Total Pageviews

Friday, 1 September 2006

Gwyl Caeredin 2006



Y Cymro -1/9/06

Mae’r Ŵyl Ryngwladol ac Ymylol yng Nghaeredin fel bocs o siocled enfawr! Digon o ddewis at unrhyw ddant. Ond fy nghyngor i ar ôl eleni fyddai paratowch yn ofalus cyn mynd, gan brynu’ch tocynnau ymlaen llaw, a gwisgo esgidiau addas gan fod y sioeau wedi’i gwasgaru dros 260 o leoliadau ar draws y ddinas!

Roeddwn i wedi ceisio dewis sioeau fyddai’n apelio am resymau gwahanol. Y sioe gerdd ‘Closer Than Ever’ gan Gynyrchiadau Kent-Mcardle i gychwyn, am fy mod i wedi gwirioni efo un gân o’r sioe sef ‘If I Sing’ wedi clywed Rhydian Marc yn canu cyfieithiad Cymraeg ohoni yn Eisteddfod yr Urdd eleni. ‘Boom Bang-a-Bang’ wedyn gan Gwmni Theatr ‘About Turn’, drama wedi’i gyfansoddi gan Jonathan Harvey, awdur y gyfres gomedi ‘Gimme Gimme Gimme’. Dramâu mwy uchelgeisiol wedyn fel cynhyrchiad Alan Rickman i’r Royal Court o’r ddrama ‘My Name is Rachel Corrie’ yn seiliedig ar stori wir am y ferch a gollodd ei bywyd ym Mhalestina. Byth ers gweld y sioe ‘Sunday in the Park with George’, cefais flas ar gerddoriaeth unigryw Sondheim, ac felly dyma ychwanegu’r ddrama gerdd ‘Passion’ gan Gwmni Primavera at y rhestr.

Un cynhyrchiad gafodd lawer o sylw yn yr Ŵyl Ymylol eleni oedd sioe o’r enw ‘Apollo / Dionsysus’ gan Gwmni ‘TheDead’. Un o’r prif resymau am y sylw oedd y ffaith bod y ddau brif actor yn noeth drwy’r ddrama! Syniad da sut i werthu tocynnau medda rhai, (ac yn wir FE werthwyd y tocynnau!) ond, roedd yma lawer iawn mwy yn y ddrama hon. Dyma bortread prydferth, cynnil, onest a chynnes o dduwiau’r Groegiaid - Dionysus (Jonny Liron) - duw’r gwin, ac Apollo (Andrew Oliveira) - duw trefn a gwirionedd. Cefais fy swyno gan sgript farddonol Daniel Austin, ac roedd cael bod yn y gynulleidfa, a phrofi’r ‘gwin’ yn brofiad arbennig iawn.

Drama arall gafodd effaith fawr arna’i oedd cynhyrchiad Theatr Genedlaethol yr Alban o ‘Realism’ wedi’i gyfarwyddo a’i chyfansoddi gan Anthony Neilson. Difyr oedd gweld bod Anthony wedi astudio yng Ngholeg Cerdd a Drama, Caerdydd, ac allai ‘mond gobeithio y daw yn ôl i Gymru rhyw ddydd i greu cynhyrchiad cofiadwy yma. Dychmygwch yr ‘olygfa, llwyfan llawn tywod, y props a’r dodrefn wedi’i gladdu yn ei ganol, a’r actorion yn straffaglu drwyddo; y cyfan yn ychwanegu at afrealaeth ‘realaeth’ y teitl. Hanes un dyn (Stuart McQuarrie) a gafwyd yn ymdrechu i wneud synnwyr o’i fywyd. Mae’n anodd egluro’n union beth yw’r stori, ac mae hynny’n cwbl fwriadol. Nid dyna yw’r nod. Cawsom ein cyflwyno i’w gariadon, ei rieni, ei gyfeillion a hyd yn oed ei gath - oedd yn cael ei actio gan ddyn mewn siwt cath! Roedd goleuo Chahine Yavroyan yn hynod o drawiadol, gan beri i’r tywod newid ei liw yn ôl y galw, a’r cynhyrchiad cyffredinol yn brofiad nas anghofiaf am beth amser.

Dyma be ddylem ei weld yng Nghymru. Do, fe gafwyd hyn yn ‘Esther’, ond pam ddim yng ngweddill cynhyrchiadau’r cwmni Cenedlaethol?. Ydwi’n swnian? Wel, os na wna i, pwy wnaiff?! Mae’n rhaid i’r sefydliad yma fod yn atebol i ni fel cynulleidfa ac mae’n bryd i’r Bwrdd cysglyd wrando!

Ychydig fisoedd sydd ers i’r cwmni yn Yr Alban gael ei sefydlu, ac eto mae sawl cynhyrchiad wedi taro deuddeg. Roedd eu cynhyrchiad cynta yn arbrofol ac eto’n ysbrydoledig. Gwahoddwyd deg cyfarwyddwr gwahanol i ddehongli’r thema ‘Adre’, a chafwyd deg cynhyrchiad gwahanol yn cael ei berfformio trwy’r Alban, cyn dod ynghyd ym mis Chwefror eleni. Gwych iawn. Bwriad Vicky Featherstone, Cyfarwyddwr Artistig y cwmni yw i “herio’r artistiaid i gymryd risg gan roi’r annisgwyl i’w cynulleidfa” ac i “ greu theatr sy’n edrych i’r dyfodol yn hytrach nac i’r gorffennol”. Geiriau o gyngor efallai i’n Theatr ni. Mwy o’r bocs siocled yr wythnos nesa!.

No comments: