Total Pageviews

Friday 30 July 2010

'Edrych mlaen...'

Y Cymro – 30/07/10

A ninnau ar drothwy’r Eisteddfod Genedlaethol, pwt byr i sôn am rai o’r cynyrchiadau y bydda i’n ceisio eu hymweld â hwy, dros yr wythnos.

Y Theatr Genedlaethol i gychwyn, ac addasiad a chyfieithiad Sharon Morgan o ‘House of America’ Ed Thomas, ‘Gwlad yr Addewid’. Tim Baker sy’n cyfarwyddo a’r cwmni’n cynnwys Alun ap Brinley, Sara Harris-Davies, Rhodri Meilir, Elin Phillips a’r llanc ifanc wnaeth gymaint o argraff arnaf o’r cynhyrchiad diweddar o ‘Llwyth’, Sion Young. Theatr Y Met, Abertyleri yw’r lleoliad rhwng y 3ydd a’r 6ed o Awst 2010. Tocynnau drwy gysylltu â 01495 355800. I’r rhai na all deithio i’r Cymoedd, bydd y cynhyrchiad ar daith yn yr Hydref, gan ymweld â Chaerfyrddin, Caernarfon, Aberystwyth, Abertawe, Yr Wyddgrug, , Aberteifi a, Canolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd.

I’r rhai ohonoch sy’n poeni am ddyfodol y Theatr Genedlaethol, yna ymunwch â Daniel Evans yn Theatr y Maes am 3 o’r gloch Ddydd Mawrth, wrth iddo arwain y drafodaeth yn sgil sefydlu rheithgor arbennig i drafod dyfodol y cwmni.
‘Merched Eira’ yw teitl cynhyrchiad diweddara Theatr Bara Caws, a hynny o waith Aled Jones Williams. Mi fu Aled yn dryw iawn i Theatr Bara Caws ers rhai blynyddoedd, ac yn sgil y berthynas arbennig rhyngddynt, cafwyd y cip cyntaf ar nifer o ddramâu fel ‘Sundance’ a ‘Lysh’. Theatr Beaufort, Glyn Ebwy fydd eu cartref gydol yr wythnos, ac maent yn cyd gyflwyno drama arall o eiddo Aled - 'Chwilys' (Theatr Tandem). Mi fydd y dramâu yn cael eu perfformio o nos Fawrth 3ydd o Awst hyd at Nos Iau 5ed o Awst am 7.30pm. Tocynnau ar gael drwy ffonio 01495 355800. Yr actorion fydd Olwen Rees, Gaynor Morgan Rees a Martin Thomas gyda Bryn Fôn yn cyfarwyddo, ac Owain Arwyn a Martin Thomas, gyda Valmai Jones yn cyfarwyddo’r ail ddrama. Bydd y cynhyrchiad hefyd yn teithio yn yr Hydref.

‘Gadael yr Ugeinfed Ganrif’ yw teitl cynhyrchiad newydd Sherman Cymru a Dan y Gwely, gyda Gareth Potter nid yn unig yn sgwennu, ond hefyd yn perfformio’r fonolog hon, am ei fywyd. "Fy enw i ydi Gareth David Potter, dwi’n bedwar deg pum mlwydd oed a wi’n obsessed gyda cherddoriaeth bop. Ti’n gwybod, y stwff tchêp, grymus ’na sy’n neud i dy galon gyflymu a dy ben ffrwydro. Sy’n neud i ti godi ar dy draed a sgrechian, chwerthin a hyd yn oed crïo. Sy’n gwylltio ac yn adfywio. Y stwff ’na na ddylet ti, o dan unrhyw amgylchiadau, gael unrhyw beth i wneud ag e os wyt ti dros dy chwarter canrif…". Yn y Stiwt, Glyn Ebwy fydd y perfformiadau, a hynny rhwng yr 2il a’r 4ydd o Awst am 8 o’r gloch. Tocynnau ar gael drwy ffonio 029 2064 6900.

Yn anffodus, dim ond o’r dydd Llun tan nos Fercher y medrai fod yno, a hynny gan fy mod i ynghanol fy Haf hurt blynyddol yn y gwaith! Eleni eto, rwy’n rheoli 15 drama gerdd ymhob cwr o’r Deyrnas Gyfunol, o’r Ŵyl Ieuenctid Rhyngwladol yn Aberdeen a’r cynhyrchiad ‘Ghosts of the Past’ i ddwy sioe newydd sbon yn y Barbican, yn Plymouth. Addasiad newydd o ‘A Beggar’s Opera’ yn Bracknell ac addasiad o nofel odidog David Almond, ‘The Savage’ yn yr awyr agored yn Ardal y Llynnoedd.

Rhan o arlwy’r Theatr Gerddorol Ieuenctid Prydain yw’r sioeau, a braf medru cyhoeddi bod y Cymry eto eleni’n rhan o’r gwaith. Bydd Luke McCall o’r Bala yn rhan o gwmni ‘A Beggar’s Opera’, a bydd Luke hefyd yn ymddangos mewn sioe o’r enw ‘Don’t Stop Believing ‘ sy’n cychwyn ei thaith yn Theatr y Palace, Manceinion ynghyd ag ymddangos ar y gyfres ‘Coronation Street’! Gwion Llŷr James o Aberystwyth sydd bellach yn Aberdeen fel o gwmni ‘Ghosts of the Past’. Mae Gwion yn dipyn o giamstar ar y dawnsio ‘parkour’ a braf oedd medru ei weld yn y sioe ‘Plant y Fflam’ yn Eisteddfod yr Urdd eleni.

Friday 23 July 2010

'Aspects of Love'




Y Cymro 23/07/10

Er yr holl gecru a chwyno yn ddiweddar, mae un peth yn sicr; mae unrhyw sioe o eiddo’r Arglwydd Lloyd Webber yn siŵr o ddenu cynulleidfa. Er mai methiant, ym marn llawer, yw ei ymgais ddiweddara, ‘Love Never Dies’ sef y dilyniant i ‘Phantom of the Opera’, mae ei sioeau cynnar yn parhau i wefreiddio cynulleidfaoedd. Yn ôl i stabl safonol a gwefreiddiol y Mernier Chocolate Factory es i'r wythnos hon er mwyn dal eu cynhyrchiad diweddara sef ‘Aspects of Love’.

Ym 1989 y llwyfannwyd y ddrama gerdd hon am y tro cyntaf, ac enw Andrew Lloyd Webber eisoes yn gyfarwydd yn sgil ei sioeau ‘Cats’, ‘Phantom of the Opera’, ‘Joseph’ a ‘Jesus Christ Superstar’. Troi at nofel fer David Garnett wnaeth Lloyd Webber, ynghyd a Don Black a Charles Hart er mwyn cyfansoddi’r stori garu hon am fachgen ifanc ‘Alex’ (Michael Arden) sy’n syrthio mewn cariad gydag actores hŷn ‘Rose’(Katherine Kingsley), cyn iddi hithau gael ei hudo gan ei ewyrth cefnog ‘George’ (Dave Willetts). Mae’r cyfan wedi’i leoli yn Ffrainc a’r Eidal, a’r ‘cariad’ yn y teitl yn cyfeirio at y mathau gwahanol o gariad sy’n cael eu trafod yma. O gariad angerddol y llanc tuag at ei eilun yr actores, serch yr ewyrth tuag at y ferch ddeniadol sy’n ei atgoffa o’i wraig, serch meistres yr ewyrth tuag ato ef a’r actores, ac yn yr ail ran, a’r ‘cariad’ mwyaf dadleuol o bosib, perthynas y ferch bymtheg oed ‘Jenny’(Rebecca Brewer), gyda’r prif gymeriad ‘Alex’.

Wrth wylio’r ddwy awr o sioe fendigedig hon, cefais fy swyno’n llwyr gan y stori. Rhyfeddu hefyd bod y deunydd mor ddadleuol, gyda’r brif thema o garu rhwng unigolion o wahanol oed mor dderbyniol. Nid yn unig y gwahaniaeth oedran rhwng ‘Alex’ a ‘Jenny’ yn yr ail act, ond yr awgrym o’r gwahaniaeth oed rhwng ‘Alex’ a ‘Rose’ ar y cychwyn, ac wedyn ‘Rose’ a ‘George’ yn ddiweddarach.

Y gerddoriaeth sy’n uno’r cyfan, a’r gân fwyaf enwog a chofiadwy’r sioe ‘Love Changes Everything’ yn ymgais i gyfiawnhau gweithredoedd y cyfan; “Love, Bursts in, and suddenly, All our wisdom Disappears. Love, Makes fools of everyone: All the rules, We make are broken.” Aelod o’r cast gwreiddiol, Michael Ball, fu’n bennaf gyfrifol am ddod â’r gân fendigedig hon, i sylw’r byd.

Fel gydag amryw o sioeau Lloyd Webber, mae’n deg dweud mai dwy neu dair cân wirioneddol gofiadwy sydd ymhob sioe; ‘Memory’ yn ‘Cats’, ‘Music of the Night’ neu ‘All I ask of You’ yn ‘Phantom’, ‘Don’t Cry for me Argentina’ yn ‘Evita’ ac yn y blaen, a tydi ‘Aspects’ ddim gwahanol yn hynny o beth. ‘Love Changes Everything’ a ‘Seeing is Believing’ ydi’r ddwy sy’n taro deuddeg imi, ac roedd clywed yr ail-ganu o’r alawon yma drwy’r sioe yn hyfryd i’r glust.

Er nad yw’r gofod yn y Mernier yn enfawr, mae’r cwmni wastad yn llwyddo i lwyfannu’r sioeau rhyfedda yno. Yn yr achos yma, does gen i ddim amheuaeth mai dawn cyfarwyddo’r arch gyfarwyddwr Trevor Nunn sy’n rhan o lwyddiant y cyfan, wrth i’r sioe lifo o olygfa i olygfa mor rhwydd, a choreograffu’r newid llwyfan mor gelfydd â di ffwdan. Llwyddodd i gastio’r gorau hefyd, ac roedd perfformiad Michael Arden fel ‘Alex’, Katherine Kingsley’ fel ‘Rose’ a Dave Willetts fel ‘George’ yn gampus. Felly hefyd gyda set hufen David Farley, gyda’i fframiau gwag a’i ddrysau amrywiol, sy’n gweithio’n rhagorol o dda o fewn muriau caeth yr hen ffactri siocled.

A braf oedd gweld y Cymry’n hawlio’u lle ynghanol y llwyddiant gyda’r cerddor ifanc talentog Huw Geraint Griffith o Eifionnydd yn Is Gyfarwyddwr Cerdd ar y sioe, tra bod Rebecca Trehearn o’r Rhyl yn rhan o’r ensemble, ac yn ddirprwy actor i’r prif gymeriad ‘Rose’. Da iawn yn wir.

Mae ‘Aspects of Love’ i’w weld yn y Mernier tan y 26ain o Fedi. Os da chi awydd mynd, cofiwch am y ‘meal deals’ sydd ar gael, gyda phryd dau gwrs a thocyn i’r sioe am £39.50! Bargen! Wedi dweud hynny, synnwn i ddim na fydd y sioe yn mudo i’r West End yn fuan iawn. Mwy o fanylion drwy ymweld â www.menierchocolatefactory.com

Friday 9 July 2010

'Shirley Valentine'


Y Cymro – 09/07/10

Dwy ddrama, dau gynhyrchiad ac un awdur unigryw. Braf iawn yw gweld bod cynhychiadau'r Mernier Chocolate Factory o ddwy ddrama wych Willy Russell, bellach i'w gweld yn y Trafalgar Studios. O'r fonolog odidog am y wraig tŷ anfodlon ‘Shirley Valentine’ i'r ferch trin gwallt penysgafn sy'n dyheu am addysg, ‘Rita’. Y ddwy mor ddiddorol, benstiff a'i gilydd, ac yn drysor o sgript i unrhyw actor benywaidd.

Meera Syal o'r gyfres boblogaidd ‘Goodness Gracious Me’ sy'n hawlio'i lle ar y llwyfan, yn ei lloches o gegin gyfforddus, wrth iddi hwylio te i'w phwdryn o ŵr ‘Joe’. Y bythgofiadwy “chips ac wy” sydd ar y fwydlen, wedi i'r stecen wythnosol feunyddiol gael ei roi i'r llysieuwr o gi, drws nesa! Ac yng ngwir draddodiad y ddrama, mae Meera yn coginio'r pryd o'i gychwyn i'w ddiwedd wrth draethu am ei hanfodlonrwydd, sy'n arwain at ei phenderfyniad i adael y cyfan, a dianc o wres y gegin i haul cynnes Groeg.

Wrth wylio'r ddrama, allwn i'm peidio â chael fy atgoffa o bortread perffaith Pauline Collins o'r fam ganol oed, yn yr addasiad ffilm o'r un enw. Drwy roi bywyd a phryd a gwedd i gymeriadau eraill y ddrama, mae’r ffilm gymaint mwy pwerus a doniol, a hynny oherwydd gallu Russell i greu cymeriadau comig. Er gwaetha holl ymdrech Meera Syal i ddyfynnu a dynwared y cymeriadau yma, doedd hi’m cweit ddigon cry’, yn fy marn i.

Gyda monolog mor gry’ ag hon, mae angen chwip o actores i fedru’n tywys ar ei thaith, ac i ymddiried ynddo ni fel cynulleidfa am ei threialon. Mae’r osgo, y wisg a’r gwallt yn holl bwysig, fel bod y trawsnewid erbyn yr ail olygfa yn gwbl wahanol, I mi, mae Meera yn rhy brydferth a siapus i fod cant y cant yn gredadwy, ond roedd cael clywed y llinellau bachog a chomedi Russell ar ei orau, yn werth yr aros.

Bydd ‘Shirley Valentine’ yn agor yn y Trafalgar Studios ar yr 20fed o Orffennaf ac yno tan y 30ain o Hydref. Mwy o wybodaeth drwy ymweld â www.trafalgar-studios.co.uk

'Educating Rita'


Y Cymro - 09/07/10

Roedd castio’r dihiryn ‘Archie Mitchell’ fel y darlithydd ‘Frank’ (Larry Lamb) yn ail gynhyrchiad y Mernier o ‘Educating Rita’ yn dipyn o sgŵp, a hynny gwta wythnosau wedi’r stori’r llofruddiaeth ar ‘Eastenders’. Fe dyrrodd y ffans yno i’w weld, a chael eu synnu, fel minnau, at ddawn y newydd ddyfodiad i lwyfan y West End, Laura Dos Santos, fel y wraig ifanc stwbwrn a chegog, ‘Rita’.

Fel ‘Shirley’, pwy all anghofio portread Julie Walters a Michael Caine o’r ddau gymeriad unigryw yma, eto yn yr addasiad ffilm ohoni, yn cwffio’i ffordd drwy Lenyddiaeth Fawr y Byd, wrth agosáu a phellhau yn eu brwydrau personol.

Wedi’u caethiwo yn stydi a swyddfa’r ‘Frank’, a luniwyd yn hynod o drawiadol gan set effeithiol Peter McKintosh, a’i gannoedd o lyfrau sydd nid yn unig yn cynnwys Gwirioneddau Mawr y Byd, ond hefyd yn fodd i guddio gwirodydd yr alcoholig unig. Roedd y sbarc rhwng y ddau yn drydanol o’r eiliad cyntaf, a pherfformiad Laura Dos Dantos cystal, os nad gwell na’r Walters wreiddiol.

Tymor i ddathlu yn sicr, ond tymor i lawenhau yn ogystal, wrth groesawu’r ddwy ddrama yn ôl i’r llwyfan ers rhai blynyddoedd.

Mae 'Educating Rita' i'w weld ar hyn o bryd yn y Trafalgar Studios ac yno tan y 30ain o Hydref. Yn y mudo, yn anffodus bu newid yn y castio, a bellach Tim Pigott-Smith sy’n portreadu’r darlithydd ‘Frank’ ac nid Larry Lamb. Mwy o wybodaeth drwy ymweld â www.trafalgar-studios.co.uk

Friday 2 July 2010

'My name is Sue'




Y Cymro – 2/7/10

Mae’n rhyfedd fel mae’r rhod yn troi. Pedair blynedd yn ôl, dwi’n cofio teithio i’r Ŵyl Ymylol yng Nghaeredin, a chael fy ngwefreiddio gan angerdd, brwdfrydedd a dyfalbarhad dau actor ifanc o Gymru, oedd yn benderfynol o wneud enw i’w hunain, drwy berfformio eu gwaith i’r gynulleidfa ryngwladol. Nid gorchwyl hawdd na rhad oedd hyn, a’r ddau yn ymdrechu’n galed i ddenu cynulleidfa, er mwyn talu’r ddyled enfawr o gael bod yng Nghaeredin, heb sôn am lwyfannu sioe yno. Y ddau dan sylw oedd Dafydd James ac Eirlys Bellin. Dau gyn-fyfyriwr o’r coleg yng Nghaeredin, a dau, dwi’n hynod o falch o weld, sy’n parhau i arbrofi, eto eleni, gyda dwy sioe wreiddiol a gwahanol.

Does gen i ddim amheuaeth mai un talp o ddyfeisgarwch dramatig ydi Dafydd James! I’r rhai ohonoch a welodd y campwaith ‘Llwyth’ yn ddiweddar, fe welsoch ei ddawn fel awdur a chyfarwyddwr cerdd. Dyma gynhyrchiad unigryw yng Nghymru, a lwyddodd i ddenu gair da ymhob cwr o’r wlad. Chlywais i ‘run adolygiad siomedig o’r ddrama, ac mae hynny yn gamp ynddo’i hun!

Bellach, mae Dafydd yn ôl ar lwyfan, yn ei briod le, os y cai ychwanegu, efo’i gomedi tywyll a thrasig mewn mannau, ‘My Name is Sue’ a fu yn y Soho Theatre yn Llundain dros y bythefnos ddiwethaf. Hanes bywyd tywyll a thrist ‘Sue Timms’ (Dafydd James) yw’r awr o sioe fendigedig hon, wrth iddi hel atgofion wrth y piano, ac yng ngolau’r standard lamp. Yn gwmni iddi, ar y llwyfan moel y mae’r ‘chwiorydd’, neu’r band, sydd i gyd yr un mor welw, llwyd a di-emosiwn a’r prif destun, yn ogystal â llwch ei mam, mewn wrn ar ben y piano.

O nodau gynta’r gân agoriadol, a’i eiriau syml ond cwbl bwrpasol, “Hello, how are you?, what’s your name, my name is Sue...” , rydym yn cael ein denu i’w byd o unigrwydd, ac yn cydymdeimlo a’i phoen o gael ei bwlio yn yr ysgol, ei methiant yn y ‘finishing school’, ei theithiau unig ar y bws o gwmpas Caerdydd, ei hoff ffilm ‘Sleeping with the Enemy’ a’i chred dragwyddol, ddirdynnol, mai marwolaeth sy’n ein haros ni gyd.

Mae 70% o’r sioe ar gân, a hynny wedi’i gyfansoddi (a’i berfformio) gan Dafydd a’i gyfarwyddwr a chyd awdur Ben Lewis, sy’n arddangos ei dalent ar y piano yn ogystal. Does ryfedd fod y cynhyrchiad wedi ennill gwobrau iddo yng Nghaeredin y llynedd, a synnwn i ddim y bydd nifer mwy yn dod i’w ran eleni.

Bydd 'My name is Sue’ ar daith gan ymweld â Tobacco Factory, Bryste, Gŵyl Sligo, Iwerddon a North Wall Arts Centre, Rhydychen. Mwy o wybodaeth drwy chwilio am y ‘My name is Sue’ ar Facebook. Ewch i’w cefnogi da chi, chewch chi mo’ch siomi.

‘Unaccustomed as I am’



Y Cymro - 02/07/10

Mae’n rhyfedd fel mae’r rhod yn troi. Pedair blynedd yn ôl, dwi’n cofio teithio i’r Ŵyl Ymylol yng Nghaeredin, a chael fy ngwefreiddio gan angerdd, brwdfrydedd a dyfalbarhad dau actor ifanc o Gymru, oedd yn benderfynol o wneud enw i’w hunain, drwy berfformio eu gwaith i’r gynulleidfa ryngwladol. Nid gorchwyl hawdd na rhad oedd hyn, a’r ddau yn ymdrechu’n galed i ddenu cynulleidfa, er mwyn talu’r ddyled enfawr o gael bod yng Nghaeredin, heb sôn am lwyfannu sioe yno. Y ddau dan sylw oedd Dafydd James ac Eirlys Bellin. Dau gyn-fyfyriwr o’r coleg yng Nghaeredin, a dau, dwi’n hynod o falch o weld, sy’n parhau i arbrofi, eto eleni, gyda dwy sioe wreiddiol a gwahanol.

Ac i’r Etcetera Theatre yn Camden y bu’n rhaid imi fynd i weld sioe newydd Eirlys Bellin ‘UNACCUSTOMED AS I AM’ sydd ar ei ffordd i Gaeredin eleni.

Cryfder Eirlys, fel y gwelais yn yr ŵyl yn 2006 ac yn y sioe ‘Reality Check’ yn 2007, yw ei gallu gogoneddus i greu cymeriadau lliwgar a cwbl wahanol. O’r ‘wannabe wag’ ‘Rhian Davies’ yn 2007, i’r pedwar cymeriad gwrthgyferbyniol yn ei sioe newydd.

Yn arddull Talking Heads Alan Bennett, dyma bedwar monolog, wedi’u llunio’n berffaith, gyda thro pwrpasol yn eu cynffon. Tro na welais ei ddod gan amla’, ac felly’n fwy difyr o lawer. O’r fam i blentyn 8 oed, sy’n gwahodd cant o ddieithriad (sef ni’r gynulleidfa) i’w pharti pen-blwydd, i’r forwyn briodas, sydd mewn cariad mawr gyda’r briodferch, roedd y deunydd yn cydio dro ar ôl tro, a gallu meistrolgar Eirlys gyda’r acenion gwahanol yn llwyddo i godi gwên. Ni’r gynulleidfa sy’n bwydo’r deunydd, beth bynnag fo’r achlysur - o fod mewn parti, mewn cyfarfod o gymdeithas y preswyliaid, brecwast priodas neu mewn angladd, mae’r profiad yr un mor bleserus bob tro.

Bydd ‘Unaccustomed as I am’ i’w weld yn y Pleasance Hut am 3.30pm bob dydd.

Mwy o wybodaeth drwy ymweld a www.pleasance.co.uk/edinburgh.

Ewch i’w cefnogi da chi, chewch chi mo’ch siomi.