Y Cymro - 31/8/07
‘Dach chi’n fachgen dewr iawn!’, oedd geiriau Gwilym Owen, y tro cynta’ imi gwrdd ag o, ‘glynwch at eich gwerthoedd.’ A chredwch fi, dwi wedi gorfod magu cefn llydan iawn ers cychwyn y golofn hon, fel y gwelwch yn sgil y llythyrau gwenwynig sydd wedi’u cyfeirio ataf dros yr wythnosau diwethaf. Cyn bwrw mlaen i drafod rhagor o’r Ŵyl ryfeddol sydd ar fin dod i ben yng Nghaeredin, rhywbeth sy’n llawer mwy pwysig imi na’r ddau ymgais yma i ddifrïo gwir fwriad y golofn hon, mae’n ddyletswydd arnaf i ymateb i’r fath ‘feirniadu’.
Cwestiynu fy mhrofiad, fy ngallu a fy hawl i feiddio beirniadu ‘un sydd wedi cyfoethogi pob agwedd o’n diwylliant’ oedd bwriad y foneddiges Rhiannon O’Keefe, o Gaerfyrddin yn rhifyn Awst 17eg. Faint o brofiad sydd raid cael Ms O’Keefe cyn mynegi barn? Onid y profiad gorau ydi gweld cynyrchiadau eraill o bob safon er mwyn cymharu? Oes rhaid bod yn gyfarwyddwr penigamp, neu’n ddramodydd byd enwog, neu’n ddarlithydd poblogaidd neu’n actor amryddawn? Pa un yda chi felly? Faint ddylai rhywun weld mewn blwyddyn cyn cael mynegi barn? Ydi gweld dros 65 drama yn 2006, a thros 75 drama hyd yma eleni ddim yn ddigon? Ydi mynychu’r theatr ers yn saith oed, a chreu cwmni drama ieuenctid pan yn un-ar-ddeg oed yn ddigon? Neu beth am ennill Medal Ddrama Eisteddfod yr Urdd dair blynedd yn olynol neu cyfarwyddo a chynhyrchu dwsinau o ddramâu byr, 5 dramâu gerdd, a beirniadu mewn sawl gŵyl ddrama ac eisteddfod?
Mae’n amlwg mai llenwi theatrau ydi’ch breuddwyd chithau a chael ‘ffigyre calonogol’ yn hytrach na theatr sydd am ein symud ni mlaen a denu sylw cenedlaethol. Ac wedyn i ddatgan ‘bod atebolrwydd yn hanfodol’ mewn swydd gyhoeddus. Cytuno 100%. Pam felly, er gwaethaf sawl gwahoddiad gan y BBC, gwrthododd y Theatr Genedlaethol ymateb i’n sylwadau i? Pam nad oes NEB wedi ymateb i’r ffaith bod y Theatr wedi torri amodau o’u cyfansoddiad sylfaenol?. Mae’n iawn felly i unrhyw rai ‘sy’n cyfoethogi pob agwedd o’n diwylliant’ i dorri’r rheolau fel y mynnent, i wrthod gadael i gyn-weithwyr siarad yn gyhoeddus, neu i gyflogi aelodau o’u teulu neu’r bwrdd bwrdd rheoli ar draul actorion eraill? Ta, di’ hynny fawr o ots, cyn belled bod y theatr yn llawn?
Does gen i ddim unrhyw fath o ‘gynnen bersonol’ nac ychwaith unrhyw ‘agenda cudd’ yn erbyn Cefin Roberts. Dwina hefyd wedi laru ar y gŵyn yma - cŵyn sy’n cael ei daflu arnaf o bob cyfeiriad, yn hytrach nac edrych ar y ffeithiau. Oes gan Ceri Sherlock (a gwestiynodd ‘adnoddau proffesiynol’ Cefin gyda Gwilym Owen ar y BBC yn 2003) neu Siân Evans yn ei ‘hymchwiliad arbennig’ yn Golwg (19.07.07) hefyd ‘gynnen bersonol’ yn ei erbyn? Ydi Cefin y tu hwnt i unrhyw ‘feirniadaeth’?
Mae gennai barch o’r mwyaf tuag at Cefin a’i gyfraniad i gynlluniau theatr ieuenctid fel Glanethwy a’r Urdd, yn ogystal â’i ddawn ddiamheuol fel cyfarwyddwr cerdd ac fel awdur. Dwi wedi nodi hyn yn gyhoeddus sawl gwaith - (Cymro 28.07.06, 09.02.07), a hyd yn oed wrth Cefin yn bersonol. Ond yn fy marn greadigol a democrataidd i, tydwi ddim yn meddwl mai Cefin ydi’r Arweinydd Gorau i’n Theatr Genedlaethol. Dwi di deud hynny ers 2003. Iawn, does dim rhaid ichi gytuno â mi, ond rhowch eich rhesymeg mewn ffeithiau yn hytrach na ffyddlondeb. Os mai llenwi theatrau ydi’r unig nod, wel Duw â’n helpo!
Rhydd i bawb ei farn, ac i bob barn ei glywed. Ond dwi hefyd am ddatgan bod llawer o bobl YN cytuno â mi - yn actorion, gyfarwyddwyr, awduron a hyd yn oed ambell i Lywydd Anrhydeddus - amrywiol bobol sy’n cysylltu â mi’n wythnosol i’n nghefnogi i, ond yn ‘methu datgan yn gyhoeddus am resyma gwaith’. Y rhai ‘dan din, sinachod, standiffollachod diawl’ yn ôl Aled Jones Williams yn Golwg, Awst 9fed - sylwadau a wnaeth i’m calon suddo gan ddramodydd y mae gennai gymaint o barch tuag ato, ac sy’n amlwg yn fodlon ar y sefyllfa bresennol. Mae’n rhaid imi amddiffyn fy hun, er eu mwyn nhw. Mae gan bawb ei yrfa a’i forgais i boeni amdano, a dan ni gyd ddigon aeddfed i sylweddoli pa mor fach ydi Cymru a pha mor afiach o gysylltiedig ydi’r celfyddydau. Ond, mae’n rhaid i bethau newid bobol. Mae’r ‘ofn’ yma yn mynd i ladd y theatr yng Nghymru. Mae’n amlwg bod yn well gan lawer gadw fflam fechan dila i fynd, yn hytrach na chreu coelcerth greadigol wnaiff ail-danio’r gweithgaredd yng Nghymru.
Y cwbl dwi’n wneud ydi erfyn arnoch i fynd tu hwnt i Gymru, a thu hwnt i Glanaethwy, i weld safon y theatr ryngwladol heddiw. Dowch lan i Gaeredin neu i Lundain, gwyliwch symlrwydd a phrofiad helaeth ar waith; gwrandewch ar eiriau gan leisiau ac wynebau newydd, profwch weledigaeth a phrofiad cynllunwyr sy’n gallu creu setiau mor syml ac eto’n effeithiol. Ewch i weld actorion o Gymru ar lwyfannau Cenedlaethol a gofynnwch i’ch hunain, pam nad ydyn nhw’n actio yn y Gymraeg?
Dyfodol y theatr Gymraeg ydi’r unig beth sy’n fy mhoeni i, ac nid dyfodol unrhyw arweinydd artistig - pwy bynnag y bo hwnnw neu honno. Gweision cyflog yda ni gyd - rhai ohonom yn weision i gyflogwyr cyhoeddus, yn atebol i’n cytundebau (os oes cytundebau ganddynt) neu’r byrddau cyhoeddus. Mentrwch da chi, agorwch y drysau, a dowch inni fel cenedl i symud ymlaen er mwyn y nefoedd.
Cyn cloi, hoffwn ddatgan fy niolchgarwch cywiraf i’r bonwr neu’r foneddiges ‘D Lewis Hughes’ sydd yn ôl ei lythyr yn rhifyn Awst 24ain yn byw yn ‘Aneddle’ ar y ‘Ffordd Fawr’ yn ‘Sychdyn’. Roeddwn i am iddo yn gyntaf ymddiheuro wrth y ‘swyddog drama’r steddfod’ am fy mod i’n amlwg wedi ei chamgymryd hi am rywun arall ar Awst y 3ydd yn Theatr y Maes, (bu amser maith ers inni gwrdd) ac i’w llongyfarch hi ar roi genedigaeth i ‘Erin Haf’ ar Awst yr 8fed, chwe diwrnod yn ddiweddarach! Yn anffodus, er cysylltu efo’r Swyddfa Bost yn Sychdyn, ac un o drigolion Cymraeg sy’n byw ar y ‘ffordd fawr’ yn ogystal â’r gwasanaeth 118118, doedd neb wedi clywed sôn am awdur y llythyr! Mae’n amlwg fod teulu’r ‘Lewis Hughes-us’ wedi ffoi dros nos neu wedi mynd ar eu gwyliau - i’r ŵyl yng Nghaeredin o bosib, neu dramor falle - yn torheulo efo’r cyfansoddiadau mewn fflat moethus, ar lan Llyn Como yn yr Eidal...? Pwy ag ŵyr? Falle mai chi ddylia ‘Cym Clin’ Mr Hughes, ac nid y fi?! Ciao!