Total Pageviews

Wednesday 1 October 1997

'Tua'r Gorllewin'

Golwg : 'Tua'r Gorllewin'

Tipyn o gamp i unrhyw gwmni drama yw cynnal diddordeb cynulleidfa o bobol ifanc. Dyna’r her a osodwyd gerbron Theatr Sgraps yr wythnos diwethaf, wrth ymweld â Neuadd Dwyfor ym Mhwllheli.

Grant prosiect gan Gyngor y Celfyddydau fu’n gyfrifol am sefydlu’r cwmni yma, gyda’r bwriad i gyflwyno ‘cynyrchiadau deinamig cyfoes i genhedlaeth newydd o fynychwyr theatr’. ‘Tua’r Gorllewin’ yw cynhyrchiad cyntaf y cwmni. Comedi dywyll yn seiliedig ar ddrama Sam Shepard ‘True West’, wedi’i haddasu’n gelfydd iawn gan un o sylfaenwyr y cwmni, Iestyn Llwyd. Hanes dau frawd mewn bwthyn diarffordd at gyrion y brifddinas a gafwyd - un a’i fryd a’r gwblhau ei ffilm fawr gyntaf a’r llall am ennill ei arian drwy ddirgel ffyrdd. Gyda’r fam i ffwrdd ar ei gwyliau, mae’r ddau frawd yn ail-gynefino â’i gilydd gan brofi cryfderau a gwendidau’r naill a’r llall.

Mae gwaith Sam Shepard yn cymharu’r ffafriol iawn gyda dramâu Harold Pinter, lle mae gofyn cymryd gofal gyda geiriau a’u parchu. Os oes rhaid bod yn feirniadol, dyma lle oedd prif wendid y cynhyrchiad. Tueddu i ruthro drwy’r sgript wnaeth yr actorion, a thrwy hynny, golli sawl brawddeg a gair holl bwysig i naws yr ‘olygfa. Serch hynny, rhaid canmol Ioan Hefin ac Iestyn Llwyd am lwyddo i gynnal rhan helaeth o’r ddrama, a hynny’n gynnil a di-stŵr. Canmoliaeth hefyd i Arwel Gruffydd am ei bortread o’r Cynhyrchydd ffilm (‘es-pedwar-ecaidd’ iawn!) Dafydd Prys-Jones. Er mai ond dwy ‘olygfa fer a gafodd y cymeriad, llwyddwyd i’n argyhoeddi o fiwrocratiaeth y cyfryngau a thrwy hynny i newid byd y ddau frawd. ‘Felly hefyd gyda pherfformiad Rhiannon Williams fel y fam, sy’n dychwelyd ar ddiwedd y ddrama.

‘Roedd yr addasiad ar y cyfan yn taro deuddeg. ‘Roedd gen i fy amheuon wrth gyrraedd y theatr a fyddai posib i ymgorffori talp o fywyd Americaniad i’r Gymraeg. Yn y ddrama wreiddiol, mae defnydd helaeth o effeithiau sain (eto at bwrpas arbennig) - sŵn pryfed tân a’r ‘coyotes’ i roddi naws y gorllewin gwyllt. Sŵn brefiadau’r defaid a gafwyd, a hynny’n ychwanegu at ddyhead y ddau i gael dianc ‘Tua’r Gorllewin’.

‘Roedd y set yn syml, ac eto’n effeithiol. Hoffais y rîl ffilm fel olwyn y Pwll yn narlun y Cymoedd a’r modd cynnil ac effeithiol yr aethpwyd ati i droi'r ystafell daclus yn anniben. Efallai y dylid ail-ystyried lleoliad y fynedfa a’i osod yng nghefn y llwyfan. ‘Roedd gweld y Cynhyrchydd ffilm a’r fam yn gorfod gwasgu’i ffordd trwy’r celfi yn tynnu ychydig oddi ar lyfnder y cynhyrchiad.

Mae gofyn i unrhyw gynulleidfa i aros yn eu seddau am dros awr a hanner heb egwyl yn gofyn tipyn, ac mae’n glod y tro hwn i fyfyrwyr Coleg Meirion Dwyfor ac Ysgol Glan Môr, Pwllheli am lwyddo i wneud hynny. Heb os nag oni bai, mae angen egwyl yn y ddrama hon, a chamgymeriad mawr i mi oedd ei ddileu.

Serch hynny, mae’n rhaid imi longyfarch y cwmni am lwyddo i gynnal ein diddordeb, a hynny heb imi unwaith glywed y sŵn papur taffi triog tragwyddol sy’n nodweddiadol o’r gynulleidfa Gymraeg!.