Total Pageviews

Tuesday 7 August 2007

Blog 2 Eisteddfod 2007 ar wefan Y Sioe Gelf






Ffwndro
Rhaid imi gyfadde’ mod i wedi ffwndro’n lân wsos yma. Tydi Sdeddfod ddim i fod i gychwyn ar ddydd Gwener. Meddwl trwy ddydd Sadwrn bod hi’n ddydd Llun, ac erbyn dydd Llun teimlo fel dydd Mercher, a finna wedi dechrau laru bellach ar fynd rownd a rownd y Pafiliwn. Ffwndro hefyd ar ethos newydd y meysydd parcio. Cynhara’n byd da chi’n cyrraedd, pellha’n byd da chi’n parcio. Hurt braidd. Cysuro’n hun wedyn bod y cyfan i ymwneud â’r clecian o’r gwifrau trydan sy’n amgylchynu’r cae, fel rhyw ffens drydan, yn gwarchod diwylliant Cymru.

No-Wê!
Mae’n amlwg nad oes gwarchod ar wifrau’r Wê ar y Maes, wrth imi geisio’n ofer i gysylltu â’r byd mawr tu allan i’r Sdeddfod. Ceisio cymorth ym Mhabell BT, ond roedden nhwtha hefyd wedi’u hynysu ar eu bws deulawr. Mynd i Babell y Wasg, a dod oddi yno reit handi wrth i regfeydd y newyddiadurwyr a’r ffotograffwyr am fethu anfon eu lluniau ‘lawr y lein’ ferwino fy nghlustiau!

Lloches gelf
Doedd dim amdani felly ond canfod rhywbeth arall i’w wneud. Bodio yn y Rhaglen Swyddogol a gweld be oedd ar gael, er mwyn mochel rhag y cawodydd cyson. Mentro i’r ‘Lle Celf’ am olwg sydyn. Doeddwn i ddim wedi bwriadu mynd yno tan yn hwyrach yn yr wythnos, er mwyn cael rhywbeth i edrych mlaen ato.

Drysu efo’r dŵr!
Rhyw olwg sydyn ges i, nes dod ar draws y bardd Aled Lewis Evans yn darllen ei gerddi mewn cornel o’r babell. Aros ennyd i wrando arno. ‘Ffotograffau moethus oriau’r nos’ gan Gareth Roberts oedd dan sylw, a rhaid cyfaddef eu bod nhw’n drawiadol iawn. Aled wedyn yn egluro cefndir y gerdd - atgofion o’i fam yn mynd â nhw am drip i Ddyffryn Ogwen ‘cyn y Pasg’ ac ‘wrth gofio’r un daith honno efo ti, daw’r dadmer bob tro i’m hiraeth i’. Cerdd hynod o drawiadol ac yn amlwg yn un emosiynol iawn i Aled, a gollodd ei fam yn ifanc. Yr hyn sy’n ddiddorol i mi am y gerdd ydi’r llinell gyntaf, ‘Pan fydd eira yn Nyffryn Ogwen’ sydd wedyn yn rhoi inni’r ‘dadmer’ yn ddiweddarach. Ar yr olwg gynta’, mae’n ymddangos mai eira sydd ar flaen y llun, tra bod y Llyn mor llonydd o dan sêr y nos. Ond o edrych yn fwy manwl, sylwi nad ‘eira’ sy’ ma ond dŵr yn cael ei hidlo drwy’r tyllau yn y clawdd ac yn llifo dros y cerrig. Gwell peidio sôn wrth Aled...

Hunllef ieithyddol?
Gwell peidio sôn wrth y Steddfod fod un o’r sdondinwyr wedi torri’r Rheol Gymraeg Sanctaidd! Drws nesa i’r Lle Celf, gyferbyn â’r castell Lego o gratiau cwrw, mae bocs lliw golau o dan y teitl ‘Dreammachine’ yn uniaith Saesneg wedi’i baentio ar y gro. Mond gobeithio na thry’r gwaith yn hunllef i’r trefnwyr!

Pwt i’r BBC
Pabell y BBC oedd yr ymweliad nesaf, a braf medru gweld Mr Sdeddfod ei hun - Hywel Gwynfryn yn darlledu o’i dŷ gwydr drws nesa i dardis Dr Who! (Dwi’n siŵr fod 'na jôc amlwg yn fanna’n rhywle, ond mi adawai i chi chwilio amdani!!) Mynd i gadarnhau fy nhrefniadau i recordio adolygiad o’r sioe blant i Beti George oedd prif fwriad yr ymweliad, ond o fewn dim i gamu mewn i’r babell, cael fy nhynnu i sgwrsio efo Hywel am fy ymweliad â’r Sdeddfod. Hawdd gwybod fod 'na Ddawnsio Gwerin ar y llwyfan!

Dim Blas!
Amser cinio, a minna bellach yn awchu am lenwi fy mol a gwagio fy waled! Roedd gweld y crach tu allan i ‘Blas’ yn ddigon i dynnu’r blas oddi ar unrhyw bryd. Penderfynu mynd i’r babell drws nesa, a bodloni ar frechdan cig oen a chacen gaws.

Y llun a’r llên
Y Babell Lên oedd yn galw wedyn wrth i’r artist Iwan Bala lansio ei gyfrol newydd sy’n cynnwys 99 o’i baentiadau o dan y teitl ‘Hon - Ynys y Galon’. Mae’r gyfrol ‘unigryw’ hon yn plethu’r lluniau a llenyddiaeth, ac mi gesh i wefr o wrando ar Iwan Llwyd yn egluro cefndir ac yn adrodd ei gerdd ‘In Transit’ sy’n cydfynd â’r ddelwedd o’r ddau dŵr yn Efrog Newydd. Tra ar ymweliad ag Ynys Manhattan, aeth Iwan yn ôl i’r ‘Orange Bear Bar’ sy’n wynebu ‘ground zero’ lle bu’r ‘(g)risie’r sêr o’r ddinas hon’ yn sefyll cyn trychineb Medi’r 11eg. Gwyliodd ‘y byddin o dorwyr beddau’ yn ymgynnull yn y bar am ‘ginio cynnar’. Dyma’r gwŷr fu’n gyfrifol am godi’r tyrrau, ac a wirfoddolodd i ddychwelyd i lanhau’r ‘lludw, a llwch’. Dyma gyfrol sy’n gyfoethog iawn o ran ei chynnwys a’i phris, ond yn werth bob ceiniog o’r £19.99 yn fy nhyb i.

Caffi Eilir
I ‘Gaffi Basra’ yng nghwmni Theatr Bara Caws wedyn fin nos, a hynny ar eu noson agoriadol yng Nghlwyd Theatr Cymru. Roedd 'na gynulleidfa deilwng iawn yno o ystyried bod noson gomedi ar Faes C a noson gerddorol yn y pafiliwn. Fydda i’n gwrando’n ofalus iawn wrth wylio sioeau clybiau’r cwmni gan fod y ffin rhwng ‘smyt’ a bod yn grafog yn un denau iawn. Yn y gorffennol bu gormod o ddibyniaeth ar gachu ac iniwendos rhywiol yn hytrach na cheisio creu comedi dychanol a chrafog.

Rhaid canmol Eilir Jones y tro hwn am greu un o sgriptiau cryfha’r cyfrwng ers cyfnod y diweddar Eirug Wyn. Braf gweld dychymyg creadigol a theatrig ar waith yng nghyfarwyddo Tudur Owen ac yng nghynllunio Emyr Morris Jones. Heb os, Eilir ei hun oedd yn cynnal rhan helaeth o’r sioe, gyda pherfformiadau cofiadwy gan Dyfed Thomas, Iwan Charles a Gwenno Elis Hodgkins.

P.C Maes C!
Cyn clwydo, roedd yn rhaid imi ymweld â Maes C er mwyn gweld y noson gomedi y clywais gymaint o sôn amdani dros y penwythnos. Methais berfformiad Beth Angell (a bechodd Denzil Bobol y Cwm yn ôl y sôn!) a chyrhaeddais ynghanol routine crafog iawn Bedwyr Rees. Uchafbwynt y noson imi oedd perfformiad bythgofiadwy P.C Leslie Wyn (Tudur Owen) a wnaeth imi chwerthin yn uchel am jôcs Cymraeg. Y tro cyntaf ers tro byd. Chwerthin gymaint nes anghofio fy mlinder, ynghanol yr wythnos ffwndrus hon.

No comments: