Total Pageviews

Wednesday 29 December 2010

Golwg yn ôl dros 2010






Y Cymro – 31/12/10

Wel dyna ni, y ‘Dolig wedi diflannu am flwyddyn arall, a’r dathlu (a’r dioddef siŵr o fod!) yn parhau i bwmpio’r atgofion o foethusrwydd y soffa! Gobeithio’n wir ichwi gyd fwynhau’r Ŵyl ymhob cwr o Gymru. Bu yma’n sicr ddigon o ddathlu ar lannau’r Tafwys! Cyfle i fwrw golwg yn ôl yr wythnos hon, ar derfyn 2010, ar yr arlwy a welwyd ar lwyfannau’r wlad. O’r llwyddiannau i’r llai llwyddiannus, y canmol a’r casau!

Blwyddyn gymysg fu hi o ran byd y dramâu cerdd, wrth groesawu’r cynyrchiadau lliwgar a llwyddiannus fel ‘Legally Blonde’, ‘Into the Woods’ a ‘Passion’. Yn anffodus dim ond am gyfnod byr y bu’r ddwy olaf yma’n diddanu, gan obeithio’n fawr y byddant yn ail ymweld â’r ddinas yn y flwyddyn newydd. Stephen Sondheim oedd y cyfansoddwr, a bu 2010 yn flwyddyn o ddathlu iddo yntau hefyd wrth gyrraedd ei ben-blwydd yn 80 mlwydd oed. Gwelwyd sawl cyngerdd i ddathlu’i lwyddiant, a dim llai na’r Cyngerdd Mawreddog yn y Royal Albert Hall gyda Daniel Evans a Bryn Terfel yn serenu.

Newid aelwyd a gyrfa oedd yn aros Daniel Evans eleni, wrth ymgartrefu yn ei swydd newydd fel Arweinydd Artistig theatrau Sheffield. Braf iawn oedd cael ymweld â’r Crucible yno, ar ei newydd wedd i weld Anthony Sherr, a’r Cymro Trystan Gravelle yng nghynhyrchiad cyntaf Daniel o ddrama Ibsen, ‘An Enemy of the People’. Llyfnder a lluniau creadigol cyfarwyddo medrus Daniel oedd allwedd llwyddiant y cyfan, ac a sicrhaodd sawl adolygiad pum seren, yn y Wasg Genedlaethol. Bydd cryn edrych ymlaen at ei raglen newydd o gynyrchiadau yn y flwyddyn newydd sy’n cynnwys tymor o ddramâu gan David Hare (Plenty, The Breath of Life a Racing Demon) gyda’r olaf eto’n cael ei gyfarwyddo gan Daniel. Bydd Daniel hefyd yn camu yn ôl ar y llwyfan ym mis Rhagfyr ar gyfer eu sioe Nadolig sef un o fy hoff ddramâu cerdd gan Sondheim. ‘Company’.

Blwyddyn anodd fu hi i’r Arglwydd Andrew Lloyd Webber, nid yn unig yn ei dasg o geisio canfod y ‘Dorothy’ newydd ar gyfer ei gynhyrchiad diweddara o ‘The Wizard of Oz’ fydd yn agor fis Mawrth y Drury Lane, ond hefyd wrth lansio ei ddilyniant i’r clasur ‘Phantom of the Opera’, ‘Love Never Dies’. Tasg anodd iawn oedd ceisio curo’r gwreiddiol, a bu môr o feirniadu a sylwadau negyddol gan y cyhoedd a’r beirniaid. Yn ei ymdrech i achub y sioe, a’i enw da, fe gaeodd y cynhyrchiad am dridiau ym mis Tachwedd, er mwyn ail-weithio’r stori, y set a’r gerddoriaeth. Yn anffodus, gwnaethpwyd pethau’n waeth, a gwell fyddai ildio i’w fethiant a chanolbwyntio ar fentrau newydd.

Dathlu hefyd fu hanes y sioe liwgar ac emosiynol ‘Les Miserables’, wrth gyrraedd ei phen-blwydd yn 25ain oed, gyda thaith newydd drwy’r wlad, â chast o Gymry ifanc talentog, yn ogystal â chyngerdd mawreddog arall yn yr O2, sydd bellach wedi’i ryddhau ar DVD.

O ran y dramâu, bu cryn achos i ddathlu yng Nghymru a thu hwnt. Ymysg y cynyrchiadau fydd yn aros yn y cof eleni fydd ‘Juliet and her Romeo’ ym Mryste, gyda’r brydferth, dalentog Siân Phillips a’i pherfformiad gwefreiddiol fel un o’r “star-cross'd lovers” yn y ddrama rymus hon. Gyda ‘Romeo’ a ‘Juliet’ bellach mewn gwth o oedran, a’r ddau yn preswylio’n ddedwydd yn y ‘Verona Nursing Home’, roedd ei phresenoldeb urddasol a thrydanol yn goleuo’r llwyfan ac anghofiai fyth mor olygfa enwog ar y balconi, sydd bellach ar ail lawr y cartref, wrth i’r ddau ddatgan eu cariad wrth ei gilydd. Dirdynnol o deimladwy, ac eto’n ddoniol o ddwys.

Braf hefyd oedd croesawu’r tîm llwyddiannus Nicholas Hytner, Richard Griffiths, Frances De La Tour a’r dramodydd unigryw Alan Bennett, yn ôl ar lwyfan y Theatr Genedlaethol yma’n Llundain gyda’i ddrama newydd ‘The Habit of Art’. Hytner hefyd oedd yn gyfrifol am gyfarwyddo Rory Kinnear yn eu cynhyrchiad caboledig o ‘Hamlet’ a welais rai wythnosau yn ôl. Er cystal oedd presenoldeb Kinnear, siomedig iawn oedd gweddill y cwmni, wrth imi straffaglu mewn mannau i glywed y ddialog hyd yn oed!.

A beth am ein Theatr Genedlaethol ninnau yma’n Nghymru a welodd cryn dipyn o ddrama tu cefn i’r llwyfan eto eleni. Gyda chyrhaeddiad eu cynhyrchiad o ‘Y Gofalwr’ ym mis Chwefror, y daeth y newyddion am ymadawiad yr arweinydd artistig Cefin Roberts. Er imi fwynhau cynhyrchiad y Liverpool Playhouse o ‘The Caretaker’ gan Pinter yn y Trafalgar Studios wythnos ynghynt, gyda’r Cymro Jonathan Pryce wrth y llyw, methiant arall oedd y cynhyrchiad hwn imi, oedd yn cynnwys holl wendidau cyson cyfnod Cefin wrth y llyw. Yn eu ffolineb, dewisodd Bwrdd y Theatr i gyhoeddi gweddill rhaglen artistig Cefin, yn y rhaglen, oedd yn cynnwys dwy ddrama fer, a chyfieithiad arall. Siom a chamgymeriad oedd llwyfannu ‘Dau. Un. Un. Dim’ gan Manon Wyn a’r 20 munud o ‘Yn y Trên’ gan Saunders Lewis. Roedd cryn addewid ym mherl o gyfieithiad Sharon Morgan o ddrama fawr Ed Thomas, ‘House of America’sef 'Gwlad yr Addewid' a ganai’n farddonol yn acenion a dywediadau Cwm Tawe, ond trueni na chafwyd cynhyrchiad oedd yn deilwng o’i gwaith.

Wrth inni aros am y flwyddyn newydd, mae tynged y Theatr Genedlaethol dal yn y fantol. Heb benodi Arweinydd Artistig newydd, mae’r Marie Celeste o gwmni yn dal i hwylio, a’r miloedd o bunnau a wariwyd ar y warws o adnoddau ymarfer yn Sir Gaerfyrddin dal mor wag a dadleuol â gwaddol Cefin. ‘Deffro’r Gwanwyn’, sef cyfieithiad Dafydd James o’r ddrama gerdd ddadleuol ‘Spring Awakening’ yw arlwy cynta’r flwyddyn newydd, yn amlwg wedi’i ddewis, yn eu doethineb, gan Fwrdd y Theatr. Elen Bowman fydd yn cyfarwyddo, ac absenoldeb y ddau Gymro Cymraeg, sef Iwan Rheon ac Aneurin Barnard, a enillodd Wobrau Olivier ill dau, am eu perfformiadau yn y cynhyrchiad Saesneg o’r un ddrama gerdd y llynedd, yn ergyd amlwg cyn cychwyn.

Parhau i gyfrannu’n flynyddol i’r arlwy ddramatig y mae Theatr Bara Caws ac Arad Goch, ac er mai blas bychan iawn o’u harlwy a brofais eleni, mae eu cyfraniad yn bwysicach na’r Genedlaethol mewn llawer i fan. Hoffais yn fawr feddylfryd a dyfnder drama newydd Aled Jones Williams ‘Merched Eira’ yn ogystal ag afiaith a lliw sioe ieuenctid yr Urdd ‘Plant y Fflam’. Llongyfarchiadau hefyd i Bara Caws am gyflwyno eu gwefan newydd, hyfryd www.theatrbaracaws.com sy’n wledd o atgofion a gwybodaeth. Edrych ymlaen yn barod at eu cynhyrchiad nesaf sef addasiad John Ogwen o ‘Un Nos Ola Leuad’ yn y flwyddyn newydd.

Seren byd y theatr yng Nghymru eleni oedd Dafydd James a roddodd inni un o’r cynyrchiadau Cymraeg mwyaf cofiadwy ers blynyddoedd sef ‘Llwyth’. Mi wyddwn i ers blynyddoedd, fod Dafydd yn un talp o ddyfeisgarwch dramatig gyda’i lais newydd, gonest, ffres a phwysig. Cryfder gwaith Dafydd oedd yr onestrwydd unigryw am fod yn hoyw yn y Gymru sydd ohoni, a’r cyfan mewn iaith mae o’n gwbl gyfarwydd ag ef. Roedd safon yr actio yma ymysg y gorau imi’i weld ar lwyfan yn y Gymraeg, yn ogystal â chyfarwyddo sensitif Arwel Gruffydd. Braf hefyd oedd gweld Dafydd ei hun yn perfformio yn ei fonolog ‘My Name is Sue’ yn Theatr Soho, ganol yr Haf.

A llawenydd mawr oedd cael croesawu’r hir ddisgwyliedig National Theatre Wales ym mis Ebrill gyda’u cynhyrchiad ‘A Good Night Out in the Valleys’. Hon oedd y cyntaf o’r tair drama ar ddeg yn arlwy agoriadol y cyfarwyddwr artistig John E McGrath. Arlwy amrywiol a ymwelodd â phob cwr o Gymru - o draethau’r Gogledd i Gymoedd y De, o’r Bermo i Bannau Brycheiniog, o Abertawe i Aberystwyth, ac o erwau’r brifddinas i Eryri. Er mai ond y cyntaf a chynhyrchiad Elen Bowman o ‘The Devil Inside Him’ a lwyddais i’w weld eleni, codwyd fy nghalon am ddyfodol y ddrama yng Nghymru. Gyda phedwar cynhyrchiad eto’u gweld o‘r arlwy agoriadol, mae’r neges yn glir. Rhowch y bobol gywir yn eu lle, ac fe gewch chi werth eich arian.

Blwyddyn Newydd Ddramatig Dda i chwi gyd!

No comments: