Total Pageviews

Friday 7 January 2011

Golwg ymlaen dros 2011...

Y Cymro 07/01/11

Blwyddyn Newydd Dda! Wedi bwrw golwg yn ôl dros arlwy’r flwyddyn a fu'r wythnos diwethaf, edrych ymlaen yr wythnos hon, at yr hyn fydd i’w weld dros y flwyddyn sydd i ddod.

Y newyddion mawr, a dderbyniais fore Mawrth, ydi bod y Theatr Genedlaethol ar hyn o bryd wrthi’n rhoi swydd ddisgrifiad at ei gilydd er mwyn ceisio canfod ‘arweinydd artistig’ newydd. Falle ichi gofio y bu cryn ddadlau, nôl ar Faes yr Eisteddfod y llynedd, ynglŷn â prun a’i ‘arweinydd’, ‘cyfarwyddwr’ ynteu ‘cynhyrchydd’ a ddylid ei benodi. Mae gan bob rôl ei swyddogaeth a’i gyfrifoldeb gwahanol, ond mae’n amlwg mai glynu at yr ‘arweinydd’ wnaethon nhw, fydd mae’n debyg, yn cael rhwydd hynt i ddewis y rhaglen a’r cyrff i’w cyflawni. Oherwydd yr amserlen, tydi’r Theatr ddim yn disgwyl gweld neb yn cael ei benodi fawr cyn mis Mehefin neu ‘Orffennaf, ac felly go brin y gwelwn ni ffrwyth llafur na gweledigaeth yr etholedig un, fawr cyn y flwyddyn gelfyddydol nesaf. Tan hynny, mae’r Bwrdd wedi dewis gweddill rhaglen y flwyddyn sydd i ddod, sy’n cychwyn efo’r ddrama gerdd ‘Deffro’r Gwanwyn’ fydd yn ymweld â chanolfannau llai na’r theatrau mawr traddodiadol. Cychwyn yn eu canolfan ymarfer sef Y Llwyfan yng Nghaerfyrddin, ac yna Canolfannau Hamdden Pontardawe, Aberaeron, Dolgellau, Llanrwst, Wrecsam a Biwmares, gyda dim ond un Canolfan Celfyddydol traddodiadol sef Stiwdio’r Mileniwm yng Nghaerdydd. Parhau gyda’r trywydd newydd o dargedu’r cymunedau fydd eu prosiect nesaf sef ‘Canfod Lleisiau’ sy’n cael ei ddisgrifio gan Reolwr Marchnata’r Theatr, Elin Angharad Williams fel ‘prosiectau cymunedol cyffrous’. Bydd rhagor o fanylion am y ddau gynhyrchiad llawn nesaf, yn cael eu cyhoeddi maes o law.

Blwyddyn o ddathliadau fydd hi i Theatr Bara Caws, sy’n nodi hanner canmlwyddiant cyhoeddi’r nofel ‘Un Nos Ola’ Leuad’, drwy berfformio addasiad John Ogwen o’r gwaith; cyflwynodd Cwmni Theatr Cymru addasiad o’r gwaith nol ym 1981 yn ogystal. Mwy o ddathlu wedyn yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam a’r Fro gyda dwy sioe - sioe glybiau newydd a ‘sioe maes carafannau i’r teulu cyfan’, er mwyn cofnodi’r ffaith mai yn Wrecsam yn 1977 y cychwynnodd Bara Caws eu taith.

Mentro i fyd oedolion fydd gobaith Cwmni’r Fran Wen eleni wrth gyflwyno addasiad Catrin Dafydd a Manon Eames o waith yr awdures ifanc o Gymru, Rachel Trezise ‘Fale Surion’. Cyfrol o unarddeg stori fer herfeiddiol ydi ‘Fresh Apples’, a gobaith y cwmni fydd efelychu llwyddiant ‘I Sing of a Maiden’ gafodd ei lwyfannu yn y Chapter nol yn 2007.

‘Sexting’ fydd un o’r pynciau y bydd Theatr Arad Goch yn eu trafod eleni wrth i Bethan Gwanas ac Angharad Lee fwrw golwg ar y bwlio newydd a ddaeth yn sgil y ffôn symudol. Bydd Jeremy Turner yn cyflwyno a chyfarwyddo sgript newydd i blant o’r enw ‘Tomatos Wncl Wil’ fydd yn delio â marwolaeth, yn ogystal â pharhau i drefnu’r Ŵyl Theatr Ieuenctid Rhyngwladol yn Aberystwyth o’r enw ‘Agor Drysau’ fydd i’w gweld yn 2012. Jeremy hefyd, gyda llaw, sy’n arwain holl weithgareddau theatr yr Urdd am y blynyddoedd nesaf, mewn cydweithrediad ag Arad Goch.

Er bod drysau Theatr y Sherman ar gau tan fis Tachwedd, parhau mae’r gweithgaredd gyda thaith cynhyrchiad Gareth Potter o ‘Gadael yr 20fed Ganrif’ yn fis Chwefror. Yn dilyn y daith, bydd y cwmni yn cyflwyno drama newydd o waith Ian Rowlands, ‘Desire Lines’ yn ogystal â gŵyl sgwennu newydd dan y teitl ‘Egin’. Bydd cyfle i weld mwy o sgwennu newydd yn hwyrach yn y flwyddyn o dan adain eu prosiect ‘Amrwd’ ble y gwelwn gynhyrchu dramâu newydd cyffrous yn y ddwy iaith gan awduron sydd erioed o'r blaen wedi cael eu cynhyrchu'n broffesiynol.

A mwy o sgwennu newydd gan Theatr Tandem, sy’n datblygu syniadau ar hyn o bryd, wrth aros am gadarnhad nawdd i’w gwireddu.

Ac i ffans y ddrama ‘Llwyth’, a’i hawdur talentog Dafydd James , mae 'na dderyn bach wedi’i weld yntau hefyd yn gweithio ar ddrama newydd, ar y cyd â’i gydawdur Ben Lewis, fydd i’w weld (gobeithio) yn hwyrach eleni, ar un o’n llwyfannau Cenedlaethol...

Digon i wlychu’r big, fel petai. Cefnogwch y cwmnïau! Yr wythnos nesaf, addasiad o’r ‘Glass Menagerie’ a stori ddirdynnol ‘Bea’.

No comments: