Total Pageviews

Friday, 15 January 2010

'Legally Blonde'






15/01/10
Dwi’n amau’n fawr mai fi oedd un o’r ychydig rai oedd HEB weld y ffilm o’r un enw â’r sioe ddiweddara i agor yn Theatr y Savoy, yma yn Llundain!. A bod yn onest, dwi’n eitha’ balch o hynny, gan na fues i ‘rioed yn ffan o’r ffilmiau Americanaidd, benywaidd, plastig tebyg i ‘Legally Blonde’ sy’n ceisio profi bod merch pryd golau yn llawer mwy clyfar na’r cartŵn arferol o’r bimbo sodla uchel a sgertiau pinc!

Pinc yn wir sydd ymhobman, nid yn unig yn y theatr, ond hefyd ar wregys, tei, clustdlysau, sgidiau, hancesi, sanau, a synnwn i ddim, dillad isaf criw blaen y tŷ! Pinc yw’r nod, a phinc sy’n cael ei daflu atom ymhob gogwydd o’r sioe liwgar hon. O’r gwisgoedd i’r setiau, y goleuo a’r gerddoriaeth, mae 'na deimlad hapus ymhobman, ac o anghofio’r meddwl beirniadol am awr neu ddwy, mae’n rhaid imi gyfaddef fy mod i wedi mwynhau’r arlwy yn fawr!

Mae’r stori wedi’i selio ar y lodes ifanc ‘Elle Woods’ (Sheridan Smith) sydd dros ei phen a’i chlustiau mewn cariad gyda ‘Warner’ (Duncan James ). Yn anffodus iddi hi, sy’n byw'r bywyd delfrydol i unrhyw ferch ifanc, sy’n boddi mewn dillad ffasiynol, bechgyn del, cylchgronau llachar a hyd yn oed ci bychan delia erioed, mae ‘Warner’ wedi’i dderbyn i ddilyn Gradd yn y Gyfraith yn Harvard, ac felly’n gorfod ffarwelio â’r benfelen benysgafn, a throi ei fryd at ferched mwy safonol y Coleg. Dyma yw’r trobwynt angenrheidiol sy’n gosod yr her i ‘Elle’ i ddilyn ôl ei droed, a chyn diwedd yr Act Gyntaf, mae hithau hefyd yn llwyddo i gyrraedd Harvard, ac i wrthbrofi’r holl ragdybiaeth.

Perfformiadau bywiog a chyhyrog y ddau brif actor sy’n cynnal y sioe, ac mae’r ddau i’w canmol yn fawr am hynny. Mi wn fy mod i’n hynod o ffodus o fedru gweld y sioeau newydd yma ar eu gorau, gyda’r Cast gwreiddiol, ac mae hynny yn holl bwysig i lwyddiant unrhyw sioe. Mae’n bryder mawr gen i os gall unrhyw actorion eraill, llwyr, ymgorffori holl rinweddau’r cymeriadau yma, ond dyna’r sialens siŵr o fod. Cafwyd chwip o gymeriadu cryf hefyd gan Alex Gaumond fel ‘Emmett’, y llipryn peniog sy’n ennill ei chalon ar ddiwedd y sioe, a’i chyfaill cegog sy’n trin ei gwallt, ‘Paulette’ (Jill Halfpenny) a’r ‘dihiryn cas’ (sy’n rhoi’r tensiwn yn y stori) y darlithydd ‘Professor Callahan’ (Peter Davidson).

I ddilynwyr selog y ffilm, mae’n debyg mai siom fydd rhan gyntaf y sioe, gan nad ydi’r ddrama gerdd yn dilyn patrwm y ffilm mor fanwl ag yr hoffai’r ffans, serch hynny, fe weithiodd y stori’n iawn fel ag yr oedd, i leygwr fel fi!

Ewch, a mwynhewch, a dwi’n sicr y byddwch chi’n gwenu drwyddi draw!

Mwy drwy ymweld â www.legallyblondethemusical.co.uk

No comments: