Y Cymro - 17/8/07
Do, mae’r Ŵyl wedi darfod am flwyddyn arall, ond beth tybed yw’r gwaddol a adawyd wedi’r Wyddgrug?
Braf gweld bod teilyngdod yng nghystadlaethau’r ddrama fer a’r ddrama hir. Nic Ros yn cipio’r Wobr am y ddrama hir ‘Tylwyth’ yn ogystal â’r Fedal Ddrama, ac enillydd cyson arall - Dylan Henblas yn ennill ar y ddrama fer efo ‘Canlyn Catatonia’. Gobeithio yn wir y cawn ni weld y ddwy ddrama yma yn fuan iawn, yn ogystal â sawl un arall a dderbyniodd ganmoliaeth uchel gan y Beirniaid Betsan Llwyd a Siôn Eirian.
Bu teilyngdod hefyd ar Wobr Richard Burton gyda Gwion Aled Williams yn ennill. Braf gweld bod Gwion wedi’i hyfforddi gan Catrin Jones, cyn-athrawes ddrama yn Ysgol y Creuddyn, ond sydd bellach yn Ysgol Bodedern. Catrin hefyd fu’n gyfrifol am hyfforddi’r ddau arall oedd ar y llwyfan, sef Manon Wyn Williams ac Aaron Morris y ddau o Ynys Môn, yn ogystal â chipio’r Wobr am y cyfarwyddwr gorau yng nghystadlaethau perfformio’r Ŵyl. Tipyn o gamp a thipyn o glod iddi hi.
Wele cawsom hefyd ddrama lawn gan ‘Theatr Genedlaethol Cymru’, er mai Clwyd Theatr Cymru a fu’n gyfrifol am greu a llwyfannu’r cwbl, a nhw yn unig sy’n cael eu henwi ym mhapurau lleol Sir Y Fflint.
Y peth mwya’ dadleuol am y cynhyrchiad yma yn ôl yr hyn a glywais yn ystod yr wythnos ydi’r gair ‘drama’. Cyflwyniad dogfennol o hanes Tryweryn a gawsom, a honno yn arddull Dan y Wenallt a chynyrchiadau cynnar Theatr Gorllewin Morgannwg a Theatr Bara Caws.
Prin iawn oedd y cymeriadau cyson - gyda dim ond Betsan Llwyd a Dyfan Roberts dwi’n credu yn cael glynu gydol y ddrama at eu cymeriadau cry. Lleisiau a chameos oedd y gweddill, wrth i’r cast o ddeuddeg gofnodi pob un safbwynt gwleidyddol, pob dyddiad o bwys a phob un agwedd o’r gymuned yng Nghwm Tryweryn, Y Bala a Lerpwl.
Doedd dim o’i le yn y math yma o gynhyrchiad, a rhaid cyfaddef i mi’n bersonol gael fy mhlesio’n fawr. Iawn, mi faswn i wedi dymuno gweld tipyn mwy o ddrama a gwrthdaro o fewn Cwm Celyn yn ogystal â gweld y gwagio a fu ar y tai, a’r delweddau trasig o’r teuluoedd yn ymadael fesul un, yn dod yn fyw ar y llwyfan. Serch hynny, mae yn y cynhyrchiad yma werth hanesyddol ac addysgol. Mae’n stori sy’n rhaid ei chofio, ac er mwyn gwerthfawrogi’r cyfnod o ddeng mlynedd yn llawn, mae’n debyg mai dyma’r unig arddull oedd yn gweddu i’r neges a’r stori.
Er gwaetha’r anghytuno am arddull y sgript, dwi yn gobeithio y bydd pawb wedi mwynhau a gwerthfawrogi gwaith cyfarwyddo penigamp Tim Baker, gyda’r actorion i gyd yn gorfod gweithio fflat-owt i ennill eu cyflog. Roedd gwylio’r gwaith ensemble rhyngddynt a’r cyd-symud slic yn wefreiddiol. Roedd symlrwydd y set a’r goleuo hefyd i’w ganmol yn fawr ac yn cadarnhau popeth dwi wedi pregethu am lleia’n byd gorau’n byd. Yr unig beth yr hoffwn i fod wedi gweld oedd mwy o ddŵr! Fe gawsom eiliad theatrig iawn ar gychwyn y ddrama, wrth i’r glaw ddiferu ar yr ambarél, ond roeddwn i’n disgwyl yr un tric theatrig ar y diwedd gyda’r llwyfan i gyd o dan ddŵr. A phawb yn gorfod gwlychu’u traed yn nyfroedd budur Tryweryn.
No comments:
Post a Comment