Total Pageviews

Friday 31 August 2007

Gwyl Caeredin 2007 : 'Damascus'



Y Cymro - 31/8/07

A rŵan yn ôl at y pethau pwysig, ac at fwy o’r deg-sioe-ar-hugain welis i mewn wythnos yn Yr Alban. Sioeau yn amrywio o’r Ballet i gonsuriwyr, o ddramâu cerdd i theatr gorfforol.

Ac yn syth o Theatr y Traverse i dderbynfa gwesty yn ‘Damascus’ sef drama newydd gan un o brif ddramodwyr yr Alban David Greig. Dyma ddrama lle bu llawer o heip amdani, a minnau felly yn edrych ymlaen yn fawr i’w gweld. Ond, am y fath siom. (Bydd rhai Cymry yn falch o glywed bod yr Alban hefyd yn methu weithiau!) Roedd y set i gychwyn mor siomedig, ac yn debycach i gynhyrchiad coleg neu amatur. Oherwydd y fflatiau di-siap amrywiol, wedi’u peintio gan ddefnyddio sbwng i lyfu’r paent ar furiau, fe greodd hyn broblem enfawr i’r cynllun goleuo oedd mor ddiddychymyg a diflas. Dilyn hanes yr awdur a’r gwerthwr llyfrau addysgol ‘Paul’ (Paul Higgins) ydi craidd y stori, wrth iddo aros yn Damascas ar waith, yn ceisio gwerthu llenyddiaeth i’r llywodraeth. Mae’n cwrdd â merch ddeniadol o’r enw ‘Muna’ (Nathalie Armin) ac mae perthynas yn cychwyn rhwng y ddau. Ond yn sgil diffyg diddordeb y gŵr yn ei waith, ac yn natur wleidyddol y wlad a’i phobol, mae trasiedi fawr yn ei aros. Er cystal ambell i linell grafog yn y sgript, wnaeth y cynhyrchiad ddim taro deuddeg.

Gwyl Caeredin 2007 : 'Retreat'



Y Cymro - 31/8/07

Cyfansoddwyd y ddrama ‘Retreat’ ym 1995 gan James Saunders, ei ddrama olaf cyn ei farwolaeth yn 2004. Mae’r ddrama wedi’i gosod mewn bwthyn diarffordd yng Nghymru, ble mae’r awdur canol oed ‘Harold’ (Gary Mackay) yn dod wyneb yn wyneb â merch ifanc pedair ar bymtheg oed ‘Hannah’ (Alix Wilton Regan). Datgelir yn y stori bod Hannah yn ferch i ffrind gorau Harold yn Llundain, ac a fu farw mewn damwain erchyll. Yn fuan wedi’r ddamwain, dihangodd Harold i Gymru, gan chwilio am loches ddiogel, ac i gladdu’r gorffennol. Wrth i’r wisgi lifo, a’r gerddoriaeth ddechrau swyno, mae’r gwirionedd yn siŵr o ddod i’r fei.

A bod yn onest, yr unig reswm dros osod y ddrama yng Nghymru oedd er mwyn cynnwys dau gyfeiriad a jôcs rhad at yr ymgyrch losgi’r tai haf. Er bod y perfformiad y ddau yn deilwng iawn, roedd yr Albanwr Gary Mackay yn llawer rhy ifanc i fod yn ganol oed credadwy. Y peth mwya’ arbennig am y cyfan oedd y gwydr o wisgi (Albanaidd) am ddim ar gychwyn y ddrama! A chredwch fi, roedd ei angen o arna’i!

Gwyl Caeredin 2007 : 'Under Milk Wood'



Y Cymro - 31/8/07

Do, mi welais ddau gynhyrchiad o Dan y Wenallt - un gan gwmni ‘Plantlife Productions’ a’r llall yn sioe-un-dyn gan Guy Masterson oedd yn feistr ar ei grefft, ac a wnaeth gamp aruthrol i gofio’r holl gerdd o’i chychwyn i’r diwedd. Aethpwyd â ni i lawr strydoedd culion Llarreggub, a’n cyflwyno i’r holl gymeriadau cofiadwy, a’r cyfan trwy ddefnyddio ei lais a chynllun goleuo syml, a ‘bugger all’ arall! . Arbennig iawn.

Gwyl Caeredin 2007 : 'Vortigern's Kingdom'



Y Cymro - 31/8/07

Sioe arall wnaeth apelio ataf yn y rhaglen oedd ‘Vortigern’s Kingdom’ (Teyrnas Gwrtheyrn) gyda’r storïwr Owen Staton yn mynd â ni ar drywydd rhai o chwedlau Cymru. Ddaru’r sioe ddim cychwyn yn dda, wrth i Owen godi baner y ddraig goch, a’r ddraig druan yn edrych am yn ôl. Drwy gymorth Carys Donahue-Davies ar y Soddgrwth, a’r actorion David Davies a Rachel Louise Howells, dramateiddiwyd hanes dreigiau Dinas Emrys a Llyn y Fan Fach, cyn mynd â ni i ar drywydd Gelert. Yn eu rhagarweiniad (oedd yn gymysg o gomedi a ffeithiau) dyma gyflwyno ‘Prince Llewelyn’ a’i wraig - ‘Eleanor De Montford’ a’r babi dan sylw oedd y dywysoges ‘Gwenllian’! O’r mawredd, dyma gamsyniad, a nhwtha yn amlwg wedi drysu rhwng Llywelyn ein Llyw Olaf a’i daid Llywelyn Fawr sef gwir berchennog Gelert! Er eu cyflwyniad digon boddhaol (ar wahân i’r camgymeriadau) allwn i’m peidio teimlo mai sioe-un-dyn oedd yma yn y bôn, ac fe ddylia Owen fod wedi adrodd y straeon ei hun. Mi nodais y camgymeriadau wrth adolygu’r sioe ar wefan yr Ŵyl Ymylol, ac mi dderbyniais i ymateb beirniadol yno hefyd, a’n ngalw yn genedlaetholwr am gywiro!

Oes, mae angen cefn llydan a llawer o ddewrder ymhobman yn amlwg!

Ateb y beirniaid...



Y Cymro - 31/8/07

‘Dach chi’n fachgen dewr iawn!’, oedd geiriau Gwilym Owen, y tro cynta’ imi gwrdd ag o, ‘glynwch at eich gwerthoedd.’ A chredwch fi, dwi wedi gorfod magu cefn llydan iawn ers cychwyn y golofn hon, fel y gwelwch yn sgil y llythyrau gwenwynig sydd wedi’u cyfeirio ataf dros yr wythnosau diwethaf. Cyn bwrw mlaen i drafod rhagor o’r Ŵyl ryfeddol sydd ar fin dod i ben yng Nghaeredin, rhywbeth sy’n llawer mwy pwysig imi na’r ddau ymgais yma i ddifrïo gwir fwriad y golofn hon, mae’n ddyletswydd arnaf i ymateb i’r fath ‘feirniadu’.

Cwestiynu fy mhrofiad, fy ngallu a fy hawl i feiddio beirniadu ‘un sydd wedi cyfoethogi pob agwedd o’n diwylliant’ oedd bwriad y foneddiges Rhiannon O’Keefe, o Gaerfyrddin yn rhifyn Awst 17eg. Faint o brofiad sydd raid cael Ms O’Keefe cyn mynegi barn? Onid y profiad gorau ydi gweld cynyrchiadau eraill o bob safon er mwyn cymharu? Oes rhaid bod yn gyfarwyddwr penigamp, neu’n ddramodydd byd enwog, neu’n ddarlithydd poblogaidd neu’n actor amryddawn? Pa un yda chi felly? Faint ddylai rhywun weld mewn blwyddyn cyn cael mynegi barn? Ydi gweld dros 65 drama yn 2006, a thros 75 drama hyd yma eleni ddim yn ddigon? Ydi mynychu’r theatr ers yn saith oed, a chreu cwmni drama ieuenctid pan yn un-ar-ddeg oed yn ddigon? Neu beth am ennill Medal Ddrama Eisteddfod yr Urdd dair blynedd yn olynol neu cyfarwyddo a chynhyrchu dwsinau o ddramâu byr, 5 dramâu gerdd, a beirniadu mewn sawl gŵyl ddrama ac eisteddfod?

Mae’n amlwg mai llenwi theatrau ydi’ch breuddwyd chithau a chael ‘ffigyre calonogol’ yn hytrach na theatr sydd am ein symud ni mlaen a denu sylw cenedlaethol. Ac wedyn i ddatgan ‘bod atebolrwydd yn hanfodol’ mewn swydd gyhoeddus. Cytuno 100%. Pam felly, er gwaethaf sawl gwahoddiad gan y BBC, gwrthododd y Theatr Genedlaethol ymateb i’n sylwadau i? Pam nad oes NEB wedi ymateb i’r ffaith bod y Theatr wedi torri amodau o’u cyfansoddiad sylfaenol?. Mae’n iawn felly i unrhyw rai ‘sy’n cyfoethogi pob agwedd o’n diwylliant’ i dorri’r rheolau fel y mynnent, i wrthod gadael i gyn-weithwyr siarad yn gyhoeddus, neu i gyflogi aelodau o’u teulu neu’r bwrdd bwrdd rheoli ar draul actorion eraill? Ta, di’ hynny fawr o ots, cyn belled bod y theatr yn llawn?

Does gen i ddim unrhyw fath o ‘gynnen bersonol’ nac ychwaith unrhyw ‘agenda cudd’ yn erbyn Cefin Roberts. Dwina hefyd wedi laru ar y gŵyn yma - cŵyn sy’n cael ei daflu arnaf o bob cyfeiriad, yn hytrach nac edrych ar y ffeithiau. Oes gan Ceri Sherlock (a gwestiynodd ‘adnoddau proffesiynol’ Cefin gyda Gwilym Owen ar y BBC yn 2003) neu Siân Evans yn ei ‘hymchwiliad arbennig’ yn Golwg (19.07.07) hefyd ‘gynnen bersonol’ yn ei erbyn? Ydi Cefin y tu hwnt i unrhyw ‘feirniadaeth’?

Mae gennai barch o’r mwyaf tuag at Cefin a’i gyfraniad i gynlluniau theatr ieuenctid fel Glanethwy a’r Urdd, yn ogystal â’i ddawn ddiamheuol fel cyfarwyddwr cerdd ac fel awdur. Dwi wedi nodi hyn yn gyhoeddus sawl gwaith - (Cymro 28.07.06, 09.02.07), a hyd yn oed wrth Cefin yn bersonol. Ond yn fy marn greadigol a democrataidd i, tydwi ddim yn meddwl mai Cefin ydi’r Arweinydd Gorau i’n Theatr Genedlaethol. Dwi di deud hynny ers 2003. Iawn, does dim rhaid ichi gytuno â mi, ond rhowch eich rhesymeg mewn ffeithiau yn hytrach na ffyddlondeb. Os mai llenwi theatrau ydi’r unig nod, wel Duw â’n helpo!

Rhydd i bawb ei farn, ac i bob barn ei glywed. Ond dwi hefyd am ddatgan bod llawer o bobl YN cytuno â mi - yn actorion, gyfarwyddwyr, awduron a hyd yn oed ambell i Lywydd Anrhydeddus - amrywiol bobol sy’n cysylltu â mi’n wythnosol i’n nghefnogi i, ond yn ‘methu datgan yn gyhoeddus am resyma gwaith’. Y rhai ‘dan din, sinachod, standiffollachod diawl’ yn ôl Aled Jones Williams yn Golwg, Awst 9fed - sylwadau a wnaeth i’m calon suddo gan ddramodydd y mae gennai gymaint o barch tuag ato, ac sy’n amlwg yn fodlon ar y sefyllfa bresennol. Mae’n rhaid imi amddiffyn fy hun, er eu mwyn nhw. Mae gan bawb ei yrfa a’i forgais i boeni amdano, a dan ni gyd ddigon aeddfed i sylweddoli pa mor fach ydi Cymru a pha mor afiach o gysylltiedig ydi’r celfyddydau. Ond, mae’n rhaid i bethau newid bobol. Mae’r ‘ofn’ yma yn mynd i ladd y theatr yng Nghymru. Mae’n amlwg bod yn well gan lawer gadw fflam fechan dila i fynd, yn hytrach na chreu coelcerth greadigol wnaiff ail-danio’r gweithgaredd yng Nghymru.

Y cwbl dwi’n wneud ydi erfyn arnoch i fynd tu hwnt i Gymru, a thu hwnt i Glanaethwy, i weld safon y theatr ryngwladol heddiw. Dowch lan i Gaeredin neu i Lundain, gwyliwch symlrwydd a phrofiad helaeth ar waith; gwrandewch ar eiriau gan leisiau ac wynebau newydd, profwch weledigaeth a phrofiad cynllunwyr sy’n gallu creu setiau mor syml ac eto’n effeithiol. Ewch i weld actorion o Gymru ar lwyfannau Cenedlaethol a gofynnwch i’ch hunain, pam nad ydyn nhw’n actio yn y Gymraeg?

Dyfodol y theatr Gymraeg ydi’r unig beth sy’n fy mhoeni i, ac nid dyfodol unrhyw arweinydd artistig - pwy bynnag y bo hwnnw neu honno. Gweision cyflog yda ni gyd - rhai ohonom yn weision i gyflogwyr cyhoeddus, yn atebol i’n cytundebau (os oes cytundebau ganddynt) neu’r byrddau cyhoeddus. Mentrwch da chi, agorwch y drysau, a dowch inni fel cenedl i symud ymlaen er mwyn y nefoedd.

Cyn cloi, hoffwn ddatgan fy niolchgarwch cywiraf i’r bonwr neu’r foneddiges ‘D Lewis Hughes’ sydd yn ôl ei lythyr yn rhifyn Awst 24ain yn byw yn ‘Aneddle’ ar y ‘Ffordd Fawr’ yn ‘Sychdyn’. Roeddwn i am iddo yn gyntaf ymddiheuro wrth y ‘swyddog drama’r steddfod’ am fy mod i’n amlwg wedi ei chamgymryd hi am rywun arall ar Awst y 3ydd yn Theatr y Maes, (bu amser maith ers inni gwrdd) ac i’w llongyfarch hi ar roi genedigaeth i ‘Erin Haf’ ar Awst yr 8fed, chwe diwrnod yn ddiweddarach! Yn anffodus, er cysylltu efo’r Swyddfa Bost yn Sychdyn, ac un o drigolion Cymraeg sy’n byw ar y ‘ffordd fawr’ yn ogystal â’r gwasanaeth 118118, doedd neb wedi clywed sôn am awdur y llythyr! Mae’n amlwg fod teulu’r ‘Lewis Hughes-us’ wedi ffoi dros nos neu wedi mynd ar eu gwyliau - i’r ŵyl yng Nghaeredin o bosib, neu dramor falle - yn torheulo efo’r cyfansoddiadau mewn fflat moethus, ar lan Llyn Como yn yr Eidal...? Pwy ag ŵyr? Falle mai chi ddylia ‘Cym Clin’ Mr Hughes, ac nid y fi?! Ciao!


Friday 24 August 2007

Gwyl Caeredin 2007



Y Cymro - 24/8/07

Wedi’n Gŵyl Genedlaethol yng Nghymru, mae’n amser pacio’r cês a’i chychwyn hi am Yr Alban ar gyfer yr amrywiol Wyliau sy’n britho’r ddinas drwy fis Awst. Ynghanol y miri, mae’r Ŵyl Lyfrau a’r Ŵyl Ffilm, yr Ŵyl Gelf a’r Ŵyl Jazz, yn ogystal â’r Ŵyl Ryngwladol a’r Ŵyl Ymylol.

Drwy gydol y mis, bydd 31,000 perfformiad o 2,050 sioe mewn 250 o leoliadau, ac amcangyfrifir y bydd oddeutu 18,626 o berfformwyr wedi troedio’r llwyfan erbyn diwedd yr Ŵyl. Y theatr sy’n parhau i gael y rhan fwyaf o’r sylw, ond mae canran y sesiynau comedi wedi codi eleni. Mae’r awyrgylch a grëir yma yn anhygoel, ac os na fuoch o’r blaen, mae’n werth ystyried dod eleni, neu yn sicr flwyddyn nesaf.

'The Bacchae' - Edinburgh Fringe 2007


Having seen Alan Cumming in the National Theatre of Scotland’s production of Bacchae last week, I wanted to see this version by Black and White Rainbow to compare. I really enjoyed it. The simple staging, effective lighting and Simon Evans’ performance as Pentheus was brilliant. The clever adaptation and direction (again by Simon Evans) transforms Dionysus into an illusionist, and was a refreshing way of looking at this old, but relevant lesson. Miles Bullock’s Dionysus was totally different to Cumming’s camp and golden kilted transsexual, and again was very powerful especially in his scenes with Pentheus.

Gwyl Caeredin 2007 : 'A Feast of Song & Light Classical Music'


Y Cymro - 24/8/07

Roeddwn i mor falch mod i wedi dal trên saith y bore o Lundain er mwyn cyrraedd Caeredin cyn cinio, er mwyn imi fedru dal perfformiad olaf o’r cyngerdd ‘A feast of Song & Light Classical Music’ yn Eglwys Greyfriars Kirk. Eleni, fel y llynedd, yno’n arddangos gwir dalentau cerddorol Cymru roedd Annette Bryn Parri a Dylan Cernyw, y Soprano Ros Evans, y tenor Adriano Granziani a’r bâs / bariton Rob Williams. Yn anffodus i mi, ‘roedd Dylan wedi gorfod dychwelyd i Gymru erbyn diwedd yr wythnos, ac felly ni chefais y cyfle i’w glywed ef ac Annette yn perfformio fel rhan o’r ddeuawd ‘Piantel’ - y ddeuawd a swynodd y gynulleidfa yng Nghyngerdd agoriadol yr Eisteddfod Genedlaethol eleni, ac a ddarlledwyd ar S4C. Gredwch chi fyth fod y ddau wedi gwerthu bron i 500 o CD’s yn ystod wythnos y Steddfod. Tipyn o gamp a thipyn i golled i Gwmni Sain a wrthododd gytundeb recordio iddynt!

Ac am wledd a gafwyd; o fawredd Carmen i Fugeilio’r Gwenith Gwyn, o Dr Zhivago i’n hwiangerddi, fe blesiodd bob nodyn o’r cyngerdd pawb oedd yno, gydag Annette yn creu sain cerddorfa gyfan o galon y piano. Uchafbwyntiau’r pnawn oedd cyfoeth a chryfder llais Adriano, tawelwch a llyfnder hwiangerddi Ros Evans a gallu anhygoel Annette i gyfeilio ac fel unawdydd. Roedd y cyfan yn ddigon i dynnu deigryn i lygad unrhyw Gymro oddi-cartref, a minnau yn eu plith. Arbennig iawn.

Gwyl Caeredin 2007 : 'Bacchae'



Y Cymro - 24/8/07

Wedi’r gerddoriaeth, roedd hi’n amser am ‘chydig o ddrama, a chynhyrchiad diweddara Theatr Genedlaethol yr Alban sef addasiad David Greig o waith Euripides ‘The Bacchae’. Dyma un o drasiedïau mwya’r Groegiaid, sy’n adrodd hanes duw’r gwin - ‘Dionysos’ a’i gwlt o ddilynwyr benywaidd sy’n dychwelyd i’w ddinas enedigol er mwyn dial ar ei deiliaid. Alan Cumming oedd seren y sioe, y fo oedd y duw benywaidd, ac fe wnaeth argraff o’r eiliad cyntaf wrth iddo ddisgyn ben i lawr o’r nefoedd mewn Kilt euraidd, a’i ben-ôl yn amlwg i bawb! Na chi gychwyn drama! Parhau wnaeth y triciau theatrig gydol y sioe, o’r cylch o flodau yn disgyn fel saethau o’r nefoedd i’r wal o dân a lanwodd cefn y llwyfan, a’i wres yn llyfu wynebau’r gynulleidfa. Roedd y corws o ferched croen tywyll a’i ffrogiau coch amrywiol hefyd yn ddramatig ynddo’i hun, a’u lleisiau cyfoethog yn wledd i’r glust wrth iddynt ganu a dawnsio yng nghytganau’r corws.

Er gwaetha’r elfennau dramatig, oedd yn werth eu gweld, a’r perfformiadau cry’ gan y cast i gyd, roedd yma, yn anffodus, ormod o ymsonau hirwyntog a’m llethodd. Heb egwyl, roeddwn i wedi dechrau laru ar ôl awr, ac yn dyheu am i’r cyfan orffen. Wedi’r triciau, a’r gwaed a’r wal o olau a ddisgynnodd tua’r diwedd i ddallu’r gynulleidfa, doedd yna fawr ar ôl i wneud, a dechreuodd y cyfan droi yn ei unfan. Wedi dweud hyn, mae’n gynhyrchiad gwerth ei weld, tasa fo ond i weld pŵer y theatr a meistr fel Cummings wrth ei waith.

Bydd ‘Bacchae’ i’w weld yn y Lyric, Hammersmith,Llundain rhwng y 5ed a’r 22ain o Fedi.

Gwyl Caeredin 2007 : 'Long Time Dead'


Y Cymro : 24/8/07

O Theatr y Kings i’r Traverse, a hynny ar gyfer cynhyrchiad diweddara Paines Plough, ‘Long Time Dead’ o waith Rona Munro. Roeddwn i’n gyfarwydd â’r ddrama hon, ac yn awyddus iawn i wybod sut ar y ddaear roedd y cwmni yma am greu mynydd a wal o eira o’n blaen, ble mae’r tri dringwr yn hofran ar eu rhaffau, wrth drafod amrywiol bynciau! Pan gamais i mewn i’r theatr, o’m blaen, roedd llwyfan wen o fewn ffrâm hanner crwn du. Yn y mur cefn, roedd ffenest yn yr iâ a chafn dwfn ar lawr y llwyfan, gyda rhaffau yn codi oddi yno ynghanol y niwl. Roedd cynllun set Miriam Buether a golau effeithiol Chahine Yavroyan yn ddigon o ddrama ynddo’i hun, a’r cyfan i gyfeiliant trac sain wyntog ac oeraidd Ben Park. Newidiodd lliw’r eira sawl gwaith cyn i’r un actor ddringo i’r llwyfan, ac roedd y cyfan yn wledd i’r llygaid a’r synhwyrau, cyn i’r un gair gael ei yngan.

Dyma un o uchafbwyntiau’r ŵyl i mi hyd yma, wrth ddilyn hanes y tri dringwr sy’n byw i goncro’r copaon, ond sydd hefyd yn gorfod concro ysbrydion y gorffennol o bryd i’w gilydd. Cefais fy swyno gan y modd aethpwyd â ni o’r mynydd i ward mewn ysbyty, gan gadw’r thema drwy gydol y cyfan, a’r gwely yn glynu wrth y rhaffau dros y cafn dwfn. Mynd yn ôl ar y mynydd yn yr ail ran, ac yna i ogof o eira yn nyfnder y mynydd. Golygfeydd fydd yn aros yn y cof am amser hir, ac yn agoriad llygaid i bosibiliadau creu darluniau ar lwyfan. Manylion am daith y cynhyrchiad i ddilyn.

'The New Magic Show' - Edinburgh Fringe 2007

Is there no end to this man’s talent? Not only is he directing and producing three shows this year, he’s also a superb actor as you can see in ‘The Bacchae’, and also an amazing illusionist as he shows in this show. I was amazed at his ability to create ‘magic’ in front of my eyes. I’ve always been a sceptic, but Simon Evans has made me see (or blinded me!) that magic really does exist! Is he the new Harry Potter? I think so! (Maybe not in short trousers and a blazer though!) Go see and take the family!

Thursday 23 August 2007

'Eclipse' - Edinburgh Fringe 2007


When a man dressed in a fluffy white skirt and hat, covered in white dust and with a red feather in his mouth approaches you on Chambers Street, it’s pretty difficult not wanting to go and see his show! And I’m glad I went, be it only to see the passion and energy Adam Read puts into the show – throwing himself all over the stage, rolling in dust and branches and hanging off ropes and nooses! The main criticism from the audience was the fact that they did not know what was going on. There was no guide or explanation or theme in order to see what he was going through. Personally, with such shows, I feel that you have to work it out for yourself. I saw a man, stranded on an island in the sea, smoking weed, cutting stones, looking for a haven in an old hut. It was his life, from beginning to his fiery death, as he disappears into the red darkness. Very theatrical, beautifully lit and masterly performed.

Wednesday 22 August 2007

'Faith Brown - and her boys in the buff' - Edinburgh Fringe 2007



Excellent show! Really made me laugh! If you like Avenue Q, then go see this! Not that I'm calling these guys muppets, but the songs were great - musically and lyrically. Faith carried the show elegantly, and the four boys (who I’d love to name but they didn’t have a programme!) were fab. Powerful voices and beautiful bodies. The show was cleverly directed and well lit. A very impressive afternoon’s performance.

Tuesday 21 August 2007

'Corpus Christi' - Edinburgh Fringe 2007


This is without doubt the best show I’ve seen at the Fringe this year. Seen it twice, and found it very moving both times. It’s beautifully directed, lit and performed, and the loving family feeling created by all 13 members warms the heart. It makes you think, but also makes you want to hug all the cast and thank them for telling the story. You can tell that every single actor feels so passionate about the play, which again is a rare experience to witness, and at the end, their passion is what makes this such a special production. High praise to the director Nic Arnzen, and also to James Brandon and Chris Payne who are amazing. Thank you guys for bringing this to the festival, and hopefully will see you again in Dublin. A MUST SEE!

Monday 20 August 2007

'Orgasm - The Musical' - Edinburgh Fringe 2007


Yes, it's one of those shows you think you should see - the title is enough to sell you a ticket. What I enjoyed most about the show was the energy and enjoyment that this young cast showed. They obviously love theatre and wanted to create something that could be quite controversial and sexy, but I don’t think it works. The best bits about the show were the drag-queen – Dr Venice De Monte, who could carry the show on her own. The songs weren’t good enough, and sounded like something from Playschool. Good performance over-all, and obviously a cast that aren’t afraid of showing some flesh, which helps! Work on the script, get a good MD who creates memorable music and get him to perform live as opposed to the awful 80’s synth soundtrack. Few good moments such as the ‘Toys, toys, toys’ number and ‘Something’s wrong with my libido’, but you do need much stronger material to make this work better.

Sunday 19 August 2007

'Butch - A Queen's Struggle To Become A King' - Edinburgh Fringe 2007


Really enjoyed Menno's honesty and presentation. A well thought-out, written and performed show.

Friday 17 August 2007

'Porth y Byddar'


Y Cymro - 17/8/07

Do, mae’r Ŵyl wedi darfod am flwyddyn arall, ond beth tybed yw’r gwaddol a adawyd wedi’r Wyddgrug?

Braf gweld bod teilyngdod yng nghystadlaethau’r ddrama fer a’r ddrama hir. Nic Ros yn cipio’r Wobr am y ddrama hir ‘Tylwyth’ yn ogystal â’r Fedal Ddrama, ac enillydd cyson arall - Dylan Henblas yn ennill ar y ddrama fer efo ‘Canlyn Catatonia’. Gobeithio yn wir y cawn ni weld y ddwy ddrama yma yn fuan iawn, yn ogystal â sawl un arall a dderbyniodd ganmoliaeth uchel gan y Beirniaid Betsan Llwyd a Siôn Eirian.

Bu teilyngdod hefyd ar Wobr Richard Burton gyda Gwion Aled Williams yn ennill. Braf gweld bod Gwion wedi’i hyfforddi gan Catrin Jones, cyn-athrawes ddrama yn Ysgol y Creuddyn, ond sydd bellach yn Ysgol Bodedern. Catrin hefyd fu’n gyfrifol am hyfforddi’r ddau arall oedd ar y llwyfan, sef Manon Wyn Williams ac Aaron Morris y ddau o Ynys Môn, yn ogystal â chipio’r Wobr am y cyfarwyddwr gorau yng nghystadlaethau perfformio’r Ŵyl. Tipyn o gamp a thipyn o glod iddi hi.

Wele cawsom hefyd ddrama lawn gan ‘Theatr Genedlaethol Cymru’, er mai Clwyd Theatr Cymru a fu’n gyfrifol am greu a llwyfannu’r cwbl, a nhw yn unig sy’n cael eu henwi ym mhapurau lleol Sir Y Fflint.

Y peth mwya’ dadleuol am y cynhyrchiad yma yn ôl yr hyn a glywais yn ystod yr wythnos ydi’r gair ‘drama’. Cyflwyniad dogfennol o hanes Tryweryn a gawsom, a honno yn arddull Dan y Wenallt a chynyrchiadau cynnar Theatr Gorllewin Morgannwg a Theatr Bara Caws.

Prin iawn oedd y cymeriadau cyson - gyda dim ond Betsan Llwyd a Dyfan Roberts dwi’n credu yn cael glynu gydol y ddrama at eu cymeriadau cry. Lleisiau a chameos oedd y gweddill, wrth i’r cast o ddeuddeg gofnodi pob un safbwynt gwleidyddol, pob dyddiad o bwys a phob un agwedd o’r gymuned yng Nghwm Tryweryn, Y Bala a Lerpwl.

Doedd dim o’i le yn y math yma o gynhyrchiad, a rhaid cyfaddef i mi’n bersonol gael fy mhlesio’n fawr. Iawn, mi faswn i wedi dymuno gweld tipyn mwy o ddrama a gwrthdaro o fewn Cwm Celyn yn ogystal â gweld y gwagio a fu ar y tai, a’r delweddau trasig o’r teuluoedd yn ymadael fesul un, yn dod yn fyw ar y llwyfan. Serch hynny, mae yn y cynhyrchiad yma werth hanesyddol ac addysgol. Mae’n stori sy’n rhaid ei chofio, ac er mwyn gwerthfawrogi’r cyfnod o ddeng mlynedd yn llawn, mae’n debyg mai dyma’r unig arddull oedd yn gweddu i’r neges a’r stori.

Er gwaetha’r anghytuno am arddull y sgript, dwi yn gobeithio y bydd pawb wedi mwynhau a gwerthfawrogi gwaith cyfarwyddo penigamp Tim Baker, gyda’r actorion i gyd yn gorfod gweithio fflat-owt i ennill eu cyflog. Roedd gwylio’r gwaith ensemble rhyngddynt a’r cyd-symud slic yn wefreiddiol. Roedd symlrwydd y set a’r goleuo hefyd i’w ganmol yn fawr ac yn cadarnhau popeth dwi wedi pregethu am lleia’n byd gorau’n byd. Yr unig beth yr hoffwn i fod wedi gweld oedd mwy o ddŵr! Fe gawsom eiliad theatrig iawn ar gychwyn y ddrama, wrth i’r glaw ddiferu ar yr ambarél, ond roeddwn i’n disgwyl yr un tric theatrig ar y diwedd gyda’r llwyfan i gyd o dan ddŵr. A phawb yn gorfod gwlychu’u traed yn nyfroedd budur Tryweryn.

'Caffi Basra'


Y Cymro - 17/8/07

A sôn am fudur, wel, fe gawsom Sioe Glybiau newydd o stabl Bara Caws, a honno wedi’i chyfansoddi gan y ffarmwr ffowc ei hun, Eilir Jones. Rhaid mi gyfaddef bod hon yn ‘ffowc’ o sioe dda, (â glynu wrth dafodiaith y ddrama!) gyda sgript grafog a chlyfar gan Eilir er mwyn glynu’r comedi arni. Llwyddodd cyfarwyddo Tudur Owen a chynllunio Emyr Morris Jones i ychwanegu elfennau theatrig iawn i’r cyfanwaith, ac roedd yr olygfa gyda’r car yn ogystal â dawns y Bolero yn gofiadwy iawn.

Eilir ei hun oedd seren y sioe, a hynny yn gwbl angenrheidiol, ac mae’n haeddu mwy o ganmoliaeth am orfod cnesu’n gynulleidfa sobor ar gychwyn y sioe, a hynny fwy neu lai ar ben ei hun. Clod i Eilir ydi’r ffaith bod ei ddeunydd yn dda, yn grafog a ddim yn or-ddibynnol ar esgus anghofio geiriau a jôcs budur.

Er bod yna ddiffygion ar y noson gynta’ o ran rhai o’r ciws goleuo a sain, ac er i’r cyfanwaith sigo fymryn yn y canol, dwi’n siŵr, erbyn y daith, bydd y cyfan yn llifo mor rhwydd â’r hylifau amrywiol o ben ôl cymeriadau Dyfed Thomas!

Wythnos arbennig iawn, gobeithio fod yna glustiau wedi gwrando a sawl neges wedi taro’r post - cawn weld erbyn Caerdydd yn 2008...

Monday 13 August 2007

Colli Gareth Wynn Jones

Ar nodyn cwbl wahanol a phersonol, hoffwn dalu teyrnged i’r diweddar gyfarwyddwr a chynhyrchydd ffilmiau Gareth Wynn Jones, a fu farw ar gychwyn mis Awst. Roedd Gareth yn arloeswr ym myd y ffilmiau Cymraeg, ac ef, drwy’i gwmni teledu ‘Ffilmiau’r Tŷ Gwyn’ yn Llanllyfni fu’n gyfrifol am gyfresi cynnar S4C fel ‘Barbarossa’, ‘Cysgodion Gdansk’ a ‘Lleifior’. Cafodd gryn lwyddiant mewn gwyliau ffilm gyda’i gynyrchiadau o ‘Sigarét’, ‘Sglyfaeth’ a ‘Brad’. Diolch Gareth am roi’r cyfle imi ar gychwyn fy ngyrfa ac am gael ffydd ynof. Diolch hefyd am atgofion melys am gyfnod na ddaw mwy yn ôl. Estynnaf fy nghydymdeimlad cywiraf ag Enid, Miriam, Iago a’r teulu cyfan.

Friday 10 August 2007

'Dyfodol y Ddrama yng Nghymru'


Y Cymro - 10/8/07

Dyma fi, nôl yng Nghymru, am ddôs flynyddol o ddiwylliant gorau’r wlad - yr hyn a elwir yn ‘eisteddfod’. Wythnos i ddathlu’r gorau o gelfyddyd, gan gynnwys byd y ddrama, wrth gwrs.

Cyrraedd yma ar y bore Gwener cynta’, a chanfod yn y Rhaglen Swyddogol, bod ‘cyfle i holi a chlywed barn unigolion’ am ‘ddyfodol y theatr yng Nghymru’. Dechrau da, meddwn i, gan obeithio gweld llond pabell ynghyd i weld os mai gwir y datganiad ein bod ni’n ‘Dal Mewn Rhigol?’. Cyrraedd i ganfod cwta 14 o bobl - hanner ohonynt ar y ‘panel’. Does wybod pwy yn y byd oedd wedi dewis y ‘panel’ doeth yma. Ar y llwyfan, roedd y Cadeirydd Gwyn Wheldon Evans, Linda Brown o Bara Caws, Dana Edwards o Arad Goch, Arwel Gruffydd o Sgript Cymru, y dramodwyr Gwynedd Huws Jones a Branwen Davies ac Elwyn Williams - Swyddog Marchnata’r Theatr Genedlaethol. Dewis diddorol meddyliais. Neb o’r Wasg (heblaw fi!), Neb o Gyngor y Celfyddydau, a fawr neb arall! Synnu mwy o weld Arweinydd Artistig ein Theatr Genedlaethol yn cuddio yn y gynulleidfa a Swyddog Drama’r Eisteddfod Genedlaethol (a gyrhaeddodd ynghanol y drafodaeth) yn cuddio yng nghefn y babell. Da chi, os nad oes ganddo’ch chi’r wyneb na’r asgwrn cefn i fod yn atebol i’r cyhoedd, rhowch y gorau i’ch swyddi da chi!

Pwy oedd y gweddil? Wel, cyfuniad o stiwardiaid, 2 aelod o’r un teulu ‘theatrig’ o Ddyffryn Ogwen, 2 yn aelodau neu gyn-aelodau o Bwyllgor Drama’r Brifwyl a minnau.

Rhyw gychwyn digon diniwed oedd i’r cyfan a’r gŵyn barhaol oedd diffyg arian a diffyg dramodwyr. Hen straeon. Ynghanol y cwyno, a chanmol yr Eisteddfod Genedlaethol am wobrwyo dramodwyr yn flynyddol, mentrais innau holi pam felly nad oeddem wedi gweld unrhyw gynhyrchiad o’r cynnyrch buddugol yma ers dros bymtheg mlynedd? Y tro dwetha i hynny ddigwydd, yn fy nghof i, oedd yma ym Mro Delyn ym 1991 gyda drama Gwion Lynch ‘Dim ond heno’. Cyfaddefodd Cefin ei fod yntau wedi gofyn am gael gweld y dramâu hynny, ond bod y cais wedi’i wrthod gan yr Eisteddfod Genedlaethol. Synnu o glywed hynny wnaeth Carys Tudor Williams a Carys Edwards, dwy sy’n ymwneud â Phwyllgorau Dramâu’r Ŵyl.

Symudodd y drafodaeth wedyn i sôn am ‘bwysigrwydd theatr mewn addysg’ a ‘meithrin cynulleidfa’, ac eto roedd yn rhaid i minnau holi pam nad oedd awduron a chyfarwyddwyr ifanc yn cael eu meithrin? Pam nad oedd cynllun hyfforddi ar gyfer y theatr ar waith - tebyg i gynllun CYFLE sy’n hyfforddi pobol ar gyfer S4C? Eto, roedd tawelwch. Clywsom gais gan y cwmnïau amatur am weithdai i’w hyfforddi mewn sgiliau cyfarwyddo ac actio. Holais pam nad oedd ein Theatr Genedlaethol wedi gweithredu unrhyw beth tebyg yn y pedair blynedd ers eu bodolaeth, a’r ateb a gafwyd oedd nad oedd hynny ‘o fewn briff y cwmni’. Mae’n ymddangos felly mai wedi’u creu er mwyn teithio ‘pedwar prif gynhyrchiad’ yn unig ydi rôl y cwmni. Gyda grant o dros £1,000,000 - mae hynny yn warthus. Tra bod yr Arweinydd Artistig presennol yn arwain corau o blant a chefnogwyr rygbi ar S4C, mae cwmnïau theatr fel Llwyfan Gogledd Cymru wedi mynd i’r wal a’r cynllun ieuenctid Anterliwt yn ardal Dinbych - sy’n dod i ben yr wythnos hon, yn sgil diffyg cefnogaeth ariannol a chymorth artistig. Nôl yn Awst 2003, fel y nododd Dafydd Llewelyn yn ‘Barn’, ‘... fe wêl Cefin Roberts y sefydliadau hyn fel cyfrwng i fwydo a chynnal y Theatr Genedlaethol ymhen blynyddoedd i ddod. Cyfeiria at ysgolion perfformio Anterliwt yn Ninbych a’r un yn Nyffryn Tywi gyda’r un brwdfrydedd, gan ychwanegu mai da o beth fyddai gweld datblygiadau cyffelyb ym mhob rhan o’r wlad’. Fawr o ots amdanynt erbyn yn amlwg.

Ar ddiwedd y cyfarfod, mae gennai ofn ein bod ni mewn mwy o rigol nag erioed, gyda Carys Tudor Williams (sy’n aelod o Fwrdd ein Theatr Genedlaethol) yn mynnu bod hi’n dal yn ‘ddyddiau cynnar’ ar ein Theatr Genedlaethol, a hynny bedair blynedd ers ei sefydlu. Gwarthus eto. Yr unig ddiffyg yn y cwmni ydi’r diffyg-gweledigaeth ac anallu’r Arweinydd Artistig i ddod â’r gweithgaredd dramatig yng Nghymru ynghyd o dan ambarél y Theatr Genedlaethol.

Cyhoeddodd Cefin am y tro cynta’ bod y cwmni ‘wedi comisiynu dramâu newydd’ ac na wŷr beirniaid fel fi, am yr holl waith sydd ar y gweill. Pam felly na chawsom weld neu glywed darlleniad o’r ‘gwaith newydd yma’ fel y cawsom gan y cwmni newydd-anedig Sherman Cymru yn Theatr y Maes bnawn Mawrth? Tydi nhw mond ychydig fisoedd oed!

Mae sawl un wedi gofyn i’i yr wythnos hon, pam fy mod i mor feirniadol o’r Cwmni Cenedlaethol. Mae’r ateb yn amlwg ar ôl y cyfarfod yma. Wedi pedair blynedd o siom, a’r holl fethu targedau a thorri amodau sylfaenol eu cyfansoddiad, tra bod mwy o gwmnïau a chynlluniau theatr yn mynd i’r wal, a dramodwyr ifanc fel fi yn ofni rhoi unrhyw waith newydd ym mhair y fath ffolineb, mae’n rhaid i’r Cynlluniad, Cyngor y Celfyddydau a’r Bwrdd ‘anghyfreithlon’ ddwys ystyried dyfodol yr arweinydd.

Peidiwch da chi a mentro dweud nad oes neb arall fedra wneud y gwaith. Does ond rhaid mynd i weld cynhyrchiad Cymraeg diweddara’ Clwyd Theatr Cymru i weld meistr o gyfarwyddwr wrth ei waith...

Thursday 9 August 2007

Blog 3 Eisteddfod 2007 ar wefan Y Sioe Gelf



Y Canol Llonydd
Ganol yr wythnos, a chychwyn y deud drefn. Dim digon o arwyddion ffordd, a minnau ar fy mhumed diwrnod ac yn dal i fynd ar goll. Cyrraedd y maes ar frys er mwyn ceisio dal y drafodaeth am ‘Ddarlledu Celf Cymru’ yn Y Lle Celf. Methu canfod Y Lle Celf - diffyg arwyddion eto, ac erbyn hyn y diawlio yn dechra. Wedi cwffio drwy’r dyrfa a’r cerrig mân dan draed, cyrraedd y babell, a chanfod criw pitw iawn yn eistedd ar gadeiriau haul tu allan, yn rhannu meicroffonau. Osi Rhys Osmond yn cadeirio, ac ymysg y panel ‘roedd y cynhyrchydd teledu Ifor ap Glyn, yr artist Mary Lloyd Jones a Ceri Sherlock o’r BBC. Ches i fawr o gyfle i wrando ar y drafodaeth, ond mi glywais Mary yn datgan fod ‘teledu yn gyfrwng i addysgu pobol mewn iaith weledol’ gan ganmol y rhaglenni ‘Y Tŷ Cymreig’ a ‘04 Wal’. Cododd Ceri hefyd bwyntiau difyr gan gychwyn efo datganiadau fel ‘nid celf mo teledu’ ac mai ‘cyfrwng cynulleidfa nid celfyddyd’ oedd S4C. Fedrwn i ddim aros i glywed mwy. Roedd Theatr Fach y Maes yn galw.

Siom y Sherman
Ac ofer oedd y galw. Y fath siom. Yn ôl y Rhaglen Swyddogol Sanctaidd, roedd y ‘cwmni theatr gyfoes ac ysgrifennu newydd’ yn ‘cyflwyno darlleniad cyhoeddus o ddrama dan gomisiwn’. Yna poster o ddrama newydd Gwyneth Glyn, ‘Maes Terfyn’. Mynd yno yn unswydd nesh i er mwyn clywed gwaith Gwyneth.

Wedi cyflwyniad gan Arwel Gruffydd, a gyhoeddodd mai enw’r ‘cwmni newydd’ fydd ‘Sherman Cymru’ a bod Siân Summers yn derbyn ei fantell ef fel ‘rheolwr llenyddol y cwmni’, deallais nad drama Gwyneth oedd am gael ei ddarllen. Ond yn hytrach drama o’r enw ‘Chips ta Ffair’ gan Bethan Marlow. Roeddwn i’n difaru f’enaid ac yn dyheu am Y Lle Celf. Wedi gwrando ar Act gynta’r ddrama, suddodd fy nghalon. Os mai dyma’r deunydd sy’n cael ei ‘ddatblygu’ yng Nghymru, Duw â’n helpo!

Gwefr Gwenllian
Mentro mewn i’r pafiliwn am y tro cynta’ er mwyn gweld yr ‘unawd allan o unrhyw sioe gelf neu ffilm dan 19 oed’. Cael fy swyno’n fawr iawn gan lais a pherfformiad hynod o gofiadwy Gwenllian Mai Elias. Enw i edrych allan amdano yn y dyfodol.

Tryweryn Tim
Yr hir ddisgwyliedig ‘Porth y Byddar’ oedd y ddrama ddewisais i nos Fawrth. Tranc Tryweryn oedd y pwnc, a hynny o ddwylo medrus y cyfarwyddwr Tim Baker a Manon Eames, a chriw cynhyrchu Clwyd Theatr Cymru. Dan y Wenallt o ddarlith ffeithiol a gafwyd a hynny yn arddull arferol Theatr Gorllewin Morgannwg a Chlwyd Theatr Cymru. Gorthrwm y werin, emynau digyfeiliant, gwaith ensemble a boddi’n emosiynau. Mi wn am lawer ddaru ddim ei mwynhau hi, ond mi wnes i. Dyma gynhyrchiad sy’n bluen yn het Tim Baker, ac yn brawf pendant mai ef ddylai fod yn arwain y Theatr Genedlaethol.

Parcio Pell
Erbyn dydd Mercher, roedd sefyllfa’r parcio yn hurt bost. Y cae pella’ ar y maes - sa’i di bod yn haws cerdded o Ruthun!

Codi canu
Roeddwn i wedi bwriadu codi’n gynnar, a mynd i ragbrawf yr Unawd allan o sioe gerdd ym mhabell S4C oedd yn cychwyn am 8.30. Ond, a hithau’n ddiwrnod fy mhen-blwydd, ges i awr (yn ogystal â blwyddyn!) ychwanegol yn y gwely moethus! Cyrraedd y maes erbyn 10.30 a rhuthro draw i’r babell i glywed diwedd y rhagbrawf. Siarad â Siôn y stiward a dychryn o glywed mai dim ond 10 o’r 40 o enwau ar y rhestr oedd wedi canu! Diolch byth na godais i mor gynnar! Wedi awr arall o ragbrawf, cyhoeddwyd mai dim ond hanner o’r enwau ar y rhestr oedd am gystadlu. Roedd hynny yn newyddion da ar ôl clywed rhai o’r cystadleuwyr! Pam na ddysgith y Cymry fod angen mwy na llais da i ganu mewn drama gerdd? Mae angen angerdd a’r ddawn i actio, cyfarwyddyd i lwyfannu yn ogystal â’r cerddorol, a phresenoldeb llwyfan. Doedd rhai cystadleuwyr yn meddu dim o’r uchod.

O’r llwyfan i’r llên
Ciwio wedyn i fynd i wrando ar John Ogwen yn darllen un o straeon Harri Parri. A sôn am giw! Does ryfedd bod angen 700 o seddau yno! Llawer o’r dyrfa yn synnu o weld Harri ei hun yn y ciw! ‘Sa chi’n meddwl basa’r g’nidog yn ca’l mynd i mewn yn syth, er mwyn cael sedd i ddianc drwy’r drws cefn!’ Hawliodd John sylw bob un yn y babell wrth adrodd hanes y ‘Swigan Lysh’ sef cyfieithiad hogia G’narfon o’r ‘breathalyser!’ Dyma stori arall o gyfrol ddiweddara’ Harri Parri, ‘Tebot pinc a llestri plastig’. Edmygedd mawr hefyd i John am allu dod â’r cymeriadau i gyd yn fyw a’u lleisiau gwahanol. Gobeithio’n wir y cawn addasiad teledu o’r straeon ar S4C yn fuan iawn

Richard Burton a’r llew cwsg
Wedi gwylio un meistr wrth ei waith, roedd hi’n amser am ail-ran rhagbrawf Gwobr Goffa Richard Burton i’r llefarwyr. Gwingo yn fy sedd o glywed yr un darnau o ‘Blodeuwedd’ ac ‘Un Briodas’ yn cael eu mwrdro gan y cystadleuwyr. Pam na ddysgwch chi ddarnau y medrwch chi uniaethu â nhw?; darnau sy’n golygu rhywbeth ichi? Oni bai am drowsus lledr Liam Roberts o Gaerwen, a’i berfformiad hanner noeth o ‘DJ Ffawst’, uchafbwynt y sesiwn oedd caniad y ffôn symudol i gyfeiliant yr alaw ‘In the jungle, the quiet jungle, the lion sleeps tonight’! Erbyn diwedd y pnawn, nid y llew oedd yr unig un i gysgu!

Tuesday 7 August 2007

Blog 2 Eisteddfod 2007 ar wefan Y Sioe Gelf






Ffwndro
Rhaid imi gyfadde’ mod i wedi ffwndro’n lân wsos yma. Tydi Sdeddfod ddim i fod i gychwyn ar ddydd Gwener. Meddwl trwy ddydd Sadwrn bod hi’n ddydd Llun, ac erbyn dydd Llun teimlo fel dydd Mercher, a finna wedi dechrau laru bellach ar fynd rownd a rownd y Pafiliwn. Ffwndro hefyd ar ethos newydd y meysydd parcio. Cynhara’n byd da chi’n cyrraedd, pellha’n byd da chi’n parcio. Hurt braidd. Cysuro’n hun wedyn bod y cyfan i ymwneud â’r clecian o’r gwifrau trydan sy’n amgylchynu’r cae, fel rhyw ffens drydan, yn gwarchod diwylliant Cymru.

No-Wê!
Mae’n amlwg nad oes gwarchod ar wifrau’r Wê ar y Maes, wrth imi geisio’n ofer i gysylltu â’r byd mawr tu allan i’r Sdeddfod. Ceisio cymorth ym Mhabell BT, ond roedden nhwtha hefyd wedi’u hynysu ar eu bws deulawr. Mynd i Babell y Wasg, a dod oddi yno reit handi wrth i regfeydd y newyddiadurwyr a’r ffotograffwyr am fethu anfon eu lluniau ‘lawr y lein’ ferwino fy nghlustiau!

Lloches gelf
Doedd dim amdani felly ond canfod rhywbeth arall i’w wneud. Bodio yn y Rhaglen Swyddogol a gweld be oedd ar gael, er mwyn mochel rhag y cawodydd cyson. Mentro i’r ‘Lle Celf’ am olwg sydyn. Doeddwn i ddim wedi bwriadu mynd yno tan yn hwyrach yn yr wythnos, er mwyn cael rhywbeth i edrych mlaen ato.

Drysu efo’r dŵr!
Rhyw olwg sydyn ges i, nes dod ar draws y bardd Aled Lewis Evans yn darllen ei gerddi mewn cornel o’r babell. Aros ennyd i wrando arno. ‘Ffotograffau moethus oriau’r nos’ gan Gareth Roberts oedd dan sylw, a rhaid cyfaddef eu bod nhw’n drawiadol iawn. Aled wedyn yn egluro cefndir y gerdd - atgofion o’i fam yn mynd â nhw am drip i Ddyffryn Ogwen ‘cyn y Pasg’ ac ‘wrth gofio’r un daith honno efo ti, daw’r dadmer bob tro i’m hiraeth i’. Cerdd hynod o drawiadol ac yn amlwg yn un emosiynol iawn i Aled, a gollodd ei fam yn ifanc. Yr hyn sy’n ddiddorol i mi am y gerdd ydi’r llinell gyntaf, ‘Pan fydd eira yn Nyffryn Ogwen’ sydd wedyn yn rhoi inni’r ‘dadmer’ yn ddiweddarach. Ar yr olwg gynta’, mae’n ymddangos mai eira sydd ar flaen y llun, tra bod y Llyn mor llonydd o dan sêr y nos. Ond o edrych yn fwy manwl, sylwi nad ‘eira’ sy’ ma ond dŵr yn cael ei hidlo drwy’r tyllau yn y clawdd ac yn llifo dros y cerrig. Gwell peidio sôn wrth Aled...

Hunllef ieithyddol?
Gwell peidio sôn wrth y Steddfod fod un o’r sdondinwyr wedi torri’r Rheol Gymraeg Sanctaidd! Drws nesa i’r Lle Celf, gyferbyn â’r castell Lego o gratiau cwrw, mae bocs lliw golau o dan y teitl ‘Dreammachine’ yn uniaith Saesneg wedi’i baentio ar y gro. Mond gobeithio na thry’r gwaith yn hunllef i’r trefnwyr!

Pwt i’r BBC
Pabell y BBC oedd yr ymweliad nesaf, a braf medru gweld Mr Sdeddfod ei hun - Hywel Gwynfryn yn darlledu o’i dŷ gwydr drws nesa i dardis Dr Who! (Dwi’n siŵr fod 'na jôc amlwg yn fanna’n rhywle, ond mi adawai i chi chwilio amdani!!) Mynd i gadarnhau fy nhrefniadau i recordio adolygiad o’r sioe blant i Beti George oedd prif fwriad yr ymweliad, ond o fewn dim i gamu mewn i’r babell, cael fy nhynnu i sgwrsio efo Hywel am fy ymweliad â’r Sdeddfod. Hawdd gwybod fod 'na Ddawnsio Gwerin ar y llwyfan!

Dim Blas!
Amser cinio, a minna bellach yn awchu am lenwi fy mol a gwagio fy waled! Roedd gweld y crach tu allan i ‘Blas’ yn ddigon i dynnu’r blas oddi ar unrhyw bryd. Penderfynu mynd i’r babell drws nesa, a bodloni ar frechdan cig oen a chacen gaws.

Y llun a’r llên
Y Babell Lên oedd yn galw wedyn wrth i’r artist Iwan Bala lansio ei gyfrol newydd sy’n cynnwys 99 o’i baentiadau o dan y teitl ‘Hon - Ynys y Galon’. Mae’r gyfrol ‘unigryw’ hon yn plethu’r lluniau a llenyddiaeth, ac mi gesh i wefr o wrando ar Iwan Llwyd yn egluro cefndir ac yn adrodd ei gerdd ‘In Transit’ sy’n cydfynd â’r ddelwedd o’r ddau dŵr yn Efrog Newydd. Tra ar ymweliad ag Ynys Manhattan, aeth Iwan yn ôl i’r ‘Orange Bear Bar’ sy’n wynebu ‘ground zero’ lle bu’r ‘(g)risie’r sêr o’r ddinas hon’ yn sefyll cyn trychineb Medi’r 11eg. Gwyliodd ‘y byddin o dorwyr beddau’ yn ymgynnull yn y bar am ‘ginio cynnar’. Dyma’r gwŷr fu’n gyfrifol am godi’r tyrrau, ac a wirfoddolodd i ddychwelyd i lanhau’r ‘lludw, a llwch’. Dyma gyfrol sy’n gyfoethog iawn o ran ei chynnwys a’i phris, ond yn werth bob ceiniog o’r £19.99 yn fy nhyb i.

Caffi Eilir
I ‘Gaffi Basra’ yng nghwmni Theatr Bara Caws wedyn fin nos, a hynny ar eu noson agoriadol yng Nghlwyd Theatr Cymru. Roedd 'na gynulleidfa deilwng iawn yno o ystyried bod noson gomedi ar Faes C a noson gerddorol yn y pafiliwn. Fydda i’n gwrando’n ofalus iawn wrth wylio sioeau clybiau’r cwmni gan fod y ffin rhwng ‘smyt’ a bod yn grafog yn un denau iawn. Yn y gorffennol bu gormod o ddibyniaeth ar gachu ac iniwendos rhywiol yn hytrach na cheisio creu comedi dychanol a chrafog.

Rhaid canmol Eilir Jones y tro hwn am greu un o sgriptiau cryfha’r cyfrwng ers cyfnod y diweddar Eirug Wyn. Braf gweld dychymyg creadigol a theatrig ar waith yng nghyfarwyddo Tudur Owen ac yng nghynllunio Emyr Morris Jones. Heb os, Eilir ei hun oedd yn cynnal rhan helaeth o’r sioe, gyda pherfformiadau cofiadwy gan Dyfed Thomas, Iwan Charles a Gwenno Elis Hodgkins.

P.C Maes C!
Cyn clwydo, roedd yn rhaid imi ymweld â Maes C er mwyn gweld y noson gomedi y clywais gymaint o sôn amdani dros y penwythnos. Methais berfformiad Beth Angell (a bechodd Denzil Bobol y Cwm yn ôl y sôn!) a chyrhaeddais ynghanol routine crafog iawn Bedwyr Rees. Uchafbwynt y noson imi oedd perfformiad bythgofiadwy P.C Leslie Wyn (Tudur Owen) a wnaeth imi chwerthin yn uchel am jôcs Cymraeg. Y tro cyntaf ers tro byd. Chwerthin gymaint nes anghofio fy mlinder, ynghanol yr wythnos ffwndrus hon.

Sunday 5 August 2007

Blog 1 Eisteddfod 2007 ar Wefan Y Sioe Gelf



‘Ti’n mynd i Sdeddfod?’

Taswn i’n cael punt am bob tro mae’r cwestiwn yna wedi’i ofyn imi dros yr wythnosau dwetha, faswn i ddim wedi trafferthu i lusgo’n nghês trymach na thrwm yr holl ffordd o Dde Llundain i Sir Fflint fore Gwener. Setlo yn y ‘Springfield Hotel’ am wythnos o ‘Hylo, sud wyt ti? Neis gweld ti? Yma am yr wsos?’ Ia, mae’n hen ddihareb am y Cymry yn heidio rownd y Pafiliwn (sydd bellach yn binc) mewn cae mwdlyd, dan ffug holi am sefyllfa eich iechyd a’ch symudiadau yn ystod yr wythnos.

Cael lifft wedyn i’r Maes, a’n ngollwng ynghanol y maes parcio llychlyd. Holi am gyfarwyddiadau sut i gyrraedd y prif fynedfa. Mudanod syfrdan ar wyneb y gŵr ifanc yn ei siaced felyn. Gofyn eto. Ystum gorfforol y tro hwn wrth iddo godi ei sgwyddau gan wneud imi orfod dyfalu’r ateb. (a) doedd o ddim yn gwybod, (b) roedd o’n fud a byddar (c) doedd o ddim yn siarad Cymraeg. Esh i am yr opsiwn ola, a derbyn ystum gorfforol arall, wrth i’w fraich godi gan bwyntio i’r cyfeiriad – a ddeallais wedyn - oedd y cyfeiriad cywir!

I mewn â mi, ac o fewn eiliadau i gamu ar y tir sanctaidd, dyma wyneb ar ôl wyneb cyfarwydd yn heidio ataf a’r holi’n dechrau... ‘Yma am yr wsos?’... Aaaaaaaaaaa! Agor y map, a cheisio gweld be di be. Roeddwn i’n ysu am gael fy macha ar gopi o’r Rhaglen Swyddogol er mwyn dewis a dethol fy arlwy am weddill yr wythnos. Roedd y prif uchafbwyntiau o ran digwyddiadau eisoes wedi’i dewis, ond roeddwn i am ganfod y perlau dyddiol cuddiedig ar y maes.

Cychwyn efo dydd Sadwrn, ac ar fy mhen i’r balŵn o sŵn o babell a elwir yn Theatr y Maes. Am 15:00, sesiwn o’r enw ‘Dal Mewn Rhigol?’ yn trafod ‘dyfodol y theatr yng Nghymru’. Bingo! Roedd yn RHAID mynd i hwn. Cyrraedd yn hwyr i ganfod cwta 14 o bobl – hanner ohonynt ar y panel, a’r gweddill yn gyfuniad o stiwardiaid, 2 aelod o’r un teulu ‘theatrig’ o Ddyffryn Ogwen, 2 yn aelodau neu gyn-aelodau o Bwyllgor Drama’r Brifwyl, Cefin Roberts a minnau. Ar y llwyfan, roedd y Cadeirydd Gwyn Wheldon Evans, Linda Brown o Bara Caws, Dana Edwards o Arad Goch, Arwel Gruffydd o Sgript Cymru, y dramodwyr Gwynedd Huws Jones a Branwen Davies ac Elwyn Williams – Swyddog y Wasg i’r Theatr Genedlaethol. Dewis diddorol meddyliais. Neb o’r Wasg (heblaw fi!), Neb o Gyngor y Celfyddydau, tra bod Arweinydd Artistig ein Theatr Genedlaethol yn cuddio yn y gynulleidfa a Swyddog Drama’r Eisteddfod Genedlaethol (a gyrhaeddodd ynghanol y drafodaeth) yn cuddio yng nghefn y babell.

Rhyw gychwyn digon diniwed oedd i’r cyfan a’r gŵyn barhaol oedd diffyg arian a diffyg dramodwyr. Hen straeon. Ynghanol y cwyno, a chanmol yr Eisteddfod Genedlaethol am wobrwyo dramodwyr yn flynyddol, a’r wybodaeth gadarnhaol bod 18 wedi cystadlu am y ddrama fer eleni a 7 am y ddrama hir, mentrais innau holi pam felly nad oeddem wedi gweld unhryw gynhyrchiad o’r cynnyrch buddugol yma ers dros bymtheg mlynedd? Y tro dwetha i hynny ddigwydd, yn fy nghof i, oedd yma ym Mro Delyn ym 1991 gyda drama Gwion Lynch ‘Dim ond heno’. Cyfaddefodd Cefin ei fod yntau wedi gofyn am gael gweld y dramâu hynny, ond bod y cais wedi’i wrthod gan yr Eisteddfod Genedlaethol. Synnu o glywed hynny wnaeth Carys Tudor Williams a Carys Edwards, dwy sy’n ymwneud â Phwyllgorau Drama’r Ŵyl. Diolchwyd i minnau am godi’r pwynt, gyda’r amod y byddai ‘rhywun’ yn edrych i mewn i’r mater.

Ai ddim i fanylu mwy am trafod (prynwch Y Cymro wsos nesa!) Ar ddiwedd y cyfarfod, mae gennai ofn ein bod ni mewn mwy o rigol nag erioed, gyda Carys Tudor Williams (sy’n aelod o Fwrdd ein Theatr Genedlaethol) yn mynnu bod hi’n dal yn ‘ddyddiau cynnar’ ar ein Theatr Genedlaethol, a hynny bedair blynedd ers ei sefydlu. Gwarthus. Yr unig ddiffyg yn y cwmni ydi’r diffyg-gweledigaeth ac anallu’r Arweinydd Artistig. Rhowch rhywun â’r Weledigaeth gywir i’n tynnu ni o’r rhigol, unwaith ac am byth.

O’r tantro i’r tent ar gyfer y ‘Sioe Blant – Y Fordaith Fawr’. Sioe wedi’i hysgrifennu gan Tim Baker i ‘ddathlu’r ffaith fod Lerpwl wedi’i ddewis i fod yn Ddinas Diwylliant 2008’. Allwch chi’m ‘beirniadu’ sioe o’r math hwn mewn gwirionedd rhag tynnu llid pob rhiant a’r rhesi o neiniau a teidiau oedd wedi’i mynnu’u tocyn yn y Pafiliwn hanner gwag. Cwbl ddudai oedd bod cyfle mawr wedi’i golli i greu rhywbeth arbennig, yn hytrach na’r gadwyn o ganeuon undonog, y stori dila a’r coreograffu syml. Y wefr mwya gesh i ar y noson oedd clywed a gweld y plant yn mwynhau ar lwyfan a hynny drwy gyfrwng y Gymraeg. Os mai prin oedd y Gymraeg ar y maes, roedd gweld llond llwyfan o blant yn canu’r iaith yn galonogol iawn. Os ddychwel y Steddfod i’r Sir yn y dyfodol, dwi’n hyderus iawn na fydd angen dibynnu ar ystumiau corfforol am gyfarwyddiadau.

Digon am y tro. Yfory, diwrnod arall ar y maes a phrofi ychydig o Fara a Caws gyda’r hwyr.

Friday 3 August 2007

Theatr Genedlaethol - torri'r cyfansoddiad?


Y Cymro - 3/8/07

A ninnau ar drothwy Eisteddfod Genedlaethol arall, wele o’r diwedd gynhyrchiad LLAWN gan ein Theatr Genedlaethol yn ystod ein prifwyl o dan y teitl ‘Porth y Byddar’ . ‘Hwre!’ medda innau, hyd yn oed os ydio’n GYD-gynhyrchiad efo Clwyd Theatr Cymru. Tim Baker yn cyfarwyddo a sgript wreiddiol gan Manon Eames - dau sydd wedi cyd-weithio llawer ar hyd y blynyddoedd, o lwyddiant cynnar Theatr Gorllewin Morgannwg hyd at gynyrchiadau hynod o effeithiol Clwyd Theatr Cymru fel y drioleg o ddramâu Alexander Cordell rai blynyddoedd yn ôl. Mi fydd hi’n hynod o ddiddorol i weld pa mor wahanol fydd y cynhyrchiad yma i unrhyw gynhyrchiad arall gan Clwyd Theatr Cymru! Ai mewn enw ac arian yn unig fydd rôl y Theatr Genedlaethol?!

Ac o sôn am ARIAN, wel wir, dyma ddadlennu o’r diwedd ar dudalennau’r cylchgrawn Golwg (rhifyn Gorffennaf 19eg) gyda ‘beirniad...sy’n dymuno aros yn ddienw’ ac ‘actor blaenllaw’ sydd hefyd yn dymuno ‘aros yn ddienw “am resymau gwaith”’ yn ymuno yn y feirniadaeth o’r cwmni.

Tydio’n drist o beth ein bod ni, mewn gwlad ddemocrataidd, yn ofni mynegi barn yn gyhoeddus, am gwmni cyhoeddus!. Yr hyn sy’n cael ei ddadlennu yn yr ‘ymchwiliad arbennig’ yma ydi’r ffaith bod y cwmni ‘wedi methu ei dargedau’ sef i gyrraedd cynulleidfa o 12,500 y flwyddyn, gyda dim ond 9,670 a 11,084 yn 2005 a 2006. Gyda £1,000,000 o arian cyhoeddus yn cael ei dderbyn gan Gyngor y Celfyddydau, mae’n braf gweld bod y cwmni yn amlwg yn medru fforddio gwario ‘£8,000 ar garped yn unig’ ar gyfer eu cynhyrchiad diweddar o ‘Cariad Mr Bustl’ a does wybod faint gostiodd y shiandaliar gwydr oedd yn hofran uwchben y llwyfan yn yr un cynhyrchiad!. Flwyddyn yn ôl, dwi’n cofio crefu ar y cyrff sy’n ariannu’r celfyddydau yng Nghymru i gyfrannu cwta £1,000 i actorion ifanc sy’n dymuno creu sioe o’r newydd, a’i lwyfannu yn yr ŵyl ymylol ryngwladol yng Nghaeredin. Beth am ddiflaniad Llwyfan Gogledd Cymru? Oni ddylai’r Theatr Genedlaethol fod yn gweithredu fel pwerdy i annog y gweithgaredd yma yn hytrach na’r gwario gwirion diangen yma, a chadw ‘cronfa wrth gefn o £528,000’ ers Mawrth 2006 sy’n ddwbl y ‘rheidrwydd cyfansoddiadol... er mwyn parhau mewn busnes am dri mis’?.

Ac o sôn am y Cyfansoddiad, pan sefydlwyd y cwmni ar y 2il o Fehefin 2003 yn Nhŷ’r Cwmnïau yng Nghaerdydd, fe ddywed hyn (yn uniaith Saesneg!) o dan ‘Articles of Association’ ynglyn â Bwrdd y Theatr : ‘One third (or the number nearest one third) of the Trustees must retire at each AGM other than the first AGM following the incorporation of the Charity, those longest in the office retiring first...’ Bryd hynny, fe apwyntiwyd y Bwrdd Rheoli canlynol sef ‘Linda Brown, Peter Rees Davies, Iwan England, Gwyneth Glyn Evans, Lyn Thomas Jones, Gareth Miles, Garry Nicholas, Wynfford Ellis Owen, Sion Clwyd Roberts, Carys Tudor Williams, Elinor Rebecca Williams, Sandra Wynne, John Gwynedd Jones’. Yr unig ddau i ymddiswyddo oddi ar y Bwrdd oedd Sandra Wynne ar y 3ydd o Dachwedd 2003 a John Gwynedd Jones ar y 1af o Dachwedd 2003. Fe benodwyd dwy aelod newydd ar y 25ain o Dachwedd 2004 sef Ellen ap Gwynn ac Eleri Twynnog Davies. Yn ôl gwefan y Theatr Genedlaethol yn 2007, aelodau presennol y Bwrdd yw ‘Lyn T. Jones (Cadeirydd), Linda Brown; Eleri Twynog Davies; Iwan England; Gwyneth Glyn; Ellen ap Gwynn; Wyn Jones: Gareth Miles; Garry Nicholas; Wynford Elis Owen; Sion Clwyd Roberts; Carys Tudor Williams; Elinor Williams. Allan o’r 13 gwreiddiol, mae 10 (o gynnwys Lyn T Jones) yn parhau i fod yn aelodau, ac felly mae’r cwmni wedi torri rhagor o’u hamodau sylfaenol.

Gyda chymaint o arian cyhoeddus yn y fantol, a dyfodol democrataidd ein cwmni Cenedlaethol, mi gysylltais efo Cyngor y Celfyddydau i geisio eu barn. Yn ôl y llythyr dderbyniais i o Gaerdydd, mae’r mater wedi’i roi yn nwylo’r ‘Uwch Swyddog Datblygu’r Celfyddydau’ yng Ngogledd Cymru. Dwi’n dal i aros am yr ateb!

Tybed os mai torf ‘byddar’ sy’n heidio drwy’r ‘porth’ erbyn hyn?...