Total Pageviews

Sunday, 5 August 2007

Blog 1 Eisteddfod 2007 ar Wefan Y Sioe Gelf



‘Ti’n mynd i Sdeddfod?’

Taswn i’n cael punt am bob tro mae’r cwestiwn yna wedi’i ofyn imi dros yr wythnosau dwetha, faswn i ddim wedi trafferthu i lusgo’n nghês trymach na thrwm yr holl ffordd o Dde Llundain i Sir Fflint fore Gwener. Setlo yn y ‘Springfield Hotel’ am wythnos o ‘Hylo, sud wyt ti? Neis gweld ti? Yma am yr wsos?’ Ia, mae’n hen ddihareb am y Cymry yn heidio rownd y Pafiliwn (sydd bellach yn binc) mewn cae mwdlyd, dan ffug holi am sefyllfa eich iechyd a’ch symudiadau yn ystod yr wythnos.

Cael lifft wedyn i’r Maes, a’n ngollwng ynghanol y maes parcio llychlyd. Holi am gyfarwyddiadau sut i gyrraedd y prif fynedfa. Mudanod syfrdan ar wyneb y gŵr ifanc yn ei siaced felyn. Gofyn eto. Ystum gorfforol y tro hwn wrth iddo godi ei sgwyddau gan wneud imi orfod dyfalu’r ateb. (a) doedd o ddim yn gwybod, (b) roedd o’n fud a byddar (c) doedd o ddim yn siarad Cymraeg. Esh i am yr opsiwn ola, a derbyn ystum gorfforol arall, wrth i’w fraich godi gan bwyntio i’r cyfeiriad – a ddeallais wedyn - oedd y cyfeiriad cywir!

I mewn â mi, ac o fewn eiliadau i gamu ar y tir sanctaidd, dyma wyneb ar ôl wyneb cyfarwydd yn heidio ataf a’r holi’n dechrau... ‘Yma am yr wsos?’... Aaaaaaaaaaa! Agor y map, a cheisio gweld be di be. Roeddwn i’n ysu am gael fy macha ar gopi o’r Rhaglen Swyddogol er mwyn dewis a dethol fy arlwy am weddill yr wythnos. Roedd y prif uchafbwyntiau o ran digwyddiadau eisoes wedi’i dewis, ond roeddwn i am ganfod y perlau dyddiol cuddiedig ar y maes.

Cychwyn efo dydd Sadwrn, ac ar fy mhen i’r balŵn o sŵn o babell a elwir yn Theatr y Maes. Am 15:00, sesiwn o’r enw ‘Dal Mewn Rhigol?’ yn trafod ‘dyfodol y theatr yng Nghymru’. Bingo! Roedd yn RHAID mynd i hwn. Cyrraedd yn hwyr i ganfod cwta 14 o bobl – hanner ohonynt ar y panel, a’r gweddill yn gyfuniad o stiwardiaid, 2 aelod o’r un teulu ‘theatrig’ o Ddyffryn Ogwen, 2 yn aelodau neu gyn-aelodau o Bwyllgor Drama’r Brifwyl, Cefin Roberts a minnau. Ar y llwyfan, roedd y Cadeirydd Gwyn Wheldon Evans, Linda Brown o Bara Caws, Dana Edwards o Arad Goch, Arwel Gruffydd o Sgript Cymru, y dramodwyr Gwynedd Huws Jones a Branwen Davies ac Elwyn Williams – Swyddog y Wasg i’r Theatr Genedlaethol. Dewis diddorol meddyliais. Neb o’r Wasg (heblaw fi!), Neb o Gyngor y Celfyddydau, tra bod Arweinydd Artistig ein Theatr Genedlaethol yn cuddio yn y gynulleidfa a Swyddog Drama’r Eisteddfod Genedlaethol (a gyrhaeddodd ynghanol y drafodaeth) yn cuddio yng nghefn y babell.

Rhyw gychwyn digon diniwed oedd i’r cyfan a’r gŵyn barhaol oedd diffyg arian a diffyg dramodwyr. Hen straeon. Ynghanol y cwyno, a chanmol yr Eisteddfod Genedlaethol am wobrwyo dramodwyr yn flynyddol, a’r wybodaeth gadarnhaol bod 18 wedi cystadlu am y ddrama fer eleni a 7 am y ddrama hir, mentrais innau holi pam felly nad oeddem wedi gweld unhryw gynhyrchiad o’r cynnyrch buddugol yma ers dros bymtheg mlynedd? Y tro dwetha i hynny ddigwydd, yn fy nghof i, oedd yma ym Mro Delyn ym 1991 gyda drama Gwion Lynch ‘Dim ond heno’. Cyfaddefodd Cefin ei fod yntau wedi gofyn am gael gweld y dramâu hynny, ond bod y cais wedi’i wrthod gan yr Eisteddfod Genedlaethol. Synnu o glywed hynny wnaeth Carys Tudor Williams a Carys Edwards, dwy sy’n ymwneud â Phwyllgorau Drama’r Ŵyl. Diolchwyd i minnau am godi’r pwynt, gyda’r amod y byddai ‘rhywun’ yn edrych i mewn i’r mater.

Ai ddim i fanylu mwy am trafod (prynwch Y Cymro wsos nesa!) Ar ddiwedd y cyfarfod, mae gennai ofn ein bod ni mewn mwy o rigol nag erioed, gyda Carys Tudor Williams (sy’n aelod o Fwrdd ein Theatr Genedlaethol) yn mynnu bod hi’n dal yn ‘ddyddiau cynnar’ ar ein Theatr Genedlaethol, a hynny bedair blynedd ers ei sefydlu. Gwarthus. Yr unig ddiffyg yn y cwmni ydi’r diffyg-gweledigaeth ac anallu’r Arweinydd Artistig. Rhowch rhywun â’r Weledigaeth gywir i’n tynnu ni o’r rhigol, unwaith ac am byth.

O’r tantro i’r tent ar gyfer y ‘Sioe Blant – Y Fordaith Fawr’. Sioe wedi’i hysgrifennu gan Tim Baker i ‘ddathlu’r ffaith fod Lerpwl wedi’i ddewis i fod yn Ddinas Diwylliant 2008’. Allwch chi’m ‘beirniadu’ sioe o’r math hwn mewn gwirionedd rhag tynnu llid pob rhiant a’r rhesi o neiniau a teidiau oedd wedi’i mynnu’u tocyn yn y Pafiliwn hanner gwag. Cwbl ddudai oedd bod cyfle mawr wedi’i golli i greu rhywbeth arbennig, yn hytrach na’r gadwyn o ganeuon undonog, y stori dila a’r coreograffu syml. Y wefr mwya gesh i ar y noson oedd clywed a gweld y plant yn mwynhau ar lwyfan a hynny drwy gyfrwng y Gymraeg. Os mai prin oedd y Gymraeg ar y maes, roedd gweld llond llwyfan o blant yn canu’r iaith yn galonogol iawn. Os ddychwel y Steddfod i’r Sir yn y dyfodol, dwi’n hyderus iawn na fydd angen dibynnu ar ystumiau corfforol am gyfarwyddiadau.

Digon am y tro. Yfory, diwrnod arall ar y maes a phrofi ychydig o Fara a Caws gyda’r hwyr.

No comments: