Total Pageviews

Monday 5 June 2000

Beirniadaeth Y Fedal Ddrama Eisteddfod yr Urdd 2000

CYSTADLEUAETH Y FEDAL DDRAMA
EISTEDDFOD GENEDLAETHOL URDD GOBAITH CYMRU 2000

‘EIN MERCH NI’
Gan Blodyn

Drama am Gwen a Darren sydd yma, y fam a’r tad sydd â phroblem fawr yn eu hwynebu - sut i ddweud wrth eu merch Rhian mai rhieni mabwysiedig ydynt. Wedi un mlynedd ar bymtheg, mae’n rhaid wynebu realiti a chyfadde’r cyfan wrth ‘ein merch ni’.

Rhaid canmol gallu’r dramodydd yma i ddelio a phwnc mor sensitif. Mae strwythur sicr i’r gwaith ac ymgais deg iawn i greu darn o theatr. Roedd y cyfan oedd angen ei ddweud yma, a byddai’n wers i ambell sgwennwr ddarllen gwaith Blodyn er mwyn gweld sut i ddweud eich dweud, heb wastraffu geiriau!. Mae yma ysgrifennu gonest a diffuant iawn. Bron na ellir clywed ac ymdeimlo â chri’r dramodydd.

Darn o waith ar gyfer prosiect addysgol mi dybiwn. Yn sicr mae’n dangos addewid pendant fydd yn edwino gyda phrofiad ac amser.

Un pwynt bychan - peidiwch â dangos eich gwendidau cyn cychwyn y ddrama!. Yn benodol felly yn nisgrifiadau’r cymeriadau - ‘mae gwen yn stereoteip o fam, emosiynol, ffyslyd’. Does dim bwys o gwbl am hynny. Gadewch i bobl eraill ddehongli’r cymeriadau eu hunain!!!

‘JIG-SO’
Gan BWGIDIBWGIDIBWGIDIBW

Dyma ddrama oedd yn taro deuddeg o’r dudalen gyntaf gyda sgwrs rhwng dwy ffrind coleg drannoeth y ffair :

‘...Ti’n sâl?
...Na, r’w awydd ddoth drosta i fwya’ sydyn i chwydu mewn bwced!...’

Mae Meinir a Lowri wedi bod allan yn ‘cymdeithasu’ fel mae’r myfyrwyr ma’n ei alw fo!, a thrwy gyfres o ol-fflachiadau mae’r ddwy yn cofio’i hynt a’i helynt o’r noson gynt.

Mae yma afael dda iawn ar iaith ‘Ogleddol ei naws a sawl ymgais i gynnig gwirioneddau am fywyd, fel:

‘...Be’ ydi KO?
... Duw yn penderfynu’i bod hi’n hen bryd i chdi roi’r gora i ‘neud ffŵl o dy hun!...’

Wrth drio egluro pam bod gan un ohonynt glais ar ei choes, cawn ein cyflwyno i nifer o gymeriadau eraill fel gyrrwr y tacsi, dyn ar y stryd a dyn sy’n canu’r piano, yn ogystal â chael ein tywys o’r tacsi i’r twll yn y wal, ac yna i’r dafarn. Llwybr traddodiadol i unrhyw fyfyriwr yn amlwg!. Mae yma hefyd awgrymiadau ar gyfer cerddoriaeth ysgafn addas i glymu’r holl ynghyd.

Ymgais dda iawn, a drama sydd yn sicr o haeddu cynulleidfa fel y mae hi. Mae’n gwestiwn gen i ba mor hawdd fyddai ei llwyfannu oherwydd y gofynion am Jukebox, peiriant twll yn y wal a Phiano i gyd i gael eu gosod a’u tynnu yn ystod y ddrama! - ond gyda chynllunydd da wrth waith, mae unrhyw beth yn bosib!

Roedd yr hiwmor a’r ddialog yn cydio o’r cychwyn ac yn amlwg roedd y dramodydd yn sgwennu o brofiad am bethau yr oedd ganddo/i brofiad ohonynt. Ond, mae angen stori gryfach yma a phlot gwell. Mae yma stôr wych o atgofion coleg - efallai y dylid meddwl am gerbyd gwell i’w gweithio?

Gyda llaw cyfieithiad arbennig a chofiadwy iawn o ‘I will survive’!!

‘TAWELWCH Y BLITS’
Gan YR ALLANOLYN

Lleoliad a sefyllfa’r ddrama yn apelio’n fawr. Mae’n 1942 ac mae Abertawe’n fflam. Digwydd y ddrama mewn lloches rhag y bomiau ar islawr mewn tŷ. Gyda 5 cymeriad wedi’i gaethiwo yn y lloches, (tri o’r un teulu) a’r rhyfel yn rhuo uwch eu pennau, mae yma ddrama cyn cychwyn y ddialog.

Mae Thomas ac Angharad yn gwpl priod yn eu tridegau hwyr. Awgrymir ar y dechrau bod Angharad yn feichiog. Oherwydd galwad y seiren, mae’r ddau wedi gorfod canfod eu ffordd i’r lloches liw nos. Gyda chyrhaeddiad Amanda sy’n chwaer i Thomas, a’i gwr Richard, y cychwyn y ffraeo. Toes yna ddim llawer o gariad rhwng brawd a chwaer, gyda Thomas yn edliw i Amanda nad oes ganddi fawr o gonsyrn am eu tad - Monty. Gyda’r rhyfel yn tanio uwchben, mae yma ryfel teuluol hefyd yn corddi - rhyfel sy’n cael ei gynyddu gyda chyrhaeddiad Montgomerie, y tad, sy’n ei saithdegau. Eto, fel gyda’r dramâu eraill mae yma gyfrinachau o’r gorffennol yn cael eu dadlennu - a’r mwyaf heb os yw’r ffaith bod Monty y tad wedi cynorthwyo Thomas i osgoi mynd i Ryfel.

Yng ngeiriau’r dramodydd ar ddiwedd y ddrama :

‘...Trwy’r ddrama (fe) gafwyd pum cymeriad oedd yn byw mewn gwahanol fydoedd. Angharad a Thomas yn byw mewn byd ffantasi fod Angharad yn disgwyl. Roedd Amanda yn byw mewn byd y frenhines, fod neb yn gallu cyffwrdd arni. Roedd Richard yn byw mewn byd o ddistawrwydd, yn amharod i wneud dim o fewn ffiniau’r byd. Roedd Monty yn byw yn yr hen fyd.’

Dehongliad gwerthfawr arall i unrhyw feirniad!!

Ar ddiwedd y ddrama, mae’r seiren yn canu eto i ddynodi bod hi’n saff i adael y lloches. Gydag ymadawiad y pum cymeriad, fe adewir y llwyfan yn wag wrth i’r golau bylu. Ond, wedi rhai eiliadau, mae gofyn i’r seiren ganu am bum munud gyda neb yn dod lawr i’r lloches i symboleiddio, eto yng ngeiriau’r dramodydd : ‘...diwedd i’r teulu, yn ogystal â dangos gwacter y byd nesaf’.

Dyma unig ddrama gyfnod yn y gystadleuaeth. Eto yma, mae yma ddealltwriaeth o anghenion drama dda a’r gallu i adnabod a dadansoddi’r sgript. Yn gyson yn ystod y ddialog, mae yma ddadansoddiad o deimladau’r cymeriadau a phwysigrwydd yr awyrgylch yn y lloches. Fel dywed y ddwy frawddeg ar y bumed tudalen:

‘...Mae’r ffaith nad oes gwres yn y lloches yn
symboli oerni mewnol y cymeriadau. Does dim
teimladau da ganddynt o gwbl, dim ond casineb
tuag at ei gilydd.’

Iawn, mae’n brawf sicr bod gan y dramodydd feddwl, ond mae’n gwestiwn gen i a oes ei angen ar y sgript?.

Mae’n amlwg fod y dramodydd yma wedi meddwl yn ofalus am strwythur ei ddrama, ond falle fod y strwythur yma a’r dadansoddi parhaol wedi mynd yn drech na’r deunydd oedd ganddo/i. Mae lleoliad a’r cymeriadau yn wych, ond mae angen tipyn mwy o waith ar y ddialog a’r stori. Buaswn i hefyd yn ail-edrych ar ddiwedd y ddrama - byddai eistedd am bum munud yn gwrando ar seiren ac edrych ar lwyfan wag yn gofyn ychydig yn ormod i unrhyw gynulleidfa!. Ymgais dda sy’n werth ei ail-weithio.

‘CHWARAE’N TROI’N CHWERW’
Gan BRANWEN

Digwydd y ddrama hon ar Ragfyr 31ain 1999 - noson y mileniwm, ac mae’n adrodd hanes 4 ffrind wrth iddynt ymweld â Llundain i fod yn rhan o’r dathliadau. Ond, yn anffodus, fel yr awgryma’r teitl, mae’r ‘chwarae yn troi’n chwerw’.

Wedi gem o ‘Truth and dare’, mae sawl cyfrinach yn cael ei ddatguddio am orffennol y genod, a gorfodir Sian i gyfaddef iddi arbrofi gyda chyffuriau. Wrth i’r noson fynd rhagddi, a’r munudau ddiflannu, mae difrifoldeb y datguddiadau yn cynyddu, gydag Elin yn cyfaddef iddi gael erthyliad. Doedd ganddi fawr o ddewis, a hithau wedi’i thresio. Mae’r cyfan yn arwain at ffrae ar ôl ffrae, ac mae awyrgylch y noson fawr a’r cynnwrf yn Llundain yn ychwanegu llawer iawn at y tensiwn. Mae’r diwedd yn drasig iawn pan ddatgelir mai Sian oedd wedi rhoi cyffur yn niod Elin ar y noson y cafodd hi’i thresio, a gorffennir y ddrama gydag Elin ‘yn rhedeg yn wyllt tuag ati (Sian) ac yn rhoi ei dwylo o amgylch ei gwddf...clywir sgrech a chorff yn cwympo ar lawr...’, cyn i’r gân - ‘Chwarae’n troi’n Chwerw’ gan Caryl Parry Jones gael ei glywed eto, fel ar y cychwyn.

Mawredd y ddrama hon yw’r sefyllfa y gosodir y cymeriadau ynddi. Mae yma awyrgylch a thensiwn wrth ddisgwyl am hanner nos, cyn i’r un cymeriad yngan gair. Mae yma feddwl gofalus wedi bod am y gerddoriaeth a sut i ddadlennu’r cyfrinachau. Roedd y ddialog ddeheuol yn gweithio’n dda ac yn amlwg roedd gan y dramodydd glust dda at ddialog ei chenhedlaeth.

Baswn i’n bersonol yn hoffi gweld mwy - dwi’n teimlo fod y ddrama wedi gorffen yn rhy hawdd. Mi gawson ni ymgais i glymu popeth ynghyd, ac eto, roedd yr awydd ynddai i wybod mwy.

DI-NOD. DI-ENW. DILEU?...
Gan WNAIFFOGODITROMA

Drama gymhleth - anodd ei deall ar y darlleniad cyntaf. Dyma ‘theatr arbrofol syfrdanol newydd’ yng ngeiriau un o’r cymeriadau!

Drama am 3 cymeriad - Dylan y newyddiadurwr, Gwyn yr heddwas a Delyth, swyddog tai o’r cyngor. Un olygfa sydd yma mewn gwirionedd yn cael ei hail-adrodd 3 gwaith - neu fel dywed Delyth yn y ddrama -

‘Ru’n hen drefn ydi hi, jyst ei bod hi mewn papur lapio newydd’.

Y tro cyntaf y clywn yr olygfa, mae Dylan yn cael ei gyhuddo o gyflawni trosedd yn erbyn “Yr Adran” gan Gwyn a Delyth, a’r unig ganlyniad am wneud hyn yw’r gosb eithaf. Ar ddiwedd yr olygfa, mae Gwyn yn tynnu gwn, ac yn saethu Dylan yn ei ben. Yn yr ail gyflwyniad, Gwyn sy’n cael ei gyhuddo, ac yma eto mae’n cael ei ddedfrydu i farwolaeth. Ond y tro hwn, mae Dylan yn anelu gwn at ben Gwyn, ac mae Delyth yn anelu gwn at ben Dylan!. A’r drydedd gwaith, ia, dach chi’n iawn, Delyth sy’n cael ei dedfrydu i farwolaeth, ac yma eto mae Dylan yn anelu gwn at ben Delyth, ac mae Gwyn yn anelu gwn arall at ben Dylan. Cymhleth, ddudis i?!...

I bontio rhwng y golygfeydd uchod, mae ‘na eglurhad o fath gan y pedwerydd cymeriad - Ceri y dramodydd. Ac yma’n sicr, down i weld adlais o ddrama Piriandello - ‘Chwe chymeriad yn chwilio am awdur’. Dyma hefyd y cam gwag cyntaf yn y ddrama. Gwell o lawer fyddai cadw ‘truth’ y cymeriad yma tan ddiwedd y trydydd cyflwyniad. Iawn, mae angen ei sefydlu hi o’r dechrau fel presenoldeb, ond dylai hynny fod yn llawer mwy cynnil. Y 3 cymeriad o’r ddrama ddylai hawlio sylw a chydymdeimlad y gynulleidfa, ac yna cyflwyno’r tro yng nghynffon y ddrama ar y diwedd. Byddwn i’n bersonol yn cadw’r datguddiad tan ar ôl i’r tri chymeriad drio’i saethu’i gilydd, ym mhatrwm triongl, gan fethu’n ddychrynllyd a tharo’r bwlb golau!

I gloi’r ddrama, mae yma ymdrech i ail-gyflwyno’r un olygfa am y bedwaredd tro, gyda’r dramodydd yn cael ei gyhuddo a’i llofruddio. Ond, siom i mi oedd peidio glynu at yr un geiriau ag a glywsom ni ynghynt. Byddai ail-adrodd yr un olygfa yma eto, wedi cryfhau’r ddrama yn fawr iawn. Awgrym efallai fyddai llunio’r ‘olygfa yma’n gyntaf yn ofalus iawn iawn, ac yna ei haddasu hi cyn lleied â phosib ar gyfer y 3 cymeriad yn y golygfeydd blaenorol.

Yn sicr mae gan Wnaiffogoditroma ddychymyg da iawn, a’r gallu i greu dialog gogleddol ei naws yn effeithiol iawn. Mae’r gallu i gymeriadu yn amlwg a’r gallu i weld ac i geisio llunio strwythr cadarn i’w waith.

‘PWY FASA’N MEDDWL?’
Gan OSWALD DIMETTOLENNI

(synnwn i damaid mai perthynas pell i WNAIFFOGODITROMA yw’r greadigaeth yma!!!)

Monolog sydd yma gan Margaret Elsie - neu Magi, fel y’i hadnabyddir - dynas llnau yng ngorsaf radio Calon FM. Toes gan ‘rhen Fagi ddim llawer o feddwl o’i hun na’i hanes na’i bywyd ‘...ddim gwerth ‘i sgwennu ar bapur sychu tin neb!’

Mae’r ddrama’n cychwyn yn addawol iawn wrth i Magi gychwyn ar yr orchwyl o lanhau’r swyddfa ar ddiwedd dydd gan ddychmygu bod Tom Jones wedi ffonio’r swyddfa!

Mae yma ddawn i ddeialogi a hynny gyda chyfoeth o ddialog ‘ogleddol, fel ei disgrifiad o Jên Stryd :

‘...dal i regi fel morwr ’efyd a thin fel talcian tas arni hi...’

Wrth fynd ymlaen a’i gwaith, mae pob dim fel tae’n ei hatgoffa o’i gorffennol. Gyda’r newydd fod yr orsaf radio am symud i le newydd, mae yna dro ar fyd ar y gorwel. Mae hi’n dyheu am fywyd fel ei ffrind Jen Stryd - gan bod ei bywyd hi fatha ‘...wsos o Sunset Beach ar y teli!...’. Ond er gwaetha’r cyfan, mae gan Magi gyfrinach, a dyma yw’r tro ar ddiwedd y ddrama. Mae ganddi hi arian, a pheth o’r arian hwnnw sy’n gyfrifol am y symud. Er yn ddirgelwch i’r orsaf, hyhi yw un o’r ‘major shareholders’ yn y cwmni.

Tydi creu monolog ddim yn hawdd. Mae angen strwythr cryf a stori gryfach fyth. Mae angen y gallu i gyflwyno gwybodaeth yn gynnil a chyfleu cymaint o dan yr wyneb ac o dan y geiriau. Falle mai dyma yw gwendid y dramodydd yma. Mae yma or-ddweud a ddim digon o ddigwydd. Byddai gwylio a gwrando ar Magi am hanner awr yn ddiflas i’r llygaid a’r glust.

Mae yma ddeialogwr heb ei ail. Mae’r ddrama hon (a’r llall) yn brawf pendant o hynny. Mae’n ddyletswydd arnom ni rŵan i feithrin y dalent yma a rhannu o’n profiad i agor meddwl y dramodydd i greu darn o theatr arbennig iawn.

‘CYFYNG - CYNGOR’
Gan CRACA HYLL

Er bod yna dri chymeriad yn y ddrama yma, drama rhwng dau ydi hi mewn gwirionedd. Cyril James, seiciatrydd yn ei bedwardegau a Sara Davies merch ugain oed. Dull i gyflwyno gwybodaeth yn unig yw’r ysgrifenyddes - Gwenan.

Lleolir y ddrama yn ystafell gynghori Dr. Cyril James ac fel awgryma’r teitl, mae gan Sara broblem. Mae hi mewn cyfyng gyngor. Yn dilyn cyngor gan ei mam, mae hi’n ymweld â’r seiciatrydd. Ond, yn ystod y ddrama, mae yma newid yn rôl y cymeriadau, ac erbyn y diwedd, mae’n gwestiwn pwy sydd wedi cynghori pwy?.

Wrth gychwyn darllen y ddrama, mae’n amlwg fod gan y dramodydd yma glust dda at ddialog, ac roedd y cynildeb yn y sgwrsio yn apelio’n fawr. Y dechrau yn ymylu ar fod yn gomedi, wrth i Sara eistedd yn y gadair anghywir, a’i dull di-flewyn-ar-dafod o ateb yn ôl. Ond wedyn yn sadio i lefel wahanol.

Rhyfeddu at allu’r dramodydd i gyflwyno gwybodaeth yn gynnil mewn dialog slic. Y seiciatrydd yn holi am orffennol Sara a’i pherthynas a’i chariadon. Wrth holi’n ddyfnach, gweld bod Sara wedi cael ei brifo’n fawr pan gafodd ei brawd, Gerallt ei ladd mewn damwain. Sara am i Cyril hefyd rannu cyfrinachau a hi, a down i weld fod yntau hefyd wedi gorfod delio a marwolaeth o golli merch fach wythnos oed. Wrth i sgwrs y ddau fynd rhagddo, mae sawl cyfrinach arall yn cael ei ddadlenu, ac mae Sara yn gorfodi Cyril i wynebu’r ffaeleddau yn ei fywyd ei hun hefyd. Erbyn y diwedd, mae Cyril yn gorfod wynebu realiti’r sefyllfa bathetig mae o wedi’i gael ei hun ynddi :

‘Dwi wedi cael llond bol ar blesio eraill. Trio rhoi golwg newydd ar fywydau, heb
feddwl am eiliad am fy mywyd i fy hun...’

Gorffenir y ddrama gyda’r ddau wedi cael budd o’r sgwrsio, gyda’r awgrym fod hyn am fod yn ddigwyddiad rheolaidd.

Does yna ddim byd newydd yn y math hwn o ddrama, a dim o’i le arno chwaith. Mae’r gallu gan y dramodydd i blannu, medi a chynhaeafu ei deunydd yn ofalus iawn fel y gymhariaeth gyson â’r ffilm ‘Silence of the Lambs’. Weithiau, roedd yma deimlad fod pob dim yn rhy gyfleus. Roedd popeth yn rhy dwt a thaclus, gyda’r cyfan yn dod at ei gilydd yn rhy hawdd. Siawns na fyddai’r gynulleidfa wedi gweld y diwedd o’r cychwyn. Wedi dweud hynny, byddai’r ddrama, fel y mae hi, yn cael ei derbyn yn wresog gan gynulleidfa. Edrychaf ymlaen at ei gweld!.

‘DISGWYL AM...’
gan THESBWRAIG

Drama wedi’i lleoli tu allan i giosg ffôn ar stryd mewn tref yng Ngogledd Cymru. Tri chymeriad sydd yn y ddrama - Mal, myfyriwr ugain oed, Jo bachgen hoyw yn ei ugeiniau cynnar a Hezza, merch un ar bymtheg oed.

Mae’r tri chymeriad, fel awgryma’r teitl yn ‘disgwyl am...’ bethau gwahanol. Un yn disgwyl y bws, un arall yn disgwyl cwmni a’r llall yn disgwyl ei chariad. Wedi i’r ffôn ganu ar gychwyn y ddrama, a neb yn symud i’w ateb, y cychwyn y sgwrsio.
Sgwrsio digon cyffredinol ac amrywiol sydd yma am bynciau mawr y byd fel ‘oes yna ‘cream’ mewn ‘cream cracker?’ neu ‘pam tydi hen bobol ddim yn snogio?!’

Fel y gallwch fentro o’r uchod, mae yma hefyd ddogn helaeth iawn o hiwmor. Yn sicr i mi, allan o’r deg drama yn y gystadleuaeth, dyma’r sgript ddoniolaf. Mi gefais fy hun yn chwerthin sawl gwaith, a hynny gan amla oherwydd ffraethineb un cymeriad sef Jo. Bron na ellid mynd cyn belled a dweud mai cerbyd i ddoniolwch Jo yw’r ddrama, ac efallai pe byddai’r awdur wedi bod yn fwy uchelgeisiol, mai monolog gan Jo y dylid fod wedi’i chyflwyno.

Serch hynny, wrth i’r cymeriadau gyd-drafod y pynciau amrywiol yma, down i weld bod gan bob un ei broblem. Jo yn amddiffynnol iawn o’i rywioldeb, Mal yn amddiffynnol o’i statws fel myfyriwr, a Hezza yn beio’i theulu am ei stad bresennol.

Fel y mae hi, er cystal ydi’r ddeialog rhwng y tri, mae angen stori gryfach. Buaswn i wedi croesawu mwy o ddefnydd o’r ffôn, gan mai hwnnw sydd yn cychwyn y sgwrsio, fel petai.

Drama ddoniol iawn a gwir obeithio y gwelwn a chlywn ni lawer iawn mwy o hiwmor arbennig y dramodydd yma yn y dyfodol. Mae ei angen arnom!.


CASTELL TYWOD
Gan HELI

Drama am Alys yw hon - ‘breuddwyd o ferch dwy ar hugain oed, a’i bryd ar fod yn nofelydd’. Digwydd y ddrama mewn pedair golygfa - ystafell wely Alys, Tafarn y Ship, toiledau merched mewn ysgol uwchradd ac, fel yr awgryma’r teitl, ar y traeth.

Mae’n amlwg iawn o eiriau cyntaf Alys yn y ddrama, fod yma nid yn unig ddramodydd da wrth ei waith, ond hefyd egin nofelydd. Mae Alys yn darllen o’i llyfr nodiadau ar y traeth :

‘Peth rhyfedd ‘di cariad... yn gynnes, gyfarwydd drwy oriau tywyll y nos, yn gysurus o olau drwy’r dydd... yn sicrhau bod y ffin rhwng deigryn a gwên fel papur o denau, a’r cyffyrddiad ysgafnaf yn drwm gan arwyddocâd...’.

Daw Steff, cyn gariad i Alys i gadw cwmni iddi ar y traeth. Dyma gyfarfyddiad cyntaf y ddau ers i Steff fynd i ffwrdd i’r Brifysgol, ac mae’n amlwg iawn fod gan Alys dal teimladau cryf tuag ato. Yn wir, fel â’r ddrama rhagddi, down i weld mai’r berthynas hon rhwng y ddau yw sylfaen y garwriaeth fawr yng nghalon y nofel. Trwy gydol yr olygfa, (a’r ddrama) fel daflunnir delweddau ar sgrin yng nghefn y llwyfan, o’r ddau yn blant ifanc yn codi castell tywod ar y traeth. Ac er bod yna sawl ton wedi torri ar draethau’r ddau, mae’r castell yn dal i sefyll ym mreuddwydion Alys :

‘...castell o dywod sy’n gwarchod fy nghalon
bregus, â phob cyffyrddiad tyner mae mur yn cael
ei ddymchwel nes chwelir y cyfan gan donnau ei
gusanau gwyllt...’

Ond, fel gyda phob perthynas, tydi pethau ddim mor hawdd â hynny. Erbyn hyn, mae gan Alys gariad newydd - Gareth. Gyda dychweliad Steff, gorfodir Alys i ildio i’w theimladau, gan roi terfyn ar y caru gwag gyda Gareth.

Cadwyn o 9 golygfa sydd yma, i gyd wedi’i phlethu yn gyfanwaith tynn. Yr un olygfa yw’r gyntaf a’r olaf, ond gyda datblygiad yng nghymeriadau Alys a Steff. Mae’r 7 golygfa arall yn delio gyda’r newid hwn, gan gylchdroi o gwmpas penderfyniad Alys. Posib y byddai’n anodd cyfleu'r 8fed golygfa - sef hunllef Alys, i gyd ar ffilm fel yr awgryma’r sgript. Doethach fyddai ail-weithio’r diwedd fel bod Alys yn deffro o’i hunllef ynghanol yr olygfa, a’r cymeriadau eraill yn diflannu.

Dyma ddramodydd sydd yn gallu trin geiriau yn effeithiol iawn. Mae sawl cymal hyfryd iawn yn y ddrama - fel geiriau Alys wrth Steff ar y cychwyn :

‘Dwisho chdi ngwasgu fi... ‘nal i’n dy freichia’
a ngwasgu fi mor dynn nes bo’ nghalon i’n
chwalu’n ddafna’ bach o dywod... darna’ bach
ohonaf fi i chdi gario ym mhocad dy gôt am
byth...’

Er cystal yw sawl cymal, mae yma beryg weithiau i feddwi ar ‘eiriau, a thrwy hynny i drio’n rhy galed i fynegi’r teimlad nes bod y cyfan yn ymylu ar fod yn felodramatig. Byddwn i hefyd yn gofyn i’r dramodydd i ddarllen ei waith/gwaith yn fwy gofalus gan wrando ar yr hyn a ddywed y cymeriadau. Roedd yna dueddiad i or-ddefnyddio ambell i reg - yn benodol felly'r gair gwaedlyd ‘blydi’. Cyfrais 11 o ‘blydis’ o fewn 11 tudalen!. O glywed y ddrama yn cael ei darllen, dwi’n sicr y byddai’r dramodydd wedi eu dileu yn syth.

Er gwaetha’r manion uchod, mae yma ddrama arbennig iawn. Mae yma gynildeb yn yr ysgrifennu drwyddi draw. Cynildeb sydd hefyd yn awgrymu dylanwad sgriptiau teledu. Mae yma adnabyddiaeth dda o fywydau’r genhedlaeth ifanc, a hefyd y gallu i greu dialog gogleddol ysgafn ei naws. Mae’r strwythr yn un tynn, gyda’r gallu i blannu a medi’r delweddau a’r geiriau yn drawiadol iawn. Mae’r cyfarwyddiadau llwyfan, awgrymiadau am y gerddoriaeth a’r llwyfannu i gyd yn brawf pendant fod yma rywun sy’n gwybod yn iawn beth maen nhw’n wneud.

MISS JONES Y POST
Gan NANCY

Fel yr awgryma’r teitl, monolog sydd yma gan Miss Jones y Post - hen ferch yn ei saithdegau cynnar.

Wedi deugain mlynedd o redeg y Post yn y pentref, mae’n amser newid aelwyd a symud i :

‘...un o’r fflatia bach ‘na ym Mangor. Rheini sydd a chortyn ym mhob stafall i’w dynnu os ‘dach chi mewn trwbwl ac mi ddaw rhywun o rhywla i’ch hachub chi.’

Y pengliniau ydi un o’r rhesymau dros fynd - y ffaith fod y post i lawr y grisiau a hithau’n byw i fyny’r grisiau, ond fel â’r ddrama rhagddi, ddim dyma’r unig reswm o bell ffordd.

Drwy gadwyn o atgofion am ei phlentyndod a’i dyddiau yn y Post, y daw’r gwirionedd sydd wedi cyniwair oddi mewn iddi ar hyd y blynyddoedd i’r amlwg. Gwirioneddau sy’n cyffwrdd â’r darllenydd ac yn tynnu deigryn wrth wrando ar ei hanes trist.

Er gwaetha’r tristwch, mae yma hiwmor sy’n cyffwrdd y darllenydd ac sy’n peri i gynhesrwydd ac anwyldeb Miss Jones, i aros yn y cof. Hyd yn oed yn y cyfarwyddiadau llwyfan, mae yma gymeriadu - ‘..gwisga esgidiau ‘call’, plaen...’.

Yr hyn sy’n taro rhywun o’r darlleniad cyntaf yw cynildeb y sgript a’r gallu rhyfeddol sydd gan yr ymgeisydd ifanc yma i adnabod henaint.

Cyfarwyddiadau llwyfan manwl a phwrpasol, awgrymiadau gogyfer â’r gerddoriaeth a naws y ddeialog i gyd yn profi fod yma feistr ar waith sy’n deall anghenion perfformio, cyfansoddi a chyfarwyddo drama lwyfan.

Dialog gogleddol ei naws sy’n brawf perffaith fod gan yr ymgeisydd yma glust dda at ddialog. Mae ef/hi wedi gwrando ar bobol yn siarad, ac wedi deall rythym iaith. Dyna sy’n cynnal y ddrama hon.

Gall unrhyw un greu dialog rhwng dau neu fwy o gymeriadau. Mae hynny’n hawdd. Ond mae cynnal bron i ddeugain munud gyda dim ond un cymeriad yn dipyn mwy o gamp.

Er bod yma 9 golygfa, mae’r dramodydd wedi meddwl am y cwbl, ac wedi’i chlymu ynghyd yn un cyfanwaith tynn. Bron na ellir clywed cordiau’r ‘piano yn y cywair lleddf’ yn diweddu’r golygfeydd.

Drama sydd, o’i gosod yn nwylo actores brofiadol, yn barod i’w chyflwyno. Bydd y cyflwyniad hynny yn brawf pendant o allu’r dramodydd yma a gwerth y teilyngdod yma eleni.