Y Cymro - 4/5/07
Neithiwr oedd noson agoriadol
taith ddiweddaraf ein Theatr Genedlaethol efo’r cynhyrchiad ‘Cariad Mr Bustl’.
Mi fydda innau’n gobeithio mynd i weld y ddrama yn ystod eu hymweliad â Theatr
Gwynedd ymhen bythefnos. Ond yr wythnos hon, dwi am fwrw golwg ar gynhyrchiad
diweddara Theatr Genedlaethol yr Alban sef ‘The Wonderful World of Dissocia’ o
waith Anthony Neilson, sydd hefyd yn cyfarwyddo.
Falle i rai ohonoch gofio imi
gael fy swyno gan waith y cwmni a’r dramodydd yma nôl yng Ngŵyl Caeredin fis
Awst diwethaf, efo’u cynhyrchiad arbennig o’r ddrama ‘Realism’. Fe berthyn y
ddrama ddiweddara yma yn agos i’r ddrama flaenorol, gan fod y ddwy yn delio efo
salwch meddwl. Yn ôl yr awdur ‘Tra bod ‘Dissocia’ yn ymdrech theatrig i geisio
cynrychioli tirlun mewnol rhywun sy’n sâl yn feddyliol, roedd ‘Realism’ yn
ymgais i wneud ‘run fath i rywun sy’n iach’. Dwy wedd wahanol felly, a dwy
ddrama hynod o lwyddiannus.
Lisa Jones (Christine Entwhisle)
sy’n mynd â ni ar y daith i wlad ‘Dissocia’ a hynny am ei bod hi’n cael ei
chyflyru i gredu bod hi wedi colli awr yn ei bywyd, ac yn gorfod mynd i’w
ganfod. O gyrraedd y wlad ddychmygol hon, mae’r wedd gychwynnol i’w weld yn
eithaf normal, ond buan y newidia petha. Daw wyneb yn wyneb â dau swyddog
diogelwch - neu yn fanwl gywir ‘insecurity guards’ ac yna’r dyn sy’n hanner
gafr neu’r ‘scapegoat’. Mae yma Arth Wen sy’n canu iddi a sdonin ar gyfer
nwyddau coll sydd ar goll! Wrth iddi gael hwyl yn eu cwmni, daw’r ‘time fly’s’
i’w phoeni, fel dywed y Saeson… ‘time flies when you have fun!’. Natur fel yma
yw hanfod Act gynta’r ddrama, gyda holl drigolion y wlad od yn ceisio dod o hyd
i’w brenhines ac osgoi llid Brenin y Cŵn Duon. Delweddau sy’n atgoffa rhywun o
stori ‘Alice in Wonderland’ neu Dorothy yn ‘Y Dewin Os’.
Ond efo’r Ail act y daw’r ergyd.
Mewn cwta bymtheg tudalen o sgript, efo un-olygfa-ar-bymtheg sy’n cynnal
deugain munud, mae Nielson yn creu un o’r Actau mwya dramatig imi weld ers tro.
Mae’r wlad od wedi hen fynd, ac mae’r llwyfan wedi’i drawsnewid i fod yn
ystafell wen foel mewn ysbyty meddwl, efo Lisa yn gaeth yn y gwely. Mae ffenest
wydr mawr rhyngom â’r llwyfan, sy’n ychwanegu at yr elfen ‘fewnol’ a chlinigol.
Sŵn traed ar gychwyn pob golygfa fer. Daw nyrs i mewn. Mynd at Lisa, ei deffro,
rhoi meddyginiaeth iddi, cyn ymadael. Duwch. A dyna ni mwy neu lai dros yr Act.
Sawl golygfa fer, gydag amrywiadau yn yr ymwelwyr o’i meddygon i’w chwaer, i’w
chariad ‘Vince’ (Jack James). Mae’n amlwg mai dychmygol hollol yw ‘Dissocia’ a
hynny am fod Lisa wedi dewis peidio â chymryd ei meddyginiaeth. Er inni
chwerthin a mwynhau ei phrofiadau hurt yn y wlad ddychmygol hon, buan y daw
hi’n amlwg difrifoldeb ei sefyllfa. Ond mawredd y ddrama ydi cyfleu pa mor
oeraidd a dideimlad ydi’r bywyd go iawn iddi, sy’n gwneud i ni fel cynulleidfa
lawn gydymdeimlo â Lisa, ac sy’n egluro’r awgrym pam ei bod hi’n dychwelyd i
Dissocia ar ddiwedd y ddrama.
Un peth a’m trawodd eto eleni
oedd cynllun set Miriam Buether a’i llwyfan wedi’i garpedu yn gyfangwbl, yn
ogystal â goleuo trawiadol Chahine Yavroyan sy’n ychwanegu gymaint at deimlad
theatrig y gwaith. Roedd portread sensitif Christine Entwhisle fel Lisa hefyd
i’w ganmol yn fawr, fel efo’r cast cyfan.
Allwn i’m llai na datgan fy
nghenfigen fawr wrth y cwmni ar ddiwedd y sioe, a hynny am fod ein Theatr
Genedlaethol ni flynyddoedd ar ei hôl hi. Does 'na ddim cymhariaeth. Yr hyn
sy’n waeth yw bod y cwmni o Gymru yn hŷn, gan mai dim ond ers mis Chwefror 2006
y sefydlwyd y cwmni o’r Alban. Ers hynny mae dros 130,000 o bobl wedi gweld eu
gwaith, maent wedi cynhyrchu 28 darn o waith mewn 62 o leoliadau o ynysoedd y
Shetland i Dumfries o Belfast i Lundain gan ennill gwobrau lu. A cyn ichi
ddechrau dadlau dros yr iaith - mae gan y theatr iaith ei hun - iaith weladwy,
fel y soniai amdani'r wythnos nesaf yn dilyn gweld perfformiad o ddrama
Shakespeare, ‘Breuddwyd Noswyl Ifan’ o’r India!
Mae’r ddrama hon o’r Alban ar
daith ar hyn o bryd, a da chi, ceisiwch ei weld. Wedi’u hymweliad â’r Royal
Court yn Llundain, maen nhw’n ymweld â Rhydychen wythnos yma, ac yna Warwick,
Efrog, Caeredin a Newcastle tan ganol mis Mehefin. O siarad efo Anthony Nielson
wedi’r sioe, chawsant nhw ddim gwahoddiad o gwbl i Gymru, ac nid dyma’r tro
cynta ‘chwaith. Gwarthus ddweda i a cholled inni gyd. A’i cenfigen ta cywilydd
sydd wrth wraidd hyn…?
No comments:
Post a Comment