Total Pageviews

Friday 24 June 2011

'Realism'




Y Cymro – 24/06/11

Mae ail-ymweld ag unrhyw ddrama yn medru bod yn brofiad anghyfforddus; cof da am y cynhyrchiad cynta’, neu’r gwreiddiol yn sicr yn y cof, ac yn sbardun i lusgo’n hun i’r theatr gan obeithio ail-brofi’r wefr. Rhowch yr holl emosiynau uchod yng nghyd-destun un o fy hoff ddramâu neu ddramodwyr, yna mae’r sialens, yr her a’r disgwyliadau gymaint yn uwch!

Anghofiai fyth y wefr o weld a chlywed gwaith Anthony Nielson am y tro cyntaf, a hynny yn yr Ŵyl flynyddol yng Nghaeredin, nôl yn 2006. ‘Realism’ oedd enw’r darn, ac wrth gamu mewn i Theatr Frenhinol y Lyceum yn y ddinas, (sylwi am y tro cyntaf efallai) bwysigrwydd set trawiadol, sy’n gymaint mwy na dim ond dodrefn neu furiau ffug. Ar y llwyfan o’m blaen, roedd cafn enfawr o dywod gwyn, yn gorchuddio hyd y llwyfan. Ynghanol y tywod roedd dodrefn y ty - peiriant golchi, soffa, gwely, oergell, toiled a phopty; popeth i’w bwrpas, er mwyn creu cynfas wag ar gyfer gweledigaeth y dramodydd dan law’r cyfarwyddwr a’r cynllunydd.

Does ryfedd na fentrodd unrhyw gwmni Professional i ail-lwyfannu’r cynhyrchiad ers 2006, oherwydd roedd cost y gwreiddiol yn helaeth iawn. Gymaint mwy o ystyried y tro enfawr yn y gynffon fyddai’n sôn amdano cyn diwedd fy llith. Dewr felly yw penderfyniad arweinydd artistig newydd Theatr Soho, Steve Marmion i agor ei dymor newydd yn y theatr gyda’r campwaith cymhleth hwn.

Astudiaeth o salwch meddwl sydd wrth wraidd ‘Realism’ a’r modd mae’r prif gymeriad ‘Stuart’ (Tim Treloar) yn gweld y byd o’i gwmpas. Dau fyd a bod yn fanwl gywir; y byd go iawn, ble mae iselder ac unigrwydd yn ei lethu, a’r dyheu am ei gariad ‘Angie’ (Golda Rocheuvel) yn ei dagu, a’r byd cuddiedig yn ei ben, sy’n troi’r call yn ddiystyr, sy’n drysu ac yn cymysgu ei atgofion am ei ffrindiau gorau ‘Paul’ (Rocky Marshall) a ‘Mullet’ (Shane Zaza), ei fam (Joanna Holden) a’i dad (Barry McCarthy), ei gyn-gariad ‘Laura’ (Robyn Addison) a hyd yn oed ei gath, sy’n cael ei bersonoli gan Rocky Marshall.

Pwrpas y cafn tywod gwreiddiol oedd ychwanegu at yr amwysedd ynglŷn ag amser; y ffaith mai diferion o dywod yda ni gyd ar ddiwedd y dydd, ar draethau bywyd. Ac er mai bychan yw gofod y Soho, a’u cyllidebau yn llai fyth, cafwyd awgrym o’r thema amser drwy gydol y ddrama wrth i lif o dywod ddisgyn o’r entrychion, yn cael ei ddal gan lif y goleuadau, wrth gyfleu ymadawiad atgof arall. Gogoniant arall set drawiadol Tom Scutt, oedd galluogi’r gynulleidfa i weld hurtni meddwl y prif gymeriad, wrth i leisiau ac wynebau’r gorffennol gael eu cyfleu ar y llwyfan o’n blaen; o bennau’r cymeriadau yn ymddangos o’r bin a’r peiriant golchi neu lwyth o’r ‘Black and White Minstrels’ i gerdded allan o’r oergell, yn dawnsio gan ganu brawddegau o regfeydd na allai fyth eu hailadrodd ar dudalennau’r Cymro!

Cryfder y ddrama, heb oes, yw gallu’r cyfarwyddwr i greu triciau, dro ar ôl tro, er mwyn cyfleu’r salwch meddwl. Dylai’r ffaith bod dyn mewn siwt cath, yn camu i’r tŷ, gan regi ei ffordd drwy’i fwyd ymddangos yn gwbl ‘real’ i bawb, yn yr un modd wrth i’r fam ymddangos o nunlle, tu ôl i ddrws y gegin ar gychwyn y ddrama. Y triciau llwyfan yma sy’n codi’r cyfan uwchlaw’r dyddiol diflas, ond sy’n dwysau tristwch llanast meddwl y prif gymeriad.

Yr unig fan gwan yn y cynhyrchiad caboledig hwn yw’r diweddglo. Yn y cynhyrchiad gwreiddiol, y tro enfawr ar ddiwedd y ddrama, yw bod y cafn tywod yn diflannu mewn eiliadau o dduwch, ac yn ei le ar y llwyfan mae bocs o gegin draddodiadol, sy’n cynnwys yr holl ddodrefn a fu’n cuddio yn y tywod, i gyd yn ôl yn eu priod le. I mewn i’r olygfa ‘real’ a ‘normal’ yma y camai’r prif gymeriad, gan fynd ati i wneud paned o de i’w hun, gan aros yno hyd nes i’r aelod olaf o’r gynulleidfa adael y theatr. Dim clapio, dim curtain calls, dim byd. Dyma’r byd go iawn, os liciwch chi, ac arwydd (efallai) ei fod wedi gwella. Oherwydd cyfyngderau’r gyllideb a’r lle, methwyd a chyfleu hyn yn y Soho, ac felly fe orffennodd y ddrama, yng nghyd-destun y dryswch a fu. Difyr iawn oedd darllen sylw’r dramodydd yn y rhaglen, sydd hefyd yn cynnwys y ddrama, a gyfaddefodd ei fod wedi nodi, mewn cyhoeddiadau blaenorol, nad oedd angen y diwedd costus hwn, ond ei fod bellach yn anghytuno a hynny, ac y dylai pob cynhyrchiad o hyn allan, gynnwys awgrym o’r byd go iawn, i gloi.

Allwn i’m cytuno mwy. Cynhyrchiad gwych o ddrama ddofn, ac eto hynod o ddoniol. Mae ‘Realism’ i’w weld tan y 9fed o Orffennaf. Mwy drwy ymweld â www.sohotheatre.com

Friday 17 June 2011

'Lord of the Flies'







Y Cymro – 17/06/11

A ninnau ynghanol tymor yr Eisteddfota a’r Gwyliau amrywiol ymhob cwr o’r wlad, braf yw gweld drysau’r Theatr Awyr Agored yn Regent Park, Llundain yn agor ei drws blynyddol ar gyfer pedwar cynhyrchiad cofiadwy arall.

Byth ers y 1930au, mae’r tyrfaoedd wedi heidio’u ffordd i dawelwch un o barciau prydfertha gogledd Llundain, er mwyn eistedd yn yr awyr agored i wylio â phrofi perfformiadau gan rai o’n hactorion amlyca. Dros y blynyddoedd, mae’r gofod coediog unigryw yma wedi cael ei drawsnewid i fod yn amryw o leoliadau gwahanol, er mwyn diddanu’r ddinas, a’u Pimms a’u picnic, wedi diwrnod hir yn y gwaith. Yn y 1970au, ar gost o £150,000 codwyd awditoriwm addas o gadeiriau pren ar wely o gonricd, a byth ers hynny, o flwyddyn i flwyddyn, mae’r adnoddau technegol ac adloniannol wedi’u gwella, fel nad oes angen y picnic bellach gan fod y barbiciw neu’r bwffe gourmet yn cynnig arlwy blasus i’r geg, yn ogystal â’r llygaid.

Addasiad o’r nofel ddadleuol a dirdynnol ‘Lord of the Flies’ yw dewis dewr yr arweinydd artistig Timothy Sheader, i agor yr ŵyl eleni. Bu Sheader yn hynod o lwyddiannus dros y blynyddoedd diwethaf, gan gipio sawl gwobr theatraidd am ei gynyrchiadau tebyg i ‘Into the Woods’, ‘The Cruicible’ ac ‘Hello Dolly!’ ar ‘lwyfan’ mwdlyd y gofod coediog hwn. Fel gyda’r cynyrchiadau blaenorol yma, unwaith eto eleni, mae’r golwg gyntaf ar y ‘set’ yn ddigon i gipio gwynt y gorau. Ynghanol y goedwig, mae sgerbwd yr awyren, sydd wedi plymio i’r ddaear ar ynys bellennig, gan adael ei theithwyr , sef y bechgyn ysgol Prydeinig i gwffio’u ffordd i gadw trefn ar ei gilydd, wrth aros i gael eu hachub. O’n cwmpas, ar frigau’r coed, mae diferion o ddillad a rhannau amrywiol o’r awyren, sy’n dal i fud losgi’n dawel ers ei thranc. Y mwg tawel yn awgrym o’r dadlau tanbaid sy’n mudlosgi ym meddyliau’r bechgyn, wrth i bob un geisio hawlio’u hawdurdod dros ei gilydd. O dan draed, cannoedd o gesys a bagiau, yn un môr o lanast, ac sy’n arwydd o’r hyn sydd i ddod, cyn i’r un gair gael ei yngan.

Mae 'na gryn ddadlau dros ystyr y ‘stori’ ac is-destun neges y ddrama, gyda ‘r farn gyffredinol yn cytuno mai darlun o gymdeithas ar ei gwaethaf sydd yma; cymdeithas sy’n chwilio’n daer am arweinwyr, yn crefu am gyfarfodydd er mwyn trafod hyd ddydd y farn. Yn rheibio mannau mwyaf tywyll a beiddgar y meddwl dynol, sy’n ymylu ar orffwylledd a’r awydd anifeilaidd i ladd.

Wedi cael fy swyno gan y wledd weledol, buan iawn roedd safon actio'r unarddeg o lanciau ifanc, o bob lliw a llun, yn dadlau ac yn cwffio, yn wefreiddiol. Hyder yr arweinydd hunan ddewisedig ‘Ralph’ (Alistair Toovey) ac anwyldeb llond ei groen ‘Piggy’ (George Bukhari) oedd yn cynnal y cyfan, yn ogystal ag elfennau tywyll y meddwl dynol yng nghymeriad ‘Jack’ (James Clay) , yn gwrthod dilyn y Drefn, ac sy’n gwyrdroi’r gymdeithas, a’i throi yn anwar.

Roedd y briodas rhwng y cyfarwyddo a’r coreograffi hefyd yn gynnil ac yn gofiadwy, wrth i’r golygfeydd blethu i’w gilydd, i gyfeiliant y trac sain drawiadol. Wedi’r egwyl, wrth i’r haul fachlud ar gefnlen eang gogledd Llundain, roedd ofn y tywyllwch, a goleuo cynnil James Farncombe yn dyfnhau’r themâu tywyll , ac yn rhoi gwefr gofiadwy i bob aelod o’r gynulleidfa freintiedig.

Dyma un o’r cynyrchiadau unigryw hynny y bydd rhywun yn ei gofio amdano, bob tro y clywai sôn am nofel William Golding weddill fy mywyd. Nid yn unig am ei chynnwys amrwd, ond am y llwyfannu unigryw ond cwbl addas yma.

Erbyn i’r geiriau yma gyrraedd Cymru, bydd y pryfed wedi ymadael â’r ynys a’r gofod wedi’i drawsnewid ar gyfer yr ail a thrydydd gynhyrchiad y tymor sef addasiad o waith John Gay, ‘A Beggar’s Opera’ ac addasiad i blant o ‘Pericles’ Shakespeare, tan y 23ain o Orffennaf. Yn dilyn hynny, bydd y tymor yn dod i ben i gyfeiliant cerddoriaeth wych y brodyr Gershwin, yn y sioe ‘Crazy for You’ tan y 10fed o Fedi.

Ewch, a mwynhewch, gan gofio mynd â blanced a photel gyda chi, rhag i wyntoedd oer min nos y ddinas eich styrbio! Mwy o fanylion drwy ymweld â www.openairtheatre.org

Friday 3 June 2011

'And then they came for me'



Y Cymro – 27/05/11

Wythnos brysur a bythgofiadwy arall yma yn y ddinas, a gychwynnodd nos Wener yn Theatr y Rose, Kingston. Cynhyrchiad i godi arian tuag at apêl Cadwraeth Auschwitz oedd ‘And then they came for me’ a gafodd ei gyflwyno gan gwmni o actorion ifanc lleol. Yr hyn a roddodd y wefr imi oedd y ffaith mai stori Eva Schloss oedd dan sylw, yr Eva ifanc a dreuliodd 3 blynedd o’i bywyd ifanc yn yr hunllef sy’n cael ei adnabod fel Auschwitz, ac a ddaeth, maes o law, yn hanner chwaer i Anne Frank.

Roedd Anne ac Eva yn ffrindiau cyn y Rhyfel, a’r ddwy yn byw gerllaw ei gilydd yn Amsterdam. Pymtheg oed oedd Eva, pan gafodd ei hanfon gyda’i mam i Auschwitz ym mis Mai 1944, a dyna’r tro dwetha iddi weld Anne Frank. Wedi’r Rhyfel, fe ail-briododd ei mam â’r unig aelod o deulu’r Frank i oroesi sef y tad Otto Frank. Wedi deugain mlynedd, a hithau bellach yn 82 oed ac yn byw yn Llundain, mae Eva wedi canfod y nerth i siarad yn gyhoeddus am ei phrofiadau erchyll, ac roedd cael bod yn ei phresenoldeb i glywed y stori yn fraint fythgofiadwy. Mwy o fraint oedd cael ymddiddan â hi ar ddiwedd y noson, a rhannu cyfeiriadau e-bost!

'Thrill Me'




Y Cymro – 27/05/11

Drama gerdd arall sy’n denu cynulleidfaoedd mawr ar hyn o bryd i Theatr Charring Cross yw ‘Thrill Me’ o waith yr Americanwr Stephen Dolginoff. Cofnod o’r ‘drosedd ddelfrydol’ a ddigwyddodd yn Chicago ym 1924 yw’r stori wir hon, wrth ddilyn hanes dau ŵr ifanc, peniog, llwyddiannus a golygus ‘Nathan Leopold’ (Jye Frasca) a ‘Richard Loeb’ (George Maguire) oedd yn cael eu gyrru gan y wefr o droseddu. Cychwyn wrth chwarae gyda thân, cyn dechrau dwyn ac yna’r ysfa fwyaf sef i ladd.

Mae’r stori llawn tyndra a throadau yn wefreiddiol, wrth i’r angerdd a’r angen am wefr eu hudo a’u dallu. Dyma stori wir am ddau gyw-gyfreithwyr yn mentro popeth er mwyn y wefr, nes i’r cyfan fynd o’i le, a chorff y llanc ifanc 14 oed, Robert "Bobby" Franks, yn cael ei ddarganfod gan yr heddlu, er gwaetha’r ffaith fod ei wyneb wedi’i sarnu gan asid. Buan iawn y daw’r heddlu o hyd i sbectol ‘Nathan’ gerllaw, sy’n arwain y trywydd yn syth at y ddau, ac i ddifa’r cynllunio mawr.

Mae’n amlwg iawn mai ‘Loeb’ yw’r dihiryn, a’r ffaith bod ‘Leopold’ dros ei ben a’i glustiau mewn cariad ag o, yn obsesiynol felly, yn peri iddo ddilyn ei bob gorchymyn, a chyflawni’r drosedd eithafol. Y chwarae ar eiriau sy’n effeithiol ac amwys wrth I ‘thrill me’ ddod ag ystyr wahanol I’r ddau ohonynt. Ond, er pa mor llwfr ar y wyneb yw’r ‘Leopold’ ifanc, mae’r troeon trwstan yn y ddrama yn profi, mai ef, a’i ben cyfreithiol sy’n ennill y dydd.

Cynhyrchiad taclus a tynn Guy Retallack a’m plesiodd fwyaf, yn cadw’r cyfan i lifo’n rhwydd wrth ddadlennu haen ar ôl haen o’r stori erchyll yma.

Mae ‘Thrill Me’ I’w weld yn y Charring Cross tan yr 11eg O Fai. Mwy o fanylion drwy ymweld â www.charingcrosstehatre.co.uk