Total Pageviews

Friday 28 January 2011

'The Long Mirror'




Y Cymro – 28/01/11

Ac i Hampstead fu’n rhaid mynd, i theatr fechan y Pentanmeters i weld cynhyrchiad o ddrama J.B Priestley, ‘The Long Mirror’. Wedi’i gyfansoddi ym 1940, tra bod Priestley yn byw yn Rhydychen, mae’r ddrama wedi’i gosod mewn gwesty preifat bychan yng Ngogledd Cymru. Roeddwn i’n dra phryderus cyn cyrraedd y theatr, gan na welais i’r un enw Cymraeg ymysg yr actorion oedd wedi’u dewis ar gyfer y ddrama.

Roedd mentro i mewn i’r theatr yn brofiad ynddo’i hun; dringo’r grisiau cul uwchben y dafarn a chael fy nghyfarch gan Léonie Scott-Matthews, noddwr a pherchennog y theatr ers 1968, a oedd, yn ei sequins a’i bling yn browd iawn o bob blwyddyn a chynhyrchiad. Hi hefyd oedd yn cyflwyno’r cwmni a’r gwaith ac yn falch iawn o fedru darllen e-bost a dderbyniodd gan fab Priestley, yn canmol naws ac agosatrwydd y lleoliad a’r cynhyrchiad.

‘Branwen Elder’ (Eva Gray) yw prif gymeriad y ddrama, sy’n lletya yn y gwesty, ynghyd â ‘Mrs Tenbury’ (Karin Fernald). Wrth i’r ddwy ymddiddan yn y lolfa, tra bod y bwtler o ‘Gymro’ ‘Thomas Williams (Simon Purdey) yn gweini te iddynt, fe ddaw hi’n amlwg fod gan Branwen alluoedd goruwchnaturiol, a’i bod hi mewn cysylltiad meddyliol gyda ‘Michael Camber’ (David Manson) a’i wraig ‘Valerie’ (Amanda Sterkenburg) sydd hefyd yn cyrraedd y gwesty maes o law.

Yn anffodus, er ei ymdrech orau, acen ddeheuol ystrydebol oedd gan Simon Purdey, a roddodd gryn gysgod dros y cyfan imi. Rhaid cofio mai cynhyrchiad amatur mwy neu lai oedd hwn, heb fawr o gyllideb am set, sain, map o Gymru na goleuo gofalus, er hynny, does 'na ddim cost o gwbl am ddychymyg a synnwyr theatrig. Yn anffodus i’r cwmni, er pa mor hynaws oedd stori’r ddrama, roedd angen llawer mwy o ddyfeisgarwch a dychymyg er mwyn taro’r nod.

'Crossing Borders'


Y Cymro – 28/01/11

Blas Cymreig iawn fu ar ddanteithion dramatig yr wythnosau diwethaf a hynny rhwng orig ddiddan yng nghwmni’r bythol brydferth Siân Phillips yn y Wilton’s Musical Hall, a drama gan J.B.Priestly wedi’i osod yng Ngogledd Cymru yn y 30au.

Gosgeiddig a hudolus, dau air sy’n dod i gof wrth wylio a phrofi dawn a phresenoldeb yr actores, a’r gantores Siân Phillips, a fu’n diddanu cynulleidfaoedd yn Neuadd Gerddorol unigryw’r Wilton’s yma yn Llundain o dan y teitl ‘Crossing Borders’. Plethiad o straeon personol a chaneuon perthnasol oedd yr awr a hanner o gyngerdd di-dor, o ganeuon swynol Coward, Porter, Sondheim i straeon gwir am Richard Burton a Marlene Dietrich. Uchafbwynt y noson imi’n bersonol oedd datganiad digyfeiliant Siân o’r Emyn ‘Calon Lân’ yn y Gymraeg, a dderbyniodd gymeradwyaeth frwd y gynulleidfa Eingl Cymreig.

Cafwyd datganiadau cofiadwy hefyd o’r Clasur ‘Falling in Love Again’ a ‘Madeira M’Dear’, heb sôn am ‘The boy from …’ gan Sondheim, sy’n gorffen gyda’r tro sydyn Cymreig ar y diwedd, wrth i’r bachgen symud i ‘Lanfairpwllgwyngyll…’

‘Crossing Borders’ yw’r diweddara mewn cyfres o nosweithiau cabaret gan y gantores o Ddyffryn Aman, a hir y pery’r daith. Gyda newidiadau ar droed yn ein Theatr Genedlaethol, mawr hyderaf y gwelwn ni Siân yn serennu mewn cynhyrchiad ar lwyfannau Cymru, yn y dyfodol agos iawn, er mwyn llwyr werthfawrogi cyfraniad a phresenoldeb ei gyrfa ddisglair.

Friday 21 January 2011

'The Glass Menagerie'




Y Cymro – 21/01/11

Ac i’r bythol boblogaidd Young Vic yr es i weld addasiad o’r clasur gan Tennessee Williams, ‘The Glass Menagerie’. O gyrraedd y theatr, fu bron imi orfod codi i holi os oedd yna berfformiad y prynhawn hwnnw, gan fod holl oleuadau’r tŷ ymlaen, a’r llwyfan yn debycach i ystafell ymarfer. Ond gyda chyrhaeddiad y prif gymeriad ‘Tom’ (Leo Bill), sef mab y teulu a phrif lais y stori, a’i gyflwyniad llawn i’w deulu a’r ddrama, gyda’r geiriau dewisedig doeth : "Yes, I have tricks in my pocket, I have things up my sleeve. But I am the opposite of a stage magician. He gives you illusion that has the appearance of truth. I give you truth in the pleasant disguise of illusion." - fe godwyd y llen, fe ddiffoddwyd y goleuadau ac fe gafodd y theatr ei drawsnewid wrth i ‘Tom’ ymuno â’i fam dros ben llestri caled ‘Amanda’ (Deborah Findlay) a’i chwaer nerfus a swil ‘Laura’ (Sinead Matthews) ar gyfer yr olygfa gyntaf wrth y bwrdd bwyd.

Mewn drama sy’n llawn tyndra teuluol, a dialog barddonol, y peryg ydi i’r cyfan, weithiau, fynd yn drech na’r gwyliwr; cryfder y cyfarwyddwr Joe Hill-Gibbins oedd i gadw’r cyfan i lifo a’n diddanu, a hynny’n bennaf drwy amrywio’r digwydd, a chynnwys mwy o driciau llwyfan oedd yn ychwanegu at naws y thema. Roedd chwarae ar amwyster yr ymwelydd hefyd yn llwyddiannus, wrth i sylw pawb gael ei droi at ddrws arbennig, fry uwchben y digwydd. Felly hefyd gyda’r trac sain drawiadol a grëwyd ar gyfer y ddrama, ac a gafodd ei berfformio’n fyw gan y piano a’r gwydrau o ddŵr oedd yn cael eu hanwesu i greu sŵn iasol , oedd yn cyfleu hud a lledrith y werin wydr i’r dim.

Cyflwyniad cofiadwy, o Glasur o ddrama, fydd hefyd yn aros yn y cof. Cychwyn cryf felly i’r arlwy yn 2011.

'Bea'


Y Cymro – 21/01/11

Dwy sioe a dau gynhyrchiad cwbl wahanol yr wythnos hon, a’r ddau bellach wedi dod i ddiwedd eu rhediad byr yma yn Llundain.

‘Bea’ o waith Mick Gordon oedd un o gynyrchiadau cynta’r flwyddyn imi weld yn Theatr Soho, a chynhyrchiad fydd yn aros yn y cof drwy gydol 2011. Y cof mwyaf fydd yr emosiwn ymhlith y gynulleidfa ar ddiwedd y cynhyrchiad, a barodd i bawb adael y theatr yn fud, ac yn drist. Nid mewn modd digalon, ond yn ddirdynnol o emosiynol oherwydd natur y cynhyrchiad.

Mae ‘Bea’ (Pippa Nixon) yn ferch ifanc, yn ei hugeiniau cynnar, sy’n dioddef ers wyth mlynedd gyda’r clefyd MS. Mae hi wedi digalonni’n llwyr, er ymdrech fawr ei mam (Paula Wilcox) i’w lleddfu. Yn gaeth yn ei gwely, yn ei llofft sy’n llawn o ffrogiau ac esgidiau lliwgar, heb sôn am y cannoedd o’r clustdlysau amrywiol y bu’n rhaid iddi’i greu, rhag bod yn segur, mae’n dyheu am wyneb newydd i fod yn gwmni iddi. Daw hynny yn sgil cyrhaeddiad y nyrs hoyw o Ogledd Iwerddon ‘Ray’ (Al Weaver) sydd drwy ei hiwmor a’i bersonoliaeth niwrotig yn lleddfu’r boen feddyliol a chorfforol am gyfnod. Wrth i’r boen, a chaethiwed corfforol y clefyd waethygu, mae ‘Bea’ yn gofyn i ‘Ray’ ac yna i’w mam am y gymwynas fwya' a’r ola’, wrth roi cymorth iddi gyflawni hunanladdiad, i ddianc rhag y boen.

Mae’r modd y mae Mick Gordon yn delio gyda’r pwnc o Ewthanasia yn hynod o bwerus a’i synnwyr o ddigrifwch yn lleddfu’r llymder, ac eto’n merwino’r ergyd. Cafwyd perfformiadau pwerus tu hwnt gan y tri actor talentog ar y llwyfan, wrth ddelio gyda’r pwnc a’u hemosiynau. Roedd y tawelwch anghyfforddus ar ddiwedd y sioe yn adrodd cyfrolau.

Friday 7 January 2011

Golwg ymlaen dros 2011...

Y Cymro 07/01/11

Blwyddyn Newydd Dda! Wedi bwrw golwg yn ôl dros arlwy’r flwyddyn a fu'r wythnos diwethaf, edrych ymlaen yr wythnos hon, at yr hyn fydd i’w weld dros y flwyddyn sydd i ddod.

Y newyddion mawr, a dderbyniais fore Mawrth, ydi bod y Theatr Genedlaethol ar hyn o bryd wrthi’n rhoi swydd ddisgrifiad at ei gilydd er mwyn ceisio canfod ‘arweinydd artistig’ newydd. Falle ichi gofio y bu cryn ddadlau, nôl ar Faes yr Eisteddfod y llynedd, ynglŷn â prun a’i ‘arweinydd’, ‘cyfarwyddwr’ ynteu ‘cynhyrchydd’ a ddylid ei benodi. Mae gan bob rôl ei swyddogaeth a’i gyfrifoldeb gwahanol, ond mae’n amlwg mai glynu at yr ‘arweinydd’ wnaethon nhw, fydd mae’n debyg, yn cael rhwydd hynt i ddewis y rhaglen a’r cyrff i’w cyflawni. Oherwydd yr amserlen, tydi’r Theatr ddim yn disgwyl gweld neb yn cael ei benodi fawr cyn mis Mehefin neu ‘Orffennaf, ac felly go brin y gwelwn ni ffrwyth llafur na gweledigaeth yr etholedig un, fawr cyn y flwyddyn gelfyddydol nesaf. Tan hynny, mae’r Bwrdd wedi dewis gweddill rhaglen y flwyddyn sydd i ddod, sy’n cychwyn efo’r ddrama gerdd ‘Deffro’r Gwanwyn’ fydd yn ymweld â chanolfannau llai na’r theatrau mawr traddodiadol. Cychwyn yn eu canolfan ymarfer sef Y Llwyfan yng Nghaerfyrddin, ac yna Canolfannau Hamdden Pontardawe, Aberaeron, Dolgellau, Llanrwst, Wrecsam a Biwmares, gyda dim ond un Canolfan Celfyddydol traddodiadol sef Stiwdio’r Mileniwm yng Nghaerdydd. Parhau gyda’r trywydd newydd o dargedu’r cymunedau fydd eu prosiect nesaf sef ‘Canfod Lleisiau’ sy’n cael ei ddisgrifio gan Reolwr Marchnata’r Theatr, Elin Angharad Williams fel ‘prosiectau cymunedol cyffrous’. Bydd rhagor o fanylion am y ddau gynhyrchiad llawn nesaf, yn cael eu cyhoeddi maes o law.

Blwyddyn o ddathliadau fydd hi i Theatr Bara Caws, sy’n nodi hanner canmlwyddiant cyhoeddi’r nofel ‘Un Nos Ola’ Leuad’, drwy berfformio addasiad John Ogwen o’r gwaith; cyflwynodd Cwmni Theatr Cymru addasiad o’r gwaith nol ym 1981 yn ogystal. Mwy o ddathlu wedyn yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam a’r Fro gyda dwy sioe - sioe glybiau newydd a ‘sioe maes carafannau i’r teulu cyfan’, er mwyn cofnodi’r ffaith mai yn Wrecsam yn 1977 y cychwynnodd Bara Caws eu taith.

Mentro i fyd oedolion fydd gobaith Cwmni’r Fran Wen eleni wrth gyflwyno addasiad Catrin Dafydd a Manon Eames o waith yr awdures ifanc o Gymru, Rachel Trezise ‘Fale Surion’. Cyfrol o unarddeg stori fer herfeiddiol ydi ‘Fresh Apples’, a gobaith y cwmni fydd efelychu llwyddiant ‘I Sing of a Maiden’ gafodd ei lwyfannu yn y Chapter nol yn 2007.

‘Sexting’ fydd un o’r pynciau y bydd Theatr Arad Goch yn eu trafod eleni wrth i Bethan Gwanas ac Angharad Lee fwrw golwg ar y bwlio newydd a ddaeth yn sgil y ffôn symudol. Bydd Jeremy Turner yn cyflwyno a chyfarwyddo sgript newydd i blant o’r enw ‘Tomatos Wncl Wil’ fydd yn delio â marwolaeth, yn ogystal â pharhau i drefnu’r Ŵyl Theatr Ieuenctid Rhyngwladol yn Aberystwyth o’r enw ‘Agor Drysau’ fydd i’w gweld yn 2012. Jeremy hefyd, gyda llaw, sy’n arwain holl weithgareddau theatr yr Urdd am y blynyddoedd nesaf, mewn cydweithrediad ag Arad Goch.

Er bod drysau Theatr y Sherman ar gau tan fis Tachwedd, parhau mae’r gweithgaredd gyda thaith cynhyrchiad Gareth Potter o ‘Gadael yr 20fed Ganrif’ yn fis Chwefror. Yn dilyn y daith, bydd y cwmni yn cyflwyno drama newydd o waith Ian Rowlands, ‘Desire Lines’ yn ogystal â gŵyl sgwennu newydd dan y teitl ‘Egin’. Bydd cyfle i weld mwy o sgwennu newydd yn hwyrach yn y flwyddyn o dan adain eu prosiect ‘Amrwd’ ble y gwelwn gynhyrchu dramâu newydd cyffrous yn y ddwy iaith gan awduron sydd erioed o'r blaen wedi cael eu cynhyrchu'n broffesiynol.

A mwy o sgwennu newydd gan Theatr Tandem, sy’n datblygu syniadau ar hyn o bryd, wrth aros am gadarnhad nawdd i’w gwireddu.

Ac i ffans y ddrama ‘Llwyth’, a’i hawdur talentog Dafydd James , mae 'na dderyn bach wedi’i weld yntau hefyd yn gweithio ar ddrama newydd, ar y cyd â’i gydawdur Ben Lewis, fydd i’w weld (gobeithio) yn hwyrach eleni, ar un o’n llwyfannau Cenedlaethol...

Digon i wlychu’r big, fel petai. Cefnogwch y cwmnïau! Yr wythnos nesaf, addasiad o’r ‘Glass Menagerie’ a stori ddirdynnol ‘Bea’.