Total Pageviews

Friday 3 September 2010

'Gwlad yr Addewid'





Y Cymro 03/09/10

All neb wadu ei bod hi’n gyfnod bregus yn hanes ein Theatr Genedlaethol. A rhaid i minnau gytuno cant y cant gyda sylw'r bonheddwr Arthur Morris Jones o Gaerdydd yn Y Cymro’r wythnos dwetha (rhifyn 27 Awst), mai’r diffyg mwyaf ydi absenoldeb unigolion sydd â thân yn eu boliau, a gweledigaeth artistig amlwg.

Yn sgil ymadawiad Cefin, (a hynny wedi cyhoeddi gweddill ei raglen) roedd gan y cwmni dasg anodd sef i ganfod cyfarwyddwr/wyr i ymdrin â’i waddol. Betsan Llwyd gafodd y gwaetha, (y ddwy ddrama fer), gan adael y ‘ddrama fawr’ yn nwylo Tim Baker. ‘Gwlad yr Addewid’ sef cyfieithiad Sharon Morgan o ‘House of America’ Ed Thomas oedd y ddrama honno, i’w llwyfannu yng Nglyn Ebwy yn ystod wythnos yr Eisteddfod, cyn mynd ar daith o gwmpas Cymru.

Dwi di bod yn ffan fawr o waith Tim ers blynyddoedd, o ddyddiau cynnar Theatr Gorllewin Morgannwg, hyd ei gyfnod presennol yng Nghlwyd Theatr Cymru. Roedd pob cynhyrchiad wastad yn taro deuddeg, yn llawn emosiwn, gydag ensemble cryf o actorion profiadol yn mynd â ni ar daith, er gwaethaf eu hamgylchiadau. Yn wir, af i gyn belled a dweud fod enw Tim yn uchel ar fy rhestr o gyfarwyddwyr posib i arwain y Theatr Genedlaethol. Hyn i gyd, cyn imi weld ‘Gwlad yr Addewid’.

O’r fath siom, poenus a phryderus. Roedd yma berl o gyfieithiad gan Sharon Morgan yn canu’n farddonol yn acenion a dywediadau Cwm Tawe; yn eistedd mor gyffyrddus yn y Gymraeg a’r Saesneg gwreiddiol, yn gredadwy, yn ganadwy ac yn gofiadwy. Trueni na chafwyd cynhyrchiad oedd yn deilwng o’i gwaith.

Mae’n stori gref, ac yn ddrama wych am deulu sy’n ceisio atebion; sy’n cwffio yn erbyn pawb a phopeth er mwyn profi eu hunaniaeth. Gydag absenoldeb y tad, mae’r plant yn credu ei fod wedi dianc i’r Amerig, wedi dilyn y Freuddwyd Fawr sy’n parhau i ddallu a denu ‘Sid’ (Rhodri Meilir). Wrth i Bwll Glo arall gael ei agor gerllaw, mae’r ysfa am waith yn atyniad mawr i ‘Sid’ a ‘Boyo’ (Siôn Young) ond yn codi ofn brawychus ar y fam (Sara Harries Davies). Ofn sy’n cael ei egluro a’i arteithio wrth i gyfrinachau ddaear ddod i’r wyneb. Yng ngwyneb yr holl anobaith, mae ‘Sid’ a ‘Gwenny’ (Elin Phillips) yn boddi eu gofidiau drwy gyffuriau a gwirodydd, gan geisio dianc i fyd sy’n well.

Gyda phob dyledus barch i Sara Harries Davies, sydd wedi gweithio ers blynyddoedd gyda Tim, ac sydd â’r gallu mi wn i fynd dan groen cymeriad, mi fethodd hi’n llwyr y tro hwn. Hi oedd y fam, y matriarch, y pen teulu sy’n angor i’r cyfan. Dyma un o gymeriadau benywaidd cryfaf y theatr Gymreig dros y bum mlynedd ar hugain diwethaf, sydd wedi’i phortreadu’n berffaith gan Sharon Morgan ei hun a Siân Phillips yn yr addasiad ffilm o’r gwaith. O’i hymddangosiad cyntaf ar y llwyfan, yn orhyderus, heb arlliw o gwbl o’r dyfnder, yr euogrwydd na chynildeb y salwch meddwl, methodd yn llwyr a fy argyhoeddi, ac fe syrthiodd y cymeriad mor fflat â’r set druenus o waith Mark Bailey.

Boddhaol oedd portreadu Rhodri Meilir fel y mab ‘Sid’ ac felly hefyd Elin Phillips fel y fel y ferch ‘Gwenny’, ond y diffyg yn y cyfarwyddo yn amlwg yn eu herbyn; unwaith eto, fe gafwyd chwip o berfformiad gan Siôn Young fel y mab ieuenga’ ‘Boyo’, a’i bresenoldeb llwyfan hudolus yn wefreiddiol o ystyried ei fod ar gychwyn ei flwyddyn olaf yn y Coleg.

Ond rhaid dychwelyd at y siambls o set a’r methu cyfle trychinebus a gafwyd yma; mi wn fod yn rhaid i’r sioe deithio, ond weles i ddim set mor ddiddychymyg erioed. Feddylies i na fyddai posib gwaethygu o’r olygfa agoriadol, ond rywsut, fe lwyddodd y cynhyrchiad i wneud hynny, ac roedd gorfodi Rhodri Meilir i godi darnau cyfan o 8x4 o’r llawr, a’u gosod yn erbyn y mur cefn, yn anfaddeuol.

Siom, siom, siom a sarhad ar glasur o gyfieithiad. Yn anffodus i Tim, rhaid imi osod rhan helaeth o’r bai ar ei ysgwyddau ef. O’r castio hyd y cynllunio, heb sôn am y cyfarwyddo. Cynhyrchiad nas anghofiaf, am y rhesymau anghywir.

Mae ‘Gwlad yr Addewid’ yn cychwyn eu taith yng Nghaerfyrddin ar y 9fed o Fedi. Mwy o fanylion ar wefan (ddiddychymyg) y cwmni www.theatr.com

No comments: