau sawl adolygiad pum seren, yn y Wasg Genedlaethol. Mi wn fod Daniel yn falch iawn o’r cynhyrchiad, ac fe ddylai fod. Roedd y cyfanwaith yn gofiadwy tu hwnt, y cyfarwyddo a’r actio o’r safon uchaf, a’r neges yn glir a chyfredol.Dim ond gobeithio y daw Daniel yn ôl i gyfarwyddo (ac actio) yng Nghymru, yn y dyfodol agos, gan fod angen ei arweiniad yn sicr arnom.

Mae ‘An Enemy of the People’ i’w weld yn Sheffield tan yr 20fed o Fawrth. Mwy o wybodaeth am raglen Daniel drwy ymweld â www.sheffieldtheatres.co.uk

Friday 5 March 2010

Ateb yn ôl (eto!)

Y Cymro 05/03/10

Wedi misoedd o dawelwch, yn fwriadol felly, mentrais yn ôl i dudalennau’r Cymro i fynegi barn ar gynhyrchiad olaf y Theatr Genedlaethol, o dan arweiniad Cefin Roberts. O be welai o’r adolygiadau eraill o ‘Y Gofalwr’, doedd fy llith beirniadol ddim yn bell o’r farn gyffredinol. A dyma ddod at lythyr damniol y Bnr Huw Roberts, Caernarfon yn Y Cymro’r wythnos diwethaf (rhifyn 26 Chwefror). Mae’n dda fod fy nghefn i’n ddigon llydan dyddiau hyn, i dderbyn holl saethau gwenwynig gan y Cofi cas!

I ddarllenwyr cyson Y Cymro, fe wyddoch nad dyma’r tro cynta’ imi gael fy meirniadu am feiddio deud pethe cas am y Theatr Genedlaethol! Trist o beth yn yr unfed ganrif ar hugain! ‘Wedi cael llond bol ar y sgwennu plentynnaidd... a chwerthinllyd’ oedd ei gŵyn cyntaf, cŵyn y medrwn innau daro’n ôl ato yntau, wedi darllen ei lythyr cyfan! ‘Cynnig truenus i greu pennawd’ oedd ei ymosodiad nesaf, am imi feiddio dweud bod y Theatr Genedlaethol wedi gwastraffu saith miliwn o bunnau dros y saith mlynedd o siom diwethaf! Barn bersonol oedd y datganiad hwnnw - mae gan bawb ryddid i ddatgan hynny, os nad ydi cyfraith y Cofi cas yn erbyn hynny hefyd!

Siom yn wir a gefais i (bron) bob tro gan arlwy’r Theatr, a dyna pam y dewisais i beidio mynd i weld rhai o’r cynyrchiadau diwethaf, gan gynnwys ‘Ty Bernanda Alba’ na ‘Tyner yw’r Lleuad heno’, gan nad oeddwn i’n dymuno ychwanegu at y feirniadaeth oedd eisoes yn corddi. Tydwi erioed wedi cytuno gyda phenodiad Cefin, a heb weld dim i gyfiawnhau hynny. Sawl drama (neu ddramodydd) newydd a gafwyd yn sgil gwario’r fath arian? Sawl cynhyrchiad sydd wedi tanio trafodaeth danbaid ar Wleidyddiaeth Cymru, neu sydd wedi rhoi gwedd newydd ar hen chwedl, stori neu ddigwyddiad? Sawl cynhyrchiad sydd wedi rhoi llwyfan i enwau mawr, byd y Theatr yng Nghymru, neu sydd wedi gwthio ffiniau’r theatrig mewn modd y bydd pawb yn cofio amdano am amser hir? Falle y gall y Bnr Roberts gynnig esboniad o ‘werth’ y gwario a fu, ar y Drasiedi Fawr o gychwyn y Theatr Genedlaethol Gymraeg?

Tybed os mai hwn yw’r un ‘Huw Roberts’ a fu’n ceisio’n ddyfal i gysylltu â mi, nôl yn 2007, er mwyn datagn ei gefnogaeth i fy sylwadau ar y Theatr Genedolaethol, ond ei fod, ‘oherwydd natur ei swydd’ yn rhy llwfr i ddweud hynny’n gyhoeddus?

‘Hunandwyll’ yw’r ymosodiad nesaf, a’r awgrym fy mod i’n ceisio ‘portreadu fy hun fel arbenigwr ar Pinter’, am fy mod i ‘wedi gweld cynhyrchiad o’r ddrama yn Llundain’. Does ryfedd fod y Cofi cas wedi hurtio’n llwyr, gan ei fod yn amlwg heb ddarllen fawr ddim ar fy ngholofn yn Y Cymro dros y tair blynedd diwethaf! Cyfaddef fy mod i’n ffan mawr o waith Pinter wnes i, yng nghyd destun ‘Y Gofalwr’, felly hefyd ar raglen Y Celfyddydau ar BBC Radio Cymru, wythnos ynghynt. Petai’r Bnr Roberts wedi treulio mwy o amser yn DARLLEN fy ngeiriau, yn hytrach nag weld beiau, falle y byddai wedi gweld fy adolygiad o ‘The Birthday Party’ ac ‘Old Times’ (Mai 2006), ‘Being Harold Pinter’ (Chwefror 2008), ‘The Lover’ ac ‘The Collection’ (2007) heb sôn am ddarllen pob drama o’i eiddo, ac wedi gwylio sawl fersiwn teledu ohonynt, a chael y cyfle i gwrdd â’r dyn ei hun, cyn ei farw ym 2008. Falle fod hyn yn rhoi mymryn mwy o hawl imi feiddio rhannu fy sylwadau, ac yn fwy o reswm i’r Bnr Roberts ymarfer un o ddoniau mwyaf Pinter, sef saib hir o dawelwch!

‘Er mwyn ennill edmygedd fel adolygwr rhaid medru dangos profiad’ meddai wedyn; wel sut mae mesur ‘profiad’ hoffwn i wybod? Ydi ymweld â’r theatr ddwywaith neu deirgwaith yr wythnos ddim yn ddigon? Ydi adolygu dros 300 o gynyrchiadau fymryn nes at y lan? Ydi gweithio o ddydd i ddydd gyda chyfarwyddwyr, cynllunwyr a choreograffwyr gorau’r Wlad, neu reoli 18 o gynyrchiadau theatr bob blwyddyn yn golygu dim? Neu beth am sefydlu cwmni drama pan yn 13oed, ymweld â’r theatr ers yn ddeg oed neu ddarllen cannoedd o gyfrolau am hanes y ddrama yng Nghymru, yn ddigon ganddo? Faint o’r ‘priodoleddau’ yma sy’n perthyn i’r Bnr Roberts tybed?

A’r insylt mwyaf, yw’r hen hen ddadl ‘blentynnaidd’ a ‘chwerthinllyd’ a defnyddio dau derm y bydd y Cofi cas yn hen gyfarwydd â hwy, sef y ddadl o ‘feirniadu’ yn ‘bersonol’. Am imi feiddio deud gair cas am rywun, yna mae’r ddadl yn ‘bersonol’ yn hytrach na’n ‘greadigol’. Rybish llwyr, a dyna yw gwendid a melltith fwyaf y Theatr yng Nghymru. Yr angen am feirniadu a thrafodaeth gyhoeddus yw’r iachâd sydd angen arnom. Diolch i’r Cymro am gael yr hyder i gyhoeddi erthyglau sy’n codi trafodaeth, fel dwi’n gobeithio y bydd llythyr dienw am y ‘Theatr yn methu cyrraedd targedau cynulleidfaoedd’ a welwyd o dan ymosodiad pitw y Cofi cas, yn ei wneud!

Mae gennym, yn y cwmni Theatr Genedlaethol, obaith a photensial am chwip o lwyfan creadigol a gwleidyddol; y cyfan sydd angen yw dwylo a meddwl medrus a phrofiadol i gyflawni’r cyfan, gyda Bwrdd o arbennigwyr i’w cefnogi. Rhaid cychwyn eto gyda lleisiau a meddyliau agored; anghofio’r ffars a’r Drasiedi a fu, gan greu gwir Gwmni Cenedlaethol sydd â dyfodol y Theatr Gymraeg wrth ei wraidd, yn hytrach na stabal i ego’s personol ac ail-gyflwyniadau syrffedus o ddyddiau a fu. Petai’r Bnr Roberts yn deffro o’i drwmgwsg, ac yn mentro i’r Ŵyl yng Nghaeredin, neu i lwyfannau llai Llundain, falle y byddai’n gweld pa mor druenus o dila oedd gweledigaeth Cefin, hyd yma.

Roeddwn i wedi gobeithio adolygu perfformiad rhagorol Connie Fisher yng nghynhyrchiad teithiol o ‘The Sound of Music’ a welais yn Nhŷ Opera Belfast, tros y penwythnos, neu berfformiad godidog y Cymro Roger Rees yn ‘Waiting for Godot’ yn yr Haymarket, a welais yr wythnos diwethaf, ond diolch i’r Bnr Roberts, amddiffyn fy hun yn hytrach nag adolygu y bu hi’r wythnos hon. Cynhyrchiad hir ddisgwyliedig o’r dilyniant i ‘Phantom of the Opera’ dan yr enw ‘Love Never Dies’, cynhyrchiad newydd o ‘Ghosts’ Ibsen, ‘Private Lives’ Noel Coward a chynhyrchiad Daniel Evans o ‘An Enemy of the People’ yw’r arlwy yr wythnos hon; ydi hynny’n ddigon am un wythnos Mr Roberts...?

Thursday 4 March 2010

'Private Lives'



Y Cymro – 04/03/10
Mae’r patrwm o ddenu ‘seren’ o raglen deledu neu ffilm yn parhau i fod yn fformiwla lwyddiannus yma yn Llundain, ac yn sicrhau gwerthiant uchel rhag blaen i gynhyrchiad newydd. Kim Cattrall o’r gyfres ‘Sex in the City’ ydi’r ysglyfaeth diweddara i gyrraedd y West End, yng nghomedi clasurol Noël Coward, ‘Private Lives’ yn Theatr Vaudville ar y Strand.

Drama am ddau gwpl sy’n cyrraedd yr un gwesty, ar eu mis mêl, yw’r stori graidd, ac mae’n amlwg o’r cychwyn cyntaf, diolch i ddialog llithrig a llawn llysnafedd Coward, nad ydi’r bywyd priodasol mor berffaith â’r disgwyl i’r naill na’r llall. Wrth i ‘Elyot’ (Matthew Mac Fadyen) a ‘Sybil’ (Lisa Dillon) ymddiddan ar eu patio moethus yn Normandi, Ffrainc, yn ddiarwybod iddynt, mae cyn wraig ‘Elyot’, ‘Amanda’ (Kim Cattrall) yn ymddiddan gyda’i gŵr newydd ‘Victor’ (Simon Paisley Day ) ar y patio drws nesa! Wedi adnabod ei gilydd, mae’r cyn ŵr a gwraig yn ceisio’u gorau i berswadio eu partneriaid newydd i adael y gwesty rhag blaen, ond er gwaetha’r crefu, buan y sylweddolwn nad oes fawr o ddyfodol i’r ddau gwpl. ‘Hawdd cynnau tân ar hen aelwyd’ medd yr hen air, ac erbyn diwedd yr act gyntaf, mae yma danllwyth o goelcerth angerddol a’i wres yn ddigon i ddenu pawb yn ôl i’r ail act!

Fflat moethus Amanda ym Mharis yw lleoliad yr ail act, a rhai dyddiau yn ddiweddarach, mae’r angerdd a’r hen gecru yn amlwg. Cytuno i anghytuno mae’r hen gariadon, a’r naill fel y llall yn gorfod defnyddio’r term “sollocks” fel modd i dawelu’r dadlau ffyrnig - y dadlau a roddodd y diwedd ar eu priodas dair blynedd, ac a barodd i’r ddau fod arwahan am bum mlynedd! Ynghanol y dadlau, ar ddiwedd yr ail act, mae Victor a Sybil yn cyrraedd, i ganfod y llanast rhyfedda yn y fflat, a’u partneriaid yng ngyddfau’i gilydd.

Wedi’r fath adeiladwaith, braidd yn dila oedd y drydedd act, wrth i Coward geisio dod â’r cyfan i ganlyniad taclus. Trwsgl oedd y cyfan imi, a’r awgrym fod ‘Sybil’ a ‘Victor’ bellach yn dilyn yr un patrwm yn syrffedus o gyfleus. Gorddibyniaeth ar y cyd-ddigwyddiadau oedd fy mhrif broblem efo’r ddrama, ynghyd â hiwmor gor Brydeining Coward, wrth i ddwsinau o linellach bachog lithro oddi ar dafodau melfedaidd Mac Fayden a Cartrall.

Cryfder y cynhyrchiad oedd set odidog, art deco Rob Howell, yn enwedig yn yr ail act, wrth gyfleu holl foethusrwydd y fflat modern ym Mharis, efo’i soffa ar dro a’i danc pysgod hynod o ddiddorol a ffasiynol. Roedd safon actio'r pedwar cymeriad hefyd yn uchel iawn dan gyfarwyddyd Richard Eyre.

Rhaid cyfaddef bod y gynulleidfa hŷn, Brydeinig eu naws, wedi llwyr fwynhau’r cyfan, ac yn glanna o chwerthin dro ar ôl tro. Ond i fachgen o Ddyffryn Conwy, sy’m cweit yn gwerthfawrogi clyfrwch Coward, un jôc yn ormod oedd y cyfan imi.

Mae ‘Private Lives’ i’w weld yn y Vaudville tan Mai 1af. Mwy o wybodaeth drwy ymweld â www.nimaxtheatres.com