Total Pageviews

Friday 24 August 2007

Gwyl Caeredin 2007 : 'Long Time Dead'


Y Cymro : 24/8/07

O Theatr y Kings i’r Traverse, a hynny ar gyfer cynhyrchiad diweddara Paines Plough, ‘Long Time Dead’ o waith Rona Munro. Roeddwn i’n gyfarwydd â’r ddrama hon, ac yn awyddus iawn i wybod sut ar y ddaear roedd y cwmni yma am greu mynydd a wal o eira o’n blaen, ble mae’r tri dringwr yn hofran ar eu rhaffau, wrth drafod amrywiol bynciau! Pan gamais i mewn i’r theatr, o’m blaen, roedd llwyfan wen o fewn ffrâm hanner crwn du. Yn y mur cefn, roedd ffenest yn yr iâ a chafn dwfn ar lawr y llwyfan, gyda rhaffau yn codi oddi yno ynghanol y niwl. Roedd cynllun set Miriam Buether a golau effeithiol Chahine Yavroyan yn ddigon o ddrama ynddo’i hun, a’r cyfan i gyfeiliant trac sain wyntog ac oeraidd Ben Park. Newidiodd lliw’r eira sawl gwaith cyn i’r un actor ddringo i’r llwyfan, ac roedd y cyfan yn wledd i’r llygaid a’r synhwyrau, cyn i’r un gair gael ei yngan.

Dyma un o uchafbwyntiau’r ŵyl i mi hyd yma, wrth ddilyn hanes y tri dringwr sy’n byw i goncro’r copaon, ond sydd hefyd yn gorfod concro ysbrydion y gorffennol o bryd i’w gilydd. Cefais fy swyno gan y modd aethpwyd â ni o’r mynydd i ward mewn ysbyty, gan gadw’r thema drwy gydol y cyfan, a’r gwely yn glynu wrth y rhaffau dros y cafn dwfn. Mynd yn ôl ar y mynydd yn yr ail ran, ac yna i ogof o eira yn nyfnder y mynydd. Golygfeydd fydd yn aros yn y cof am amser hir, ac yn agoriad llygaid i bosibiliadau creu darluniau ar lwyfan. Manylion am daith y cynhyrchiad i ddilyn.

No comments: