Total Pageviews

Friday 23 July 2010

'Aspects of Love'




Y Cymro 23/07/10

Er yr holl gecru a chwyno yn ddiweddar, mae un peth yn sicr; mae unrhyw sioe o eiddo’r Arglwydd Lloyd Webber yn siŵr o ddenu cynulleidfa. Er mai methiant, ym marn llawer, yw ei ymgais ddiweddara, ‘Love Never Dies’ sef y dilyniant i ‘Phantom of the Opera’, mae ei sioeau cynnar yn parhau i wefreiddio cynulleidfaoedd. Yn ôl i stabl safonol a gwefreiddiol y Mernier Chocolate Factory es i'r wythnos hon er mwyn dal eu cynhyrchiad diweddara sef ‘Aspects of Love’.

Ym 1989 y llwyfannwyd y ddrama gerdd hon am y tro cyntaf, ac enw Andrew Lloyd Webber eisoes yn gyfarwydd yn sgil ei sioeau ‘Cats’, ‘Phantom of the Opera’, ‘Joseph’ a ‘Jesus Christ Superstar’. Troi at nofel fer David Garnett wnaeth Lloyd Webber, ynghyd a Don Black a Charles Hart er mwyn cyfansoddi’r stori garu hon am fachgen ifanc ‘Alex’ (Michael Arden) sy’n syrthio mewn cariad gydag actores hŷn ‘Rose’(Katherine Kingsley), cyn iddi hithau gael ei hudo gan ei ewyrth cefnog ‘George’ (Dave Willetts). Mae’r cyfan wedi’i leoli yn Ffrainc a’r Eidal, a’r ‘cariad’ yn y teitl yn cyfeirio at y mathau gwahanol o gariad sy’n cael eu trafod yma. O gariad angerddol y llanc tuag at ei eilun yr actores, serch yr ewyrth tuag at y ferch ddeniadol sy’n ei atgoffa o’i wraig, serch meistres yr ewyrth tuag ato ef a’r actores, ac yn yr ail ran, a’r ‘cariad’ mwyaf dadleuol o bosib, perthynas y ferch bymtheg oed ‘Jenny’(Rebecca Brewer), gyda’r prif gymeriad ‘Alex’.

Wrth wylio’r ddwy awr o sioe fendigedig hon, cefais fy swyno’n llwyr gan y stori. Rhyfeddu hefyd bod y deunydd mor ddadleuol, gyda’r brif thema o garu rhwng unigolion o wahanol oed mor dderbyniol. Nid yn unig y gwahaniaeth oedran rhwng ‘Alex’ a ‘Jenny’ yn yr ail act, ond yr awgrym o’r gwahaniaeth oed rhwng ‘Alex’ a ‘Rose’ ar y cychwyn, ac wedyn ‘Rose’ a ‘George’ yn ddiweddarach.

Y gerddoriaeth sy’n uno’r cyfan, a’r gân fwyaf enwog a chofiadwy’r sioe ‘Love Changes Everything’ yn ymgais i gyfiawnhau gweithredoedd y cyfan; “Love, Bursts in, and suddenly, All our wisdom Disappears. Love, Makes fools of everyone: All the rules, We make are broken.” Aelod o’r cast gwreiddiol, Michael Ball, fu’n bennaf gyfrifol am ddod â’r gân fendigedig hon, i sylw’r byd.

Fel gydag amryw o sioeau Lloyd Webber, mae’n deg dweud mai dwy neu dair cân wirioneddol gofiadwy sydd ymhob sioe; ‘Memory’ yn ‘Cats’, ‘Music of the Night’ neu ‘All I ask of You’ yn ‘Phantom’, ‘Don’t Cry for me Argentina’ yn ‘Evita’ ac yn y blaen, a tydi ‘Aspects’ ddim gwahanol yn hynny o beth. ‘Love Changes Everything’ a ‘Seeing is Believing’ ydi’r ddwy sy’n taro deuddeg imi, ac roedd clywed yr ail-ganu o’r alawon yma drwy’r sioe yn hyfryd i’r glust.

Er nad yw’r gofod yn y Mernier yn enfawr, mae’r cwmni wastad yn llwyddo i lwyfannu’r sioeau rhyfedda yno. Yn yr achos yma, does gen i ddim amheuaeth mai dawn cyfarwyddo’r arch gyfarwyddwr Trevor Nunn sy’n rhan o lwyddiant y cyfan, wrth i’r sioe lifo o olygfa i olygfa mor rhwydd, a choreograffu’r newid llwyfan mor gelfydd â di ffwdan. Llwyddodd i gastio’r gorau hefyd, ac roedd perfformiad Michael Arden fel ‘Alex’, Katherine Kingsley’ fel ‘Rose’ a Dave Willetts fel ‘George’ yn gampus. Felly hefyd gyda set hufen David Farley, gyda’i fframiau gwag a’i ddrysau amrywiol, sy’n gweithio’n rhagorol o dda o fewn muriau caeth yr hen ffactri siocled.

A braf oedd gweld y Cymry’n hawlio’u lle ynghanol y llwyddiant gyda’r cerddor ifanc talentog Huw Geraint Griffith o Eifionnydd yn Is Gyfarwyddwr Cerdd ar y sioe, tra bod Rebecca Trehearn o’r Rhyl yn rhan o’r ensemble, ac yn ddirprwy actor i’r prif gymeriad ‘Rose’. Da iawn yn wir.

Mae ‘Aspects of Love’ i’w weld yn y Mernier tan y 26ain o Fedi. Os da chi awydd mynd, cofiwch am y ‘meal deals’ sydd ar gael, gyda phryd dau gwrs a thocyn i’r sioe am £39.50! Bargen! Wedi dweud hynny, synnwn i ddim na fydd y sioe yn mudo i’r West End yn fuan iawn. Mwy o fanylion drwy ymweld â www.menierchocolatefactory.com

No comments: