Total Pageviews

Wednesday 15 December 2010

'Get Santa!'




Y Cymro 17/12/10

Dychmygwch fod ganddoch chi’r gallu i ail-greu diwrnod ‘Dolig, ddeg dydd ar ôl ei gilydd! Deg pryd o dwrci a’i drimins, deg siwmper wlân i’r tadau, llond braich o freichledau aur i’r mamau, dwshina o boteli dŵr poeth a sliperi sidan i’r neiniau, a llond parlwr o lanast y dathlu yn bygwth boddi pawb a phopeth... Wel, dyna’r pŵer sy’n dod i feddiant ‘Holly’, hunllef o fwystfil deg oed, sy’n casáu’r Nadolig yng nghynhyrchiad y Royal Court o ddrama ddiweddara Anthony Nielson, ‘Get Santa!’.

Yn ei siwmper streipïog felyn a du, mae’r wenynen wenwynig yn cyhoeddi ar gychwyn y ddrama, mai’r anrheg ddelfrydol, os nad gorfodol iddi hi, yw cael cwrdd â’i thad. Yr unig gyswllt sydd gan ‘Holly’ (Imogen Doel) â’r dieithryn, ydi’r tedi (Chand Martinez) a adawyd ar stepen y drws flynyddoedd yn ôl - y tedi sy’n dod yn fyw ac sy’n rhannol gyfrifol am greu’r llanast...

Yn ei hymgyrch i ddial ar ‘Santa’ (David Sterne) am beidio gwireddu’r freuddwyd yn y blynyddoedd a fu, mae hi’n penderfynu mynd ati i ddal Santa eleni, drwy osod nifer o drapiau o gwmpas y tŷ ar noswyl Nadolig; o’r creision swnllyd ar y llawr i’w deffro, i’r gliw ar y pentan, y pupur ar y soffa, y wisgi yn y gegin a’r sioc drydanol anferthol ger y goeden! Yn anffodus i ‘Holly’, pan ymwela’r ‘Santa’ styfnig a sur, mae’n achub y blaen arni, a’i linyn trôns o gydymaith ‘Bumblehole’ (Tom Godwin) sy’n disgyn i’r trap, ac yn cael ei arteithio’n anfaddeuol gan y lodes lygredig. Wedi dwyn yr hud o locsyn yr hen ŵr, ac wedi peri’n anfwriadol i’r tedi ddod yn fyw, fe dry’r cyfan yn un drasiedi dros-ben-llestri, wrth i bopeth fynd o’i le, ym mhedwar ban y byd, hyd nes i’r gwirionedd achub y dydd...

I ddilynwyr selog y golofn hon, falle ichi gofio fy mod i’n ffan fawr o fydoedd hurt Anthony Nielson, byth ers gweld fy hoff ddramâu bellach, ‘Realism’, ‘The Wonderful World of Dissocia’ a ‘God in Ruins’ flynyddoedd yn ôl. Yr hyn sy’n gyffredin am bob un ydi’r anghyffredin, bydoedd ble mae anifeiliaid yn siarad, ble mae pawb yn canu ac yn dawnsio, ble mae bod yn flin yn fendith, er mwyn unioni’r cam. Mae yma hiwmor a doethineb, a chrefft theatr ar ei orau. Ychwanegwch at hynny allu cynllunio rhyfeddol Miriam Buether a goleuo Chahine Yavroyan, ac fe gewch chi’r anrheg Nadolig perffaith, yn aros i’w agor, fel sy’n cael ei gyfleu ar y llwyfan, wrth ichi gamu i’r theatr. Wrth i’r cwlwm pinc anferthol ddiflannu, sy’n uno muriau lliwgar yr anrheg o gartref, cewch ei gwahodd yn syth ar gân o waith Nick Powell, i fyd hurt y teulu, wrth i’r fam Wyddelig ‘Barbara’ (Gabriel Quigley), y ‘Nain’ nwydus (Amanda Hadingue) a’r ci (yn llythrennol!) o dad ‘Terry’ (Bill Buckhurst) ddawnsio’u ffordd o gwmpas y goeden a’r gegin.

Fel y cyfaddefodd un o’m cyd-adolygwyr, welwch chi fyth olygfeydd tebyg ar lwyfan y Royal Court! O’r lliwiau a’r llawenydd sy’n cael ei gyfleu ar y llwyfan, allwch chi’m peidio â chael eich llenwi ag ysbryd yr Ŵyl, er gwaetha cynllunio cyfrwys y fadam flin.

Braf iawn ydi gweld ein theatrau yn llawn o ieuenctid dros gyfnod yr Ŵyl, ac er nad oedd pob jôc yn taro deuddeg i’r lleiaf (oherwydd natur yr hiwmor hŷn) mae un peth yn sicr, fe gânt brofiad o ogoniant y theatr ar ei orau o weld y cynhyrchiad yma, a môr o lawenydd ac atgofion.

Mae ‘Get Santa!’ i’w weld tan Ionawr 15fed. Mwy o fanylion drwy ymweld â www.royalcourttheatre.com

No comments: