Total Pageviews

Thursday 9 August 2007

Blog 3 Eisteddfod 2007 ar wefan Y Sioe Gelf



Y Canol Llonydd
Ganol yr wythnos, a chychwyn y deud drefn. Dim digon o arwyddion ffordd, a minnau ar fy mhumed diwrnod ac yn dal i fynd ar goll. Cyrraedd y maes ar frys er mwyn ceisio dal y drafodaeth am ‘Ddarlledu Celf Cymru’ yn Y Lle Celf. Methu canfod Y Lle Celf - diffyg arwyddion eto, ac erbyn hyn y diawlio yn dechra. Wedi cwffio drwy’r dyrfa a’r cerrig mân dan draed, cyrraedd y babell, a chanfod criw pitw iawn yn eistedd ar gadeiriau haul tu allan, yn rhannu meicroffonau. Osi Rhys Osmond yn cadeirio, ac ymysg y panel ‘roedd y cynhyrchydd teledu Ifor ap Glyn, yr artist Mary Lloyd Jones a Ceri Sherlock o’r BBC. Ches i fawr o gyfle i wrando ar y drafodaeth, ond mi glywais Mary yn datgan fod ‘teledu yn gyfrwng i addysgu pobol mewn iaith weledol’ gan ganmol y rhaglenni ‘Y Tŷ Cymreig’ a ‘04 Wal’. Cododd Ceri hefyd bwyntiau difyr gan gychwyn efo datganiadau fel ‘nid celf mo teledu’ ac mai ‘cyfrwng cynulleidfa nid celfyddyd’ oedd S4C. Fedrwn i ddim aros i glywed mwy. Roedd Theatr Fach y Maes yn galw.

Siom y Sherman
Ac ofer oedd y galw. Y fath siom. Yn ôl y Rhaglen Swyddogol Sanctaidd, roedd y ‘cwmni theatr gyfoes ac ysgrifennu newydd’ yn ‘cyflwyno darlleniad cyhoeddus o ddrama dan gomisiwn’. Yna poster o ddrama newydd Gwyneth Glyn, ‘Maes Terfyn’. Mynd yno yn unswydd nesh i er mwyn clywed gwaith Gwyneth.

Wedi cyflwyniad gan Arwel Gruffydd, a gyhoeddodd mai enw’r ‘cwmni newydd’ fydd ‘Sherman Cymru’ a bod Siân Summers yn derbyn ei fantell ef fel ‘rheolwr llenyddol y cwmni’, deallais nad drama Gwyneth oedd am gael ei ddarllen. Ond yn hytrach drama o’r enw ‘Chips ta Ffair’ gan Bethan Marlow. Roeddwn i’n difaru f’enaid ac yn dyheu am Y Lle Celf. Wedi gwrando ar Act gynta’r ddrama, suddodd fy nghalon. Os mai dyma’r deunydd sy’n cael ei ‘ddatblygu’ yng Nghymru, Duw â’n helpo!

Gwefr Gwenllian
Mentro mewn i’r pafiliwn am y tro cynta’ er mwyn gweld yr ‘unawd allan o unrhyw sioe gelf neu ffilm dan 19 oed’. Cael fy swyno’n fawr iawn gan lais a pherfformiad hynod o gofiadwy Gwenllian Mai Elias. Enw i edrych allan amdano yn y dyfodol.

Tryweryn Tim
Yr hir ddisgwyliedig ‘Porth y Byddar’ oedd y ddrama ddewisais i nos Fawrth. Tranc Tryweryn oedd y pwnc, a hynny o ddwylo medrus y cyfarwyddwr Tim Baker a Manon Eames, a chriw cynhyrchu Clwyd Theatr Cymru. Dan y Wenallt o ddarlith ffeithiol a gafwyd a hynny yn arddull arferol Theatr Gorllewin Morgannwg a Chlwyd Theatr Cymru. Gorthrwm y werin, emynau digyfeiliant, gwaith ensemble a boddi’n emosiynau. Mi wn am lawer ddaru ddim ei mwynhau hi, ond mi wnes i. Dyma gynhyrchiad sy’n bluen yn het Tim Baker, ac yn brawf pendant mai ef ddylai fod yn arwain y Theatr Genedlaethol.

Parcio Pell
Erbyn dydd Mercher, roedd sefyllfa’r parcio yn hurt bost. Y cae pella’ ar y maes - sa’i di bod yn haws cerdded o Ruthun!

Codi canu
Roeddwn i wedi bwriadu codi’n gynnar, a mynd i ragbrawf yr Unawd allan o sioe gerdd ym mhabell S4C oedd yn cychwyn am 8.30. Ond, a hithau’n ddiwrnod fy mhen-blwydd, ges i awr (yn ogystal â blwyddyn!) ychwanegol yn y gwely moethus! Cyrraedd y maes erbyn 10.30 a rhuthro draw i’r babell i glywed diwedd y rhagbrawf. Siarad â Siôn y stiward a dychryn o glywed mai dim ond 10 o’r 40 o enwau ar y rhestr oedd wedi canu! Diolch byth na godais i mor gynnar! Wedi awr arall o ragbrawf, cyhoeddwyd mai dim ond hanner o’r enwau ar y rhestr oedd am gystadlu. Roedd hynny yn newyddion da ar ôl clywed rhai o’r cystadleuwyr! Pam na ddysgith y Cymry fod angen mwy na llais da i ganu mewn drama gerdd? Mae angen angerdd a’r ddawn i actio, cyfarwyddyd i lwyfannu yn ogystal â’r cerddorol, a phresenoldeb llwyfan. Doedd rhai cystadleuwyr yn meddu dim o’r uchod.

O’r llwyfan i’r llên
Ciwio wedyn i fynd i wrando ar John Ogwen yn darllen un o straeon Harri Parri. A sôn am giw! Does ryfedd bod angen 700 o seddau yno! Llawer o’r dyrfa yn synnu o weld Harri ei hun yn y ciw! ‘Sa chi’n meddwl basa’r g’nidog yn ca’l mynd i mewn yn syth, er mwyn cael sedd i ddianc drwy’r drws cefn!’ Hawliodd John sylw bob un yn y babell wrth adrodd hanes y ‘Swigan Lysh’ sef cyfieithiad hogia G’narfon o’r ‘breathalyser!’ Dyma stori arall o gyfrol ddiweddara’ Harri Parri, ‘Tebot pinc a llestri plastig’. Edmygedd mawr hefyd i John am allu dod â’r cymeriadau i gyd yn fyw a’u lleisiau gwahanol. Gobeithio’n wir y cawn addasiad teledu o’r straeon ar S4C yn fuan iawn

Richard Burton a’r llew cwsg
Wedi gwylio un meistr wrth ei waith, roedd hi’n amser am ail-ran rhagbrawf Gwobr Goffa Richard Burton i’r llefarwyr. Gwingo yn fy sedd o glywed yr un darnau o ‘Blodeuwedd’ ac ‘Un Briodas’ yn cael eu mwrdro gan y cystadleuwyr. Pam na ddysgwch chi ddarnau y medrwch chi uniaethu â nhw?; darnau sy’n golygu rhywbeth ichi? Oni bai am drowsus lledr Liam Roberts o Gaerwen, a’i berfformiad hanner noeth o ‘DJ Ffawst’, uchafbwynt y sesiwn oedd caniad y ffôn symudol i gyfeiliant yr alaw ‘In the jungle, the quiet jungle, the lion sleeps tonight’! Erbyn diwedd y pnawn, nid y llew oedd yr unig un i gysgu!

No comments: