Total Pageviews

Friday 24 August 2007

Gwyl Caeredin 2007 : 'Bacchae'



Y Cymro - 24/8/07

Wedi’r gerddoriaeth, roedd hi’n amser am ‘chydig o ddrama, a chynhyrchiad diweddara Theatr Genedlaethol yr Alban sef addasiad David Greig o waith Euripides ‘The Bacchae’. Dyma un o drasiedïau mwya’r Groegiaid, sy’n adrodd hanes duw’r gwin - ‘Dionysos’ a’i gwlt o ddilynwyr benywaidd sy’n dychwelyd i’w ddinas enedigol er mwyn dial ar ei deiliaid. Alan Cumming oedd seren y sioe, y fo oedd y duw benywaidd, ac fe wnaeth argraff o’r eiliad cyntaf wrth iddo ddisgyn ben i lawr o’r nefoedd mewn Kilt euraidd, a’i ben-ôl yn amlwg i bawb! Na chi gychwyn drama! Parhau wnaeth y triciau theatrig gydol y sioe, o’r cylch o flodau yn disgyn fel saethau o’r nefoedd i’r wal o dân a lanwodd cefn y llwyfan, a’i wres yn llyfu wynebau’r gynulleidfa. Roedd y corws o ferched croen tywyll a’i ffrogiau coch amrywiol hefyd yn ddramatig ynddo’i hun, a’u lleisiau cyfoethog yn wledd i’r glust wrth iddynt ganu a dawnsio yng nghytganau’r corws.

Er gwaetha’r elfennau dramatig, oedd yn werth eu gweld, a’r perfformiadau cry’ gan y cast i gyd, roedd yma, yn anffodus, ormod o ymsonau hirwyntog a’m llethodd. Heb egwyl, roeddwn i wedi dechrau laru ar ôl awr, ac yn dyheu am i’r cyfan orffen. Wedi’r triciau, a’r gwaed a’r wal o olau a ddisgynnodd tua’r diwedd i ddallu’r gynulleidfa, doedd yna fawr ar ôl i wneud, a dechreuodd y cyfan droi yn ei unfan. Wedi dweud hyn, mae’n gynhyrchiad gwerth ei weld, tasa fo ond i weld pŵer y theatr a meistr fel Cummings wrth ei waith.

Bydd ‘Bacchae’ i’w weld yn y Lyric, Hammersmith,Llundain rhwng y 5ed a’r 22ain o Fedi.

No comments: